Gorfodi Cyfraith Bwyd Cynllun Gwasanaeth 2022-23
Sicrhau Ansawdd
5.1 Asesu Ansawdd
Mae’r Safon Gorfodi Cyfraith Bwyd yn gofyn i awdurdodau bwyd gynnal gweithdrefnau monitro wedi eu dogfennu.
Sefydlwyd trefn reoli wedi’i dogfennu i fonitro i ba raddau y glynir at y rhaglenni arolygu cynlluniedig ac ansawdd a natur y gwaith a wneir er mwyn sicrhau, cyn belled ag y mae’n ymarferol, bod gwaith yn cael ei wneud yn gymwys ac i safon gyson.
Mae’r drefn yn cynnwys mesurau i fonitro’r canlynol:
- cadw at y rhaglenni arolygu cytunedig
- bod arolygu’r safleoedd lle mae’r perygl mwyaf yn cael blaenoriaeth
- cydymffurfio â Chod Ymarfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Canllawiau Ymarfer a chanllawiau llywodraeth ganolog
- bod swyddogion yn rhoi ystyriaeth ddyledus i Ganllawiau Arferion Hylendid Da sydd wedi eu cyhoeddi gan y Diwydiant yn y DU neu’r UE, pan fo’n berthnasol
- cydymffurfio â gweithdrefnau a pholisïau mewnol
- bod sgorau arolygu, a Sgorau Hylendid Bwyd sy’n cael eu dyfarnu, yn briodol
- bod dehongliad deddfwriaeth, a’r camau gweithredu y mae swyddogion yn eu cymryd yn dilyn arolygiadau/ymchwiliadau, yn gyson o fewn yr awdurdod ac yn cyd-fynd â chyfarwyddyd y llywodraeth ganolog a/neu gyfarwyddyd perthnasol arall.
Mae’r weithdrefn yn cynnwys tair elfen:
- Diweddariadau perfformiad ar bob swyddog, bob mis fwy neu lai.
- Monitro cofnodion ffeiliau a chyfrifiaduron: caiff o leiaf 5% o gofnodion arolygu a cheisiadau am wasanaeth eu monitro ar gyfer pob swyddog, yn flynyddol, bob chwe mis neu bob tri mis, yn dibynnu ar ei berfformiad, gyda sesiynau monitro yn cael eu cynnal yn amlach pan ganfyddir problemau o ran gwybodaeth neu ymarfer, ynghyd â darparu hyfforddiant ychwanegol os bydd angen.
- Arolygiadau gyda chydymaith. Bydd uwch-swyddog a swyddog arolygu’n ymweld â’r safle yr un pryd, y naill i gynnal yr arolygiad a’r llall i fonitro dull, barn a thrylwyredd y swyddog, ac yn y blaen. Cynhelir o leiaf un ymweliad â phob swyddog yn ystod y flwyddyn.
Cafodd y gweithdrefnau hyn eu hadolygu yn ystod 2017-18, gyda’r nod o’u gwneud yn symlach a mwy penodol (ar sail risg).
Yn ogystal â’r systemau monitro a ddisgrifiwyd uchod, mae’r trefniadau canlynol yn eu lle i hyrwyddo ansawdd a chysondeb:
- Sefydlwyd trefn rheoli dogfennau i sicrhau bod swyddogion yn cael mynediad at bolisïau, gweithdrefnau, deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol cyfredol, gan gynnwys dewislen ar-lein o weithdrefnau.
- Caiff cyfarfodydd tîm eu cynnal pan fydd materion dehongli a gorfodi’n cael eu hystyried.
- Penodwyd swyddogion arweiniol i hyrwyddo cysondeb wrth ddehongli rheoliadau penodol i gynnyrch, a chaiff ceisiadau am gymeradwyaeth eu hadolygu gan swyddogion arweiniol cyn eu llofnodi gan yr Uwch Swyddog Iechyd Amgylcheddol neu Reolwr Bwyd, Diogelwch ac Iechyd y Porthladdoedd.
- Defnyddir llythyrau ac ymadroddion safonol i hybu cysondeb a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Cod Ymarfer a Chanllawiau Ymarfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
- Caiff Rhybuddion Gwella eu hadolygu gan gydweithwyr cyn eu rhoi.
- Bydd Rheolwr Bwyd, Diogelwch ac Iechyd y Porthladdoedd yn adolygu’r holl ffeiliau a gyflwynir ar gyfer achos ffurfiol. Caiff argymhellion ar gyfer achos ffurfiol (rhybuddiad syml neu erlyniad) eu hystyried ymhellach gan Bennaeth y Gwasanaeth ac, yn olaf, eu cymeradwyo gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol.
5.2 Datblygu ac Adolygu Polisïau a Gweithdrefnau a Ddogfennwyd
Lle bo angen, caiff polisïau a gweithdrefnau wedi eu dogfennu eu hadolygu a’u diweddaru yn ystod 2022-23. Mae gofyn i fwyafrif y dogfennau hyn gydymffurfio â’r Cytundeb Fframwaith ar Orfodi Cyfraith Bwyd ond, yn fwy sylfaenol, maent yn rhoi arweiniad i swyddogion ac yn sail ar gyfer rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol.
Adolygiad
6.1 Adolygiad yn erbyn y Cynllun Gwasanaeth
Bydd perfformiad yn erbyn y Cynllun Gwasanaeth hwn yn cael ei adolygu ar ddiwedd 2022-23 a bydd yn cael ei adrodd fel rhan o’r Cynllun Gwasanaeth ar gyfer 2023-24.
Bydd yr adborth a roddir yn cynnwys gwybodaeth am faint o gydymffurfio a fu â phob agwedd ar y Cynllun, gan gynnwys y targedau a’r safonau perfformio penodedig, a chanlyniadau datganedig eraill.
6.2 Nodi unrhyw Wyriad oddi wrth y Cynllun Gwasanaeth
Bydd yr adolygiad yn erbyn y Cynllun Gwasanaeth hwn yn nodi unrhyw feysydd lle’r oedd yr Awdurdod wedi gwyro oddi wrth y Cynllun a, phan fo hynny’n briodol, y rhesymau dros y gwyriad hwnnw.
Os bydd gwaith ychwanegol wedi cael ei wneud mewn meysydd eraill o orfodi cyfraith bwyd, yr ystyrir iddo fod wedi cyflawni’r un amcan, bydd hyn yn cael ei nodi’n glir.
6.3 Meysydd ar gyfer Gwella
Bydd yr adolygiad yn erbyn y Cynllun Gwasanaeth hwn yn cyflwyno unrhyw welliannau perthnasol neu ddatblygiadau gwasanaeth a nodwyd, naill ai o ganlyniad i adolygu’r Cynllun neu o ganlyniad i asesiadau perfformiad ac ansawdd.
6.4 Archwiliadau Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru (FSAW)
6.4.1 Archwiliadau Llawn Gorfodi Cyfraith Bwyd
Cynhaliwyd yr archwiliad diwethaf ar y Gwasanaeth Cyfraith Bwyd cyfan gan FSAW ym mis Gorffennaf 2016, yr archwiliad llawn cyntaf ers 2004. Derbyniwyd yr adroddiad terfynol a’r cynllun gweithredu y cytunwyd arno ym mis Ebrill 2018 a chaiff y cynllun gweithredu ei roi ar waith a’i adolygu yn ystod 2018 cyn cynnal ymweliad dilynol.
6.4.2 Rheolaethau Swyddogol mewn Sefydliadau Cymeradwy
Ym mis Tachwedd 2009 cafodd yr Awdurdod archwiliad penodol gan yr Asiantaeth ar ei Reolaethau Swyddogol mewn Sefydliadau Cymeradwy. Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol ym mis Ionawr 2010 a rhoddwyd cynllun gweithredu 4 pwynt i’r Awdurdod fel a ganlyn:
- sicrhau bod yr holl bolisïau a gweithdrefnau a ddogfennwyd ar gyfer pob un o weithgareddau gorfodi’r Safon yn cael eu hadolygu yn unol â gweithdrefn yr Awdurdod ei hun.
- sicrhau bod yr holl swyddogion awdurdodedig a’r staff cefnogi priodol yn derbyn hyfforddiant yn agweddau technegol a gweinyddol y gwaith y byddant yn ymwneud ag ef, a’u bod wedi cwblhau’r 10 awr ofynnol o hyfforddiant cysylltiedig â bwyd yn ôl gofynion Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru).
- gorfodi’r gyfraith bwyd yn unol â Chod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) a sicrhau bod y rhesymau dros unrhyw wyriad oddi wrth y meini prawf, sydd wedi eu hegluro yn y polisi gorfodi, yn cael eu cofnodi.
- ymgymryd â’i raglen fonitro fewnol yn unol â’i weithdrefn ysgrifenedig ei hun a chadw cofnodion monitro mewnol am 2 flynedd o leiaf.
Er bod cryn gynnydd wedi ei wneud yn y meysydd hyn ers hynny, mae hyn yn dal i ofyn am ymroddiad rheoli parhaus.
6.4.3 ‘Ymateb yr Awdurdod Lleol i’r argymhellion yn dilyn yr Ymchwiliad Cyhoeddus i’r Achos E.coli O157 yn Ne-ddwyrain Cymru yn 2005 a ‘threfniadau’r ALl ar gyfer busnesau newydd’.
Ym mis Ionawr 2014, roedd yr Awdurdod yn un o chwe awdurdod lleol yng Nghymru a ddewiswyd gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru i ymweld â hwy, i gynnal ‘gwiriad realiti’ ar ddau faes y cynhaliwyd asesiad pwnc cyfrifiadurol arnynt ar draws holl awdurdodau Cymru. Y meysydd hyn oedd:
- ymateb yr ALl i’r argymhellion yn dilyn yr Ymchwiliad Cyhoeddus i’r Achos o E.coli O157 yn Ne-ddwyrain Cymru yn 2005; a hefyd
- trefniadau’r ALl ar gyfer ymwneud â busnesau newydd.
- erbyniwyd yr adroddiad terfynol ym mis Chwefror 2015, a pharatowyd cynllun gweithredu i ymateb i ddau fater, sef:
- Sefydlu trefn o ‘dynnu sylw’ at faterion, pryderon neu broblemau posibl a all godi ar ddiwedd pob arolygiad i rybuddio swyddogion arolygol yn y dyfodol.
- Newid y dull o gofnodi busnesau newydd i gynnwys y dyddiad mae disgwyl i fasnachu ddechrau/y dechreuodd mewn gwirionedd, er mwyn hwyluso monitro yn erbyn y targed bod safle ‘risg uchel’ i gael ei arolygu o fewn 28 diwrnod o ddechrau masnachu.
- Ffurflenni arolygu safleoedd bwyd i’w cwblhau yn ddigonol ym mhob achos i gadarnhau bod asesiad trwyadl wedi ei wneud o gydymffurfio â’r gofynion mewn perthynas â HACCP ac i gadarnhau bod gofynion yn ymwneud â labelu bwyd a/neu ofynion cyfansoddol wedi cael eu hystyried yn llawn.
Mae’r pwyntiau hyn wedi derbyn sylw, ond bydd angen eu monitro’n barhaus a’u hatgyfnerthu eto mewn rhai achosion.
Cwmpas y Gwasanaeth Gorfodi Cyfraith Bwyd
Cyflawnir y swyddogaethau canlynol:
- Cofrestru safleoedd bwyd
- Cymeradwyo safle sy’n dod dan ddeddfwriaeth benodol i gynnyrch
- Archwiliadau hylendid a safonau bwyd wedi’u rhaglennu (ac ymweliadau dilynol)
- Gweinyddu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd cenedlaethol ar gyfer busnesau bwyd
- Samplu bwyd (am ansawdd/diogelwch microbiolegol a safonau bwyd)
- Samplu pysgod cregyn (gan Dîm Iechyd y Porthladdoedd)
- Archwilio cwynion ynghylch hylendid safle bwyd, ynghylch bwyd anaddas neu halogedig ac ynghylch ansawdd, cyfansoddiad, labelu neu hysbysebu bwyd
- Archwilio digwyddiadau ac achosion o wenwyn bwyd ac afiechydon heintus eraill cysylltiedig â bwyd
- Archwilio milheintiau
- Rhybuddion bwyd
- Ymweliadau cynghori
- Rhoi gwybodaeth am hylendid a safonau bwyd, a’u hyrwyddo
- Cynghori ar geisiadau cynllunio
- Ildio bwydydd yn wirfoddol
- Cyflwyno adroddiadau ystadegol
2.4 Galwadau ar y Gwasanaeth
Mae gofyn i fwyafrif y safleoedd bwyd gofrestru gyda’r Cyngor, a chedwir manylion pob safle bwyd hysbys mewn cronfa ddata electronig (Tascomi), sy’n gymorth i drefnu’r gwasanaeth. Cofnodwyd 2835 o safleoedd bwyd yn y gronfa ddata hon fel rhai oedd wedi eu cofrestru am hylendid bwyd ar y 1af o Ebrill 2022 ac, fel y dengys y siart canlynol, sefydliadau arlwyo yw mwyafrif y safleoedd bwyd hyn, gan gynnwys yr ysbyty lleol, ysgolion, cartrefi preswyl a nyrsio, gwestai a thai llety, tai bwyta a bwyd i fynd allan, a thafarnau a chlybiau. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd o 485 o safleoedd ers y cynllun Gwasanaeth diweddaraf (cyn Covid), lle’r oedd 2350 o safleoedd cofrestredig.
Effeithiau Pandemig Covid-19 ar Ddarparu Gwasanaeth Bwyd
Pan ddaeth Pandemig Covid-19 i’r amlwg ym mis Mawrth 2020, roedd effaith uniongyrchol ar allu’r Tîm Bwyd i barhau i gyflawni ei raglen arolygu arferol. Ar lefel genedlaethol, gohiriwyd gwaith arolygu arferol oherwydd risgiau i staff a’r cyhoedd yn deillio o’r rhyngweithio wyneb yn wyneb sy’n digwydd yn ystod arolygiadau. Yn fuan wedyn, cyflwynwyd rheolau a gaeodd y rhan fwyaf o safleoedd bwyd.
Roedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhoi cyngor cyfnodol i awdurdodau lleol ar waith blaenoriaeth yr oedd angen ei wneud fel ymateb i ddigwyddiadau bwyd difrifol, cwynion bwyd difrifol, delio â cheisiadau gan fusnesau yr oedd angen eu cymeradwyo cyn y gellid dechrau masnachu.
Hefyd yn ystod cyfnod cynnar y pandemig, bu swyddogion o’r Tîm Bwyd yn ymwneud â gorfodi a darparu cyngor i fusnesau lleol yn ymwneud â chydymffurfio â’r llu o ddeddfwriaethau newydd a gyflwynwyd yn benodol ar gyfer Covid-19, o ran y mathau o safleoedd a allai fasnachu, a hefyd ar gyfer y safleoedd yr oedd gofynion ychwanegol yr oedd angen cadw atynt, i leihau risg.
Roedd rhan allweddol arall o adnoddau’r Adran wedi’i neilltuo ar gyfer gweithio gyda chartrefi gofal ledled Sir Benfro i sicrhau bod ganddynt drefniadau digonol ar waith i reoli clystyrau neu achosion o Covid-19 yn eu lleoliadau, a hefyd i sicrhau bod rheolwyr cartrefi gofal yn ymwybodol o’r holl ofynion arnynt ac argaeledd canllawiau rheoli heintiau allweddol a chyngor ar ddarparu a defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), i reoli lledaeniad Covid-19.
O fis Mehefin 2020 roedd Gwasanaeth Olrhain Cyswllt o’r enw Profi, Olrhain a Diogelu (TTP) wedi’i greu ledled Cymru ac yn Sir Benfro. Secondiwyd swyddogion o’r Tîm Bwyd yn rhannol ac mewn rhai achosion yn llawn i weithio ar yr agwedd allweddol hon ar reoli Covid-19.
Rhoddir crynodeb llawn o’r newidiadau staffio ac effaith secondiadau a salwch yn Adran
Dadansoddiad o Safleoedd yn ôl Math 1 Ebrill 2022
- Tŷ bwyta ac arlwywr/arall (18%)
- Tŷ bwyta/caffi/cantîn (17%)
- Adwerthwr bach (14%)
- Gwesty/Llety (9%)
- Lleoliadau gofal (8%)
- Tafarn/clwb (7%)
- Uned fwyd symudol (6%)
- Cynyrchwyr a phecynwyr (5%)
- Prif gynhyrchwr (4%)
- Bwyd i fynd (4%)
- Adwerthwr/arall (3%)
- Ysgol/coleg (3%)
- Archfarchnadoedd (1%)
- Dosbarthwr/cludwr (1%)
Yr Awdurdod Lleol sydd â chyfrifoldeb dros orfodi hylendid bwyd a safonau bwyd ynddynt oll heblaw llond dwrn o safleoedd. Yn ogystal â’r safleoedd parhaol hyn, mae’r Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd yn gyfrifol am fonitro gweithrediadau bwyd mewn amrywiol ddigwyddiadau dros dro, fel marchnadoedd, sioeau a gwyliau lle bydd busnesau bwyd o’r tu allan i’r Sir yn masnachu ochr yn ochr â busnesau lleol.
Mae 169 o safleoedd bwyd yn y Sir (6%) wedi eu cofnodi fel rhai tymhorol, yn gweithredu ar y cyfan o fis Ebrill tan ddiwedd mis Medi. Mae hyn yn gosod pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth yn ystod y cyfnod hwn a gall rwystro’r gwaith o gwblhau’r rhaglen o arolygiadau a drefnwyd ar rai safleoedd tymhorol, os bydd pwysau eraill yn cystadlu.
At hynny, mae nifer o fusnesau yn rhai sy’n gweithredu yn yr hwyr yn unig. Nid yw Tascomi yn cofnodi nifer busnesau o’r fath ar hyn o bryd.
Mae 129 (5%) o fusnesau bwyd wedi eu dosbarthu fel gwneuthurwyr. Yn ogystal â’r safleoedd gweithgynhyrchu cymeradwy y cyfeirir atynt isod, mae’r rhain yn cynnwys: pobyddion, gwneuthurwyr jamiau/cyffeithiau, gwneuthurwyr melysion, gwneuthurwr hufen iâ anghymeradwy, cynhyrchwyr brechdanau, paratowyr llysiau, gweithfeydd potelu dŵr ffynnon/mwynol, gwneuthurwyr siocled, gwneuthurwr bisgedi pryfed, distyllfa a nifer o fragdai.
