Gofalwyr
Gofalwyr Sy’n Gweithio
Efallai eich bod chi’n ofalwr sy’n gweithio, yn delio â straen yr hyn a allai ymddangos fel dwy swydd – un â thâl, un heb dâl – ac yn ceisio diwallu anghenion y ddwy.
Efallai yr hoffech chi gael rhywfaint o wybodaeth am yr hyn y gallwch chi ei wneud i helpu eich sefyllfa a phethau i’w hystyried.
Cynnwys:
- Pethau i’w hystyried
- A ddylech chi ddweud wrth eich cyflogwr?
- Absenoldeb i ofalwr
- Dweud wrth eich rheolwr a’ch cydweithwyr
- Gweithio hyblyg
- Beth os ydych chi eisiau gadael y gwaith?
Pethau i’w hystyried:
- Pa fath o gymorth allai fod ar gael?
- Pa gymorth a chefnogaeth sydd ei angen arnoch chi?
- Oes gennych chi ffrindiau, teulu a/neu gymdogion a allai helpu?
- Ydych chi wedi meddwl am fanteisio ar gefnogaeth yn ystod cyfnodau gwyliau i helpu gyda phlant?
- Ydych chi wedi ystyried cymryd seibiant byr fel mesur tymor byr?
- A oes caniatâd i chi gael amser ychwanegol o’r gwaith ar gyfer apwyntiadau meddyg/ysbyty ar gyfer y person yr ydych chi’n gofalu amdano?
- Oes gennych chi unrhyw gynlluniau wrth gefn os bydd argyfwng?
- Oes angen cymorth ariannol a buddion arnoch chi – efallai absenoldeb rhiant ar gyfer plant anabl?
- Ydych chi wedi siarad ag unrhyw un am brosiectau cymorth i ofalwyr?
- Ydych chi wedi siarad â’r adran Gwasanaethau Cymdeithasol?
- Oes angen help arnoch chi i ymdopi â theithio?
- Beth am ddefnyddio technoleg gynorthwyol ar gyfer y person rydych chi’n gofalu amdano?
A ddylech chi ddweud wrth eich cyflogwr?
Chi sydd i benderfynu a ddylech chi ddweud wrth eich cyflogwr ai peidio. Fel gweithiwr, mae gennych hawliau statudol i weithio’n hyblyg a chael amser o’r gwaith mewn argyfwng (rhaid i’ch cyflogwr gynnig y rhain), ond gall eich cyflogwr hefyd gynnig cymorth ychwanegol, er enghraifft; oriau cywasgedig, absenoldeb di-dâl neu rannu swydd. Cyn i chi benderfynu siarad â’ch cyflogwr, dylech gael rhagor o wybodaeth am bolisi eich cyflogwr ar gyfer cefnogi gofalwyr sy’n gweithio (os oes ganddyn nhw un). Gwnewch hyn drwy wirio eich llawlyfr staff neu siarad â’ch:
- Rheolwr
- Adran Adnoddau Dynol/personél
- Swyddog lles neu gynghorydd iechyd galwedigaethol
- Cynrychiolydd undeb neu staff
Absenoldeb i ofalwr
Yn ogystal, o ganlyniad i Ddeddf Absenoldeb i Ofalwyr 2023, a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2024, os ydych chi’n gofalu am berson sydd ag angen gofal hirdymor, efallai y bydd gennych chi hawl i wythnos o absenoldeb di-dâl y flwyddyn. Gellir cymryd yr absenoldeb hwn yn hyblyg (fel hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn) ar gyfer ymrwymiadau gofalu wedi’u cynllunio a’u rhagweld. Mae ar gael o ddiwrnod cyntaf eich cyflogaeth ac mae’n darparu’r un nodweddion diogelu cyflogaeth i weithwyr â mathau eraill o absenoldeb sy’n gysylltiedig â theulu, gan gynnwys diogelu rhag diswyddo.
Dweud wrth eich rheolwr a’ch cydweithwyr
Wrth ystyried dweud wrth eich rheolwr neu gydweithwyr eich bod yn ofalwr, efallai y byddwch ofn cael eich stigmateiddio, ofn cael eich ystyried fel rhywun sy’n cael triniaeth ffafriol, neu ofn perthnasoedd gwael â chydweithwyr neu ofn siomi’r tîm. Serch hynny, gall eich rheolwr a’ch cydweithwyr fod yn gefnogol iawn, a gall fod o gymorth trafod eich sefyllfa â rhywun y gallwch ymddiried ynddo yn y gwaith. Efallai y byddwch yn canfod bod cydweithwyr hefyd yn ofalwyr, a’ch bod, gyda’ch gilydd, yn gallu siarad yn fwy effeithiol â’ch cyflogwr am ffyrdd y gall eich cefnogi. Gallech ofyn i’ch cyflogwr sefydlu grŵp cymorth, i ddarganfod sut y gallwch chi, gyda’ch gilydd, ddod o hyd i ffyrdd gwell o ymdopi â rolau eich swydd a gofalu.
Bydd dweud wrth eich rheolwr a’ch cydweithwyr yn eich helpu i gael mynediad at amrywiaeth o fecanweithiau cymorth gan gynnwys:
- Cydnabyddiaeth fel gofalwr (a hawliau cysylltiedig)
- Amser o’r gwaith mewn argyfwng
- Gweithio hyblyg
- Mynediad at grwpiau cymorth
- Gwybodaeth a chyfeiriad at gymorth
- Llai o straen i’r gweithiwr
- Gall gryfhau perthnasoedd
Beth yw gweithio hyblyg?
