Gofalyddion

Gofalwyr Plant (Gofalwyr sy'n Rhieni)

Gwybodaeth i ofalwyr plant anabl - rhieni neu unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb am edrych ar ôl y plentyn

Os ydych mewn cysylltiad â'r Gwasanaethau Cymdeithasol a ninnau'n asesu anghenion eich plentyn, fe fyddwn ni hefyd yn sgwrsio gyda chi ynglŷn â'ch anghenion chithau fel gofalwr. Fe wnawn ni edrych ar ba gymorth sydd ei angen ar eich plentyn, yn ychwanegol i'r hyn y byddai unrhyw blentyn ei angen, a chymryd i ystyriaeth o'r hyn rydych chi'n teimlo y gallwch ei wneud, a pha gymorth rydych yn teimlo sydd ei angen arnoch. Mae hyn yn gyfle ichi sgwrsio ynglŷn â'r hyn rydych yn ei deimlo, pa effaith mae gofalu'n ei gael  ar eich bywyd a'r math o help a fyddai'n ei gwneud hi'n haws ichi fedru gofalu. 

Os hoffech ofyn am asesiad o anghenion eich plentyn neu eich anghenion fel gofalwr, cysylltwch â ni ar 01437 764551 neu e-bostio ymholiadau@sir-benfro.gov.uk

Os ydych am wybodaeth, cyngor neu gymorth, mae Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Gofalwyr Sir Benfro yn cynnig help a chefnogaeth i ofalwyr. Mae hyn yn cynnwys cyngor gwybodaeth, cerdyn argyfwng, hyfforddiant, gweithgareddau a grwpiau cefnogi.

Ffoniwch: 01437 611002 neu e-bostiwch pciss@adferiad.org

Ffynonellau eraill o gefnogaeth

Carers Trust (yn agor mewn tab newydd)

Carers UK (yn agor mewn tab newydd)   

Mae Cyswllt Teulu (yn agor mewn tab newydd) yn fudiad cenedlaethol i deuluoedd sydd â phlant anabl. Mae'n cynnig gwybodaeth a chyngor trwy gyhoeddiadau a'i gwefan. 

Mae SNAP Cymru (yn agor mewn tab newydd) yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i deuluoedd y plant hynny sydd ag anghenion addysgol arbennig. 

ID: 2259, adolygwyd 03/11/2023