Gorfodi Cyfraith Bwyd Cynllun Gwasanaeth 2022-23

Ceisiadau am wasanaeth

Bydd yr Awdurdod yn derbyn ceisiadau am wasanaeth o amrywiol ffynonellau, gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd, busnesau, atgyfeiriadau oddi wrth awdurdodau lleol eraill ac, yn achlysurol, oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae ceisiadau am wasanaeth yn cynnwys:

  • cwynion oddi wrth aelodau o’r cyhoedd ynghylch safon hylendid mewn safleoedd bwyd
  • cwynion ynghylch bwydydd sydd: yn anaddas; wedi eu llygru gan ddeunydd allanol; heb fod o’r natur, y sylwedd neu’r ansawdd a ddisgwylid; wedi ei gamlabelu; ac, wedi ei gamddisgrifio
  • ceisiadau am gymeradwyaeth i safle bwyd
  • ceisiadau am wybodaeth a chyngor ynghylch materion hylendid a safonau bwyd gan fusnesau
  • ceisiadau gan awdurdodau lleol eraill ynghylch bwydydd a gynhyrchwyd yn lleol sydd wedi cael eu gwerthu y tu allan i’r Sir ac sy’n destun cwyn
  • ceisiadau am wybodaeth neu ymyriad a dderbyniwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Nid yw ceisiadau am ‘ail ymweliadau i ailsgorio’ ac apeliadau yn erbyn sgorau o dan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wedi eu cynnwys yn y ffigurau hyn, gan eu bod wedi eu trafod yn gynharach yn y Cynllun hwn (gweler 2.6.2). Yn yr un modd, mae hysbysiadau milheintiau a gwenwyn bwyd a chlefydau heintus wedi eu heithrio o’r pennawd yma, ond yn cael eu trafod yn nes ymlaen yn y Cynllun hwn (gweler 3.7). Nod yr Awdurdod yw ymateb i’r holl geisiadau am wasanaeth o fewn 10 diwrnod gwaith a chyflawni hyn yn 95% o’r holl achosion.
Fe all ymateb fod yn alwad ffôn, neges e-bost, llythyr neu ymweliad, yn dibynnu ar yr amgylchiadau ym mhob achos.

Fodd bynnag, caiff ceisiadau a dderbynnir gan y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd am wasanaeth eu dosbarthu ymhellach fel rhai brys neu beidio, gydag unrhyw geisiadau am wasanaeth brys yn derbyn ‘ymateb cyntaf’ o fewn 1 diwrnod gwaith.
Dengys y tabl canlynol y perfformiad a gyflawnwyd yn erbyn safonau gwasanaeth y 6 blynedd ddiwethaf:

 

Perfformiad

16-17

17-18

18-19

19-20

20-21

21-22

Nifer y ceisiadau am wasanaeth brys 51 45 25 19 5 26
Y ganran a gafodd ‘ymateb cyntaf’ o fewn 1 diwrnod gwaith 96.1% 95.6% 100% 100% 100% 92.3%
Nifer y ceisiadau am wasanaeth heb fod ar frys 860 862 1050 1101 1798 925
Y ganran a gafodd ‘ymateb cyntaf’ o fewn y dyddiad targed 98.4% 92.5% 96.6% 96.6% 86.4% 95.6%

 

Mae lefel y perfformiad yn erbyn y ddau ddangosydd yma wedi aros yn gyson uchel, a gellir gweld hefyd yn 2020-21, sef blwyddyn gyntaf pandemig Covid-19, fod nifer y ceisiadau am wasanaeth yn sylweddol uwch na blynyddoedd eraill. Mae’r rhif hwn yn cynnwys 1038 o geisiadau am wasanaeth cysylltiedig â Covid-19 yr ymdriniwyd â hwy gan y Tîm Bwyd. Roedd nifer y ceisiadau am wasanaeth yr ymdriniwyd â hwy gan y Tîm Bwyd wedi gostwng i fod yn nes at y nifer arferol yn 2021-22 oherwydd bod Swyddogion Gorfodi Covid yr Awdurdod yn eu lle ac yn gyfrifol am dderbyn ceisiadau am wasanaeth yn ymwneud â Covid-19 yn y flwyddyn honno.

