Gofalyddion
Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc
Beth ydy Gofalwr sy'n Oedolyn Ifanc?
Yn aml fe gyfeirir atyn nhw fel 'YAC', gofalwr ifanc sy'n oedolyn ydy rhywun rhwng 16-25 sydd â chyfrifoldeb gofal dros rywun.
Er y gall anghenion cymorth YAC adlewyrchu' rhai hynny o eiddo gofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion hŷn, ceir hefyd gwahaniaethau arwyddocaol. Mae gan bob YAC anghenion penodol wrth iddyn nhw wneud y trawsnewidiad o blentyn i oedolyn.
Pa wasanaethau sydd ar gael i Ofalwyr sy'n Oedolion Ifanc?
- 1:1 gyda gweithiwr maes
- Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
- Eiriolaeth
- Cyfeillio
- Gostyngiadau ar brisiau Gwasanaethau Hamdden
- Cerdyn Argyfwng
- Grwpiau Cefnogi
Mae Prosiect Gofalwyr Ifanc Sir Benfro yn cynnig cefnogaeth, arweiniad a chyfleoedd i ofalwyr sy'n oedolion ifanc hyd at 25 oed. Gall unrhyw un hunanatgyfeirio neu gall rhiant, athro, gweithiwr cymdeithasol, meddyg teulu neu ymarferydd arall gwblhau ffurflen atgyfeirio.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01437 761330
Mae Gwasanaethau Gwybodaeth a Chymorth Gofalwyr Sir Benfro yn cynnig help a chefnogaeth i ofalwyr o 18 oed ymlaen. Cewch gysylltu â nhw trwy:
Ffôn: 01437 611002 neu e-bost pciss@crossroadsmww.org.uk