Fel yr oedd pethau ar y 1af o Ebrill 2022, mae 35 o safleoedd bwyd wedi eu cymeradwyo dan reoliadau penodol i gynnyrch: 6 sefydliad cynnyrch llaeth, 3 sefydliad cynnyrch cig, 11 sefydliad pysgod/pysgod cregyn, 4 storfa oer ac 11 o gynhyrchwyr wyau cymeradwy.
Mae’r sefydliadau cynnyrch llaeth yn cynnwys 3 o gynhyrchwyr caws (un ohonynt hefyd yn cyflenwi llaeth buwch amrwd i’w yfed), 1 gwneuthurwr hufen iâ, 1 gwaith pasteureiddio a photelu llaeth ac 1 sefydliad sy’n torri a phecynnu caws.
Mae’r sefydliadau cynnyrch cig yn cynnwys 1 gwneuthurwr brechdanau sy’n gwerthu rhai cynhyrchion sy’n dod o fewn y categori sydd angen cymeradwyaeth, 1 gwneuthurwr biltong ac 1 gwneuthurwr cynhyrchion cig eidion sy’n gwerthu i gyfanwerthwyr a siopau.
Mae ar swyddogion sy’n archwilio ac yn cymeradwyo safleoedd cymeradwy angen gwybodaeth ac arbenigedd ychwanegol. Rhoddwyd hyfforddiant arbenigol i swyddogion yn y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd a ddewiswyd i arwain yn y meysydd hyn a lledaenwyd hyn yn raddol i staff eraill. At hynny, caiff arolygiadau o safleoedd cymeradwy eu cynnal yn gyffredinol mewn parau, a defnyddir yr ymweliadau hyn fel cyfle i rannu a datblygu gwybodaeth am y prosesau cynhyrchu dan sylw, gan feithrin cydnerthedd a hyrwyddo cysondeb ar draws y Tîm.
Mae 5 o ladd-dai tymhorol, o wyddau a thyrcwn, a eithriwyd rhag gofynion cymeradwyo.
“Safleoedd gofal” yw 231 (10%) o safleoedd – fel cartrefi gofal preswyl/nyrsio, gwarchodwyr plant a meithrinfeydd. Caiff y safleoedd hyn eu cofrestru hefyd gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, a’u harchwilio ganddi, gan gadw cysylltiad fel bo’n briodol.
Mae gan y Sir nifer cymharol fychan o fusnesau ethnig sydd angen gwybodaeth/cyngor mewn ieithoedd ar wahân i Gymraeg a/neu Saesneg. Mae amrywiaeth o daflenni cyfarwyddyd, pecynnau busnes a DVD yn cael eu cynnig i’r busnesau hyn yn yr ieithoedd priodol, lle bônt ar gael, i gynorthwyo eu dealltwriaeth a hyrwyddo cydymffurfiad. Mae gwasanaethau cyfieithu a dehongli ar gael i’r Awdurdod hefyd a chânt eu defnyddio pan fo angen.
Bu angen gwaith sylweddol o’r blaen i gynorthwyo i ddosbarthu a monitro ardaloedd cynhyrchu pysgod cregyn, er mwyn gwneud cynaeafu’r pysgod cregyn hyn yn bosibl yn fasnachol ar gyfer eu bwyta. Fodd bynnag, dros y pedair blynedd ddiwethaf ni roddwyd unrhyw drwyddedau ar gyfer cynaeafu pysgod cregyn yn fasnachol yn Aber Cleddau (lleoliad yr holl safleoedd dosbarthedig) gan Lywodraeth Cymru, o ganlyniad i bryderon amgylcheddol, a rhoddwyd y gorau i fonitro dros dro.
Tîm Iechyd y Porthladdoedd sydd â chyfrifoldeb am y gwaith hwn ac mae rhagor o fanylion i’w cael yng Nghynllun Gwasanaeth Iechyd y Porthladdoedd.
2.5 Gadael yr Undeb Ewropeaidd
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae paratoadau cenedlaethol wedi’u gwneud yn barod ar gyfer ymadawiad y DU â’r UE, gyda rheoliadau bwyd yr UE yn cael eu dwyn i mewn i gyfraith y DU, er mwyn sicrhau y gellir cyflawni’r holl swyddogaethau rheoleiddio.
Bydd y goblygiadau yn lleol yn dibynnu ar ganlyniad trafodaethau ar yr angen am reolaethau ffiniau rhwng Iwerddon a thir mawr y DU, yn ymwneud ag a fydd bwyd yn gallu symud yn rhydd dros y ffin, neu a fydd angen gwiriadau ychwanegol ar y pwynt mynediad i dir mawr y DU. Gallai hyn greu galwadau newydd sylweddol ar y gwasanaeth yn nau borthladd mynediad y Sir o Iwerddon, h.y. Porthladd Penfro ac Abergwaun. Mae’r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud ar lefel genedlaethol, a phenderfynwyd y bydd yn rhaid gwirio bwydydd ar y ffiniau neu yn eu cyrchfan gyntaf yn y DU.
Mae trafodaethau’n parhau ynghylch sefydlu cyfleusterau Safle Rheoli Ffiniau i wasanaethu’r ddau borthladd hyn sydd eu hangen i fonitro mewnforio bwydydd i’r DU o’r UE (Iwerddon). Rhagwelir y bydd angen dod o hyd i staff ychwanegol sylweddol i weithredu Safleoedd Rheoli Ffiniau yn Sir Benfro, yn ogystal â lleoli cyfleusterau addas, sydd eto’n cael ei benderfynu ar hyn o bryd. Yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ym mis Ebrill 2022, mae gweithredu rheolaethau ar y ffiniau ag Iwerddon wedi’i ohirio tan ddiwedd 2023.
Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau (ABC)
2.6 Rhaglen “Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau (ABC)” yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Chynllun Adfer Covid-19 yr ALl
2.6 (i) Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau
Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau (ABC) yw ail gam newydd y gwaith a ddechreuwyd gan y rhaglen Rheoleiddio ein Dyfodol (ROF) ac mae’n ceisio gwireddu gweledigaeth ar gyfer system reoleiddio yn y dyfodol, gyda rolau a chyfrifoldebau wedi’u diffinio’n glir, sy’n addas at y diben ac sy’n gallu rheoli risgiau yn y dyfodol.
Ym mis Mawrth 2020, cytunodd y Bwrdd ar flaengynllun gwaith ar gyfer y rhaglen ABC, a oedd yn cynnwys tair ffrwd o weithgarwch. Mae gwaith wedi esblygu ers hynny, ac mae mwy o fanylion ar gael ynglŷn â’r cyfeiriad teithio.
Sefydlwyd y rhaglen ABC ym mis Ionawr 2020 yn dilyn adolygiad o raglen ROF. Roedd gan ROF ffocws cryf ar ddiwygio gweithgarwch awdurdodau lleol ac mae wedi gosod sylfeini cadarn ar gyfer adeiladu’r rhaglen ABC, a fydd yn parhau â’r diwygio hwn, ond sydd hefyd yn ysgogi newidiadau pellach mewn ymateb i’r newid yn y dirwedd fwyd.
Mae gweithgarwch parhaus yn parhau i rychwantu’r ddwy raglen ac yn dangos y dilyniant naturiol sy’n cael ei wneud ar y llwybr at ddiwygio, yn enwedig yn y meysydd gwaith canlynol:
Cofrestru Busnes Bwyd
Mae’r gwasanaeth hwn yn broses ar-lein i bob busnes bwyd allu cofrestru eu busnesau mewn un system ar-lein, ac mae wedi’i gyflwyno i 208 o’r 343 o awdurdodau lleol (60%), gan gynnwys Sir Benfro a oedd wedi mabwysiadu’r cynllun yn gynnar yng Nghymru.
Bydd ABC yn ceisio datblygu gweithgaredd sy’n gysylltiedig â’r buddion busnes ehangach a ddaw yn sgil cofrestru.
Fframwaith Cymhwysedd
Mae fframwaith cymhwysedd newydd wedi’i ddatblygu i ddarparu un dull cyson o ddiffinio cymhwysedd yn ôl gweithgaredd ar draws yr holl reolaethau bwyd a bwyd anifeiliaid. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod yr adnoddau cywir yn cael eu dyrannu i waith.
Model Safonau Bwyd
Dechreuodd cynlluniau peilot awdurdodau lleol o fodel newydd a arweinir gan wybodaeth ar gyfer trefnu rheolaethau safonau bwyd swyddogol ym mis Ionawr 2021, gyda saith awdurdod yn gweithredu’r dull a phump arall yn gweithredu fel rheolyddion. Hyd yn hyn cafwyd ymateb cadarnhaol i’r hyblygrwydd a ddarperir gan y model asesu risg newydd - mae’r gwaith hwn yn rhan o ABC ar hyn o bryd ond bydd yn symud i weithgaredd busnes fel arfer (BAU) ar ôl cwblhau gwerthusiad peilot.
Mae’r ASB bellach wedi amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer ABC, y cyfeiriad teithio arfaethedig a’r uchelgais ar gyfer cyflawni. Y prif yrwyr ar gyfer yr hen raglen ROF oedd bod yr Asiantaeth yn teimlo bod angen;
- symud oddi wrth ddull “un maint i bawb” o reoleiddio busnesau bwyd;
- bod diffyg ystwythder yn y system reoleiddio ac nad oedd yn cyd-fynd â newidiadau technolegol yn y diwydiant bwyd yn arbennig oherwydd y lefelau cynyddol o werthu bwyd ar-lein;
- bod pwysau parhaus ar adnoddau awdurdodau lleol, sydd wedi’i waethygu gan bandemig Covid-19;
- angen gweithredu model rheoleiddio sy’n gynaliadwy mewn termau ariannol.
Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol mae ABC i edrych ar rôl rheolyddion ar draws y system fwyd gyfan (gan gynnwys gorfodi gan awdurdodau lleol) ac ystyried yr ystod o liferi ac ymyriadau sydd ar gael, yn ogystal â pha wasanaethau y gallem eu cyflwyno, i sicrhau, ni waeth o ble mae bwyd yn dod, y gall defnyddwyr fod yn sicr o’i ddiogelwch a’i ddilysrwydd. Mae’r ystyriaethau sydd dan sylw yn cynnwys segmentiad posibl y sector manwerthu, ystyried rheoleiddio cydgrynwyr bwyd ar-lein (e.e. Just Eat, Deliveroo ac Uber Eats ac ati), ac addasu’r Model Cyflawni Hylendid o Ymyriadau a rheolaethau, fel y mae’n ystyried ei fod fwyaf effeithlon i oruchwylio’r dulliau modern o gyflenwi bwyd.
Gall y fframwaith rheoleiddio ar gyfer awdurdodau lleol o ran cyflawni rheolaethau swyddogol newid yn sylweddol o dan y Rhaglen ABC. Bydd yr Awdurdod yn parhau i fonitro beth y gallai hyn ei olygu o ran Cyflenwi Rheolaethau Bwyd Swyddogol yn Lleol.
2.6 (ii) Covid-19 – Cynllun Adfer Awdurdodau Lleol yr ASB
Fel y soniwyd yn 2.4 uchod, mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar gyflenwi rheolaethau bwyd yn lleol ac yn genedlaethol ers i’r pandemig ddechrau yn gynnar yn 2020, gydag effeithiau gwahanol ar wahanol adegau yn ystod y cyfnod.
O ganlyniad, yn ystod adferiad y gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd, o fis Gorffennaf 2021, er bod blaenoriaeth wedi’i rhoi i’r gwaith adweithiol mwyaf arwyddocaol a risg uchaf sydd wedi digwydd yn ystod y pandemig, am y rhesymau a grybwyllwyd uchod ac atal dros dro arolygiadau bwyd arferol, bu gostyngiad sylweddol yn nifer yr arolygiadau a gynhaliwyd yn ystod y pandemig, sydd wedi arwain at ôl-groniad sylweddol o arolygiadau. Mae hyn yn ymwneud â’r ddau arolygiad a fyddai wedi’u cynnal yn ystod y pandemig, a hefyd nifer y busnesau bwyd newydd a gofrestrodd ac a ddechreuodd weithredu yn ystod y cyfnod hwn.
Er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn canolbwyntio ar flaenoriaethau cyson ac er mwyn adfer rheolaethau bwyd swyddogol arferol ar sail risg fesul cam, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi Cynllun Adfer i awdurdodau lleol ei ddilyn. Mae’r cynllun hwn yn cwmpasu’r cyfnod hyd at 31 Mawrth 2023, pan fydd yr Asiantaeth yn rhagweld y bydd awdurdodau lleol wedi gallu adennill y diffyg mewn arolygiadau sydd wedi digwydd ers dechrau 2020.
Mae Sir Benfro, yn yr un modd â phob awdurdod lleol arall, wedi pennu’r gofynion arolygu ar gyfer y flwyddyn i ddod, yn seiliedig ar y blaenoriaethau, y gwahanol gerrig milltir a nodir yn y Cynllun Adfer.
Mae amlinelliad o’r Cynllun Adfer wedi’i nodi isod.
Cynllun Adfer yr ASB hyd at 31 Mawrth 2023
Er mwyn galluogi awdurdodau lleol ar draws y wlad i ganolbwyntio ar yr un blaenoriaethau, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyflwyno Cynllun Adfer, gyda cherrig milltir gwahanol i awdurdodau ganolbwyntio eu hadnoddau ar y blaenoriaethau cywir, gyda mwy o bwyslais/blaenoriaeth yn cael ei rhoi ar y safleoedd risg uchaf a’r safleoedd â’r flaenoriaeth uchaf heb sgôr, gan gynnwys y rhai a gofrestrodd yn ystod pandemig Covid-19.
Mae’r tabl isod yn rhoi gwybodaeth am y gwahanol amserlenni a ddisgwylir a threfn blaenoriaethau.
Mae manylion ffigurau Sir Benfro ar gyfer gweithredu’r Cynllun Adfer wedi’u cynnwys yn Adran 3.2.4 isod
Phase one
By 30th September 2021
- Prioritisation of new businesses for intervention based on risk
- Planning of intervention programme from September 2021 onwards
Phase two
By 31st March 2022
- All establishments rated Category A for hygiene to have received an onsite intervention
By 30th June 2022
- All establishments rated Category B for hygiene or A for standards to have received an onsite intervention
By 30th September 2022
- All establishments rated Category C for hygiene and less than broadly compliant to have received an onsite intervention
By 31st December 2022
- All establishments rated Category D for hygiene and less than broadly compliant to have received an onsite intervention
By 31st March 2023
- All establishments rated Category C for hygiene and broadly compliant or better to have received an onsite intervention
- New delivery models ready for implementation in 2023/24
Notes:
- 30th September 2021 - 31st March 2023: Ongoing specific requirements, surveillance, enforcement and urgent reactive work
- 30th September 2021 - 31st March 2023: New and refreshed food hygiene ratings given following appropriate interventions
- 31st March 2022 - 31st March 2023: FHRS re-visits requested by businesses - in line with timescales in Brand Standards/relevant statutory guidance
Rhagolygon ar gyfer gweddill Cynllun Adfer ALl yr ASB hyd at 31 Mawrth 2023.
Er bod y Tîm wedi llwyddo i gyrraedd y targed arolygu rhifiadol hyd at ddiwedd mis Mawrth 2022, mae’r absenoldebau parhaus, secondiadau, ymddeoliadau, absenoldebau mamolaeth ac ati yn golygu bod diffyg rhagamcanol yng nghapasiti’r Tîm ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Roedd cyfrifiadau a wnaed ar ddechrau mis Ebrill yn dangos, ar yr adeg honno, oherwydd maint y gwaith y mae’r Cynllun Adfer ei angen o fewn amserlen dynn iawn hyd at 31 Mawrth 2023, y rhagwelir diffyg yng nghapasiti arolygu’r Tîm Bwyd o 346 o arolygiadau, unwaith y bydd yr holl safleoedd risg uchel y mae angen eu harolygu a rhai sydd newydd gofrestru yn ystod y flwyddyn yn cael eu hystyried. Mae hyn heb gynnwys 386 o gofrestriadau busnes newydd pellach o’r cyfnod cyn 1 Ebrill 2022, yr aseswyd eu bod yn risg isel. Lle bo adnoddau’n caniatáu, bydd gwaith pellach yn cael ei wneud ar y gyfran hon o fusnesau heb sgôr, i weld a ydynt yn masnachu.
Amlinellir dadansoddiad manylach o’r gofyniad arolygu ar gyfer 2022-23 o dan Gynllun Adfer ALl yr ASB ym Mharagraff 3.2.4 isod.
Mae trafodaethau ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru yn dangos bod eraill yn teimlo dan bwysau tebyg, ac i raddau mwy neu lai yn profi effeithiau tebyg ar eu gallu i wella ag a grybwyllwyd uchod, e.e. ymddeoliadau, secondiadau, anallu i lenwi swyddi gwag, lefelau uwch nag arfer o salwch, arolygiadau yn cymryd mwy o amser yn y cyfnod adfer oherwydd llai o gydymffurfiaeth, yn ogystal â morâl staff isel.
Gorfodi
Caiff adnoddau eu hanelu at y peryglon mwyaf sylweddol a’r safleoedd lle mae’r perygl mwyaf.
Caiff hyn ei gyflawni’n gyffredinol drwy ddefnyddio systemau sgorio arolygiadau cenedlaethol sy’n sicrhau arolygiadau amlach ar safleoedd bwyd lle mae’r peryglon mwyaf, y safonau cydymffurfio’n wael a hyder yn y rheolwyr yn isel. Yn ogystal, mae cwynion yn cael eu brysbennu a’u blaenoriaethu ar gyfer ymyrraeth gan ystyried risg.
Yn 2010-11, rhoddodd yr hyblygrwydd a gyflwynwyd drwy adolygu’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd cenedlaethol gyfle i’r Awdurdod sefydlu ymweliadau ‘dilysu’ yn lle arolygiadau llawn ar gyfer safleoedd ‘oedd yn cydymffurfio’n fras’ yng nghategori risg hylendid bwyd C, a’r rheiny yng nghategori risg hylendid bwyd D. Yn 2017, fe wnaeth yr Awdurdod ymestyn hyn i safleoedd sy’n “cydymffurfio’n fras” yng nghategori risg safonau bwyd B ac i’r rhai yn nosbarth risg safonau bwyd C. Mae’r dull hwn yn helpu i sicrhau bod adnoddau’r Awdurdod yn cael eu canolbwyntio ar sicrhau gwelliannau ar draws y busnesau sy’n gwneud waelaf, a chynorthwyo i leihau’r baich arolygu ar y rheiny sy’n cydymffurfio’n well.