Ar ôl gwneud ‘ymateb cyntaf’ disgwylir i swyddogion yn gyffredinol ‘gymryd camau’ mewn ymateb i geisiadau brys am wasanaeth ar yr un diwrnod gwaith ac mewn ymateb i geisiadau heb fod yn rhai brys o fewn 10 diwrnod gwaith (llaciwyd hwn o 5 diwrnod gwaith o 2014-15 er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i swyddogion i gyd-drefnu unrhyw ymweliadau angenrheidiol gyda’r nod o leihau gwariant ymhellach ar filltiroedd teithio).

3.3.1 Cwynion ynghylch safleoedd

Bydd yr Awdurdod yn ymchwilio’n llawn i gwynion yn ymwneud â chyflwr hylendid safle bwyd:

  • pan fo’r amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn gallu peri risg sylweddol i iechyd y cyhoedd, a/neu
  • pan fo’r amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn peri pryder parhaus a/neu i lawer o’r cyhoedd, a/neu
  • pan fo gan y busnes hanes cydymffurfio gwael

Rhoddir cwynion yn nhrefn blaenoriaeth i’w harchwilio fel a ganlyn:

Blaenoriaeth (Risg): Uchel

Targed ar gyfer ymchwilio: Yr un diwrnod

Blaenoriaeth (Risg): Cymedrol

Targed ar gyfer ymchwilio: 10 diwrnod gwaith

Blaenoriaeth (Risg): Isel

Targed ar gyfer ymchwilio: Hysbysu’r busnes ac ystyried yn ystod yr ymweliad arferol nesaf

Cafodd y targed ar gyfer ymchwilio i gwynion risg ‘cymedrol’ ei lacio ar ddechrau 2014-15, o’r 5 diwrnod gwaith blaenorol, i 10 diwrnod gwaith er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i swyddogion gyd-drefnu unrhyw ymweliadau angenrheidiol yn well gyda’r nod o leihau gwariant ymhellach ar filltiroedd teithio.

Pan nad yw’r gŵyn yn cyfiawnhau ymchwiliad llawn, bydd y Cyngor, pan fo’n briodol, yn hysbysu’r busnes am y mater, gan nodi unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion da a allai fod yn berthnasol, a bydd yn gwneud cofnod o’r gŵyn i’w hystyried yn yr ymweliad arferol nesaf. Wrth wneud hynny, gwahoddir y busnes i ymateb yn ysgrifenedig, fel cofnod o unrhyw ymchwiliad a chamau gweithredu mewnol.

Bydd cwynion yr amheuir eu bod yn flinderus a/neu barhaus yn cael eu trin yn unol â ‘Gweithdrefn Cyfathrebu Afresymol o Barhaus ac Ymddygiad Afresymol Cwsmeriaid’ y Cyngor.
Derbyniwyd 88 o gwynion ynghylch safleoedd busnes bwyd yn ystod 2021-22, gydag 16 o’r cwynion hyn yn ei gwneud yn ofynnol ymweld â’r safle dan sylw.

Dengys y siart canlynol nifer y cwynion ynghylch safle a dderbyniwyd yn ystod 2021-22 mewn cymhariaeth â phob un o’r 8 mlynedd flaenorol a’r gyfran gymharol o gwynion yr ymchwiliwyd iddynt drwy ymweld â’r safle dan sylw.

