Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi trefnu sesiynau deintyddol brys ar gyfer problemau deintyddol acíwt.
Mae triniaeth ar gael drwy apwyntiad yn unig a dylai cleifion ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 neu fynd i www.nhsdirect.wales.nhs.uk i gael gwybodaeth ynglŷn â sut i gael gafael ar wasanaethau. Cynghorir cleifion sy’n cael gofal rheolaidd gan ddeintyddfa i gysylltu â’u practis os oes angen gofal brys ar ddiwrnodau gwaith arferol.