Gofalyddion
Cael seibiant
Mae’n bwysig eich bod yn cael seibiant yn aml o’r dyletswyddau gofalu ac yn cael amser i chi eich hun. Gallwch ofyn i staff yr adran Gwasanaethau Oedolion am gyngor a gwybodaeth am wasanaethau seibiant lleol, ac a allant drefnu cymorth i chi, neu gallwch gysylltu â sefydliadau eraill eich hun. Rhaid i ofalwyr fod wedi cael asesiad gofalwr er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth gan y Gwasanaethau Oedolion.
Os ydych yn gwneud eich trefniadau eich hun, gwnewch yn siŵr bod y bobl rydych yn siarad â hwy’n deall eich bod yn chwilio am help er mwyn i chi allu cael amser i chi eich hun, hyd yn oed am awr neu ddwy.
Gwasanaethau a all helpu:
- Mae nifer o gyfleoedd dydd sy’n darparu gweithgareddau a chwmni i’r sawl rydych yn gofalu amdano gan roi cyfle gwerthfawr iddynt fynd allan.
- Mae gan Gyngor Sir Penfro gynllun ‘Lleoli Oedolion’ sy’n cynnig gofal dydd. Mae’r cynllun ar gael yn bennaf i bobl sydd ag anableddau dysgu ond mae’n cynnig help i bobl eraill hefyd.
- Mae gwasanaethau cadw cwmni’n darparu rhywun sy’n dod i’ch cartref am ychydig er mwyn i chi gael amser i chi eich hun.
- Mae llawer o gartrefi gofal yn cynnig gofal dydd anffurfiol, lle gall rhywun dreulio diwrnod yn rheolaidd gyda’r preswylwyr. Mae rhai’n cynnig arhosiad byr hefyd, unwaith yn unig neu yn rheolaidd.
- Gallwch gael cymorth byw i mewn am gyfnod byr er mwyn i chi gael seibiant
- Os oes ar y sawl rydych yn gofalu amdano angen gofal arbennig a fyddai’n gwneud gwyliau arferol yn anodd, gallwch gael gwybodaeth gan sefydliadau gwyliau arbenigol.
ID: 2202, adolygwyd 11/08/2022