Cwynion yn ymwneud a safleoedd bwyd 2013-14 i 2021-22

cwynion yn ymwneud a safleoedd bwyd 2013-14 i 2021-22

 Premises notified
  • 2013-14: 116
  • 2014-15: 90
  • 2015-16: 77
  • 2016-17: 118
  • 2017-18: 99
  • 2018-19: 81
  • 2019-20: 71
  • 2020-21:54
  • 2021-22: 80
 Premises visited
  • 2013-14: 46
  • 2014-15: 33
  • 2015-16: 59
  • 2016-17: 29
  • 2017-18: 18
  • 2018-19: 18
  • 2019-20: 25
  • 2020-21:5
  • 2021-22: 8

Cwynion yn ymwneud a safleoedd bwyd yn ol categori risg 2021-22

Cwynion yn ymwneud a safleoedd bwyd yn ol categori risg 2021-22

  • Uchel: 16
  • Cymedrol: 34
  • Isel: 38

3.3.2 Cwynion ynglŷn â bwyd

Bydd yr Awdurdod yn ymchwilio i gwynion ynghylch diogelwch ac iachusrwydd bwyd; bwyd a halogwyd gan ddeunydd estron neu gemegion; ansawdd bwyd; a labelu a chyfansoddiad bwyd.

Gall ymchwiliadau i gwynion ynglŷn â bwyd gymryd llawer iawn o amser a gallant, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf, ddargyfeirio adnoddau yn y tîm er anfantais o safbwynt cyflawni gwaith arall.

O ganlyniad, ni fydd cwynion ynglŷn â bwyd yn destun ymchwiliad ‘llawn’ oni bai:

  • bod risg sylweddol i iechyd y cyhoedd, a/neu
  • bod pryder parhaus i’r cyhoedd, a/neu
  • bod gan y busnes hanes cydymffurfio gwael, a/neu
  • bod tor-cyfraith wedi ei nodi sy’n debygol o barhau neu ailddigwydd, a/neu
  • bod y math o doriad yn eang a/neu
  • ei bod yn bosibl bod y toriad yn ganlyniad gweithred fwriadol.

Rhoddir cwynion yn nhrefn blaenoriaeth i’w harchwilio fel a ganlyn:

Blaenoriaeth (Risg): Uchel

Targed ar gyfer ymchwilio: Yr un diwrnod

Blaenoriaeth (Risg): Cymedrol

Targed ar gyfer ymchwilio: 10 diwrnod gwaith

Blaenoriaeth (Risg): Isel

Targed ar gyfer ymchwilio: Hysbysu’r busnes ac ystyried yn ystod yr ymweliad arferol nesaf

Cafodd y targed ar gyfer ymchwilio i gwynion risg ‘cymedrol’ ei lacio ar ddechrau 2014-15 o’r 5 diwrnod gwaith blaenorol i 10 diwrnod gwaith, er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i swyddogion gyd-drefnu unrhyw ymweliadau angenrheidiol yn well gyda’r nod o leihau gwariant ymhellach ar filltiroedd teithio.

Pan nad yw’r gŵyn yn cyfiawnhau ymchwiliad llawn, bydd y Cyngor, pan fo’n briodol, yn hysbysu’r busnes am y mater, gan nodi unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion da a allai fod yn berthnasol, a bydd yn gwneud cofnod o’r gŵyn i’w hystyried yn yr ymweliad arferol nesaf, lle bo hynny’n briodol. Wrth wneud hynny, gwahoddir y busnes i ymateb yn ysgrifenedig, fel cofnod o unrhyw ymchwiliad a chamau gweithredu mewnol. Yn yr achos hwn, gwahoddir yr achwynydd i ddychwelyd unrhyw eitem a brynwyd i’r gwneuthurwr/adwerthwr fel bo’n briodol, i’w chyfnewid o bosibl.

Bydd y system frysbennu hon yn cael ei hadolygu fel rhan o waith monitro arferol y tîm.

Bydd cwynion yr amheuir eu bod yn flinderus a/neu’n barhaus yn cael eu trin yn unol â ‘Gweithdrefn Cyfathrebu Afresymol o Barhaus ac Ymddygiad Afresymol Cwsmeriaid’ y Cyngor.
Pan fo’r bwyd yn tarddu o’r tu allan i’r Sir, adroddir am y gŵyn wrth yr Awdurdod Cartref perthnasol, neu efallai yr ymchwilir iddi mewn cydweithrediad â’r Awdurdod Cartref a/neu’r Awdurdod Gwreiddiol a/neu’r Awdurdod Sylfaenol fel y bo’n briodol.

