Gofalyddion
Gofalwyr
Rydych chi'n ofalwr os ydych yn darparu neu'n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl. Gallai'r person hwnnw fod yn berthynas, ffrind neu gymydog nad yw'n gallu ymdopi gartref heb help oherwydd salwch, oedran neu anabledd. Efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn darparu gofal fel rhan o'ch perthynas â nhw ac nad ydych yn gweld eich hun fel gofalwr.
Mae yna lawer o wahanol fathau o help ar gael i ofalwyr, gan gynnwys:
- Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
- Grwpiau Cefnogi Gofalwyr
- Gwyliau byr a gofal seibiant
- Hyfforddiant
- Eiriolaeth
- Cyfeillio
- Mynediad rhatach i Wasanaethau Hamdden
- Cerdyn Argyfwng
- Taliadau Uniongyrchol
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Gofalwyr Sir Benfro yn cynnig cymorth a chefnogaeth i ofalwyr. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth, cyngor, cynllun wrth gefn mewn argyfwng, hyfforddiant, gweithgareddau a grwpiau cefnogi.
Ffôn: 01437 611002 neu e-bostiwch pciss@crossroadsmww.org.uk
Ffynonellau eraill o gymorth:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Crossroads Care Mid and West Wales