Gan fod terfyn i’r adnoddau sydd ar gael, mae’n rhaid gwneud dewis rhesymegol o’r cyfuniad gorau o wahanol dechnegau gorfodi, gyda golwg ar beth fydd yn cael yr effaith fwyaf ar flaenoriaethau strategol a beth sy’n rhoi’r gwerth gorau am yr arian.
Cydnabyddir hefyd fod gwahanol sefydliadau’n cael eu cymell mewn ffyrdd gwahanol ac yn ymateb, felly, i wahanol gyfuniadau o ymyriadau (sef y dulliau a’r technegau hynny, gan gynnwys arolygu, addysg a chodi ymwybyddiaeth, a ddefnyddir i ddylanwadu ar newid ymddygiad wrth reoli hylendid a safonau bwyd, er mwyn gwella lefelau cydymffurfio). Yn hyn o beth, bydd yr Awdurdod yn dilyn yr ymchwil a’r canllawiau sydd ar gael.
Mae’r Awdurdod wedi llofnodi ac ardystio egwyddorion y Concordat Gorfodi, ac mae wedi mabwysiadu Polisi ar gyfer Gorfodi Diogelwch a Safonau Bwyd. Seiliwyd y polisi ar egwyddorion: safonau, diffuantrwydd (a thryloywder), defnyddioldeb, cymesuredd (a thargedu adnoddau a chamau gorfodi) a chysondeb.
Mae penderfyniadau i gychwyn achos cyfreithiol ac i weinyddu ‘rhybuddiadau syml’ wedi eu dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd. Caiff y penderfyniadau hyn eu llywio gan argymhellion swyddogion ymchwilio; Rheolwr Diogelwch y Cyhoedd (Iechyd a Diogelwch Defnyddwyr) a Phennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Diogelwch y Cyhoedd.
Mae’r tabl isod yn rhoi dadansoddiad o gamau gorfodi a gymerodd y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd yn ystod 2021-22:
Camau gorfodi |
Nifer o safleoedd |
2021-22 |
Cyngor un unig | 45 | 25.7% |
Llythyr/rhybudd | 121 | 69.1% |
Hysbysiad gwella hylendid | 11 | 6.3% |
Hysbysiad gwella safonau bwyd | 0 | 0.0% |
Hysbysiad camau adfer | 1 | 0.6% |
Hysbysiad gwahardd brys oherwydd hylendid | 0 | 0.0% |
Cau gwirfoddol | 2 | 1.1% |
Ildio gwirfoddol | 6 | 3.4% |
Atafaelu/cadw bwyd | 0 | 0.0% |
Rhybuddiad syml | 0 | 0.0% |
Erlyniad | 0 | 0.0% |
Cyfanswm | 175 | - |
Dim ond ar gyfer gorfodi hylendid bwyd y mae’r dewis o roi Hysbysiadau Camau Adfer a Hysbysiadau Gwahardd Brys oherwydd Hylendid ar gael. Fodd bynnag, mae Hysbysiadau Gwella statudol ar gael ar gyfer gorfodi hylendid a safonau.
Ni chafodd unrhyw fusnesau eu herlyn ac ni dderbyniodd unrhyw rai Rybuddiad Syml am dorri cyfraith bwyd.
Mae nifer y camau a gymerwyd yn sylweddol is nag yn y blynyddoedd cyn pandemig Covid-19, sy’n adlewyrchu’r gostyngiad yn nifer yr arolygiadau a gynhaliwyd yn y flwyddyn 2021-22
Perfformiad y Gwasanaeth
Datblygwyd amrywiaeth o ddangosyddion perfformiad cenedlaethol a lleol i asesu perfformiad y gwasanaeth yn eu herbyn. Daw’r rhain o’r Fframwaith Mesur Perfformiad ar gyfer Awdurdodau Lleol Cymru, sy’n cynnwys y Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus statudol ac o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy’n rhoi “set greiddiol” o ddangosyddion.
Dangosydd |
Targed 2019-20 |
Gwir 2019-20 |
Targed 2020-21 |
Gwir 2020-21 |
Targed 2021-22 |
Gwir 2021-22 |
% y safleoedd bwyd sy'n cydymffurio'n fras â gofynion hylendid bwyd | 97.5% | 97% | Heb ei osod | 97% | Heb ei osod | 97% |
2.8.1 Cydymffurfio o ran hylendid bwyd – dangosydd perfformiad strategol cenedlaethol – ‘safle sy’n cydymffurfio’n fras’
Yn 2008-09, sefydlodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd gysyniad y safle bwyd ‘sy’n cydymffurfio’n fras’, ar sail y cynllun sgorio risg hylendid bwyd a sefydlwyd drwy God Ymarfer y Ddeddf Diogelwch Bwyd genedlaethol. Wedyn, yn 2010-11, mabwysiadwyd canran y safleoedd ‘sy’n cydymffurfio’n fras’ o fewn tiriogaeth pob awdurdod lleol fel yr un dangosydd perfformiad strategol cenedlaethol ar gyfer gorfodi cyfraith bwyd, yn lle canran yr arolygiadau risg uchel a gyflawnwyd. Roedd hyn yn golygu symud oddi wrth fesur allbynnau gorfodi i ganlyniadau mwy ystyrlon.
Er mwyn cael ei ystyried yn un ‘sy’n cydymffurfio’n fras’ mae’n rhaid i safle sgorio dim mwy na 10 ym mhob un o dair elfen y cynllun sgorio risg, sef: ‘cydymffurfio – adeiledd’, ‘cydymffurfio – gweithdrefnau hylendid’, a ‘hyder yn y rheolaeth’. Yn ymarferol, fe all safle sy’n ‘cydymffurfio’n fras’ gyflwyno tystiolaeth o beth diffyg cydymffurfio â rhwymedigaethau statudol a chodau ymarfer y diwydiant, ond gyda safonau’n gyffredinol yn cael eu cynnal neu eu gwella. Bydd angen i’r hanes cydymffurfio fod yn foddhaol o leiaf, a bydd angen i’r busnes gael mynediad at gyngor technegol mewnol a’i ddefnyddio, gan gymdeithasau masnachol a/neu Ganllawiau i Arferion Da’r Diwydiant. Dylai’r busnes allu dangos dealltwriaeth o beryglon sylweddol a’r mesurau rheoli sydd yn eu lle, a dangos ei fod yn gwneud cynnydd boddhaol tuag at system/gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd wedi eu dogfennu, cymesur â’r math o fusnes.
Yn ogystal, cynigiwyd cysyniad y safle ‘sy’n cydymffurfio’n llawn’, eto ar sail yr un drefn sgorio. Er mwyn cael ei ystyried yn un ‘sy’n cydymffurfio’n llawn’ rhaid i safle sgorio dim mwy na 5 ym mhob un o dair elfen y cynllun sgorio risg. Dylai safle ‘sy’n cydymffurfio’n llawn’ ddangos safon uchel o gydymffurfio â rhwymedigaethau statudol a chodau ymarfer y diwydiant, gyda dim ond mân doriadau ar reoliadau hylendid bwyd, a mân ddiffygion cydymffurfio â rhwymedigaethau statudol a chodau ymarfer cymeradwy’r diwydiant. Bydd angen i’r hanes cydymffurfio fod yn rhesymol o leiaf, a bydd angen i’r busnes gael mynediad at gyngor technegol mewnol a’i ddefnyddio, gan gymdeithasau masnachol a/neu Ganllawiau i Arferion Da’r Diwydiant. Dylai fod gan y busnes weithdrefnau a systemau boddhaol wedi eu dogfennu a gallu dangos rheolaeth effeithiol ar beryglon. Bydd angen iddo gael system foddhaol o reoli diogelwch bwyd wedi ei dogfennu, a bod yn cydymffurfio’n gyffredinol â’r system honno.
Dengys y siart canlynol y newidiadau yn y lefelau cydymffurfio o ran hylendid bwyd yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.
Lefelau Cydymffurio o ran Hylendid bwyd (%) ar gyfer Sir Benfro mewn Cymhariaeth â Chyfartaledd Cymru 2015-2022
Ebrill 15
- Broadly compliant (PCC) 96.2%
- Broadly compliant (Wales) 94.3%
- Fully compliant (PCC) 67.1%
Ebrill 16
- Broadly compliant (PCC) 95.9%
- Broadly compliant (Wales) 94.22%
- Fully compliant (PCC) 70.2%
Ebrill 17
- Broadly compliant (PCC) 96.4%
- Broadly compliant (Wales) 95%
- Fully compliant (PCC) 75.9%
Ebrill 18
- Broadly compliant (PCC) 97%
- Broadly compliant (Wales) 93.5%
- Fully compliant (PCC) 75.4%
Ebrill 19
- Broadly compliant (PCC) 96.8%
- Broadly compliant (Wales) 93.1%
- Fully compliant (PCC) 78.4%
Ebrill 2020
- Broadly compliant (PCC) 96.8%
- Broadly compliant (Wales) 92.7%
- Fully compliant (PCC) 78.4%
Ebrill 2021
- Broadly compliant (PCC) 96.8%
- Fully compliant (PCC) 79%
Ebrill 2022
- Broadly compliant (PCC) 96.9%
- Fully compliant (PCC) 78.6%
Dengys y siart welliant graddol ond cynyddol yng nghanran y safleoedd ‘sy’n cydymffurfio’n fras’, gyda 96.7% wedi eu dosbarthu fel safleoedd ‘sy’n cydymffurfio’n fras’ ar ddechrau Ebrill 2019. Mae canran y safleoedd ‘sy’n cydymffurfio’n fras’ wedi aros yn weddol sefydlog ers hynny ac ym mis Ebrill 2022, 96.9% yw’r lefel. Mae canran y safleoedd ‘sy’n cydymffurfio’n fras’ ledled Cymru gyfan wedi dangos tuedd debyg at i fyny yn ystod y cyfnod hwn; ond mae lefelau cydymffurfio yn y Sir wedi aros uwchlaw cyfartaledd Cymru. Nid oedd data Cymru ar gael ar gyfer dechrau 2020 neu 2021 ar adeg paratoi’r Cynllun.
Mae canran y safleoedd bwyd yn Sir Benfro sydd wedi eu dosbarthu fel rhai ‘sy’n cydymffurfio’n llawn’ wedi parhau i gynyddu ers 2015, gyda’r lefel wedi aros yn sefydlog dros y 4 blynedd diwethaf. Nid yw’r data hwn ar gael ar gyfer gweddill Cymru.
Disgwylir na fydd y dangosyddion hyn yn dangos newid, oherwydd lefel isel y gweithgarwch arolygu yn ystod cyfnod Covid-19. Fodd bynnag, bydd yn bwysig parhau i fonitro’r dangosyddion hyn drwy gyfnod adfer Covid-19. Rhagwelir efallai na fydd y tueddiadau blaenorol yn parhau o ganlyniad i lefelau is tebygol o gydymffurfio mewn busnesau, oherwydd eu profiadau drwy’r pandemig a’r ffaith nad oedd yn bosibl cynnal archwiliadau bwyd yn ystod y pandemig. Ystyrir bod gostyngiad yn lefelau Cydymffurfiaeth yn Fras a Chydymffurfiaeth Lawn i’w ddisgwyl. Fodd bynnag, mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth lafar o arolygiadau a gynhaliwyd ers i’r cyfyngiadau gael eu codi, yn hytrach nag adolygiad llawn o ddata arolygu cynnar.
Mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu at welliannau mewn lefelau Cydymffurfiaeth yn Fras a Chydymffurfiaeth Lawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y canlynol:
- targedu’n effeithiol adnoddau gorfodi cyfraith bwyd yr Awdurdod a’i ymagwedd gyffredinol tuag at orfodi (cyfuniad gorfodi);
- anelu ymdrechion gorfodi at y safleoedd nad ydynt ‘yn cydymffurfio’n fras’ (yn arbennig, bydd yr holl safleoedd nad ydynt ‘yn cydymffurfio’n fras’ ar adeg arolygu yn cael ail ymweliad dilynol);
- y cymorth ychwanegol, yn arbennig ymweliadau hyfforddi System Rheoli Diogelwch Bwyd, sy’n cael ei gynnig i safle nad yw’n cydymffurfio gyda hyder yn y rheolaeth yn isel (gyda chymorth ariannol ychwanegol yr Asiantaeth Safonau Bwyd);
- y cymhelliad pellach i gydymffurfio, a grëwyd gan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd cenedlaethol, a lansiwyd ar ddiwedd 2010. Anogir pob busnes nad yw’n cydymffurfio’n fras i wneud cais am ail ymweliad dilynol ar gyfer ail sgorio); a’r
- gofyniad pellach i arddangos sgôr hylendid bwyd, a ddaeth yn gyfraith yng Nghymru yn ystod 2013.
Mae’r Awdurdod yn ymrwymedig i ddilyn yr un strategaethau, gyda’r bwriad o ddal i godi lefelau cydymffurfio yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.
2.8.2 Cydymffurfio o ran hylendid bwyd – Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB)
Ers y 1af o fis Hydref 2010, cafodd safleoedd bwyd yn y Sir (ac eithrio rhai safleoedd risg isel iawn) sgôr gyffredinol am hylendid bwyd yn unol â’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd cenedlaethol – y cyfeirid ato gynt wrth yr enw cynllun ‘Scores on the Doors’.
Yn dilyn newid i gynllun sgorio statudol ar yr 28ain o Dachwedd 2013, bu’n orfodol arddangos sgorau ar gyfer busnesau a archwiliwyd ers y dyddiad hwn. Ymestynnodd y ddeddfwriaeth hon y cynllun sgorio hefyd i wneuthurwyr bwyd a daeth hynny i rym ar yr 28ain o Dachwedd 2014.
Fel gyda’r dangosydd ‘yn cydymffurfio’n fras’, seiliwyd sgôr CSHB ar y cynllun sgorio risg hylendid bwyd a sefydlwyd drwy God Ymarfer cenedlaethol y Ddeddf Diogelwch Bwyd, sy’n cael ei benderfynu gan y sgorau unigol a roddwyd am ‘gydymffurfio – strwythur’, ‘cydymffurfio – gweithdrefnau hylendid’, a ‘hyder mewn rheolaeth’.
Ar sail yr asesiad hwn, gosodir safleoedd mewn un o chwe band:
Sgôr CSHB
- 5 - Da iawn
- 4 - Da
- 3 - Boddhaol yn gyffredinol
- 2 - Angen gwelliant
- 1 - Angen gwelliant mawr
- 0 - Angen gwelliant ar frys
Caiff safleoedd sy’n cael sgôr o 3 (neu uwch) eu dosbarthu fel rhai ‘sy’n cydymffurfio’n fras’ (gweler 2.6.1).
Dengys y siart canlynol nifer y safleoedd bwyd a gafodd eu sgorio yn unol â’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ar y 1af o Ebrill, am y blynyddoedd o 2017 i 2022, ym mhob band sgorio.
Safleoedd bwyd yn unol â'r cynllun sgorio hylendid bwyd
Ionawr 2017
- 5 - Da iawn: 1295
- 4 - Da: 343
- 3 - Boddhaol yn gyffredinol: 51
- 2 - Angen gwelliant: 28
- 1 - Angen gwelliant mawr: 40
- 0 - Angen gwelliant ar frys: 0
Ionawr 2018
- 5 - Da iawn: 1217
- 4 - Da: 273
- 3 - Boddhaol yn gyffredinol: 48
- 2 - Angen gwelliant: 23
- 1 - Angen gwelliant mawr: 38
- 0 - Angen gwelliant ar frys: 0
Ionawr 2019
- 5 - Da iawn: 1461
- 4 - Da: 298
- 3 - Boddhaol yn gyffredinol: 44
- 2 - Angen gwelliant: 2
- 1 - Angen gwelliant mawr: 37
- 0 - Angen gwelliant ar frys: 0
Ionawr 2020
- 5 - Da iawn: 1536
- 4 - Da: 313
- 3 - Boddhaol yn gyffredinol: 47
- 2 - Angen gwelliant: 21
- 1 - Angen gwelliant mawr: 39
- 0 - Angen gwelliant ar frys: 0
Ionawr 2021
- 5 - Da iawn: 1591
- 4 - Da: 313
- 3 - Boddhaol yn gyffredinol: 46
- 2 - Angen gwelliant: 22
- 1 - Angen gwelliant mawr: 40
- 0 - Angen gwelliant ar frys: 0
Ionawr 2022
- 5 - Da iawn: 1633
- 4 - Da: 329
- 3 - Boddhaol yn gyffredinol: 50
- 2 - Angen gwelliant: 23
- 1 - Angen gwelliant mawr: 41
- 0 - Angen gwelliant ar frys: 0
Erbyn y 1af o Ebrill 2022, roedd cyfanswm o 2076 o safleoedd bwyd y Sir wedi cael eu sgorio dan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Mae’r nifer wedi cynyddu’n raddol o 1757 yn 2017, i adlewyrchu’r cynnydd mewn busnesau bwyd cofrestredig yn y Sir. Rhagwelir hefyd y gall y dadansoddiad o sgoriau hylendid bwyd newid o ganlyniad i arolygiadau yn ystod y cyfnod adfer. Fel y nodwyd yn flaenorol, bydd llai o gydymffurfiaeth yn arwain at sgoriau hylendid bwyd is.
Enillodd 2012 (96.9%) o’r safleoedd hyn sgôr o 3 neu uwch (yn debyg i lefelau cyn Covid-19), gyda 1633 (78.6%) yn cael eu dosbarthu fel Da Iawn, 329 (15.8%) fel Da, a 50 (2.4%) fel Boddhaol yn Gyffredinol.