Pan gaiff ymchwiliad ei gynnal, bydd hyn yn cael ei wneud yn anffurfiol:

  • pan nad yw’r drosedd yn ddifrifol (e.e. nid oes unrhyw risg i iechyd defnyddwyr)
  • pan fo tyst allweddol yn gwrthod gwneud datganiad
  • a/neu pan fo tyst allweddol yn cadarnhau’n ysgrifenedig nad yw’n barod i fynd i’r llys.

At hynny, bydd ymchwiliadau’n cael eu cwtogi:

  • pan fo’r ymchwiliad cychwynnol yn dangos nad oes unrhyw ddiben buddiol i gymryd camau pellach (e.e. pan fydd adroddiad y dadansoddwr cyhoeddus neu’r arolygydd bwyd yn cadarnhau na chyflawnwyd trosedd)
  • pan nad oes modd profi bod gobaith rhesymol o sicrhau collfarn (e.e. pan fo tebygolrwydd amddiffyniad diwydrwydd dyladwy).

Derbyniwyd 40 o gwynion ynglŷn â bwyd yn ystod 2021-22.

Dengys y siart canlynol nifer y cwynion ynglŷn â bwyd a dderbyniwyd yn ystod 2021-22 mewn cymhariaeth â phob un o’r 5 mlynedd flaenorol:

Cwynion ynglyn â bwyd 2016-17 i 21-22

cwynion ynglyn a bwyd 2016-17 i 21-22

  • 16-17: 73
  • 17-18: 55
  • 18-19: 65
  • 19-20: 51
  • 20-21: 46
  • 21-22: 40

Dengys y siart canlynol nifer y cwynion a dderbyniwyd yn ôl categori risg:

Cwynion ynglyn a bwyd yn ol categori risg 2021-22

Cwynion ynglyn a bwyd 2016-17 i 21-22

  • Uchel: 10
  • Cymderol: 11
  • Isel: 19

Mae’r siart canlynol yn darlunio natur y cwynion ynglŷn â bwyd a dderbyniwyd yn ystod 2021-22:

Cwynion ynglyn â bwyd yn ôl natur 2021-22

 Cwynion ynglyn a bwyd yn ol natur 2021-22

  • Microbiolegol: 14
  • Deunydd Estron: 18
  • Cemegol: 4
  • Safonau: 4

Mae nifer y cwynion oherwydd halogiad microbiolegol, cemegol a deunydd estron yn ymddangos fel pe bai yn tueddu i ostwng ar sail y 4 blynedd ddiwethaf. Byddwn yn gweld maes o law i ba raddau y mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith ar y niferoedd hyn.

Cwynion ynglŷn â bwyd yn ôl natur

17-18

%

18-19

%

19-20

%

20-21

%

21-22

%

Microbiolegol 24 44% 16 29% 16 29% 18 33% 14 25%
Deunydd Estron 12 22% 18 33% 17 31% 13 24% 18 33%
Cemegol 7 13% 16 29% 5 9% 6 11% 4 7%
Safonau 12 22% 15 27% 13 24% 9 16% 4 7%
Cyfanswm 55 - 65 - 51   46 - 40 -

 

Gan fod niferoedd cwynion o’r fath yn eithaf isel ar y cyfan, nid yw’n amlwg a fydd y duedd hon yn parhau. Efallai bod y lefel isel o gwynion yr adroddir amdanynt yn arwydd o lefelau cyffredinol uwch o gydymffurfio a geir yn y busnesau bwyd.

3.3.3 Cymeradwyo safleoedd bwyd sy’n dod dan Reoliad 853/2004 EC, sy’n pennu rheolau penodol ar gyfer hylendid bwyd sy’n tarddu o anifeiliaid

Mae’r Awdurdod yn gyfrifol am gymeradwyo yn statudol safle bwyd sy’n dod dan Reoliad 853/2004 EC, sy’n pennu rheolau penodol ar gyfer hylendid bwyd sy’n tarddu o anifeiliaid (yn bennaf safleoedd sy’n ymwneud â gweithgynhyrchu a/neu gyfanwerthu cig a chynhyrchion cig, llefrith a chynhyrchion llefrith a physgod a chynhyrchion pysgod).

