Gorfodi Cyfraith Bwyd Cynllun Gwasanaeth 2022-23
Gorfodi
Caiff adnoddau eu hanelu at y peryglon mwyaf sylweddol a’r safleoedd lle mae’r perygl mwyaf.
Caiff hyn ei gyflawni’n gyffredinol drwy ddefnyddio systemau sgorio arolygiadau cenedlaethol sy’n sicrhau arolygiadau amlach ar safleoedd bwyd lle mae’r peryglon mwyaf, y safonau cydymffurfio’n wael a hyder yn y rheolwyr yn isel. Yn ogystal, mae cwynion yn cael eu brysbennu a’u blaenoriaethu ar gyfer ymyrraeth gan ystyried risg.
Yn 2010-11, rhoddodd yr hyblygrwydd a gyflwynwyd drwy adolygu’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd cenedlaethol gyfle i’r Awdurdod sefydlu ymweliadau ‘dilysu’ yn lle arolygiadau llawn ar gyfer safleoedd ‘oedd yn cydymffurfio’n fras’ yng nghategori risg hylendid bwyd C, a’r rheiny yng nghategori risg hylendid bwyd D. Yn 2017, fe wnaeth yr Awdurdod ymestyn hyn i safleoedd sy’n “cydymffurfio’n fras” yng nghategori risg safonau bwyd B ac i’r rhai yn nosbarth risg safonau bwyd C. Mae’r dull hwn yn helpu i sicrhau bod adnoddau’r Awdurdod yn cael eu canolbwyntio ar sicrhau gwelliannau ar draws y busnesau sy’n gwneud waelaf, a chynorthwyo i leihau’r baich arolygu ar y rheiny sy’n cydymffurfio’n well.
Gan fod terfyn i’r adnoddau sydd ar gael, mae’n rhaid gwneud dewis rhesymegol o’r cyfuniad gorau o wahanol dechnegau gorfodi, gyda golwg ar beth fydd yn cael yr effaith fwyaf ar flaenoriaethau strategol a beth sy’n rhoi’r gwerth gorau am yr arian.
Cydnabyddir hefyd fod gwahanol sefydliadau’n cael eu cymell mewn ffyrdd gwahanol ac yn ymateb, felly, i wahanol gyfuniadau o ymyriadau (sef y dulliau a’r technegau hynny, gan gynnwys arolygu, addysg a chodi ymwybyddiaeth, a ddefnyddir i ddylanwadu ar newid ymddygiad wrth reoli hylendid a safonau bwyd, er mwyn gwella lefelau cydymffurfio). Yn hyn o beth, bydd yr Awdurdod yn dilyn yr ymchwil a’r canllawiau sydd ar gael.
Mae’r Awdurdod wedi llofnodi ac ardystio egwyddorion y Concordat Gorfodi, ac mae wedi mabwysiadu Polisi ar gyfer Gorfodi Diogelwch a Safonau Bwyd. Seiliwyd y polisi ar egwyddorion: safonau, diffuantrwydd (a thryloywder), defnyddioldeb, cymesuredd (a thargedu adnoddau a chamau gorfodi) a chysondeb.
Mae penderfyniadau i gychwyn achos cyfreithiol ac i weinyddu ‘rhybuddiadau syml’ wedi eu dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd. Caiff y penderfyniadau hyn eu llywio gan argymhellion swyddogion ymchwilio; Rheolwr Diogelwch y Cyhoedd (Iechyd a Diogelwch Defnyddwyr) a Phennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Diogelwch y Cyhoedd.
Mae’r tabl isod yn rhoi dadansoddiad o gamau gorfodi a gymerodd y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd yn ystod 2021-22:
Camau gorfodi |
Nifer o safleoedd |
2021-22 |
Cyngor un unig | 45 | 25.7% |
Llythyr/rhybudd | 121 | 69.1% |
Hysbysiad gwella hylendid | 11 | 6.3% |
Hysbysiad gwella safonau bwyd | 0 | 0.0% |
Hysbysiad camau adfer | 1 | 0.6% |
Hysbysiad gwahardd brys oherwydd hylendid | 0 | 0.0% |
Cau gwirfoddol | 2 | 1.1% |
Ildio gwirfoddol | 6 | 3.4% |
Atafaelu/cadw bwyd | 0 | 0.0% |
Rhybuddiad syml | 0 | 0.0% |
Erlyniad | 0 | 0.0% |
Cyfanswm | 175 | - |
Dim ond ar gyfer gorfodi hylendid bwyd y mae’r dewis o roi Hysbysiadau Camau Adfer a Hysbysiadau Gwahardd Brys oherwydd Hylendid ar gael. Fodd bynnag, mae Hysbysiadau Gwella statudol ar gael ar gyfer gorfodi hylendid a safonau.
Ni chafodd unrhyw fusnesau eu herlyn ac ni dderbyniodd unrhyw rai Rybuddiad Syml am dorri cyfraith bwyd.
Mae nifer y camau a gymerwyd yn sylweddol is nag yn y blynyddoedd cyn pandemig Covid-19, sy’n adlewyrchu’r gostyngiad yn nifer yr arolygiadau a gynhaliwyd yn y flwyddyn 2021-22