Erbyn y 1af o Ebrill 2022, roedd y gyfran o safleoedd a dderbyniodd sgôr o 1, ‘Angen gwelliant mawr’, wedi parhau’n weddol sefydlog oherwydd y nifer is o arolygiadau a ddigwyddodd yn ystod 2020-21 a 2021-22
Nid oedd dim un safle wedi cael sgôr o 0 (Angen gwelliant ar frys) ar y 1af o Ebrill 2022. Mae sgôr o 0 yn ysgogi adolygiad rheolaeth, gyda golwg ar achos llys posibl. At hynny, bydd adolygiad rheolaeth yn cael ei gynnal lle mae safleoedd yn methu â sicrhau sgôr o 3 neu well dros nifer o arolygiadau, neu lle na chafwyd sgôr dda ond mewn arolygiadau y gofynnwyd amdanynt i ailsgorio safle, a all ddangos bod busnes yn ymateb i ofynion ar ôl arolygiad, ond nad yw’n cymryd camau rhwng arolygiadau i gynnal safonau uchel. Y rhesymau dros adolygiad o’r fath yw edrych i mewn i’r rhesymau am y sgorau gwael aml a lle bo angen cynyddu’r camau gorfodi i dynnu sylw’r busnes at y ffaith nad yw safonau gwael dro ar ôl tro yn dderbyniol.
Yn ymarferol, bydd yr Awdurdod yn cynnal ‘ail ymweliadau gorfodi’ dilynol ag unrhyw eiddo sy’n cael sgôr o 2 neu lai, gyda’r nod o sicrhau gwelliant priodol mewn cydymffurfio.
Er mwyn rhoi rhywfaint o sicrwydd i fusnesau bwyd, mae trefn apelio’n rhan o’r Cynllun, ac mae busnesau yn cael yr hawl i wneud cais am ‘ail ymweliad ar gyfer ailsgorio’ a hefyd ‘hawl i ateb’.
Cynhaliwyd 15 o ail ymweliadau ailsgorio yn ystod 2021-22, mewn cymhariaeth ag 1 yn 2020-21, sydd eto’n is oherwydd llai o arolygiadau yn ystod y blynyddoedd hynny. Mewn blynyddoedd blaenorol, roedd nifer yr arolygiadau o’r fath yn gyffredinol tua 60-70 y flwyddyn. Rhagwelir y bydd nifer y ceisiadau yn dychwelyd i lefelau cyn-Covid-19, neu hyd yn oed yn cynyddu, os canfyddir bod lefelau cydymffurfio cyffredinol yn gostwng, oherwydd effeithiau pandemig Covid-19 a’r diffyg arolygiadau a allai ddigwydd yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae amcangyfrif o 65 o ‘ailymweliadau ar gyfer ailsgorio’ sy’n debygol o ddod i law wedi’i wneud ar gyfer 2022-23, rhagfynegiad yn seiliedig ar dueddiadau a welwyd yn y 5 mlynedd diwethaf o ddata.
Codir ffi o £180 am ailymweliadau y gofynnir amdanynt ar gyfer ailsgorio.
Egwyddor yr Awdurdod Cartref a Phartneriaethau Awdurdodau Sylfaenol
Ers 2014-15, mae’r Awdurdod wedi gweithredu fel yr Awdurdod Sylfaenol enwebedig ar gyfer materion diogelwch a safonau bwyd i CKs Supermarkets Ltd. Mae gan y Cwmni 25 o siopau ar hyd a lled de a gorllewin Cymru dan reolaeth 5 awdurdod gorfodi. Mae chwech o’r siopau hyn wedi eu lleoli yn Sir Benfro.
Y trefniant hwn oedd y bartneriaeth statudol gyntaf i’w ffurfio rhwng yr Awdurdod a busnes dan ddarpariaethau Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008, fel y’i diwygiwyd.
Ym mis Mawrth 2017, sefydlwyd ail bartneriaeth gyda Seren Collection Ltd sy’n rhedeg gwesty, tŷ bwyta a chiosg bwyd i fynd yn Sir Benfro a thŷ bwyta yn Abertawe, ac ym mis Ebrill 2019 sefydlwyd trydedd bartneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Fel yr Awdurdod Sylfaenol ar gyfer y busnesau, mae’r Awdurdod wedi derbyn cyfrifoldeb dros roi ‘cyngor pendant’ sydd i gael ei gymhwyso i holl waith y cwmni, ac mae gofyn i Awdurdodau Gorfodi eraill, yn eu tro, ystyried y cyngor hwn wrth arolygu unrhyw safle sydd gan y cwmni ac wrth ystyried unrhyw gamau gorfodi posibl.
Yn ôl telerau’r bartneriaeth, mae’r gost lawn am unrhyw waith sy’n cael ei wneud gan yr Awdurdod yn cael ei thalu gan y busnesau, fel nad oes baich ariannol ychwanegol ar yr Awdurdod ac, yn y pen draw, ar bwrs y wlad.
Yn unol â newidiadau a gynlluniwyd yn dilyn cyflwyno Deddf Menter 2016, cafodd y Cynllun Partneriaeth Awdurdod Sylfaenol ei ddisodli o’r 1af o Hydref 2017. Symudodd y partneriaethau uchod oedd yn bod eisoes i’r Cynllun newydd, ac mae ganddynt yn awr hawl i gyngor ynghylch holl swyddogaethau rheolaethol Diogelu’r Cyhoedd o fewn maes gorchwyl Cyngor Sir Penfro.
Bydd cyfleoedd ychwanegol i sefydlu partneriaethau Awdurdod Sylfaenol yn dal i gael eu hystyried, gan gydnabod y cydfuddiannau i fusnesau, i’r Awdurdod ac, yn y pen draw, i ddiogelu defnyddwyr. Fodd bynnag, er bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar sail adennill costau, mae’r capasiti i ddarparu partneriaethau pellach bellach yn isel o ystyried yr angen i fodloni gofynion eraill y gwasanaeth.
O dan y Cynllun newydd, bydd angen i fusnesau sy’n masnachu yng Nghymru ac yn Lloegr hefyd, fel cynhyrchwyr yn Sir Benfro sy’n cyflenwi cynnyrch y tu allan i Gymru, gael partneriaethau yn y ddwy wlad er mwyn sicrhau eu bod yn dod dan Awdurdod Sylfaenol ar draws y meysydd polisi datganoledig.
Bydd angen i’r Adran gydbwyso ei hymrwymiad i’r tri Phartner Awdurdod Sylfaenol yn ystod y broses o weithredu Cynllun Adfer ALl yr ASB, hefyd oherwydd yr angen i ddyrannu’r adnoddau staff prin i fodloni disgwyliadau’r Cynllun.
Hyfforddi Trinwyr Bwyd
Er bod yr Awdurdod yn cydnabod ei bod yn hanfodol deall a gwerthfawrogi egwyddorion diogelwch bwyd yn ddigonol er mwyn rheoli diogelwch bwyd yn effeithiol o fewn busnesau bwyd, nid yw darparu hyfforddiant yn swyddogaeth statudol y mae gan yr Awdurdod ddyletswydd i’w darparu.
Oherwydd blaenoriaethau eraill, yn arbennig yr angen i gyflawni rhaglenni archwilio statudol, mae’r Awdurdod wedi dewis hyrwyddo cyfleoedd i ddarparwyr allanol gynnig hyfforddiant lle bynnag y bo modd, ac mae’r Awdurdod yn cadw rhestr o ddarparwyr hyfforddiant a chyrsiau sydd ar gael yn lleol, er mwyn hwyluso mynediad busnesau at hyfforddiant.
Arolygu a Samplu Bwyd
Mae’r Awdurdod yn rhedeg tair rhaglen samplu bwyd ar wahân:
- samplu bwyd ar gyfer gwyliadwriaeth ficrobiolegol, e.e. i fodloni blaenoriaethau samplu lleol/cenedlaethol a sicrhau bod systemau HACCP yn gweithredu’n effeithiol
- samplu safonau bwyd
- samplu pysgod cregyn
At hynny, mae modd cymryd samplau bwyd ychwanegol yn dilyn cwyn neu i ddibenion gorfodi.
Tîm Iechyd y Porthladdoedd sy’n samplu pysgod cregyn, a cheir manylion y trefniadau a lefel y gweithgareddau hyn yng Nghynllun Gwasanaeth Iechyd y Porthladdoedd.
3.6.1 Samplau bwyd ar gyfer gwyliadwriaeth ficrobiolegol
3.6.1.1 Cynlluniau Samplu ar gyfer 2021 -22
Caiff archwiliad microbiolegol ei gynnal ar fwyd gan yr Arolygydd Bwyd yn Labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ysbyty Glangwili, a Chaerfyrddin. Yn ystod 2022-23, gwelwyd bod dyraniad credyd cyfwerth â £2318 ar gael drwy’r labordy hwn i dalu am gostau archwilio bwyd. Mae’n rhaid i’r Awdurdod dalu costau samplu bwyd, sydd uwchben y dyraniad hwn. Neilltuodd yr Awdurdod hefyd gyllideb o £440 i dalu am brynu samplau, ac i’r Dadansoddwr Cyhoeddus am ymchwilio/dadansoddi cwynion perthnasol i hylendid bwydydd. Yn gyffredinol, ni chaiff eitemau sy’n destun cwynion eu hanfon i’w dadansoddi/archwilio ond pan fydd achos ffurfiol efallai dan ystyriaeth.
3.6.1.2 Rhaglenni samplu a drefnwyd yn 2021-22
Yn ystod 2021-22, ni weithredodd yr Awdurdod Gynllun Samplu Rhagweithiol o ganlyniad i bandemig Covid-19, a dargyfeirio adnoddau tuag at ymateb yr Awdurdod i Covid-19. Roedd gweithgareddau wedi’u cyfyngu i ymateb i gwynion, neu fel arall ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd mewn arolygiadau i bennu’r angen am unrhyw samplau microbiolegol.
3.6.1.3 Canlyniadau samplu (a chamau dilynol) 2021-22
Caiff samplau bacteriolegol eu dehongli’n unol â Rheoliad 2073/2005 EC ar y Meini Prawf Microbiolegol ar gyfer Bwydydd neu ganllawiau Gwasanaeth Cenedlaethol Labordai Iechyd y Cyhoedd fel y bo’n briodol.
Bydd samplau anfoddhaol/annerbyniol yn cael eu dilyn drwy ymweld â’r safle dan sylw, ymchwilio i’r rhesymau posibl dros y methiant ac ailsamplu dro ar ôl tro.
Yn 2021-22, cafodd 1 sampl a gymerwyd o ganlyniad i gŵyn am symptomau scrobotocsin (llid) posibl a brofwyd gan ddefnyddiwr pysgod a brynwyd mewn bwyty ei samplu ar gyfer Histamine, sy’n achosi haint scrobotocsin. Er nad yn brawf microbiolegol yn unig, roedd y canlyniad yn dangos lefelau uwch o Histamin. Trafodwyd y mater gyda’r busnes a rhoddwyd cyngor ar olrhain, cylchdroi stoc a rheoli tymheredd pysgod, sy’n lleihau’r risg o ddatblygiad histamin mewn pysgod. O ganlyniad, rhoddodd y bwyty’r gorau i gael y bwyd amheus penodol (macrell) ar eu bwydlen.
3.6.1.4 Rhaglenni samplu cynlluniedig 2022-23
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dyrannu swm sy’n gyfwerth â chyllideb o £4289 i gefnogi rhaglenni samplu’r Awdurdod. Mae cyllideb bellach o £440 ar gael gan yr Awdurdod ar gyfer prynu samplau, ac i’r Dadansoddwr Cyhoeddus archwilio/dadansoddi cwynion yn ymwneud â hylendid bwydydd.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, tra bod Cynllun Adfer ALl yr ASB yn cael ei roi ar waith, mae adnoddau’n cael eu canolbwyntio ar gynnal arolygiadau. Nid oes unrhyw Gynllun Samplu Microbiolegol penodol wedi’i ddatblygu ar gyfer 2022-23, ond bydd yr Awdurdod yn cynnal samplu microbiolegol pan fydd arolygiadau, ceisiadau gwasanaeth, achosion o wenwyn bwyd neu ddigwyddiad arall, yn dilyn yn ôl yr angen i unrhyw samplau sy’n angenrheidiol mewn perthynas â Rhaglen Samplu Gwyliadwriaeth yr ASB, neu wybodaeth arall a geir a fyddai’n awgrymu bod angen samplu i benderfynu a yw bwydydd a roddir ar y farchnad yn cydymffurfio â safonau microbiolegol cyfreithiol, ac yn ddiogel i’w bwyta.
3.6.2 Samplu safonau bwyd
Yn 2020-21 dyrannwyd £9530 o gyllid gan yr Awdurdod i dalu costau dadansoddi bwyd, i’w ddefnyddio ar gyfer samplu safonau bwyd arferol.
Yn ystod 2021-22, ni sefydlodd yr Awdurdod gynllun samplu safonau bwyd o ganlyniad i bandemig Covid-19, a dargyfeirio adnoddau tuag at ymateb yr Awdurdod i Covid-19. Roedd gweithgareddau wedi’u cyfyngu i ymateb i gwynion, neu fel arall ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd mewn arolygiadau i bennu’r angen am unrhyw samplau microbiolegol.
Yn 2021-22, er i ddau sampl gael eu cymryd ar gyfer materion Safonau Bwyd, canfuwyd bod y ddau yn foddhaol.
Yn 2022-23 mewn perthynas â samplu Safonau Bwyd, tra bod Cynllun Adfer Awdurdodau Lleol yr ASB yn cael ei roi ar waith, canolbwyntir adnoddau ar gynnal arolygiadau. Nid oes unrhyw Gynllun Samplu Safonau Bwyd penodol wedi’i ddatblygu ar gyfer 2022-23, ond bydd yr Awdurdod yn cynnal samplu safonau bwyd pan fydd arolygiadau, ceisiadau gwasanaeth, unrhyw ddigwyddiadau, yn dilyn yn ôl yr angen i unrhyw samplau sy’n angenrheidiol mewn perthynas â Rhaglen Samplu Gwyliadwriaeth yr ASB, neu wybodaeth arall a geir a fyddai’n awgrymu bod angen samplu i benderfynu a yw bwydydd a roddir ar y farchnad yn cydymffurfio â safonau bwyd cyfreithiol.
Mae cyllideb o £9530 wedi cael ei rhoi gan yr Awdurdod ar gyfer safonau bwyd i dalu costau dadansoddi.
3.6.3 Samplu pysgod cregyn
Bu angen gwaith sylweddol o’r blaen i helpu i ddosbarthu a monitro meysydd cynhyrchu pysgod cregyn, er mwyn ei gwneud yn bosibl cynaeafu’r pysgod cregyn hyn i’w bwyta gan bobl, gan gynnwys yn 2021-22, lle bu samplu i ddosbarthu gwelyau pysgod cregyn newydd yn digwydd.
Lle mae gwaith yn cael ei wneud, disgrifir hyn yng Nghynllun Iechyd y Porthladdoedd sydd ar wahân.
Ymchwilio a Rheoli Achosion, Afiechyd Heintus Cysylltiedig â Bwyd a Milheintiau
3.7.1 Ymchwilio a rheoli achosion ac afiechyd heintus cysylltiedig â bwyd
Ers y 1af o Ebrill 2017, derbyniwyd hysbysiadau am wenwyn bwyd ac afiechyd heintus cysylltiedig â bwyd gan y Tîm Iechyd a Diogelwch yn lle’r Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd.
Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb fel hyn yn rhannol er mwyn ymateb i bwysau cynyddol ar y Tîm Bwyd, mewn cymhariaeth ag Iechyd a Diogelwch, ac yn rhannol er mwyn sefydlu aliniad gwell rhwng meysydd rheoli clefydau heintus.
Bydd Swyddogion Bwyd yn parhau i ymchwilio i safleoedd bwyd sy’n gysylltiedig â digwyddiadau yr amheuir eu bod wedi eu hachosi gan fwyd, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, ond nid digwyddiadau sy’n amlwg yn cael eu lledaenu o berson i berson neu o darddiad amgylcheddol arall.
Yn ymarferol daw hysbysiadau oddi wrth Feddygon Teulu a labordai meddygol, drwy swyddog priodol penodedig sy’n seiliedig o fewn Tîm Diogelu Iechyd Canolbarth a Gorllewin Cymru (rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru). Gwneir yr hysbysiadau hyn yn unol â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010.
Mae’r Awdurdod wedi penodi Swyddog Arweiniol ar gyfer Rheoli Clefydau Heintus, ac mae’n cydweithio’n agos gyda swyddogion priodol penodedig (Ymgynghorwyr mewn Rheoli Clefydau Heintus neu Ymgynghorwyr mewn Diogelu Iechyd) a gyflogir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn ymarferol, derbynnir hysbysiadau yn electronig drwy system cronfa ddata gyffredin (Tarian), a ddefnyddir gan awdurdodau lleol, labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru a Thimau Diogelu Iechyd lleol.
Yn gyffredinol, y Tîm Iechyd a Diogelwch sy’n ymchwilio i achosion o ‘heintiau gastroberfeddol’ yr adroddir amdanynt, gyda golwg ar ganfod ffynhonnell yr haint lle bo modd; fel y gellir rhoi cyngor a/neu gymryd camau i atal lledaeniad pellach; a nodi unrhyw gamau y gellir neu y dylid eu cymryd i atal digwyddiadau pellach.
Mae’r protocolau ar gyfer ymchwilio i achosion achlysurol wedi eu cynnwys yn y gweithdrefnau mewnol, ac ymchwilir i ddigwyddiadau yn unol â Chynllun Achosion Cymru Gyfan, sy’n darparu’r fframwaith cytunedig ar gyfer ymchwiliadau amlasiantaethol cyson.
Mae targedau ymateb ar gyfer achosion achlysurol a rhai cyffredinol hefyd yn adlewyrchu’r rhai a sefydlwyd yn ‘Iechyd Cyhoeddus Cymru – Canllawiau Hysbysu o Labordai Microbioleg ar Organebau - Gorffennaf 2011’.