Mae’r gofynion cymeradwyo a’r broses asesu’n gymharol feichus a gall olygu cyfres o ymweliadau cynghori a/neu arolygiadau cyn cymeradwyo.

Mae nifer mawr o safleoedd cymeradwy yn Sir Benfro mewn cymhariaeth â llawer o awdurdodau lleol eraill.

Derbyniwyd 3 chais am gymeradwyaeth yn ystod 2021-22, 1 gan safle puro wystrys, 1 gan gynhyrchwr eog wedi’i fygu’n oer, ac 1 gan fusnes prosesu crancod a chimychiaid, hefyd yn dosbarthu cregyn bylchog byw, cregyn gleision ac wystrys.

3.3.4 Ymholiadau a cheisiadau am gyngor

Mae’r Awdurdod yn cydnabod pwysigrwydd rhoi cyngor dibynadwy, pwrpasol i fusnesau. Mae hyn, yn enwedig, yn:

  • gymorth i feithrin a chynnal perthynas waith gadarnhaol rhwng swyddogion gorfodi a busnesau;
  • rhoi cymorth rhagweithiol i gydymffurfio amserol (ac, yn achos busnesau bwyd, mae’n helpu’r busnes i sicrhau Sgôr Hylendid Bwyd da);
  • cefnogi mabwysiadu arferion gorau;
  • helpu busnesau i osgoi gwariant diangen;
  • lleihau’r tebygolrwydd y bydd bwyd yn cael ei adalw, sy’n gostus;
  • lleihau’r tebygolrwydd o orfodi dilynol a dirwyon posibl;
  • helpu busnesau i ddatblygu a chynnal enw da;
  • helpu i ddiogelu ein cymunedau;
  • cyfrannu at yr agenda iechyd cyhoeddus ehangach.

Yn draddodiadol mae’r Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd wedi rhoi cyngor a chefnogaeth i fusnesau bwyd presennol a newydd, gan gefnogi eu hymdrechion i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol ac, yn y pen draw, eu llwyddiant economaidd.
Fodd bynnag, fel gydag awdurdodau lleol ar hyd a lled y DU, mae’r Awdurdod yn dal i wynebu gostyngiadau yng nghymorth ariannol y Llywodraeth ac, o ganlyniad, mae’n wynebu penderfyniadau cyllidebu anodd.

Er bod mwyafrif llethol swyddogaethau ein Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd yn ofynion statudol ac yn cael eu cyflawni’n unol â chanllawiau statudol, mae darparu ymweliadau cynghori, a gweithgareddau cysylltiedig o fath ymgynghorol, yn fwy na’r hyn sy’n ofynnol i’r Awdurdod eu gwneud, ac ystyriwyd bod darparu’r gwasanaethau ‘am ddim’ hyn yn anghynaladwy yng nghyd-destun blaenoriaethau corfforaethol ehangach.

Fodd bynnag, er mwyn dal i sicrhau bod y cymorth hwn ar gael i fusnesau, cyflwynwyd gwasanaeth cynghori newydd ‘ar sail ffi’ ar gyfer diogelwch a safonau bwyd ar y 1af o Ebrill 2016, yn cynnig amrywiaeth eang o gyngor, gan gynnwys y canlynol:

  • Cyngor ynglŷn â chynllun, adeiledd, cyfleusterau ac offer y safle.
  • Cyngor ynghylch arferion a gweithdrefnau diogelwch bwyd (e.e. gofynion rheoli tymheredd, a sut y gallai’r busnes gadw at ganllawiau i reoli perygl traws-halogiad E.coli, pan fo hynny’n briodol).
  • Cyngor/cymorth wrth ddatblygu systemau rheoli diogelwch bwyd/HACCP a chadw cofnodion sy’n gymesur â’r busnes.
  • Cyngor ynghylch y gofynion yn ymwneud â hyfforddi, cyfarwyddo a goruchwylio trinwyr bwyd.
  • Cyngor ynglŷn â’r meini prawf sy’n cael eu hystyried dan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, a’r gofynion cyffredinol i’w hateb er mwyn cyrraedd sgôr uchel – helpu busnesau newydd i gael y cychwyn gorau.
  • Cyngor ynghylch/cymorth i samplu bwyd ac arwyddocâd unrhyw ganlyniadau.
  • Cyngor ynghylch cydymffurfio â labelu alergenau bwyd/gofynion gwybodaeth.
  • Cyngor ynghylch cydymffurfio â gofynion eraill labelu/disgrifio/hysbysebu bwyd.
  • Cyngor ynglŷn â gofynion cyfansoddol bwyd.
  • Cymeradwyo labeli bwyd/bwydlenni/gwefannau/hysbysebion eraill a baratowyd gan y busnes.
  • Archwiliadau safleoedd bwyd (‘gwiriadau iechyd’).

Mae rhagor o fanylion y gwasanaeth hwn, gan gynnwys ffioedd a thaliadau, a thelerau ac amodau llawn, i’w cael ar wefan y Cyngor yn www.pembrokeshire.gov.uk/foodlawadvice
Mae’r cyngor/cymorth canlynol yn dal i gael ei ddarparu am ddim:

  • Gwybodaeth a/neu gyngor sylfaenol, ar lafar mewn ymateb i geisiadau achlysurol dros y ffôn.
  • Cyhoeddi taflenni/llyfrynnau canllawiau perthnasol.
  • Anfon llythyrau/negeseuon e-bost at sectorau busnes perthnasol, i dynnu sylw at ddeddfwriaeth a chanllawiau sy’n newydd neu wedi newid, ac i ategu ymgyrchoedd arbennig i godi ymwybyddiaeth.
  • Darparu gwybodaeth drwy adran gynghori gwefan y Cyngor.
  • Rhoi gwybodaeth a/neu gyngor yn ymwneud ag archwiliadau ac ymweliadau rheoleiddiol eraill.

Wrth symud oddi wrth wasanaeth cynghori am ddim, rhoddir pwyslais ychwanegol ar wella’r wybodaeth uchod, lle bo modd, er mwyn cynyddu mynediad at wybodaeth allweddol ac annog cydymffurfio amserol.
Yn ystod 2021-22 darparodd y Tîm Diogelwch a Safonau gyngor ar sail ffi i 1 busnes yn Sir Benfro, mewn cymhariaeth â 0 yn 2020-21 a 44 yn 2019-20. Yn dilyn adolygiad corfforaethol o ffioedd a thaliadau yn ystod 2017-18, codwyd y ffi am y gwaith hwn er mwyn sicrhau bod y gost lawn am y gwasanaeth a ddarperir yn cael ei hadennill.

Mae’r gostyngiad yn nifer yr ymweliadau cyngor â thâl y gofynnwyd amdanynt bron wedi dod i ben yn ystod cyfnod pandemig Covid-19 ac yn ystod cyfnod Adfer yr Awdurdod Lleol, bydd y Tîm Bwyd yn blaenoriaethu gwneud gwaith hwyr a risg uchel, i fodloni gofynion y Cynllun Adfer. Felly, rhagwelir na fydd unrhyw ymweliadau cynghori â thâl yn cael eu cynnal yn 2022-23.

Rhoddir gwybodaeth fwy penodol ar roi ‘cyngor pendant’ i fusnesau, sy’n dod dan drefniant Awdurdod Sylfaenol, dan Adran 3.4 isod, ac ystyrir unrhyw gyfleoedd i ymestyn trefniadau o’r fath ymhellach, gan gadw unrhyw flaenoriaethau a chyfyngiadau ehangach mewn cof.
Ym mhob achos, pan fo angen cyngor neu gymorth mwy manwl na all yr Awdurdod ei ddarparu, caiff busnesau eu cyfeirio at gymdeithasau masnachol, ymgynghorwyr, neu arbenigwyr perthnasol, fel bo’n briodol.
Yn ystod 2021-22, derbyniwyd 307 o ymholiadau.

