Gorfodi Cyfraith Bwyd Cynllun Gwasanaeth 2022-23

Egwyddor yr Awdurdod Cartref a Phartneriaethau Awdurdodau Sylfaenol

Ers 2014-15, mae’r Awdurdod wedi gweithredu fel yr Awdurdod Sylfaenol enwebedig ar gyfer materion diogelwch a safonau bwyd i CKs Supermarkets Ltd. Mae gan y Cwmni 25 o siopau ar hyd a lled de a gorllewin Cymru dan reolaeth 5 awdurdod gorfodi. Mae chwech o’r siopau hyn wedi eu lleoli yn Sir Benfro.

Y trefniant hwn oedd y bartneriaeth statudol gyntaf i’w ffurfio rhwng yr Awdurdod a busnes dan ddarpariaethau Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008, fel y’i diwygiwyd.

Ym mis Mawrth 2017, sefydlwyd ail bartneriaeth gyda Seren Collection Ltd sy’n rhedeg gwesty, tŷ bwyta a chiosg bwyd i fynd yn Sir Benfro a thŷ bwyta yn Abertawe, ac ym mis Ebrill 2019 sefydlwyd trydedd bartneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Fel yr Awdurdod Sylfaenol ar gyfer y busnesau, mae’r Awdurdod wedi derbyn cyfrifoldeb dros roi ‘cyngor pendant’ sydd i gael ei gymhwyso i holl waith y cwmni, ac mae gofyn i Awdurdodau Gorfodi eraill, yn eu tro, ystyried y cyngor hwn wrth arolygu unrhyw safle sydd gan y cwmni ac wrth ystyried unrhyw gamau gorfodi posibl.

Yn ôl telerau’r bartneriaeth, mae’r gost lawn am unrhyw waith sy’n cael ei wneud gan yr Awdurdod yn cael ei thalu gan y busnesau, fel nad oes baich ariannol ychwanegol ar yr Awdurdod ac, yn y pen draw, ar bwrs y wlad.
Yn unol â newidiadau a gynlluniwyd yn dilyn cyflwyno Deddf Menter 2016, cafodd y Cynllun Partneriaeth Awdurdod Sylfaenol ei ddisodli o’r 1af o Hydref 2017. Symudodd y partneriaethau uchod oedd yn bod eisoes i’r Cynllun newydd, ac mae ganddynt yn awr hawl i gyngor ynghylch holl swyddogaethau rheolaethol Diogelu’r Cyhoedd o fewn maes gorchwyl Cyngor Sir Penfro.

Bydd cyfleoedd ychwanegol i sefydlu partneriaethau Awdurdod Sylfaenol yn dal i gael eu hystyried, gan gydnabod y cydfuddiannau i fusnesau, i’r Awdurdod ac, yn y pen draw, i ddiogelu defnyddwyr. Fodd bynnag, er bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar sail adennill costau, mae’r capasiti i ddarparu partneriaethau pellach bellach yn isel o ystyried yr angen i fodloni gofynion eraill y gwasanaeth.

O dan y Cynllun newydd, bydd angen i fusnesau sy’n masnachu yng Nghymru ac yn Lloegr hefyd, fel cynhyrchwyr yn Sir Benfro sy’n cyflenwi cynnyrch y tu allan i Gymru, gael partneriaethau yn y ddwy wlad er mwyn sicrhau eu bod yn dod dan Awdurdod Sylfaenol ar draws y meysydd polisi datganoledig.

Bydd angen i’r Adran gydbwyso ei hymrwymiad i’r tri Phartner Awdurdod Sylfaenol yn ystod y broses o weithredu Cynllun Adfer ALl yr ASB, hefyd oherwydd yr angen i ddyrannu’r adnoddau staff prin i fodloni disgwyliadau’r Cynllun.

ID: 9917, adolygwyd 20/04/2023