Fel rheol, bydd ymchwiliadau yn golygu cyfweliadau achos a rhoi cyngor, ond, yn dibynnu ar yr achos a ffynhonnell yr haint, a’r risgiau cysylltiedig, efallai y bydd angen amrywiaeth o gamau dilynol gan gynnwys y canlynol:
- Sicrhau gwahardd pobl heintus o leoliadau risg uchel (ysgolion, meithrinfeydd, safleoedd bwyd, a sefydliadau gofal iechyd fel arfer);
- Sgrinio samplau gan bobl eraill a fu mewn cysylltiad;
- Cymryd samplau dilynol o achosion a gadarnhawyd i roi cliriad microbiolegol;
- Ymweliadau â sefydliadau sydd mewn perygl fel ysgolion, meithrinfeydd a sefydliadau gofal plant eraill a chartrefi gofal preswyl a nyrsio, i roi cyngor ar reoli heintiau;
- Ymweliadau â safleoedd busnes bwyd, lle y gallai bwyd a brynwyd gan ddefnyddwyr, neu a ddarparwyd iddynt, fod yn gyfrannog;
- Cael samplau bwyd a/neu samplau amgylcheddol;
- Cadw cysylltiad ag awdurdodau lleol eraill ac awdurdodau cymwys canolog, e.e. y Ganolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy a’r Asiantaeth Safonau Bwyd, lle y gall heintiau fod wedi dod o’r tu allan i’r sir, o dramor neu o fwyd a gynhyrchwyd y tu allan i’r DU.
Mae’r ddau dîm yn cydweithio’n agos ar achosion o’r fath, gan eu bod yn gweithio o’r un swyddfa. Lle mae busnesau bwyd neu gyflenwadau bwyd masnachol dan sylw neu dan amheuaeth, bydd swyddogion bwyd awdurdodedig yn cymryd y camau angenrheidiol, a chofnodir y camau hyn ar Tascomi.
Yn ystod 2021-22, rhoddwyd hysbysiad am 220 o achosion a gadarnhawyd/amheuid ar gyfer ymchwilio iddynt.
Yn ymarferol, gwyddys mai cyfran gymharol fechan o’r gwir nifer o achosion o haint gastroberfeddol yn y gymuned yw’r rhai yr hysbysir amdanynt, ac amcangyfrifir nad ydynt ond 10% o’r holl achosion. Mae’r rhesymau dros lefel isel yr achosion yr adroddir amdanynt yn niferus ond yn cynnwys: dioddefwyr ddim yn ymweld â’u meddygon teulu (yn enwedig pan fo’r symptomau’n gymharol ysgafn a/neu fyrhoedlog); meddygon teulu ddim yn adrodd am bob achos sy’n cael ei amau; a meddygon teulu’n amrywio o ran cynnal profion ysgarthol. Mae mwyafrif yr achosion o haint gastroberfeddol, p’un bynnag, yn debygol o gael eu priodoli i gastro-enteritis firaol sy’n achosi symptomau cymharol fyrhoedlog. Anaml y cynhelir profion ar ei gyfer (ac eithrio i gadarnhau hyn fel achos, lle yr amheuir nifer o achosion) ac ymhellach nid yw yn hysbysadwy, onid amheuir mai bwyd a’i hachosodd. Mae gwir faich haint gastroberfeddol ar ein cymunedau felly’n llawer mwy.
Dengys y siart canlynol ddadansoddiad o’r achosion o haint gastroberfeddol ‘yr hysbysir amdano’ yn ôl math ar gyfer y Sir yn ystod 2021-22:
Achosion o Wenwyn Bwyd a Heintiau Cysylltiedig â Bwyd eraill ledled Sir Benfro, yn ôl Math 2021 22
- Suspected food poisioning: 0
- Shigella: 0
- Other: 0
- Listeria monocytogenes: 0
- Entamoeba histolytica/dispar: 0
- E-coli O157: 0
- Hepatitis E: 2
- Giardia: 2
- Salmonella sp: 11
- Crytosporidium: 17
- Campylobacter: 188
Yn unol â’r darlun cenedlaethol dros Gymru a Lloegr, haint Campylobacter sy’n peri mwyafrif yr achosion ‘hysbysedig’ o haint gastroberfeddol – h.y. 85% o’r holl achosion yr adroddwyd amdanynt yn Sir Benfro yn ystod 2021-22.
Er mai Campylobacter yw achos bacteriol mwyaf cyffredin clefyd perfeddol heintus yng Nghymru a Lloegr, mae ei epidemioleg yn dal heb ei ddeall yn dda.
Mae cig heb ei goginio ddigon (yn enwedig dofednod) yn aml yn gysylltiedig â salwch, fel y mae llaeth heb ei basteureiddio a dŵr heb ei drin. Er y tybir mai achlysurol yw’r rhan fwyaf o achosion o haint Campylobacter, ac er bod y llwybrau trosglwyddo’n parhau’n aneglur, mae nifer o achosion arwyddocaol
wedi eu nodi ar hyd a lled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda’r posibilrwydd bod achosion eraill wedi digwydd ond heb eu canfod.
Ni chafwyd unrhyw achosion o wenwyn bwyd yn 2021-22 a oedd yn golygu bod angen i’r Tîm Iechyd a Diogelwch/Clefydau Trosglwyddadwy weithredu.
Gall achosion yn ymwneud â safle bwyd lyncu llawer o amser ac efallai y bydd angen mewnbwn gan rai/pob un o aelodau’r Tîm dros nifer o wythnosau, wrth gynnal yr ymchwiliad a chasglu gwybodaeth. Efallai y bydd hefyd angen cyfraniad gan uwch-reolwyr yng nghyfarfodydd rheoli’r achos.
Dengys y siart canlynol y duedd yn nifer yr achosion yr adroddwyd amdanynt bob blwyddyn yn ystod y cyfnod o 10 mlynedd rhwng 2012-13 a 2021-22, ar gyfer y 5 achos uchaf o heintiau gastroberfeddol a gadarnhawyd mewn labordy yn y Sir.
Y Duedd yn Nifer yr Achosion yr Adroddwyd Amdanynt ar gyfer y 5 achos uchaf o Heintiau GI 2012 13 i 2021 22
Disgrifiad |
12-13 |
13-14 |
14-15 |
15-16 |
16-17 |
17-18 |
18-19 |
19-20 |
20-21 |
21-22 |
Campylobacter | 140 | 188 | 209 | 179 | 162 | 177 | 183 | 302 | 150 | 188 |
Crytosporidium | 18 | 14 | 8 | 15 | 17 | 20 | 30 | 75 | 35 | 17 |
Giardia | 12 | 8 | 12 | 13 | 15 | 10 | 13 | 7 | 6 | 2 |
Shigella | 1 | 0 | 1 | 1 | 3 | 4 | 0 | 1 | 1 | 0 |
Salmonella sp. | 11 | 10 | 8 | 3 | 7 | 2 | 20 | 54 | 6 | 11 |
Gyda golwg ar y cynnydd mewn Campylobacter ar draws Cymru a Lloegr, a phosibilrwydd achosion yn digwydd heb eu canfod, ymgymerodd y Panel Arbenigol Cenedlaethol ar Glefydau Trosglwyddadwy â phrosiect i ddatblygu safon arferion da ar gyfer ymchwilio i Campylobacter, er mwyn hyrwyddo agwedd gyffredin at ymchwiliadau a gwyliadwriaeth. Efallai y bydd y cylch gwaith hwn, ynghyd â chasglu a dadansoddi data’n well drwy welliannau i system Tarian, yn arwain at ganfod clystyrau/achosion pellach ac yn ei gwneud yn bosibl ymchwilio mwy i swyddogaeth cynnyrch anifeiliaid, bwydydd eraill, dŵr a dod i gysylltiad â phethau heblaw bwyd.
Daeth yr Ymchwiliad Cyhoeddus i’r achos o E.coli O157 yn 2005, a effeithiodd ar ysgolion ledled de-ddwyrain Cymru, i ben ym mis Mawrth 2008, gyda’r adroddiad terfynol (‘Adroddiad Pennington’) yn ymddangos ym mis Mawrth 2009. Mae’r Awdurdod wedi ystyried a mabwysiadu’r argymhellion a wnaed, lle roedd hynny’n briodol, gan gadw mewn cof unrhyw gyngor gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, FSAW, a Phaneli Technegol Cymru ar Ddiogelwch Bwyd a Chlefydau Trosglwyddadwy sy’n gweithredu yn ôl cyfarwyddyd Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru a Phenaethiaid Iechyd Amgylcheddol Cymru. Defnyddiwyd templed dogfen Cyfrifoldebau a Chamau Gweithredu CLlLC i adrodd am gamau gweithredu a chynnydd mewn adroddiadau i Dîm Rheoli Corfforaethol yr Awdurdod. Archwiliwyd ymateb yr Awdurdod i argymhellion Adroddiad Pennington gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn ystod 2013-14 (Gweler 6.4.3 isod).
3.7.2 Ymchwilio a rheoli milheintiau
Bydd yr Awdurdod yn ymchwilio i hysbysiadau am amrywiaeth o filheintiau, yn arbennig colli statws Swyddogol Rydd o TB (OTF) mewn gwartheg. Cymerir camau yn unol â gweithdrefnau’r Cyngor ar sail patrwm dogfen enghreifftiol Cymru Gyfan sy’n sicrhau ymatebion ac ymchwiliadau cyson.
Yn ystod 2017-18, derbyniwyd 52 o hysbysiadau am gyfyngiadau ar fuchesau godro o ganlyniad i golli statws Swyddogol Rydd o TB, mewn cymhariaeth â 0 yn y flwyddyn flaenorol a 263 yn y flwyddyn cyn hynny.
Mae’r niferoedd isel a adroddwyd yn ystod cyfnod pandemig Covid-19 yn dangos gostyngiad yn y profion ar y fferm a gynhaliwyd gan Defra yn ystod y cyfnod hwnnw.
Bydd yr Awdurdod yn cael ei hysbysu fel mater o arfer am golli statws Swyddogol Rydd o TB ac, yn ei dro, bydd yn cymryd camau i sicrhau nad yw llaeth o wartheg adweithiol yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd ddynol a bod llaeth o weddill y fuches yn cael ei basteureiddio.
Mae’r Awdurdod hefyd yn cael gwybod am golli statws Swyddogol Rydd o TB mewn gwartheg heblaw rhai godro, er nad oes angen i’r Tîm weithredu ar yr hysbysiadau hyn.
Yn ystod 2017-18, er mwyn lleddfu effaith cynyddiadau eraill yn y galw ar y Tîm Bwyd, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am y cyswllt cyntaf â ffermwyr mewn ymateb i golli statws Swyddogol Rydd o TB mewn buchesau godro i Uned Fusnes yr Is-adran.
Rhybuddion Bwyd
Bydd yr Awdurdod yn derbyn ‘rhybuddion bwyd’, ‘diweddariadau rhybuddion bwyd’ a ‘hysbysiadau gwybodaeth’ gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn rheolaidd.
Caiff camau eu cymryd fel bo’n briodol mewn ymateb i’r holl rybuddion bwyd a diweddariadau rhybuddion bwyd. Wrth wneud hynny bydd yr Awdurdod yn rhoi ystyriaeth briodol i God a Chanllawiau Ymarfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ynghyd â gweithdrefnau mewnol.
Yn dibynnu ar natur y broblem, bydd ymatebion yn aml yn cynnwys cysylltu â manwerthwyr ac arlwywyr perthnasol yn y Sir i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r broblem ac i awgrymu camau gweithredu, megis yr angen i roi’r gorau i werthu cynhyrchion yr effeithiwyd arnynt. Efallai y rhoddir cyngor hefyd i ddefnyddwyr lleol a bydd datganiadau i’r wasg yn cael eu hystyried mewn rhai achosion, yn dibynnu ar faint o gyhoeddusrwydd sy’n dod oddi wrth y gwneuthurwr neu’r Asiantaeth Safonau Bwyd a’r tebygolrwydd y bydd y cynnyrch ar gael i’w ddefnyddio neu ei werthu yn Sir Benfro.
Cedwir cofnodion o’r camau a gymerwyd.
Derbyniwyd 79 o rybuddion bwyd i weithredu arnynt lle bo’n briodol, yn ystod 2021-22.
Anfonir rhybuddion bwyd er gwybodaeth, sy’n berthnasol i labelu alergenau’n anghywir, ar wahân. Cyhoeddwyd 88 o Rybuddion Alergedd yn 2021-22.
Er ei bod yn anodd rhagweld nifer y rhybuddion bwyd y gellid eu derbyn yn unrhyw flwyddyn benodol, bu gostyngiad sylweddol yng nghanran y rhybuddion bwyd sydd angen camau gweithredu, ac nid oes angen unrhyw ymyrraeth gan Gyngor Sir Penfro ar y mwyafrif. Fodd bynnag, pan fo angen gweithredu, gall hyn gymryd llawer iawn o amser.
3.9 Cadw Cysylltiad â Chyrff Eraill
Nod yr Awdurdod yw gweithio ar y cyd ac yn gyson gydag awdurdodau lleol eraill drwy gyfranogi mewn grwpiau cenedlaethol a rhanbarthol a sefydlwyd i’r diben hwnnw.
3.9.1 Paneli arbenigol, grwpiau gorchwyl a grwpiau/pwyllgorau proffesiynol eraill
Sefydlwyd nifer o Baneli Arbenigol yng Nghymru. O bwys neilltuol i’r swyddogaeth diogelwch bwyd mae’r Panel Arbenigwyr Diogelwch Bwyd, sy’n cael ei fynychu gan Swyddog Arweiniol Iechyd Amgylcheddol
(Diogelwch Bwyd). Mae Asiantaeth Safonau Bwyd (Cymru) yn cael ei chynrychioli yn y cyfarfodydd hyn hefyd. Bydd trafodaethau’n digwydd ar faterion gorfodi a datblygiadau gwasanaeth yng nghyfarfodydd y Panel er mwyn sicrhau dull cyson. Islaw’r Panel Technegol hwn mae tri Grŵp Gorchwyl rhanbarthol ar gyfer diogelwch bwyd sy’n gweithredu fel gweithgorau i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau neu baratoi argymhellion ar sail gwaith ymchwiliol, i’w hystyried gan y Panel Arbenigol. Mae Swyddog Arweiniol Iechyd Amgylcheddol (Diogelwch Bwyd) hefyd yn mynychu’r Grŵp Gorchwyl ar gyfer diogelwch bwyd.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru hefyd wedi datblygu Grŵp Llywio Cymru Gyfan ar weithredu deddfwriaeth Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, sydd wedi ei sefydlu i gynorthwyo i fonitro ac adolygu sut mae’r ddeddfwriaeth yn cael ei gweithredu, a helpu’r Asiantaeth i wneud argymhellion ar gyfer gwelliannau a datblygiadau yn y dyfodol i’r Cynllun Sgorio. Mae Swyddog Arweiniol Iechyd Amgylcheddol (Diogelwch Bwyd) hefyd yn aelod o’r Grŵp Llywio hwn.
Mae’r Panel Arbenigol a Grwpiau Gorchwyl Clefydau Trosglwyddadwy yn gweithredu dan yr un trefniant. Caiff y ddau eu mynychu gan Reolwr Diogelwch y Cyhoedd (Iechyd a Diogelwch Defnyddwyr) gan fod rheoli clefydau trosglwyddadwy’n berthnasol i lawer o feysydd sy’n dod o fewn cylch gwaith yr Adran Iechyd a Diogelwch Defnyddwyr.
Mae Swyddog Arweiniol Iechyd Amgylcheddol (Diogelwch Bwyd) hefyd yn mynychu Fforwm Microbiolegol Bwyd Cymru, a sefydlwyd i gydgysylltu gweithgareddau samplu bwyd microbiolegol ledled Cymru.
Cyd-drefnir a chynigir cyngor ar safonau bwyd ac amaeth yng Nghymru gan Grŵp Safonau Bwyd ac Amaeth Cymru. Bydd Swyddog Arweiniol Iechyd Amgylcheddol (Safonau Bwyd) yn mynychu cyfarfodydd Grŵp Safonau a Labelu Bwyd (WHOTS) Cymru.
Bydd Swyddog Arweiniol Iechyd Amgylcheddol (Iechyd y Porthladdoedd) yn mynychu’r Pwyllgor Cyswllt Pysgod Cregyn lleol, a sefydlwyd i gydgysylltu materion samplu, dosbarthu a gorfodi perthnasol i bysgod cregyn (yn ogystal â Phanel Arbenigol Iechyd y Porthladdoedd sy’n ystyried hylendid bwyd ac afiechyd heintus ar fyrddau llongau a rheolaethau mewnforio bwyd, ac yn y blaen).
3.9.2 Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Ceir cysylltiad fel bo angen gyda chynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda golwg ar atal clefyd trosglwyddadwy, yn arbennig gyda ‘swyddogion priodol’ (Ymgynghorwyr Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ac Ymgynghorwyr Diogelu Iechyd) penodedig y Cyngor, cydweithwyr eraill yn y Tîm Diogelu Iechyd lleol a staff microbioleg yn Labordy Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin. Y Tîm Iechyd a Diogelwch sy’n arwain ar ymchwilio i afiechyd milheintiol cysylltiedig â gweithleoedd/gweithgareddau eraill cysylltiedig â gwaith, e.e. o ran ymlediad milheintiau ar ffermydd ac yn y blaen, ac afiechydon heintus eraill heb fod yn gysylltiedig â bwyd e.e. Clefyd y Llengfilwyr, mewn cydweithrediad ag arolygwyr o’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, fel bo’n briodol.
3.9.3 Asiantaethau allanol eraill
Cedwir cysylltiad ag asiantaethau a chyrff eraill mewn amrywiol ffyrdd. Cedwir rhestrau o gysylltiadau ar gyfer pob maes gwaith arbenigol, a bydd ymholiadau a chysylltiadau rheolaidd ag asiantaethau perthnasol. Yn arbennig o berthnasol i’r swyddogaethau diogelwch a safonau bwyd mae’r cysylltiadau ag Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Uned Twyll Bwyd Cymru a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Mae gan y cyrff hyn ran i’w chwarae wrth orfodi deddfwriaeth fwyd a rheoli milheintiau, ac ymgynghorir â hwy’n lleol ac yn rhanbarthol. Mae cyswllt hefyd yn digwydd gyda Chanolfan Wyddonol yr Amgylchedd, Pysgodfeydd ac Amaeth-Dŵr o ran dosbarthu gwelyau pysgod cregyn a threfniadau samplu. Caiff cyswllt ei gadw hefyd ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaeth Cymdeithasol Cymru, mewn perthynas â materion diogelwch a safonau bwyd a rheoli achosion mewn cartrefi gofal ac yn y blaen.