Gall gweithio hyblyg ganiatáu i weithwyr reoli gwaith a’u cyfrifoldebau gofalu a gall gynnwys:
- Oriau cychwyn a gorffen hyblyg
- Oriau gwaith cywasgedig e.e. gweithio wythnos 35 awr dros bedwar diwrnod yn lle pump
- Oriau gwaith blynyddol e.e. mae eich oriau’n cael eu cyfrifo dros flwyddyn ac rydych chi’n gweithio rhai shifftiau sefydlog, ond mae gennych chi hyblygrwydd i reoli rhai o’ch oriau i ganiatáu i chi weithio mwy neu lai o oriau er mwyn cyflawni eich rôl ofalu a bodloni anghenion y busnes
- Gweithio yn ystod y tymor
- Rhannu swyddi a gweithio rhan-amser
- Gweithio gartref neu weithio o bell
- Oriau gwasgarog
- Gweithio sifftiau
- Gostyngiad dros dro mewn oriau gwaith
- Seibiannau gyrfa
Pwy all wneud cais am weithio hyblyg?
Mae gan bob gweithiwr sydd â gwasanaeth parhaus o 26 wythnos o leiaf yr hawl i ofyn am weithio hyblyg ac i’w gais gael ei ystyried o ddifrif gan ei gyflogwr (gall rhai cyflogwyr gynnig gweithio hyblyg i bob gweithiwr). Yn arbennig, mae gan rieni plant dan chwech oed neu blant anabl dan ddeunaw oed hawl i wneud cais i’w cyflogwr i weithio’n fwy hyblyg. Gall y cais gwmpasu oriau gwaith, amseroedd gwaith a lleoliad gwaith a gall gynnwys ceisiadau am wahanol batrymau gwaith.
Sut i wneud cais am weithio hyblyg?
Gall polisïau cyflogaeth amrywio o ran manylion, ac fe’ch cynghorir i wirio polisi eich cyflogwr cyn gwneud cais, ond mae’r rhan fwyaf yn dilyn yr egwyddorion cyffredinol isod.
Rhaid i’r cais:
- Gael ei wneud yn ysgrifenedig, gan ddatgan ei fod yn cael ei wneud o dan yr hawl statudol i wneud cais am weithio hyblyg
- Cadarnhau perthynas y gweithiwr â’r plentyn neu’r oedolyn
- Nodi cynnig y gweithiwr ac esbonio’r effaith y mae’r gweithiwr yn credu y bydd hyn yn ei chael ar fusnes y cyflogwr a sut y gellir delio â hyn. Nodi dyddiad cychwyn ar gyfer y newid arfaethedig gan roi amser rhesymol i’r cyflogwr ystyried y cynnig a’i weithredu; gall hyn gymryd 12-14 wythnos. Nodi a oes cais blaenorol wedi’i wneud ac os felly ar ba ddyddiad y cafodd ei wneud.
- Nodi’r dyddiad
Ar ba sail y gellir eich gwrthod?
Ni ellir gwrthod ceisiadau am drefniadau gweithio hyblyg yn afresymol, ond gellir eu gwrthod am y rhesymau canlynol:
- Baich costau ychwanegol
- Effaith niweidiol ar y gallu i fodloni galw cwsmeriaid
- Anallu i ad-drefnu gwaith ymhlith staff presennol
- Anallu i recriwtio staff ychwanegol
- Effaith niweidiol ar ansawdd
- Effaith niweidiol ar berfformiad
- Diffyg gwaith yn ystod y cyfnodau y mae’r gweithiwr yn bwriadu gweithio
- Newidiadau strwythurol wedi’u cynllunio.
Mae gan Carers UK (yn agor mewn tab newydd) ragor o wybodaeth ynghylch gweithio hyblyg.
Beth os ydych chi eisiau gadael y gwaith?
Os ydych chi’n ystyried gadael y gwaith, ystyriwch a ydych chi wir eisiau gwneud hynny ai peidio, ac os nad ydych chi, pa help sydd ei angen arnoch chi i aros mewn gwaith? Yn gyntaf, meddyliwch am y pethau y byddech chi’n eu rhoi’r gorau i’w cael, ac a ydych chi wir eisiau eu colli.
A fyddwch chi’n ymdopi â chael llai o arian?
- Ydych chi eisiau rhoi’r gorau i’r annibyniaeth a’r cyswllt cymdeithasol sydd gennych chi drwy eich gwaith?
- A fyddwch chi’n colli sgiliau gwerthfawr os byddwch chi’n gadael?
- Sut fyddai gadael y gwaith yn effeithio ar eich hawl i bensiwn yn y dyfodol?
Yna, meddyliwch am ffyrdd o osgoi’r broblem. A allech chi:
- Wneud cais am weithio hyblyg?
- Cymryd seibiant gyrfa?
- Gofyn am gymorth ychwanegol gan y gwasanaethau cymdeithasol? Mae gennych hawl i gael asesiad o’ch anghenion cymorth yn ogystal ag anghenion y person rydych chi’n gofalu amdano. Os ydych chi eisiau gweithio, rhaid ystyried hyn wrth asesu a chynllunio gofal ar gyfer y person rydych chi’n gofalu amdano.