Gorfodi Cyfraith Bwyd Cynllun Gwasanaeth 2022-23

Gorfodi Cyfraith Bwyd Cynllun Gwasanaeth 2022-23

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn cymeradwyo’r Cynllun hwn ar ran Cyngor Sir Penfro

lofnod Dr Steven Jones

Dr Steven Jones

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol

Dyddiad: 31 Awst 2022

lofnod Michelle Bateman

Y Cynghorydd Michelle Bateman

Ael od Cabinet dros Weithrediadau Tai a Gwasanaethau Rheoleiddiol

Dyddiad: 31 Awst 2022

 

Nodau, amcanion, cysylltiadau gwasanaeth, a chyd-destun a chyfeiriad cenedlaethol

1.1 Nodau ac Amcanion

Adran Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Penfro sy’n gyfrifol am orfodi diogelwch a safonau bwyd. Dyma’r Cynllun Gwasanaeth Gorfodi Cyfraith Bwyd cyntaf i gael ei baratoi ers i bandemig Covid ddechrau yn gynnar yn 2020. Cafodd llawer o wasanaethau arferol a gwaith rhagweithiol fel arolygiadau cyfraith bwyd eu hatal ledled y wlad yn unol â chanllawiau’r Asiantaeth Safonau Bwyd, wrth i’r Wlad wynebu’r cyfyngiadau symud amrywiol a ddigwyddodd yn ystod y pandemig. Effaith atal gwaith arferol oedd galluogi staff Iechyd yr Amgylchedd sy’n ymwneud â gorfodi Cyfraith Bwyd i fod yn rhan o’u rôl Iechyd y Cyhoedd ehangach. Aethpwyd ati i gynorthwyo’r Cyngor i liniaru risgiau o drosglwyddo Covid-19 ar draws ein Cymunedau trwy ddarparu cyngor a gorfodi’r rheolaethau i atal trosglwyddo, i ymdrin â chlystyrau ac achosion sylweddol o haint covid, ac i’w defnyddio mewn gweithgareddau Atal a Rheoli Heintiau, yn unol â Chynllun Parhad Busnes Cyngor Sir Penfro. Rhoddir rhagor o wybodaeth am y cyflawniadau a wnaed yn erbyn yr amcanion hyn yn ddiweddarach yn y Cynllun hwn.

1.2 Nodau Penodol y Gwasanaeth Diogelwch a Safonau Bwyd

Nodau penodol y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd yw:

  • Sicrhau bod bwyd sy’n cael ei gynhyrchu, ei werthu neu ei gyflenwi yn Sir Benfro yn ddiogel ac yn iachus; wedi’i gynhyrchu o dan amodau hylan; o ansawdd a chyfansoddiad derbyniol; ac wedi’i labelu a’i hysbysebu’n addas, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd a hawliau/disgwyliadau defnyddwyr.
  • Ymchwilio i ddigwyddiadau ac achosion o wenwyn bwyd a chlefydau heintus eraill mewn perthynas â bwyd sy’n gysylltiedig â gweithrediadau busnes bwyd, i nodi ffynhonnell yr haint, lle bo modd; i atal lledaeniad pellach; a chodi ymwybyddiaeth yn gyffredinol o lwybrau trosglwyddo a dulliau atal, gyda’r nod o leihau nifer yr achosion o salwch cysylltiedig yn y gymuned leol. O ddechrau 2017-18, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am fynd ar drywydd hysbysiadau neu honiadau cychwynnol o glefydau heintus (gan gynnwys gwenwyn bwyd posibl), ac am arwain ar reoli clefydau heintus yn gyffredinol, i Dîm Iechyd a Diogelwch yr Adran.