3.9.4 Cyrff proffesiynol
Caiff swyddogion proffesiynol eu cynrychioli yng Nghymru gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) a’r Sefydliad Safonau Masnach, fel bo’n briodol. Mae Cyngor CIEH Cymru yn cynnig dolen gyswllt ychwanegol wrth ddatblygu cyswllt effeithiol ag awdurdodau lleol ac mae hefyd yn darparu rhywfaint o hyfforddiant i staff.
3.9.5 Cynnal cysylltiadau mewnol
Cedwir cysylltiad ag Isadran Arlwyo’r Cyngor o ran cydymffurfio â diogelwch a safonau bwyd yn ysgolion a chartrefi gofal y Cyngor, ac â’r Swyddog Proffesiynol dros Wasanaethau Llywodraethwyr mewn perthynas â rheoli afiechydon heintus mewn ysgolion a rheoli digwyddiadau. Bydd cyfathrebu hefyd o ran cynllunio, rheoli adeiladu a cheisiadau trwyddedu all gyfiawnhau cyfraniad gan y Tîm; er mwyn sicrhau bod cofrestrau pridiannau tir yn cael eu cynnal; a bod problemau gyda phlâu, halogi a gwastraff mewn safle bwyd, a nodwyd gan swyddogion rheoli plâu, yn cael eu dwyn i sylw’r Tîm.
Hyrwyddo Diogelwch a Safonau Bwyd
Yn 2021-22, cefnogodd y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd y gweithgareddau canlynol gyda’r bwriad o hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o hylendid a safonau bwyd yn Sir Benfro:
- Criw Craff – Nod y prosiect hwn yw dysgu plant ysgol Blwyddyn 6 ynghylch diogelwch bwyd yn y cartref drwy roi ac atgyfnerthu nifer o negeseuon diogelwch bwyd cysylltiedig â phwysigrwydd golchi dwylo a’r 4 C drwy gyflwyniad clyweled, ynghyd â sesiwn holi ac ateb rhyngweithiol. Bydd hyn yn digwydd yng nghyd-destun “Criw Craff”, achlysur sy’n cael ei fynychu dros 9 diwrnod gan Ysgolion Sir Benfro, pan fydd y gwasanaethau brys a chyrff eraill hefyd yn eu dysgu ynghylch materion diogelwch eraill. Cefnogwyd y tîm yn ystod 2021-22 gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’i chontractwr penodedig.
Bydd y meysydd hyn o waith hyrwyddo yn parhau i gael eu cefnogi yn ystod 2022-23
Adnoddau
4.1 Dyraniad Ariannol ac ‘Arbedion Effeithlonrwydd’
Mae gwariant ar orfodi cyfraith bwyd wedi ei nodi o fewn fframwaith cyfrifyddu gwerth gorau CIPFA.
Dangosir isod y symud yn y gyllideb dros y saith mlynedd diwethaf, wedi ei rannu rhwng diogelwch bwyd, safonau bwyd a rheoli clefydau trosglwyddadwy:
Diogelwch bwyd |
2014-15 (£,000) |
2015-16 (£,000) |
2016-17 (£,000) |
2017-18 (£,000) |
2018-19 (£,000) |
2019-20 (£,000) |
2020-21 (£,000) |
2021-22 (£,000) |
Cyfanswm y gyllideb | 481 | 502 | 472 | 462 | 465 | 462 | 527 | 556 |
Cynnydd/ gostyngiad (£,000) ar y flwyddyn flaenorol | -36 | +21 | -30 | -10 | 3 | -3 | +65 | +29 |
% y cynnydd/ gostyngiad ar y flwyddyn flaenorol | -7.0% | -4.4% | -6.0% | -2.1% | +0.6% | -0.6% | +14.1% | +5.5% |
Cynnydd/ gostyngiad mewn termau real flwyddyn ar ôl blwyddyn (ychwanegu 3% ar gyfer chwyddiant) | -10% | +1.4% | -9.0% | -5.1% | -2.4% | -3.6% | +11.1% | +2.5% |
Safonau bwyd |
2014-15 (£,000) |
2015-16 (£,000) |
2016-17 (£,000) |
2017-18 (£,000) |
2018-19 (£,000) |
2019-20 (£,000) |
2020-21 (£,000) |
2021-22 (£,000) |
Cyfanswm y gyllideb | 129 | 129 | 135 | 204 | 210 | 197 | 216 | 227 |
Cynnydd/ gostyngiad (£,000) ar y flwyddyn flaenorol | -25 | +0 | +6 | +69 | +6 | -13 | +19 | +11 |
% y cynnydd/ gostyngiad ar y flwyddyn flaenorol | -16.2% | 0% | +4.7% | +51.1% | +2.9% | -6.2% | +9.6% | +5.1% |
Cynnydd/ gostyngiad mewn termau real flwyddyn ar ôl blwyddyn (ychwanegu 3% ar gyfer chwyddiant) | -19.2% | -3.0% | +1.7% | +48.1% | -0.1% | -9.2% | +6.6% | +2.1% |
Rheoli clefydau trosglwyddadwy |
2014-15 (£,000) |
2015-16 (£,000) |
2016-17 (£,000) |
2017-18 (£,000) |
2018-19 (£,000) |
2019-20 (£,000) |
2020-21 (£,000) |
2021-22 (£,000) |
Cyfanswm y gyllideb | 35 | 36 | 37 | 56 | 64 | 56 | 57 | 58 |
Cynnydd/ gostyngiad (£,000) ar y flwyddyn flaenorol | -20 | +1 | +1 | +19 | +8 | -8 | +1 | +1 |
% y cynnydd/ gostyngiad ar y flwyddyn flaenorol | -36.4% | +2.8% | +2.8% | +51.4% | +14.3% | -12.5% | +1.8% | +1.8% |
Cynnydd/ gostyngiad mewn termau real flwyddyn ar ôl blwyddyn (ychwanegu 3% ar gyfer chwyddiant) | -39.4% | -0.2% | +0.2% | -48.4% | +11.3 | -15.5% | -1.2% | -1.2% |
Roedd y cynnydd amlwg yn 2017-18 yn ganlyniad ailddyrannu holl adnoddau’r Tîm Bwyd, ac felly’r gyllideb cyflogau, i orfodi diogelwch a safonau bwyd (ac i ffwrdd oddi wrth reoli clefydau trosglwyddadwy), gyda chydran sylweddol o gyllideb y Tîm Iechyd a Diogelwch yn cael ei hadlewyrchu am y tro cyntaf yn erbyn Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy. Mae newidiadau pellach wedi codi o adolygiad o ddadansoddiad canrannol o amser swyddog, a arweiniodd at ailalinio costau staffio i adlewyrchu gweithgareddau gwasanaeth/gwaith yn fwy cywir.
Dengys y tabl canlynol sut mae’r gyfran o wariant ar gostau cefnogaeth ganolog wedi codi mewn cymhariaeth â’r gyllideb gyfan ar gyfer y gwasanaethau hyn sy’n gysylltiedig â bwyd dros y cyfnod hwn o chwe blynedd, gan godi o 22.8% o gyfanswm costau’r gwasanaeth yn 2016–17, i 24.2% ar y 1af o Ebrill 2022.
Disgrifiad |
2016-17 |
2017-18 |
2018-19 |
2019-20 |
2020-21 |
2022-23 |
Cyfanswm y gyllideb ar gyfer gwasanaethau cysylltiedig â bwyd | £643,830 | £722,000 | £738,310 | £800,000 | £818,360 | £840,340 |
Cefnogaeth ganolog a thaliadau mewnol (heb eu rheoli) | £147,020 | £147,390 | £158,970 | £111,500 | £209,220 | £203,930 |
% o gyfanswm y gyllideb sy’n cynnwys cefnogaeth ganolog a thaliadau mewnol (heb eu rheoli) | 22.8% | 20.4% | 21.5% | 13.9% | 25.5% | 24.2% |
Mae darpariaeth y gyllideb yn cynnwys dyraniadau amrywiol am gostau amhenodol, gyda rhai o’r rhai mwyaf perthnasol wedi eu rhestru isod:
- Staffio: Yr holl gostau’n ymwneud â chyflogau (Yn cynnwys): £632,560
- Teithio: Milltiroedd teithio, ceir y Cyngor, hurio ceir a diesel (Yn cynnwys) £8,480
- Cynhaliaeth: Gwariant arall cysylltiedig â theithio (Yn cynnwys) £250
- Dodrefn ac offer: Prynu dodrefn ac offer, costau cynnal a chadw offer (yn cynnwys graddnodi), ffonau symudol (Yn cynnwys) £2,750
- TG: Prynu offer a thaliadau mewnol TG (Yn cynnwys) £31,200
- Gwasanaethau cyfreithiol: (Yn cynnwys)Tâl mewnol am Wasanaethau Cyfreithiol £10,190
- Samplu bwyd (ac eithrio dŵr yfed): Cost prynu samplau bwyd, a’r gyllideb ar gyfer cael dadansoddi samplau gan y Dadansoddwr Cyhoeddus a/neu (Yn cynnwys) yn destun ‘archwiliad’ gan archwilydd bwyd (pan na fydd yn rhan o ddyraniad labordy’r Awdurdod) £9,970
Fel gyda’r holl awdurdodau lleol eraill ar draws Cymru (a’r DU yn ei chyfanrwydd) mae’r Awdurdod wedi gorfod ymgodymu â thoriadau sylweddol yn ei Grant Cefnogi Refeniw (RSG) yn y blynyddoedd diwethaf, o ganlyniad i fesurau cyni’r Llywodraeth, ac mae’n gynyddol wedi gorfod dod o hyd i ffyrdd o sicrhau ‘arbedion effeithlonrwydd’. Nid yw gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd wedi cael eu hamddiffyn rhag y toriadau hyn. Yn ymarferol, mae’r arbedion effeithlonrwydd sy’n ofynnol wedi cael eu rheoli drwy amrywiaeth o fesurau sydd wedi eu bwriadu i leihau gwariant ac i gynyddu cynhyrchu incwm, lle bo modd.
Hyd yn hyn, lleihawyd gwariant ar draws y Gwasanaeth drwy weithredu’r canlynol:
- Gostwng nifer swyddi Rheolwyr Diogelwch y Cyhoedd (o 4 i 2).
- Newidiadau yn y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaeth gwarantedig Diogelu’r Cyhoedd y tu allan i oriau arferol, gyda gostyngiad sylweddol mewn gwariant.
- Dileu’r ‘gyllideb rhag ofn’ ar gyfer cyflogi contractwyr hylendid bwyd.
- Dileu’r gyllideb goramser ar gyfer arolygiadau safleoedd bwyd.
- Caniatáu i swyddogion ‘brynu mwy o wyliau’ pan fo modd gwneud hyn.
- Chwilio am atebion cronfa ddata mwy cost-effeithiol (ar gyfer gwaith Diogelu’r Cyhoedd yn ei gyfanrwydd). Ar ôl cyflogi darparwr meddalwedd newydd (Tascomi).
- Gwario llai ar gynnal a chadw offer, drwy nodi atebion graddnodi offer mwy cystadleuol a chael swyddogion i olchi eu dillad amddiffynnol eu hunain.
- Cadw at ‘ganllawiau ar leihau costau deunydd ysgrifennu, argraffu a phostio’ i swyddogion. Yn arbennig drwy ddefnyddio mwy ar gyfathrebu electronig. Yn ystod 2015-16, paratowyd strategaeth cyfathrebu electronig i’w defnyddio ar draws yr Adran, gyda golwg ar Strategaeth Hygyrchedd Sianelau’r Cyngor a chanlyniadau arolwg busnes, i gynyddu’r pwyslais ar roi gwybodaeth a chyngor mewn dull electronig, drwy ddefnyddio gwefan y Cyngor ac e-bost yn arbennig. Mae’r gwaith hwn yn parhau.
- Glynu at ‘ganllawiau ar leihau treuliau teithio’ i swyddogion.
- Defnyddio ffurflenni arolygu electronig mewnol i gofnodi gwybodaeth am fusnesau mewn dull electronig. Er bod hyn wedi golygu buddsoddi amser sylweddol i ddatblygu’r ffurflenni; i swyddogion arfer a dod i’w defnyddio’n fedrus; a chynhyrchu cofnodion electronig cynhwysfawr ar bob busnes, dylai’r buddsoddiad hwn arwain at arbedion yn y tymor hwy, wrth i’r wybodaeth a gasglwyd ffurfio man cychwyn i arolygiadau dilynol
Yn ogystal, sicrhawyd incwm drwy wneud y canlynol:
- Hyrwyddo a chynnal ail ymweliadau ailsgorio o dan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd cenedlaethol.
- Ymrwymo i drefniant Awdurdod Sylfaenol, fel yr amlinellwyd dan 3.4 uchod.
- Gwneud cais am amrywiaeth o grantiau i gynnal gweithgareddau gorfodi cyfraith bwyd.
Bydd yr Awdurdod yn ei gyfanrwydd yn dal i wynebu gostyngiadau pellach yn ei Grant Cynnal Refeniw yn y blynyddoedd i ddod. Fodd bynnag, nid oes cynigion i leihau’r gyllideb ar gyfer gorfodi cyfraith bwyd yn ystod 2022-23, tra mae’r gwasanaeth yn parhau’n ymrwymedig i leihau gwariant lle bo modd gwneud hynny.
Hefyd, wrth ddal i fynd ar drywydd y strategaethau i leihau costau a drafodwyd uchod, bydd y Gwasanaeth yn parhau i adennill unrhyw gostau sy’n gysylltiedig ag:
- ymweliadau cynghori a gweithgareddau cysylltiedig o fath ymgynghorol.
- tystysgrifau allforio bwyd.
- trefniadau partneriaeth Awdurdod Sylfaenol.
4.2 Dyraniad Staff
Cyflogwyd y staff canlynol ar orfodi cyfraith bwyd yn ystod 2021-22
Gorfodi Cyfraith Bwyd – Swyddogion
Rheolwr Diogelu’r Cyhoedd (Iechyd a Diogelu Cwsmeriaid)
- Lleiafswm cymwysterau: Gradd BSc (Anrh)/MSc mewn Iechyd Amgylcheddol Neu Diploma mewn Safonau Masnach neu eu rhagflaenwyr
- Uchafswm swyddogion cyfwerth â llawn-amser (FTE), gyda rhai amrywiadau yn ystod y flwyddyn: 0.05
Swyddogion Iechyd Amgylcheddol (yn cynnwys amser Swyddog Iechyd y Porthladdoedd)
- Lleiafswm cymwysterau: Gradd BSc(Anrh)/MSc mewn Iechyd Amgylcheddol
- Uchafswm swyddogion cyfwerth â llawn-amser (FTE), gyda rhai amrywiadau yn ystod y flwyddyn: 6.9
Swyddogion Safonau Masnach
- Lleiafswm cymwysterau: Diploma mewn Safonau Masnach neu eu rhagflaenwyr
- Uchafswm swyddogion cyfwerth â llawn-amser (FTE), gyda rhai amrywiadau yn ystod y flwyddyn: 1
Swyddogion Diogelwch/Safonau Bwyd (yn cynnwys amser Swyddog Iechyd y Porthladdoedd)
- Lleiafswm cymwysterau: Tystysgrif Uwch mewn Arolygu safleoedd Bwyd ynghyd â Thystysgrif Cymhwysedd mewn Safonau Bwyd ac Amaeth neu ei gyfwerth)
- Uchafswm swyddogion cyfwerth â llawn-amser (FTE), gyda rhai amrywiadau yn ystod y flwyddyn: 1.6
Gorfodi Cyfraith Bwyd – Staff cynorthwyol
Coladydd Perfformiad
- Lleiafswm cymwysterau: Heb ei bennu
- Swyddogion cyfwerth â llawn-amser (FTE): 0.6
Clercod Technegol
- Lleiafswm cymwysterau: Heb ei bennu
- Swyddogion cyfwerth â llawn-amser (FTE): 1
Crynodeb o effaith Covid-19 ar Staffio’r Tîm Bwyd
Cafodd 2 swyddog eu secondio’n llawn i’r Gwasanaeth Cyswllt Olrhain Profi Diogelu (TTP) o fis Mehefin 2020, a bydd y secondiadau hyn yn parhau tan o leiaf 30 Mehefin 2022, pan fydd dull mwy rhanbarthol o reoli achosion a chysylltiadau agored i niwed yn cael ei roi ar waith. Cafodd swyddog arall a’r Swyddog Arweiniol dros Ddiogelwch Bwyd eu secondio’n rhannol tra hefyd yn parhau i oruchwylio’r gwasanaeth Bwyd. Parhaodd y secondiad rhannol hwn hyd at ddiwedd mis Mawrth 2022.
Yn ogystal â secondiadau allan o’r Tîm Bwyd i weithio ar yr Ymateb i Covid-19, gadawodd Swyddog Diogelwch Bwyd Ardal profiadol y tîm ym mis Mai 2021 a gadawodd y Prif Swyddog Safonau Masnach (Safonau Bwyd) yr Awdurdod ym mis Medi 2021. Aeth swyddog arall ar Absenoldeb Mamolaeth yn 2021.
Er bod swyddog o’r tîm yn gallu camu i fyny i rôl y Swyddog Arweiniol (Safonau Bwyd), creodd hyn swydd wag ychwanegol yn y tîm. Yn ffodus bu’n bosibl recriwtio Swyddog Iechyd yr Amgylchedd a Swyddog Diogelwch Bwyd Ardal i’r Tîm yn hydref 2021. Fodd bynnag, secondiwyd un o’r swyddogion newydd ei benodi i dîm arall yn Diogelu’r Cyhoedd ar 1 Ebrill 2022, oherwydd prinder staff.
Yn ogystal, bydd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd arall yn ymddeol o’r tîm ym mis Mehefin 2022.
Hefyd yn unol â meysydd eraill, cafodd y tîm Bwyd ei effeithio’n sylweddol gan brofedigaethau teuluol, salwch personol ac afiechydon teuluol difrifol yn 2021 a 2022, a arweiniodd at nifer o absenoldebau hirdymor o’r Tîm.
Mae’r materion hyn wedi cael effaith gyfyngol ar ba mor gyflym y mae Cynllun Adfer Awdurdodau Lleol yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi’i roi ar waith, ac i ba raddau y bydd modd ei roi ar waith yn 2022-23.
