Gorfodi Cyfraith Bwyd Cynllun Gwasanaeth 2022-23
Cwmpas y Gwasanaeth Gorfodi Cyfraith Bwyd
Cyflawnir y swyddogaethau canlynol:
- Cofrestru safleoedd bwyd
- Cymeradwyo safle sy’n dod dan ddeddfwriaeth benodol i gynnyrch
- Archwiliadau hylendid a safonau bwyd wedi’u rhaglennu (ac ymweliadau dilynol)
- Gweinyddu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd cenedlaethol ar gyfer busnesau bwyd
- Samplu bwyd (am ansawdd/diogelwch microbiolegol a safonau bwyd)
- Samplu pysgod cregyn (gan Dîm Iechyd y Porthladdoedd)
- Archwilio cwynion ynghylch hylendid safle bwyd, ynghylch bwyd anaddas neu halogedig ac ynghylch ansawdd, cyfansoddiad, labelu neu hysbysebu bwyd
- Archwilio digwyddiadau ac achosion o wenwyn bwyd ac afiechydon heintus eraill cysylltiedig â bwyd
- Archwilio milheintiau
- Rhybuddion bwyd
- Ymweliadau cynghori
- Rhoi gwybodaeth am hylendid a safonau bwyd, a’u hyrwyddo
- Cynghori ar geisiadau cynllunio
- Ildio bwydydd yn wirfoddol
- Cyflwyno adroddiadau ystadegol
2.4 Galwadau ar y Gwasanaeth
Mae gofyn i fwyafrif y safleoedd bwyd gofrestru gyda’r Cyngor, a chedwir manylion pob safle bwyd hysbys mewn cronfa ddata electronig (Tascomi), sy’n gymorth i drefnu’r gwasanaeth. Cofnodwyd 2835 o safleoedd bwyd yn y gronfa ddata hon fel rhai oedd wedi eu cofrestru am hylendid bwyd ar y 1af o Ebrill 2022 ac, fel y dengys y siart canlynol, sefydliadau arlwyo yw mwyafrif y safleoedd bwyd hyn, gan gynnwys yr ysbyty lleol, ysgolion, cartrefi preswyl a nyrsio, gwestai a thai llety, tai bwyta a bwyd i fynd allan, a thafarnau a chlybiau. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd o 485 o safleoedd ers y cynllun Gwasanaeth diweddaraf (cyn Covid), lle’r oedd 2350 o safleoedd cofrestredig.
Effeithiau Pandemig Covid-19 ar Ddarparu Gwasanaeth Bwyd
Pan ddaeth Pandemig Covid-19 i’r amlwg ym mis Mawrth 2020, roedd effaith uniongyrchol ar allu’r Tîm Bwyd i barhau i gyflawni ei raglen arolygu arferol. Ar lefel genedlaethol, gohiriwyd gwaith arolygu arferol oherwydd risgiau i staff a’r cyhoedd yn deillio o’r rhyngweithio wyneb yn wyneb sy’n digwydd yn ystod arolygiadau. Yn fuan wedyn, cyflwynwyd rheolau a gaeodd y rhan fwyaf o safleoedd bwyd.
Roedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhoi cyngor cyfnodol i awdurdodau lleol ar waith blaenoriaeth yr oedd angen ei wneud fel ymateb i ddigwyddiadau bwyd difrifol, cwynion bwyd difrifol, delio â cheisiadau gan fusnesau yr oedd angen eu cymeradwyo cyn y gellid dechrau masnachu.
Hefyd yn ystod cyfnod cynnar y pandemig, bu swyddogion o’r Tîm Bwyd yn ymwneud â gorfodi a darparu cyngor i fusnesau lleol yn ymwneud â chydymffurfio â’r llu o ddeddfwriaethau newydd a gyflwynwyd yn benodol ar gyfer Covid-19, o ran y mathau o safleoedd a allai fasnachu, a hefyd ar gyfer y safleoedd yr oedd gofynion ychwanegol yr oedd angen cadw atynt, i leihau risg.
Roedd rhan allweddol arall o adnoddau’r Adran wedi’i neilltuo ar gyfer gweithio gyda chartrefi gofal ledled Sir Benfro i sicrhau bod ganddynt drefniadau digonol ar waith i reoli clystyrau neu achosion o Covid-19 yn eu lleoliadau, a hefyd i sicrhau bod rheolwyr cartrefi gofal yn ymwybodol o’r holl ofynion arnynt ac argaeledd canllawiau rheoli heintiau allweddol a chyngor ar ddarparu a defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), i reoli lledaeniad Covid-19.