Mae’r nodau hyn yn cael eu gweithredu yn unol â chyfraith bwyd berthnasol, “Cytundeb Fframwaith ar Reolaethau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Swyddogol gan Awdurdodau Lleol” yr Asiantaeth Safonau Bwyd, a Chod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) trwy:

  • Ddatblygu Cynllun Gwasanaeth Cyfraith Bwyd blynyddol.
  • Cyflawni swyddogaethau statudol y Cyngor mewn perthynas â chofrestru safleoedd bwyd, a chymeradwyo rhai safleoedd bwyd dan ddeddfwriaeth cynnyrch penodol (yn bennaf sefydliadau cynhyrchion llaeth, cynhyrchion cig a chynhyrchion pysgodfeydd).
  • Cynnal amrywiaeth o weithgareddau wedi’u rhaglennu gan gynnwys archwilio safleoedd a samplu cynhyrchion bwyd, cymryd camau dilynol yn ôl yr angen, yn unol â pholisïau gorfodi cyhoeddedig, i sicrhau bod achosion o dorri deddfwriaeth a nodwyd yn cael eu hunioni.
  • Gweinyddu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd cenedlaethol ar gyfer busnesau bwyd.
  • Ymchwilio i gwynion ynghylch diogelwch bwyd a safonau bwyd.
  • Dilyn digwyddiadau ac achosion o wenwyn bwyd achlysurol lle mae cysylltiadau posibl â busnesau bwyd.
  • Cymryd camau priodol mewn ymateb i hysbysiadau milheintiau.
  • Cymryd camau gorfodi sy’n gymesur, yn dryloyw, yn gyson ac wedi’u targedu, yn unol â Chod Ymarfer a Chanllawiau Ymarfer y Ddeddf Diogelwch Bwyd, cyngor a chanllawiau’r Asiantaeth Safonau Bwyd, a pholisïau gorfodi mewnol perthnasol.
  • Darparu gwybodaeth a chyngor ar faterion sy’n berthnasol i ddiogelwch a safonau bwyd. Yn benodol, bydd y Tîm yn ymdrechu i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth gweithredwyr busnes a hyrwyddo arfer da.
  • Ymrwymo adnoddau i ymgyrchoedd hyrwyddo ac ymgyrchoedd addysgol, gan ystyried nodau strategol ac anghenion lleol yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
  • Cydgysylltu â chyrff perthnasol ynghylch materion gorfodi a chysondeb.
  • Sicrhau bod ein staff yn meddu ar gymwysterau priodol, yn meddu ar sgiliau technegol a phroffesiynol addas, ac yn gymwys i gyflawni’r dyletswyddau a ddisgwylir.
  • Monitro gweithrediad ein gweithdrefnau i sicrhau bod safonau gwasanaeth yn cael eu cynnal a lle bo’n briodol yn cael eu gwella.

1.3 Cysylltiadau â Chynllun Llesiant Sir Benfro a Chynllun Corfforaethol Cyngor Sir Penfro (2020-21)

Mae’r Gwasanaeth yn cysylltu â nifer o flaenoriaethau a nodir yng Nghynllun Llesiant Sir Benfro sy’n fframio gweithgarwch y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn Sir Benfro dros y cyfnod 2018-2030. Mae’r Cynllun yn cael ei oruchwylio gan bartneriaeth aml-asiantaeth (Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus) sy’n ceisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Benfro, ac mae’n cyd-fynd â’r saith nod llesiant cenedlaethol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
Mae Cynllun Corfforaethol Cyngor Sir Penfro yn gynllun blynyddol sy’n edrych i’r dyfodol ac sy’n nodi ein Hamcanion Llesiant, yn rhestru’r camau gweithredu y bydd y Cyngor yn eu cymryd yn ystod y flwyddyn y mae’n berthnasol iddi ac yn nodi’r mesurau perfformiad a’r safonau a ddefnyddir i fesur ein cynnydd. Y Cynllun Corfforaethol yw ein prif gynllun. Fe’i cyhoeddir ar ddechrau pob blwyddyn ariannol ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyngor a’r weledigaeth sy’n sail iddo yw “Gweithio gyda’n gilydd, gwella bywydau”.

