Gorfodi Cyfraith Bwyd Cynllun Gwasanaeth 2022-23
Adolygiad
6.1 Adolygiad yn erbyn y Cynllun Gwasanaeth
Bydd perfformiad yn erbyn y Cynllun Gwasanaeth hwn yn cael ei adolygu ar ddiwedd 2022-23 a bydd yn cael ei adrodd fel rhan o’r Cynllun Gwasanaeth ar gyfer 2023-24.
Bydd yr adborth a roddir yn cynnwys gwybodaeth am faint o gydymffurfio a fu â phob agwedd ar y Cynllun, gan gynnwys y targedau a’r safonau perfformio penodedig, a chanlyniadau datganedig eraill.
6.2 Nodi unrhyw Wyriad oddi wrth y Cynllun Gwasanaeth
Bydd yr adolygiad yn erbyn y Cynllun Gwasanaeth hwn yn nodi unrhyw feysydd lle’r oedd yr Awdurdod wedi gwyro oddi wrth y Cynllun a, phan fo hynny’n briodol, y rhesymau dros y gwyriad hwnnw.
Os bydd gwaith ychwanegol wedi cael ei wneud mewn meysydd eraill o orfodi cyfraith bwyd, yr ystyrir iddo fod wedi cyflawni’r un amcan, bydd hyn yn cael ei nodi’n glir.
6.3 Meysydd ar gyfer Gwella
Bydd yr adolygiad yn erbyn y Cynllun Gwasanaeth hwn yn cyflwyno unrhyw welliannau perthnasol neu ddatblygiadau gwasanaeth a nodwyd, naill ai o ganlyniad i adolygu’r Cynllun neu o ganlyniad i asesiadau perfformiad ac ansawdd.
6.4 Archwiliadau Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru (FSAW)
6.4.1 Archwiliadau Llawn Gorfodi Cyfraith Bwyd
Cynhaliwyd yr archwiliad diwethaf ar y Gwasanaeth Cyfraith Bwyd cyfan gan FSAW ym mis Gorffennaf 2016, yr archwiliad llawn cyntaf ers 2004. Derbyniwyd yr adroddiad terfynol a’r cynllun gweithredu y cytunwyd arno ym mis Ebrill 2018 a chaiff y cynllun gweithredu ei roi ar waith a’i adolygu yn ystod 2018 cyn cynnal ymweliad dilynol.
6.4.2 Rheolaethau Swyddogol mewn Sefydliadau Cymeradwy
Ym mis Tachwedd 2009 cafodd yr Awdurdod archwiliad penodol gan yr Asiantaeth ar ei Reolaethau Swyddogol mewn Sefydliadau Cymeradwy. Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol ym mis Ionawr 2010 a rhoddwyd cynllun gweithredu 4 pwynt i’r Awdurdod fel a ganlyn:
- sicrhau bod yr holl bolisïau a gweithdrefnau a ddogfennwyd ar gyfer pob un o weithgareddau gorfodi’r Safon yn cael eu hadolygu yn unol â gweithdrefn yr Awdurdod ei hun.
- sicrhau bod yr holl swyddogion awdurdodedig a’r staff cefnogi priodol yn derbyn hyfforddiant yn agweddau technegol a gweinyddol y gwaith y byddant yn ymwneud ag ef, a’u bod wedi cwblhau’r 10 awr ofynnol o hyfforddiant cysylltiedig â bwyd yn ôl gofynion Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru).
- gorfodi’r gyfraith bwyd yn unol â Chod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) a sicrhau bod y rhesymau dros unrhyw wyriad oddi wrth y meini prawf, sydd wedi eu hegluro yn y polisi gorfodi, yn cael eu cofnodi.
- ymgymryd â’i raglen fonitro fewnol yn unol â’i weithdrefn ysgrifenedig ei hun a chadw cofnodion monitro mewnol am 2 flynedd o leiaf.
Er bod cryn gynnydd wedi ei wneud yn y meysydd hyn ers hynny, mae hyn yn dal i ofyn am ymroddiad rheoli parhaus.
6.4.3 ‘Ymateb yr Awdurdod Lleol i’r argymhellion yn dilyn yr Ymchwiliad Cyhoeddus i’r Achos E.coli O157 yn Ne-ddwyrain Cymru yn 2005 a ‘threfniadau’r ALl ar gyfer busnesau newydd’.
Ym mis Ionawr 2014, roedd yr Awdurdod yn un o chwe awdurdod lleol yng Nghymru a ddewiswyd gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru i ymweld â hwy, i gynnal ‘gwiriad realiti’ ar ddau faes y cynhaliwyd asesiad pwnc cyfrifiadurol arnynt ar draws holl awdurdodau Cymru. Y meysydd hyn oedd:
- ymateb yr ALl i’r argymhellion yn dilyn yr Ymchwiliad Cyhoeddus i’r Achos o E.coli O157 yn Ne-ddwyrain Cymru yn 2005; a hefyd
- trefniadau’r ALl ar gyfer ymwneud â busnesau newydd.
- erbyniwyd yr adroddiad terfynol ym mis Chwefror 2015, a pharatowyd cynllun gweithredu i ymateb i ddau fater, sef:
- Sefydlu trefn o ‘dynnu sylw’ at faterion, pryderon neu broblemau posibl a all godi ar ddiwedd pob arolygiad i rybuddio swyddogion arolygol yn y dyfodol.
- Newid y dull o gofnodi busnesau newydd i gynnwys y dyddiad mae disgwyl i fasnachu ddechrau/y dechreuodd mewn gwirionedd, er mwyn hwyluso monitro yn erbyn y targed bod safle ‘risg uchel’ i gael ei arolygu o fewn 28 diwrnod o ddechrau masnachu.
- Ffurflenni arolygu safleoedd bwyd i’w cwblhau yn ddigonol ym mhob achos i gadarnhau bod asesiad trwyadl wedi ei wneud o gydymffurfio â’r gofynion mewn perthynas â HACCP ac i gadarnhau bod gofynion yn ymwneud â labelu bwyd a/neu ofynion cyfansoddol wedi cael eu hystyried yn llawn.
Mae’r pwyntiau hyn wedi derbyn sylw, ond bydd angen eu monitro’n barhaus a’u hatgyfnerthu eto mewn rhai achosion.