Dengys y siartiau canlynol nifer yr ymholiadau cyffredinol ynghylch bwyd a dderbyniwyd yn ystod 2021-22 mewn cymhariaeth â phob un o’r 9 mlynedd flaenorol

Ymholiadau a Dderbyniwyd 2012-13 i 2021-22

Ymholiadau a dderbyniwyd 2012-13 i 2021-22

Food standards
  • 2012-13: 29
  • 2013-14: 19
  • 2014-15: 77
  • 2015-16: 19
  • 2016-17: 9
  • 2017-18: 6
  • 2018-19: 5
  • 2019-20: 5
  • 2020-21: 2
  • 2021-22: 9
Food hygiene
  • 2012-13: 356
  • 2013-14: 355
  • 2014-15: 293
  • 2015-16: 339
  • 2016-17: 300
  • 2017-18: 301
  • 2018-19: 515
  • 2019-20: 524
  • 2020-21: 527
  • 2021-22: 550

Dengys y siart canlynol nifer yr ymweliadau cynghori y gofynnwyd amdanynt yn ystod 2021-22 mewn cymhariaeth â phob un o’r 9 mlynedd flaenorol.

Ymweliadau Cynghori 2012-13 i 2021-22

Ymweliadau cynghori 2012-13 i 2021-22

Food standards

  • 2012-13: 2
  • 2013-14: 1
  • 2014-15: 2
  • 2015-16: 0
  • 2016-17: 0
  • 2017-18: 0
  • 2018-19: 2
  • 2019-20: 0
  • 2020-21: 0
  • 2021-22: 0

Food hygiene

  • 2012-13: 87
  • 2013-14: 123
  • 2014-15: 111
  • 2015-16: 75
  • 2016-17: 47
  • 2017-18: 31
  • 2018-19: 25
  • 2019-20: 44
  • 2020-21: 0
  • 2021-22: 1

Cyflwynwyd trefniadau newydd ym mis Ebrill 2016 i godi tâl am ymweliadau cynghori i fusnesau bwyd oedd yn bodoli eisoes a rhai newydd. Y gobaith yw y gall cynnal ymweliadau cynghori fod yn ffactor defnyddiol i gynorthwyo busnesau i ennill sgorau da. Fodd bynnag, gan nad yw cynnal ymweliadau cynghori yn ddyletswydd statudol, mae wedi cael ei nodi fel gweithgaredd na ellir ei ddarparu ond lle bo’r busnes bwyd yn talu am yr ymweliad.

Mae nifer yr ymweliadau cynghori wedi gostwng yn gyson, ac er y gellid disgwyl i gyflwyno tâl gyfrannu at y gostyngiad hwn, mae’n anodd dweud faint ohono oedd yn barhad o’r duedd hon a faint oedd yn ganlyniad y taliadau. Gallai ffactorau eraill sydd wedi cyfrannu at y gostyngiad gynnwys gwell ymwybyddiaeth o ofynion Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, yn enwedig oherwydd y wybodaeth a’r deunyddiau sydd ar gael ar-lein, sydd wedi arwain at gynnydd mewn hyder a gwybodaeth ymhlith pobl sy’n rhedeg busnesau bwyd. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith fawr.

3.3.5 Atgyfeiriadau oddi wrth awdurdodau lleol eraill

Yn unol ag Egwyddor yr Awdurdod Cartref (gweler 3.4), bydd yr Awdurdod yn ymateb i geisiadau gan awdurdodau lleol eraill am wybodaeth briodol ynghylch bwydydd a gynhyrchwyd yn lleol ac a werthwyd y tu allan i’r Sir ac sy’n destun cwyn.
Ni dderbyniwyd yr un atgyfeiriad yn ystod 2021-22.

ID: 9908, adolygwyd 20/04/2023