Yn benodol, y rhain yw:

  • Cymru lewyrchus (nod y cynllun llesiant) 
  • Cefnogi'r amgylchedd cywir i fusnesau dyfu a chynorthwyo cyflogaeth ddiogel, a chynaliadwy (amcan llesiant corfforaethol)

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ‘busnesau llwyddiannus yn tyfu, yn ffynnu ac yn cyflogi’, gyda phwyslais arbennig ar ddau brif gam gweithredu:

  • Hyrwyddo a chefnogi busnesau newydd, a busnesau bach a chanolig.
  • Darparu cefnogaeth i’r sectorau bwyd, twristiaeth ac amaethyddol.

Byddwn yn ceisio cyflawni hyn drwy amrywiaeth o fesurau gan gynnwys:

  • sicrhau bod bwyd diogel yn cael ei ddarparu o safleoedd glân a hylan, a thrwy hynny greu hyder mewn busnesau bwyd lleol a hybu twristiaeth,
  • mynd ati’n rhagweithiol i roi cyngor ar gydymffurfiaeth gyfreithiol ac arfer da i helpu i gynnal a datblygu busnesau bwyd, a
  • thargedu gorfodaeth ar y busnesau bwyd sy’n perfformio waethaf yr ystyrir eu bod yn ‘torri corneli’, er mwyn sicrhau nad yw busnesau sy’n cael eu rhedeg yn dda yn cael eu rhoi dan anfantais gystadleuol.
  • Cymru iachach (nod y cynllun llesiant)

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ‘Pobl yn Sir Benfro yn Iachach’, gyda phwyslais arbennig ar y flaenoriaeth i ‘Helpu a chefnogi pobl i gymryd cyfrifoldeb i wella eu hiechyd a’u llesiant drwy gydol eu hoes’ ac ar y ‘brif weithred’ o ‘Leihau lefelau gordewdra drwy hybu byw’n iach ac egnïol ar draws pob oedran’. Mae’r Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd yn cyfrannu at yr amcanion uchod drwy sicrhau bod busnesau bwyd yn darparu’r wybodaeth ofynnol am gynhyrchion bwyd. Mae hyn yn sicrhau bod defnyddwyr yn deall sut i baratoi a storio bwyd yn ddiogel, yn eu galluogi i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch pa gynhyrchion bwyd i’w prynu er mwyn cynnal diet iach a chytbwys, ac i osgoi cynhwysion y mae ganddynt anoddefiad neu sensitifrwydd arbennig iddynt.


1.4 Y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (2021-2022 – 2024-25)

Mae’r Gwasanaeth hefyd wedi ymrwymo i’r cynllun trawsbynciol hwn sy’n ddogfen fyw ac yn greiddiol i holl amcanion y Cynllun Corfforaethol. Mae newidiadau’n cael eu rhoi ar waith er mwyn gwella effeithlonrwydd a gwella’r gwasanaethau a ddarperir wrth gwrdd â heriau ariannol yn y dyfodol. Yn benodol, byddwn yn:

  • ceisio uchafu incwm lle mae blaenoriaethau gwasanaeth eraill fel adferiad o Covid-19 yn caniatáu, tra hefyd yn cynyddu lefelau cydymffurfio trwy:
    • barhad y rhaglen Awdurdod Sylfaenol lle mae capasiti yn caniatáu,
    • manteisio ar yr holl arian grant sydd ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd,
    • parhau i hyrwyddo gwasanaeth cynghori taledig y Tîm lle mae capasiti yn caniatáu,
    • parhau i hyrwyddo ailymweliadau taledig ar gyfer ailsgorio.
  • gweithredu gostyngiadau ariannol a nodwyd a pharhau i wneud arbedion effeithlonrwydd drwy:
    • wneud y defnydd gorau o wefan Cyngor Sir Penfro a chyfathrebu electronig,
    • parhau i leihau milltiroedd cymaint â phosibl trwy ddefnyddio gweithio ystwyth/hybrid, clystyru arolygiadau fesul ardal, a brysbennu cwynion risg isel yr ymdrinnir â hwy dros y ffôn neu yn yr arolygiad nesaf,
    • defnyddio ffurflenni arolygu electronig a gwiriadau “dilysu” i gymryd lle arolygiadau lle nad oes angen arolygiad llawn, lle bo modd o dan Gynllun Adfer yr ASB.
ID: 9858, adolygwyd 26/04/2023