O fis Mehefin 2020 roedd Gwasanaeth Olrhain Cyswllt o’r enw Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) wedi’i greu ledled Cymru ac yn Sir Benfro. Secondiwyd swyddogion o’r Tîm Bwyd yn rhannol ac mewn rhai achosion yn llawn i weithio ar yr agwedd allweddol hon ar reoli Covid-19.
Rhoddir crynodeb llawn o’r newidiadau staffio ac effaith secondiadau a salwch yn Adran
Dadansoddiad o Safleoedd yn ôl Math 1 Ebrill 2022
- Tŷ bwyta ac arlwywr/arall (18%)
- Tŷ bwyta/caffi/cantîn (17%)
- Adwerthwr bach (14%)
- Gwesty/Llety (9%)
- Lleoliadau gofal (8%)
- Tafarn/clwb (7%)
- Uned fwyd symudol (6%)
- Cynyrchwyr a phecynwyr (5%)
- Prif gynhyrchwr (4%)
- Bwyd i fynd (4%)
- Adwerthwr/arall (3%)
- Ysgol/coleg (3%)
- Archfarchnadoedd (1%)
- Dosbarthwr/cludwr (1%)
Yr Awdurdod Lleol sydd â chyfrifoldeb dros orfodi hylendid bwyd a safonau bwyd ynddynt oll heblaw llond dwrn o safleoedd. Yn ogystal â’r safleoedd parhaol hyn, mae’r Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd yn gyfrifol am fonitro gweithrediadau bwyd mewn amrywiol ddigwyddiadau dros dro, fel marchnadoedd, sioeau a gwyliau lle bydd busnesau bwyd o’r tu allan i’r Sir yn masnachu ochr yn ochr â busnesau lleol.
Mae 169 o safleoedd bwyd yn y Sir (6%) wedi eu cofnodi fel rhai tymhorol, yn gweithredu ar y cyfan o fis Ebrill tan ddiwedd mis Medi. Mae hyn yn gosod pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth yn ystod y cyfnod hwn a gall rwystro’r gwaith o gwblhau’r rhaglen o arolygiadau a drefnwyd ar rai safleoedd tymhorol, os bydd pwysau eraill yn cystadlu.
At hynny, mae nifer o fusnesau yn rhai sy’n gweithredu yn yr hwyr yn unig. Nid yw Tascomi yn cofnodi nifer busnesau o’r fath ar hyn o bryd.
Mae 129 (5%) o fusnesau bwyd wedi eu dosbarthu fel gwneuthurwyr. Yn ogystal â’r safleoedd gweithgynhyrchu cymeradwy y cyfeirir atynt isod, mae’r rhain yn cynnwys: pobyddion, gwneuthurwyr jamiau/cyffeithiau, gwneuthurwyr melysion, gwneuthurwr hufen iâ anghymeradwy, cynhyrchwyr brechdanau, paratowyr llysiau, gweithfeydd potelu dŵr ffynnon/mwynol, gwneuthurwyr siocled, gwneuthurwr bisgedi pryfed, distyllfa a nifer o fragdai.
Fel yr oedd pethau ar y 1af o Ebrill 2022, mae 35 o safleoedd bwyd wedi eu cymeradwyo dan reoliadau penodol i gynnyrch: 6 sefydliad cynnyrch llaeth, 3 sefydliad cynnyrch cig, 11 sefydliad pysgod/pysgod cregyn, 4 storfa oer ac 11 o gynhyrchwyr wyau cymeradwy.
Mae’r sefydliadau cynnyrch llaeth yn cynnwys 3 o gynhyrchwyr caws (un ohonynt hefyd yn cyflenwi llaeth buwch amrwd i’w yfed), 1 gwneuthurwr hufen iâ, 1 gwaith pasteureiddio a photelu llaeth ac 1 sefydliad sy’n torri a phecynnu caws.
Mae’r sefydliadau cynnyrch cig yn cynnwys 1 gwneuthurwr brechdanau sy’n gwerthu rhai cynhyrchion sy’n dod o fewn y categori sydd angen cymeradwyaeth, 1 gwneuthurwr biltong ac 1 gwneuthurwr cynhyrchion cig eidion sy’n gwerthu i gyfanwerthwyr a siopau.