4.3 Cynllun Datblygu Staff
Cytunir ar flaenoriaethau hyfforddiant blynyddol ar gyfer pob aelod o’r staff, fel rhan o broses flynyddol adolygu perfformiad. Cedwir cofnodion o’r adolygiadau perfformiad hyn a’r hyfforddiant a nodwyd.
Mae’r Awdurdod yn manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant rhad sy’n cael eu cynnig gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a CIEH (Cymru) pan fyddant ar gael, er bod gostyngiad amlwg yn y cyrsiau a gynigiwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dim ond un neu ddau o gynrychiolwyr y mae llawer o gyrsiau’n caniatáu iddynt eu mynychu, er bod rhai cyrsiau hyfforddi hunan-dywys ar gael ar wefan yr ASB. At hynny, mae modd rhoi hyfforddiant yn fewnol, drwy ddefnyddio adnoddau Adran Hyfforddi a Datblygu’r Awdurdod, neu drwy gontractio hyfforddwyr allanol mewn achosion priodol. Pan fo angen hyfforddiant ychwanegol bydd aelodau’r staff yn cael eu hanfon ar gyrsiau/seminarau allanol. Defnyddir cyfarfodydd tîm hefyd fel cyfle i ddarparu hyfforddiant.
Yn ystod 2021-22, elwodd swyddogion yn y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd ar ystod o gyfleoedd hyfforddi ffurfiol. Roedd y cyrsiau hyn yn cynnwys:
- Ariannodd yr ASB un swyddog newydd ei benodi i fynychu Cymeradwyaeth Safonau Bwyd Prifysgol Birmingham ar gyfer y Dystysgrif Uwch mewn Rheoli Bwyd
- Hyfforddiant a gweminarau ABC ar-lein a brynwyd yn breifat, y gellir eu cyrchu mewn amser real neu wedi hynny, a oedd yn galluogi swyddogion i reoli’r amser a dreuliwyd ar hyfforddiant yn fwy effeithlon a hyblyg. Ymarfer Cysondeb Cenedlaethol mewnol yr ASB
- Hyfforddiant Bwyd wedi’i Fewnforio i swyddogion y tîm Bwyd, mewn perthynas â rheolaethau mewn porthladdoedd ac mewn safleoedd mewndirol
- Hyfforddiant Gorsensitifrwydd yr ASB.
Edrychir am gyfleoedd ychwanegol i rannu gwybodaeth mewn perthynas ag arolygiadau safleoedd cymeradwy drwy gynnal ymweliadau ar y cyd.
Wrth flaenoriaethu hyfforddiant i ddiwallu anghenion allweddol busnes/gwasanaeth, bydd yr Awdurdod yn ceisio sicrhau bod pob swyddog yn derbyn hyfforddiant technegol a phroffesiynol o safon ddigonol i fodloni Cod Ymarfer y Ddeddf Diogelwch Bwyd, a gofynion Datblygiad Proffesiynol Parhaus sydd ei angen i gynnal statws proffesiynol.
Mae cyllideb hyfforddiant o ryw £5746 ar gael i’r Adran gyfan ar gyfer 2022-23. O 2019 ymlaen, dyblodd y DPP sy’n ofynnol gan y Cod Ymarfer o 10 i 20 awr, gan roi mwy o bwysau ar y gwasanaeth yn y maes hwn trwy ofynion Datblygiad Proffesiynol Parhaus cynyddol a’r angen i ddiweddaru polisïau a gweithdrefnau presennol sy’n ymwneud ag awdurdodiadau a chymwyseddau. Mae’r Adran hefyd yn manteisio ar gyllid rheolaidd yr Asiantaeth Safonau Bwyd a ddarperir i swyddogion fynychu cyrsiau a digwyddiadau hyfforddi, yn ogystal â thanysgrifio i wasanaeth Hyfforddiant Cyfraith Bwyd proffesiynol ar-lein, i gynorthwyo a sicrhau bod swyddogion yn cael yr hyfforddiant angenrheidiol i fodloni rhwymedigaethau’r Cod Hyfforddiant Ymarfer.
Cofrestru Safleoedd Bwyd
Mae’r Awdurdod yn gyfrifol am gofrestru safle bwyd yn statudol dan Reoliad 852/2004 y Gymuned Ewropeaidd (EC) ar hylendid bwydydd. Estynnodd y Rheoliadau hyn, a ddaeth i rym ar y 1af o Ionawr 2006, y gofyniad cofrestru i gynnwys yr holl gynhyrchwyr sylfaenol. Daeth hyn â chynhyrchwyr sylfaenol i mewn i raglen arolygu hylendid bwyd yr awdurdod lleol.
Caiff cyfrifoldeb dros orfodi ar lefel cynhyrchu sylfaenol ei rannu rhwng y Timau Diogelwch a Safonau Bwyd ac Iechyd a Lles Anifeiliaid, gyda’r Tîm Iechyd a Lles Anifeiliaid yn gyfrifol am yr holl ffermydd anifeiliaid a’r rhai sy’n cynhyrchu cnydau ar gyfer porthi anifeiliaid.
Er bod y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd yn bwriadu arolygu safleoedd bwyd newydd a’r rheiny lle bu newid perchenogaeth cyn pen 28 diwrnod o ddechrau gweithrediadau, caiff adnoddau eu blaenoriaethu tuag at y rhai sy’n risg uchel o ran hylendid a/neu safonau bwyd.
Yn ystod pandemig Covid-19, cydnabuwyd na allai awdurdodau lleol gyflawni hyn ym mhob achos, oherwydd nifer o resymau fel safleoedd ddim yn cael bod ar agor, ac ar adegau gwahanol, arolygiadau’n cael eu gohirio. Felly, lle derbyniwyd cofrestriadau newydd, y disgwyl oedd y dylai awdurdodau lleol flaenoriaethu archwiliadau o geisiadau am gymeradwyaeth o dan 853/2004, h.y. safleoedd sy’n delio mewn cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid ac sy’n cyflenwi busnesau eraill, a hefyd flaenoriaethu (ar adegau pan na chafodd arolygiadau eu gohirio ac roedd safleoedd ar agor) busnesau sydd newydd gofrestru a fyddai’n debygol o fod yn risg uchel, neu lle’r oedd gwybodaeth yn awgrymu y gallai’r safle beri risg. Am y rheswm hwnnw, yng nghynllun eleni, ni ddarperir data ar nifer y safleoedd a archwiliwyd o fewn y 28 diwrnod arferol.
Fodd bynnag, derbyniwyd 251 o gofrestriadau newydd yn ystod 2021-22, ac ar ôl asesu risg, arolygwyd 107 ohonynt. Cafodd rhestr o 96 o safleoedd risg uchel heb sgôr ei chario ymlaen i’r flwyddyn 2022-23 fel blaenoriaeth i’w harchwilio ochr yn ochr â’r blaenoriaethau eraill a nodir yng Nghynllun Adfer ALl yr ASB. Mae hyn yn cymharu â 276 o gofrestriadau newydd a dderbyniwyd ar 2020-21 a 254 yn 2019-20.
Ar 1 Ebrill 2022, roedd cyfanswm o 482 o safleoedd cofrestredig heb sgôr ar y gronfa ddata. Yn dilyn arolygiad cychwynnol, caiff safleoedd bwyd eu hychwanegu at y rhaglen arolygu arfaethedig.
Ceisiadau am wasanaeth
Bydd yr Awdurdod yn derbyn ceisiadau am wasanaeth o amrywiol ffynonellau, gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd, busnesau, atgyfeiriadau oddi wrth awdurdodau lleol eraill ac, yn achlysurol, oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Mae ceisiadau am wasanaeth yn cynnwys:
- cwynion oddi wrth aelodau o’r cyhoedd ynghylch safon hylendid mewn safleoedd bwyd
- cwynion ynghylch bwydydd sydd: yn anaddas; wedi eu llygru gan ddeunydd allanol; heb fod o’r natur, y sylwedd neu’r ansawdd a ddisgwylid; wedi ei gamlabelu; ac, wedi ei gamddisgrifio
- ceisiadau am gymeradwyaeth i safle bwyd
- ceisiadau am wybodaeth a chyngor ynghylch materion hylendid a safonau bwyd gan fusnesau
- ceisiadau gan awdurdodau lleol eraill ynghylch bwydydd a gynhyrchwyd yn lleol sydd wedi cael eu gwerthu y tu allan i’r Sir ac sy’n destun cwyn
- ceisiadau am wybodaeth neu ymyriad a dderbyniwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Nid yw ceisiadau am ‘ail ymweliadau i ailsgorio’ ac apeliadau yn erbyn sgorau o dan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wedi eu cynnwys yn y ffigurau hyn, gan eu bod wedi eu trafod yn gynharach yn y Cynllun hwn (gweler 2.6.2). Yn yr un modd, mae hysbysiadau milheintiau a gwenwyn bwyd a chlefydau heintus wedi eu heithrio o’r pennawd yma, ond yn cael eu trafod yn nes ymlaen yn y Cynllun hwn (gweler 3.7). Nod yr Awdurdod yw ymateb i’r holl geisiadau am wasanaeth o fewn 10 diwrnod gwaith a chyflawni hyn yn 95% o’r holl achosion.
Fe all ymateb fod yn alwad ffôn, neges e-bost, llythyr neu ymweliad, yn dibynnu ar yr amgylchiadau ym mhob achos.
Fodd bynnag, caiff ceisiadau a dderbynnir gan y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd am wasanaeth eu dosbarthu ymhellach fel rhai brys neu beidio, gydag unrhyw geisiadau am wasanaeth brys yn derbyn ‘ymateb cyntaf’ o fewn 1 diwrnod gwaith.
Dengys y tabl canlynol y perfformiad a gyflawnwyd yn erbyn safonau gwasanaeth y 6 blynedd ddiwethaf:
Perfformiad |
16-17 |
17-18 |
18-19 |
19-20 |
20-21 |
21-22 |
Nifer y ceisiadau am wasanaeth brys | 51 | 45 | 25 | 19 | 5 | 26 |
Y ganran a gafodd ‘ymateb cyntaf’ o fewn 1 diwrnod gwaith | 96.1% | 95.6% | 100% | 100% | 100% | 92.3% |
Nifer y ceisiadau am wasanaeth heb fod ar frys | 860 | 862 | 1050 | 1101 | 1798 | 925 |
Y ganran a gafodd ‘ymateb cyntaf’ o fewn y dyddiad targed | 98.4% | 92.5% | 96.6% | 96.6% | 86.4% | 95.6% |
Mae lefel y perfformiad yn erbyn y ddau ddangosydd yma wedi aros yn gyson uchel, a gellir gweld hefyd yn 2020-21, sef blwyddyn gyntaf pandemig Covid-19, fod nifer y ceisiadau am wasanaeth yn sylweddol uwch na blynyddoedd eraill. Mae’r rhif hwn yn cynnwys 1038 o geisiadau am wasanaeth cysylltiedig â Covid-19 yr ymdriniwyd â hwy gan y Tîm Bwyd. Roedd nifer y ceisiadau am wasanaeth yr ymdriniwyd â hwy gan y Tîm Bwyd wedi gostwng i fod yn nes at y nifer arferol yn 2021-22 oherwydd bod Swyddogion Gorfodi Covid yr Awdurdod yn eu lle ac yn gyfrifol am dderbyn ceisiadau am wasanaeth yn ymwneud â Covid-19 yn y flwyddyn honno.
Ar ôl gwneud ‘ymateb cyntaf’ disgwylir i swyddogion yn gyffredinol ‘gymryd camau’ mewn ymateb i geisiadau brys am wasanaeth ar yr un diwrnod gwaith ac mewn ymateb i geisiadau heb fod yn rhai brys o fewn 10 diwrnod gwaith (llaciwyd hwn o 5 diwrnod gwaith o 2014-15 er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i swyddogion i gyd-drefnu unrhyw ymweliadau angenrheidiol gyda’r nod o leihau gwariant ymhellach ar filltiroedd teithio).
3.3.1 Cwynion ynghylch safleoedd
Bydd yr Awdurdod yn ymchwilio’n llawn i gwynion yn ymwneud â chyflwr hylendid safle bwyd:
- pan fo’r amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn gallu peri risg sylweddol i iechyd y cyhoedd, a/neu
- pan fo’r amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn peri pryder parhaus a/neu i lawer o’r cyhoedd, a/neu
- pan fo gan y busnes hanes cydymffurfio gwael
Rhoddir cwynion yn nhrefn blaenoriaeth i’w harchwilio fel a ganlyn:
Blaenoriaeth (Risg): Uchel
Targed ar gyfer ymchwilio: Yr un diwrnod
Blaenoriaeth (Risg): Cymedrol
Targed ar gyfer ymchwilio: 10 diwrnod gwaith
Blaenoriaeth (Risg): Isel
Targed ar gyfer ymchwilio: Hysbysu’r busnes ac ystyried yn ystod yr ymweliad arferol nesaf
Cafodd y targed ar gyfer ymchwilio i gwynion risg ‘cymedrol’ ei lacio ar ddechrau 2014-15, o’r 5 diwrnod gwaith blaenorol, i 10 diwrnod gwaith er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i swyddogion gyd-drefnu unrhyw ymweliadau angenrheidiol yn well gyda’r nod o leihau gwariant ymhellach ar filltiroedd teithio.
Pan nad yw’r gŵyn yn cyfiawnhau ymchwiliad llawn, bydd y Cyngor, pan fo’n briodol, yn hysbysu’r busnes am y mater, gan nodi unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion da a allai fod yn berthnasol, a bydd yn gwneud cofnod o’r gŵyn i’w hystyried yn yr ymweliad arferol nesaf. Wrth wneud hynny, gwahoddir y busnes i ymateb yn ysgrifenedig, fel cofnod o unrhyw ymchwiliad a chamau gweithredu mewnol.
Bydd cwynion yr amheuir eu bod yn flinderus a/neu barhaus yn cael eu trin yn unol â ‘Gweithdrefn Cyfathrebu Afresymol o Barhaus ac Ymddygiad Afresymol Cwsmeriaid’ y Cyngor.
Derbyniwyd 88 o gwynion ynghylch safleoedd busnes bwyd yn ystod 2021-22, gydag 16 o’r cwynion hyn yn ei gwneud yn ofynnol ymweld â’r safle dan sylw.
Dengys y siart canlynol nifer y cwynion ynghylch safle a dderbyniwyd yn ystod 2021-22 mewn cymhariaeth â phob un o’r 8 mlynedd flaenorol a’r gyfran gymharol o gwynion yr ymchwiliwyd iddynt drwy ymweld â’r safle dan sylw.
Cwynion yn ymwneud a safleoedd bwyd 2013-14 i 2021-22
Premises notified
- 2013-14: 116
- 2014-15: 90
- 2015-16: 77
- 2016-17: 118
- 2017-18: 99
- 2018-19: 81
- 2019-20: 71
- 2020-21:54
- 2021-22: 80
Premises visited
- 2013-14: 46
- 2014-15: 33
- 2015-16: 59
- 2016-17: 29
- 2017-18: 18
- 2018-19: 18
- 2019-20: 25
- 2020-21:5
- 2021-22: 8
Cwynion yn ymwneud a safleoedd bwyd yn ol categori risg 2021-22
- Uchel: 16
- Cymedrol: 34
- Isel: 38
3.3.2 Cwynion ynglŷn â bwyd
Bydd yr Awdurdod yn ymchwilio i gwynion ynghylch diogelwch ac iachusrwydd bwyd; bwyd a halogwyd gan ddeunydd estron neu gemegion; ansawdd bwyd; a labelu a chyfansoddiad bwyd.
Gall ymchwiliadau i gwynion ynglŷn â bwyd gymryd llawer iawn o amser a gallant, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf, ddargyfeirio adnoddau yn y tîm er anfantais o safbwynt cyflawni gwaith arall.
O ganlyniad, ni fydd cwynion ynglŷn â bwyd yn destun ymchwiliad ‘llawn’ oni bai:
- bod risg sylweddol i iechyd y cyhoedd, a/neu
- bod pryder parhaus i’r cyhoedd, a/neu
- bod gan y busnes hanes cydymffurfio gwael, a/neu
- bod tor-cyfraith wedi ei nodi sy’n debygol o barhau neu ailddigwydd, a/neu
- bod y math o doriad yn eang a/neu
- ei bod yn bosibl bod y toriad yn ganlyniad gweithred fwriadol.
Rhoddir cwynion yn nhrefn blaenoriaeth i’w harchwilio fel a ganlyn:
Blaenoriaeth (Risg): Uchel
Targed ar gyfer ymchwilio: Yr un diwrnod
Blaenoriaeth (Risg): Cymedrol
Targed ar gyfer ymchwilio: 10 diwrnod gwaith
Blaenoriaeth (Risg): Isel
Targed ar gyfer ymchwilio: Hysbysu’r busnes ac ystyried yn ystod yr ymweliad arferol nesaf
Cafodd y targed ar gyfer ymchwilio i gwynion risg ‘cymedrol’ ei lacio ar ddechrau 2014-15 o’r 5 diwrnod gwaith blaenorol i 10 diwrnod gwaith, er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i swyddogion gyd-drefnu unrhyw ymweliadau angenrheidiol yn well gyda’r nod o leihau gwariant ymhellach ar filltiroedd teithio.
Pan nad yw’r gŵyn yn cyfiawnhau ymchwiliad llawn, bydd y Cyngor, pan fo’n briodol, yn hysbysu’r busnes am y mater, gan nodi unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion da a allai fod yn berthnasol, a bydd yn gwneud cofnod o’r gŵyn i’w hystyried yn yr ymweliad arferol nesaf, lle bo hynny’n briodol. Wrth wneud hynny, gwahoddir y busnes i ymateb yn ysgrifenedig, fel cofnod o unrhyw ymchwiliad a chamau gweithredu mewnol. Yn yr achos hwn, gwahoddir yr achwynydd i ddychwelyd unrhyw eitem a brynwyd i’r gwneuthurwr/adwerthwr fel bo’n briodol, i’w chyfnewid o bosibl.
Bydd y system frysbennu hon yn cael ei hadolygu fel rhan o waith monitro arferol y tîm.
Bydd cwynion yr amheuir eu bod yn flinderus a/neu’n barhaus yn cael eu trin yn unol â ‘Gweithdrefn Cyfathrebu Afresymol o Barhaus ac Ymddygiad Afresymol Cwsmeriaid’ y Cyngor.
