Gofalyddion
Gofalwyr
Rydych chi'n ofalwr os ydych yn darparu neu'n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl. Gallai'r person hwnnw fod yn berthynas, ffrind neu gymydog nad yw'n gallu ymdopi gartref heb help oherwydd salwch, oedran neu anabledd. Efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn darparu gofal fel rhan o'ch perthynas â nhw ac nad ydych yn gweld eich hun fel gofalwr.
Mae yna lawer o wahanol fathau o help ar gael i ofalwyr, gan gynnwys:
- Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
- Grwpiau Cefnogi Gofalwyr
- Gwyliau byr a gofal seibiant
- Hyfforddiant
- Eiriolaeth
- Cyfeillio
- Mynediad rhatach i Wasanaethau Hamdden
- Cerdyn Argyfwng
- Taliadau Uniongyrchol
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth Gofalwyr Sir Benfro yn cynnig cymorth a chefnogaeth i ofalwyr. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth, cyngor, cynllun wrth gefn mewn argyfwng, hyfforddiant, gweithgareddau a grwpiau cefnogi.
Ffynonellau eraill o gymorth:
Gofalwyr Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (yn agor mewn tab newydd)
Cymdeithas Alzheimers (yn agor mewn tab newydd)
Adferiad (yn agor mewn tab newydd)
Mind (yn agor mewn tab newydd)
Gweithredu dros Blant – gwasanaethau Ceredigion a Sir Benfro (afcwestwales.co.uk)
Ffôn: 01437 764551
E-bost: carers@pembrokeshire.gov.uk