Gofalyddion

Nam ar y clyw neu'r golwg

Os oes gennych broblemau clyw neu olwg, efallai eich bod eisoes yn defnyddio cyfarpar arbennig i’ch helpu i ymdopi â thasgau bob dydd. Mae yna hefyd gyfarpar a all eich helpu yn eich rôl fel gofalwr (er enghraifft, os ydych yn fyddar, efallai y byddai galwr sy’n dirgrynu’n ddefnyddiol i chi er mwyn i chi wybod pan fydd ar y sawl rydych yn gofalu amdano angen help). Gall y Gwasanaethau Oedolion roi cyngor am gyfarpar a all eich helpu fel gofalwr.

ID: 2201, adolygwyd 11/08/2022