Mae ar swyddogion sy’n archwilio ac yn cymeradwyo safleoedd cymeradwy angen gwybodaeth ac arbenigedd ychwanegol. Rhoddwyd hyfforddiant arbenigol i swyddogion yn y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd a ddewiswyd i arwain yn y meysydd hyn a lledaenwyd hyn yn raddol i staff eraill. At hynny, caiff arolygiadau o safleoedd cymeradwy eu cynnal yn gyffredinol mewn parau, a defnyddir yr ymweliadau hyn fel cyfle i rannu a datblygu gwybodaeth am y prosesau cynhyrchu dan sylw, gan feithrin cydnerthedd a hyrwyddo cysondeb ar draws y Tîm.
Mae 5 o ladd-dai tymhorol, o wyddau a thyrcwn, a eithriwyd rhag gofynion cymeradwyo.
“Safleoedd gofal” yw 231 (10%) o safleoedd – fel cartrefi gofal preswyl/nyrsio, gwarchodwyr plant a meithrinfeydd. Caiff y safleoedd hyn eu cofrestru hefyd gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, a’u harchwilio ganddi, gan gadw cysylltiad fel bo’n briodol.
Mae gan y Sir nifer cymharol fychan o fusnesau ethnig sydd angen gwybodaeth/cyngor mewn ieithoedd ar wahân i Gymraeg a/neu Saesneg. Mae amrywiaeth o daflenni cyfarwyddyd, pecynnau busnes a DVD yn cael eu cynnig i’r busnesau hyn yn yr ieithoedd priodol, lle bônt ar gael, i gynorthwyo eu dealltwriaeth a hyrwyddo cydymffurfiad. Mae gwasanaethau cyfieithu a dehongli ar gael i’r Awdurdod hefyd a chânt eu defnyddio pan fo angen.
Bu angen gwaith sylweddol o’r blaen i gynorthwyo i ddosbarthu a monitro ardaloedd cynhyrchu pysgod cregyn, er mwyn gwneud cynaeafu’r pysgod cregyn hyn yn bosibl yn fasnachol ar gyfer eu bwyta. Fodd bynnag, dros y pedair blynedd ddiwethaf ni roddwyd unrhyw drwyddedau ar gyfer cynaeafu pysgod cregyn yn fasnachol yn Aber Cleddau (lleoliad yr holl safleoedd dosbarthedig) gan Lywodraeth Cymru, o ganlyniad i bryderon amgylcheddol, a rhoddwyd y gorau i fonitro dros dro.
Tîm Iechyd y Porthladdoedd sydd â chyfrifoldeb am y gwaith hwn ac mae rhagor o fanylion i’w cael yng Nghynllun Gwasanaeth Iechyd y Porthladdoedd.
2.5 Gadael yr Undeb Ewropeaidd
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae paratoadau cenedlaethol wedi’u gwneud yn barod ar gyfer ymadawiad y DU â’r UE, gyda rheoliadau bwyd yr UE yn cael eu dwyn i mewn i gyfraith y DU, er mwyn sicrhau y gellir cyflawni’r holl swyddogaethau rheoleiddio.
Bydd y goblygiadau yn lleol yn dibynnu ar ganlyniad trafodaethau ar yr angen am reolaethau ffiniau rhwng Iwerddon a thir mawr y DU, yn ymwneud ag a fydd bwyd yn gallu symud yn rhydd dros y ffin, neu a fydd angen gwiriadau ychwanegol ar y pwynt mynediad i dir mawr y DU. Gallai hyn greu galwadau newydd sylweddol ar y gwasanaeth yn nau borthladd mynediad y Sir o Iwerddon, h.y. Porthladd Penfro ac Abergwaun. Mae’r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud ar lefel genedlaethol, a phenderfynwyd y bydd yn rhaid gwirio bwydydd ar y ffiniau neu yn eu cyrchfan gyntaf yn y DU.
Mae trafodaethau’n parhau ynghylch sefydlu cyfleusterau Safle Rheoli Ffiniau i wasanaethu’r ddau borthladd hyn sydd eu hangen i fonitro mewnforio bwydydd i’r DU o’r UE (Iwerddon). Rhagwelir y bydd angen dod o hyd i staff ychwanegol sylweddol i weithredu Safleoedd Rheoli Ffiniau yn Sir Benfro, yn ogystal â lleoli cyfleusterau addas, sydd eto’n cael ei benderfynu ar hyn o bryd. Yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ym mis Ebrill 2022, mae gweithredu rheolaethau ar y ffiniau ag Iwerddon wedi’i ohirio tan ddiwedd 2023.