Gorfodi Cyfraith Bwyd Cynllun Gwasanaeth 2022-23
Cofrestru Safleoedd Bwyd
Mae’r Awdurdod yn gyfrifol am gofrestru safle bwyd yn statudol dan Reoliad 852/2004 y Gymuned Ewropeaidd (EC) ar hylendid bwydydd. Estynnodd y Rheoliadau hyn, a ddaeth i rym ar y 1af o Ionawr 2006, y gofyniad cofrestru i gynnwys yr holl gynhyrchwyr sylfaenol. Daeth hyn â chynhyrchwyr sylfaenol i mewn i raglen arolygu hylendid bwyd yr awdurdod lleol.
Caiff cyfrifoldeb dros orfodi ar lefel cynhyrchu sylfaenol ei rannu rhwng y Timau Diogelwch a Safonau Bwyd ac Iechyd a Lles Anifeiliaid, gyda’r Tîm Iechyd a Lles Anifeiliaid yn gyfrifol am yr holl ffermydd anifeiliaid a’r rhai sy’n cynhyrchu cnydau ar gyfer porthi anifeiliaid.
Er bod y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd yn bwriadu arolygu safleoedd bwyd newydd a’r rheiny lle bu newid perchenogaeth cyn pen 28 diwrnod o ddechrau gweithrediadau, caiff adnoddau eu blaenoriaethu tuag at y rhai sy’n risg uchel o ran hylendid a/neu safonau bwyd.
Yn ystod pandemig Covid-19, cydnabuwyd na allai awdurdodau lleol gyflawni hyn ym mhob achos, oherwydd nifer o resymau fel safleoedd ddim yn cael bod ar agor, ac ar adegau gwahanol, arolygiadau’n cael eu gohirio. Felly, lle derbyniwyd cofrestriadau newydd, y disgwyl oedd y dylai awdurdodau lleol flaenoriaethu archwiliadau o geisiadau am gymeradwyaeth o dan 853/2004, h.y. safleoedd sy’n delio mewn cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid ac sy’n cyflenwi busnesau eraill, a hefyd flaenoriaethu (ar adegau pan na chafodd arolygiadau eu gohirio ac roedd safleoedd ar agor) busnesau sydd newydd gofrestru a fyddai’n debygol o fod yn risg uchel, neu lle’r oedd gwybodaeth yn awgrymu y gallai’r safle beri risg. Am y rheswm hwnnw, yng nghynllun eleni, ni ddarperir data ar nifer y safleoedd a archwiliwyd o fewn y 28 diwrnod arferol.
Fodd bynnag, derbyniwyd 251 o gofrestriadau newydd yn ystod 2021-22, ac ar ôl asesu risg, arolygwyd 107 ohonynt. Cafodd rhestr o 96 o safleoedd risg uchel heb sgôr ei chario ymlaen i’r flwyddyn 2022-23 fel blaenoriaeth i’w harchwilio ochr yn ochr â’r blaenoriaethau eraill a nodir yng Nghynllun Adfer ALl yr ASB. Mae hyn yn cymharu â 276 o gofrestriadau newydd a dderbyniwyd ar 2020-21 a 254 yn 2019-20.
Ar 1 Ebrill 2022, roedd cyfanswm o 482 o safleoedd cofrestredig heb sgôr ar y gronfa ddata. Yn dilyn arolygiad cychwynnol, caiff safleoedd bwyd eu hychwanegu at y rhaglen arolygu arfaethedig.