Ydych chi'n ofalwr di-dal

Efallai na fyddwch yn adnabod eich hun yn swyddogol fel 'gofalwr' ond gofalwr di-dâl yn unrhyw un sy'n darparu gofal di-dâl i rywun sy'n anabl, yn sâl yn gorfforol neu'n feddyliol, neu'n cael ei effeithio gan gamddefnyddio sylweddau. Gall fod yn unrhyw oedran, rhyw neu hil a gallai fod yn ŵr sy'n gofalu am ei wraig, yn rhiant sy’n gofalu am ei blentyn sydd ag anghenion gofal a chymorth neu’n blentyn sy’n gofalu am ei riant.

Mae llawer o wahanol fathau o gymorth ar gael i ofalwyr di-dâl gan gynnwys y canlynol:

  • Gwasanaeth gwybodaeth, cefnogaeth, cymorth ac allgymorth
  • Grwpiau cefnogi gofalwyr
  • Seibiannau byr a gofal seibiant
  • Hyfforddiant
  • Eiriolaeth
  • Cyfeillio
  • Cerdyn Cydnabod Gofalwyr sy'n cynnwys mynediad rhatach i wasanaethau hamdden a chynigion eraill
  • Cynllun wrth gefn mewn argyfwng

 

Manylion cyswllt am ragor o wybodaeth a chymorth

ID: 2235, revised 02/10/2025