Pan fo’r bwyd yn tarddu o’r tu allan i’r Sir, adroddir am y gŵyn wrth yr Awdurdod Cartref perthnasol, neu efallai yr ymchwilir iddi mewn cydweithrediad â’r Awdurdod Cartref a/neu’r Awdurdod Gwreiddiol a/neu’r Awdurdod Sylfaenol fel y bo’n briodol.
Pan gaiff ymchwiliad ei gynnal, bydd hyn yn cael ei wneud yn anffurfiol:
- pan nad yw’r drosedd yn ddifrifol (e.e. nid oes unrhyw risg i iechyd defnyddwyr)
- pan fo tyst allweddol yn gwrthod gwneud datganiad
- a/neu pan fo tyst allweddol yn cadarnhau’n ysgrifenedig nad yw’n barod i fynd i’r llys.
At hynny, bydd ymchwiliadau’n cael eu cwtogi:
- pan fo’r ymchwiliad cychwynnol yn dangos nad oes unrhyw ddiben buddiol i gymryd camau pellach (e.e. pan fydd adroddiad y dadansoddwr cyhoeddus neu’r arolygydd bwyd yn cadarnhau na chyflawnwyd trosedd)
- pan nad oes modd profi bod gobaith rhesymol o sicrhau collfarn (e.e. pan fo tebygolrwydd amddiffyniad diwydrwydd dyladwy).
Derbyniwyd 40 o gwynion ynglŷn â bwyd yn ystod 2021-22.
Dengys y siart canlynol nifer y cwynion ynglŷn â bwyd a dderbyniwyd yn ystod 2021-22 mewn cymhariaeth â phob un o’r 5 mlynedd flaenorol:
Cwynion ynglyn â bwyd 2016-17 i 21-22
- 16-17: 73
- 17-18: 55
- 18-19: 65
- 19-20: 51
- 20-21: 46
- 21-22: 40
Dengys y siart canlynol nifer y cwynion a dderbyniwyd yn ôl categori risg:
Cwynion ynglyn a bwyd yn ol categori risg 2021-22
- Uchel: 10
- Cymderol: 11
- Isel: 19
Mae’r siart canlynol yn darlunio natur y cwynion ynglŷn â bwyd a dderbyniwyd yn ystod 2021-22:
Cwynion ynglyn â bwyd yn ôl natur 2021-22
- Microbiolegol: 14
- Deunydd Estron: 18
- Cemegol: 4
- Safonau: 4
Mae nifer y cwynion oherwydd halogiad microbiolegol, cemegol a deunydd estron yn ymddangos fel pe bai yn tueddu i ostwng ar sail y 4 blynedd ddiwethaf. Byddwn yn gweld maes o law i ba raddau y mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith ar y niferoedd hyn.
Cwynion ynglŷn â bwyd yn ôl natur
|
17-18 |
% |
18-19 |
% |
19-20 |
% |
20-21 |
% |
21-22 |
% |
Microbiolegol | 24 | 44% | 16 | 29% | 16 | 29% | 18 | 33% | 14 | 25% |
Deunydd Estron | 12 | 22% | 18 | 33% | 17 | 31% | 13 | 24% | 18 | 33% |
Cemegol | 7 | 13% | 16 | 29% | 5 | 9% | 6 | 11% | 4 | 7% |
Safonau | 12 | 22% | 15 | 27% | 13 | 24% | 9 | 16% | 4 | 7% |
Cyfanswm | 55 | - | 65 | - | 51 | 46 | - | 40 | - |
Gan fod niferoedd cwynion o’r fath yn eithaf isel ar y cyfan, nid yw’n amlwg a fydd y duedd hon yn parhau. Efallai bod y lefel isel o gwynion yr adroddir amdanynt yn arwydd o lefelau cyffredinol uwch o gydymffurfio a geir yn y busnesau bwyd.
3.3.3 Cymeradwyo safleoedd bwyd sy’n dod dan Reoliad 853/2004 EC, sy’n pennu rheolau penodol ar gyfer hylendid bwyd sy’n tarddu o anifeiliaid
Mae’r Awdurdod yn gyfrifol am gymeradwyo yn statudol safle bwyd sy’n dod dan Reoliad 853/2004 EC, sy’n pennu rheolau penodol ar gyfer hylendid bwyd sy’n tarddu o anifeiliaid (yn bennaf safleoedd sy’n ymwneud â gweithgynhyrchu a/neu gyfanwerthu cig a chynhyrchion cig, llefrith a chynhyrchion llefrith a physgod a chynhyrchion pysgod).
Mae’r gofynion cymeradwyo a’r broses asesu’n gymharol feichus a gall olygu cyfres o ymweliadau cynghori a/neu arolygiadau cyn cymeradwyo.
Mae nifer mawr o safleoedd cymeradwy yn Sir Benfro mewn cymhariaeth â llawer o awdurdodau lleol eraill.
Derbyniwyd 3 chais am gymeradwyaeth yn ystod 2021-22, 1 gan safle puro wystrys, 1 gan gynhyrchwr eog wedi’i fygu’n oer, ac 1 gan fusnes prosesu crancod a chimychiaid, hefyd yn dosbarthu cregyn bylchog byw, cregyn gleision ac wystrys.
3.3.4 Ymholiadau a cheisiadau am gyngor
Mae’r Awdurdod yn cydnabod pwysigrwydd rhoi cyngor dibynadwy, pwrpasol i fusnesau. Mae hyn, yn enwedig, yn:
- gymorth i feithrin a chynnal perthynas waith gadarnhaol rhwng swyddogion gorfodi a busnesau;
- rhoi cymorth rhagweithiol i gydymffurfio amserol (ac, yn achos busnesau bwyd, mae’n helpu’r busnes i sicrhau Sgôr Hylendid Bwyd da);
- cefnogi mabwysiadu arferion gorau;
- helpu busnesau i osgoi gwariant diangen;
- lleihau’r tebygolrwydd y bydd bwyd yn cael ei adalw, sy’n gostus;
- lleihau’r tebygolrwydd o orfodi dilynol a dirwyon posibl;
- helpu busnesau i ddatblygu a chynnal enw da;
- helpu i ddiogelu ein cymunedau;
- cyfrannu at yr agenda iechyd cyhoeddus ehangach.
Yn draddodiadol mae’r Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd wedi rhoi cyngor a chefnogaeth i fusnesau bwyd presennol a newydd, gan gefnogi eu hymdrechion i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol ac, yn y pen draw, eu llwyddiant economaidd.
Fodd bynnag, fel gydag awdurdodau lleol ar hyd a lled y DU, mae’r Awdurdod yn dal i wynebu gostyngiadau yng nghymorth ariannol y Llywodraeth ac, o ganlyniad, mae’n wynebu penderfyniadau cyllidebu anodd.
Er bod mwyafrif llethol swyddogaethau ein Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd yn ofynion statudol ac yn cael eu cyflawni’n unol â chanllawiau statudol, mae darparu ymweliadau cynghori, a gweithgareddau cysylltiedig o fath ymgynghorol, yn fwy na’r hyn sy’n ofynnol i’r Awdurdod eu gwneud, ac ystyriwyd bod darparu’r gwasanaethau ‘am ddim’ hyn yn anghynaladwy yng nghyd-destun blaenoriaethau corfforaethol ehangach.
Fodd bynnag, er mwyn dal i sicrhau bod y cymorth hwn ar gael i fusnesau, cyflwynwyd gwasanaeth cynghori newydd ‘ar sail ffi’ ar gyfer diogelwch a safonau bwyd ar y 1af o Ebrill 2016, yn cynnig amrywiaeth eang o gyngor, gan gynnwys y canlynol:
- Cyngor ynglŷn â chynllun, adeiledd, cyfleusterau ac offer y safle.
- Cyngor ynghylch arferion a gweithdrefnau diogelwch bwyd (e.e. gofynion rheoli tymheredd, a sut y gallai’r busnes gadw at ganllawiau i reoli perygl traws-halogiad E.coli, pan fo hynny’n briodol).
- Cyngor/cymorth wrth ddatblygu systemau rheoli diogelwch bwyd/HACCP a chadw cofnodion sy’n gymesur â’r busnes.
- Cyngor ynghylch y gofynion yn ymwneud â hyfforddi, cyfarwyddo a goruchwylio trinwyr bwyd.
- Cyngor ynglŷn â’r meini prawf sy’n cael eu hystyried dan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, a’r gofynion cyffredinol i’w hateb er mwyn cyrraedd sgôr uchel – helpu busnesau newydd i gael y cychwyn gorau.
- Cyngor ynghylch/cymorth i samplu bwyd ac arwyddocâd unrhyw ganlyniadau.
- Cyngor ynghylch cydymffurfio â labelu alergenau bwyd/gofynion gwybodaeth.
- Cyngor ynghylch cydymffurfio â gofynion eraill labelu/disgrifio/hysbysebu bwyd.
- Cyngor ynglŷn â gofynion cyfansoddol bwyd.
- Cymeradwyo labeli bwyd/bwydlenni/gwefannau/hysbysebion eraill a baratowyd gan y busnes.
- Archwiliadau safleoedd bwyd (‘gwiriadau iechyd’).
Mae rhagor o fanylion y gwasanaeth hwn, gan gynnwys ffioedd a thaliadau, a thelerau ac amodau llawn, i’w cael ar wefan y Cyngor yn www.pembrokeshire.gov.uk/foodlawadvice
Mae’r cyngor/cymorth canlynol yn dal i gael ei ddarparu am ddim:
- Gwybodaeth a/neu gyngor sylfaenol, ar lafar mewn ymateb i geisiadau achlysurol dros y ffôn.
- Cyhoeddi taflenni/llyfrynnau canllawiau perthnasol.
- Anfon llythyrau/negeseuon e-bost at sectorau busnes perthnasol, i dynnu sylw at ddeddfwriaeth a chanllawiau sy’n newydd neu wedi newid, ac i ategu ymgyrchoedd arbennig i godi ymwybyddiaeth.
- Darparu gwybodaeth drwy adran gynghori gwefan y Cyngor.
- Rhoi gwybodaeth a/neu gyngor yn ymwneud ag archwiliadau ac ymweliadau rheoleiddiol eraill.
Wrth symud oddi wrth wasanaeth cynghori am ddim, rhoddir pwyslais ychwanegol ar wella’r wybodaeth uchod, lle bo modd, er mwyn cynyddu mynediad at wybodaeth allweddol ac annog cydymffurfio amserol.
Yn ystod 2021-22 darparodd y Tîm Diogelwch a Safonau gyngor ar sail ffi i 1 busnes yn Sir Benfro, mewn cymhariaeth â 0 yn 2020-21 a 44 yn 2019-20. Yn dilyn adolygiad corfforaethol o ffioedd a thaliadau yn ystod 2017-18, codwyd y ffi am y gwaith hwn er mwyn sicrhau bod y gost lawn am y gwasanaeth a ddarperir yn cael ei hadennill.
Mae’r gostyngiad yn nifer yr ymweliadau cyngor â thâl y gofynnwyd amdanynt bron wedi dod i ben yn ystod cyfnod pandemig Covid-19 ac yn ystod cyfnod Adfer yr Awdurdod Lleol, bydd y Tîm Bwyd yn blaenoriaethu gwneud gwaith hwyr a risg uchel, i fodloni gofynion y Cynllun Adfer. Felly, rhagwelir na fydd unrhyw ymweliadau cynghori â thâl yn cael eu cynnal yn 2022-23.
Rhoddir gwybodaeth fwy penodol ar roi ‘cyngor pendant’ i fusnesau, sy’n dod dan drefniant Awdurdod Sylfaenol, dan Adran 3.4 isod, ac ystyrir unrhyw gyfleoedd i ymestyn trefniadau o’r fath ymhellach, gan gadw unrhyw flaenoriaethau a chyfyngiadau ehangach mewn cof.
Ym mhob achos, pan fo angen cyngor neu gymorth mwy manwl na all yr Awdurdod ei ddarparu, caiff busnesau eu cyfeirio at gymdeithasau masnachol, ymgynghorwyr, neu arbenigwyr perthnasol, fel bo’n briodol.
Yn ystod 2021-22, derbyniwyd 307 o ymholiadau.
Dengys y siartiau canlynol nifer yr ymholiadau cyffredinol ynghylch bwyd a dderbyniwyd yn ystod 2021-22 mewn cymhariaeth â phob un o’r 9 mlynedd flaenorol
Ymholiadau a Dderbyniwyd 2012-13 i 2021-22
Food standards
- 2012-13: 29
- 2013-14: 19
- 2014-15: 77
- 2015-16: 19
- 2016-17: 9
- 2017-18: 6
- 2018-19: 5
- 2019-20: 5
- 2020-21: 2
- 2021-22: 9
Food hygiene
- 2012-13: 356
- 2013-14: 355
- 2014-15: 293
- 2015-16: 339
- 2016-17: 300
- 2017-18: 301
- 2018-19: 515
- 2019-20: 524
- 2020-21: 527
- 2021-22: 550
Dengys y siart canlynol nifer yr ymweliadau cynghori y gofynnwyd amdanynt yn ystod 2021-22 mewn cymhariaeth â phob un o’r 9 mlynedd flaenorol.
Ymweliadau Cynghori 2012-13 i 2021-22
Food standards
- 2012-13: 2
- 2013-14: 1
- 2014-15: 2
- 2015-16: 0
- 2016-17: 0
- 2017-18: 0
- 2018-19: 2
- 2019-20: 0
- 2020-21: 0
- 2021-22: 0
Food hygiene
- 2012-13: 87
- 2013-14: 123
- 2014-15: 111
- 2015-16: 75
- 2016-17: 47
- 2017-18: 31
- 2018-19: 25
- 2019-20: 44
- 2020-21: 0
- 2021-22: 1
Cyflwynwyd trefniadau newydd ym mis Ebrill 2016 i godi tâl am ymweliadau cynghori i fusnesau bwyd oedd yn bodoli eisoes a rhai newydd. Y gobaith yw y gall cynnal ymweliadau cynghori fod yn ffactor defnyddiol i gynorthwyo busnesau i ennill sgorau da. Fodd bynnag, gan nad yw cynnal ymweliadau cynghori yn ddyletswydd statudol, mae wedi cael ei nodi fel gweithgaredd na ellir ei ddarparu ond lle bo’r busnes bwyd yn talu am yr ymweliad.
Mae nifer yr ymweliadau cynghori wedi gostwng yn gyson, ac er y gellid disgwyl i gyflwyno tâl gyfrannu at y gostyngiad hwn, mae’n anodd dweud faint ohono oedd yn barhad o’r duedd hon a faint oedd yn ganlyniad y taliadau. Gallai ffactorau eraill sydd wedi cyfrannu at y gostyngiad gynnwys gwell ymwybyddiaeth o ofynion Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, yn enwedig oherwydd y wybodaeth a’r deunyddiau sydd ar gael ar-lein, sydd wedi arwain at gynnydd mewn hyder a gwybodaeth ymhlith pobl sy’n rhedeg busnesau bwyd. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith fawr.
3.3.5 Atgyfeiriadau oddi wrth awdurdodau lleol eraill
Yn unol ag Egwyddor yr Awdurdod Cartref (gweler 3.4), bydd yr Awdurdod yn ymateb i geisiadau gan awdurdodau lleol eraill am wybodaeth briodol ynghylch bwydydd a gynhyrchwyd yn lleol ac a werthwyd y tu allan i’r Sir ac sy’n destun cwyn.
Ni dderbyniwyd yr un atgyfeiriad yn ystod 2021-22.
Cefndir
2.1 Proffil Sir Benfro
Sefydlwyd Cyngor Sir Penfro fel Awdurdod Unedol ym mis Ebrill 1996, gan ddwyn ynghyd y gwasanaethau a ddarparwyd gan y cynghorau sir a dosbarth blaenorol. Dyma’r prif gyflogwr yn y Sir gyda thua 6,000 o staff (cyflogres Rhagfyr 2016). Mae Sir Benfro ei hun yn sir wledig yn bennaf gyda phoblogaeth o 124,000. Hi yw pumed sir fwyaf Cymru yn ddaearyddol – yn cwmpasu arwynebedd o 1600 cilometr sgwâr. Mae Sir Benfro, fel sy’n gyffredin mewn llawer o ardaloedd gwledig, yn dibynnu ar fusnesau bach a micro i yrru’r economi. Mae 85% o fusnesau yn cyflogi llai na 10 o bobl, gyda chyfartaledd o 3.3 o weithwyr (yn 2011). Roedd diweithdra (cyfrif hawlwyr) Sir Benfro yn 3.1% ym mis Mai 2022 ac er bod lefelau’n dal yn isel, maent bellach yr un fath â llawer o awdurdodau lleol eraill Cymru, neu ychydig bach yn uwch.
Mae’r sectorau amaethyddol, bwyd a thwristiaeth yn gyflogwyr sylweddol yn y Sir ac mae ganddynt gadwyni cyflenwi lleol cryno. Mae twristiaeth wedi bod yn un o brif ffynonellau incwm Sir Benfro am y 160 mlynedd diwethaf. Mae’r diwydiant hwn yn arwain at gynnydd yn y boblogaeth i tua 230,000 o bobl yn yr haf, ac mae’n cyfrif am nifer sylweddol uchel o safleoedd arlwyo yn y Sir. Ar 1 Ebrill 2022 roedd 2835 o safleoedd bwyd cofrestredig yn y Sir fel y’u cofnodwyd ar gronfa ddata’r Awdurdod, ac o’r rhain mae tua 1843 (65%) yn fusnesau arlwyo. Mae hyn yn cymharu â 2350 o safleoedd ar ein cofrestr ar 1 Ebrill 2019. Mae’r nifer wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod cyfnod Covid-19, gyda nifer o bobl yn sefydlu busnesau tra ar ffyrlo o’u swyddi arferol. Dim ond am gyfnod byr y bydd rhai o’r busnesau newydd hyn wedi masnachu mewn cyfnod pan nad oedd swyddi arferol pobl ar gael. Fodd bynnag, mae’n rhaid mynd ar drywydd pob un i weld beth yw eu sefyllfa yn y tymor hwy. Bydd y cynnydd hwn yn nifer y safleoedd cofrestredig yn ychwanegu’n sylweddol at lwyth gwaith y Tîm Bwyd.
Mae’r prif drefi’n cynnwys tref sirol Hwlffordd, Dinbych-y-pysgod, Aberdaugleddau, Penfro, Abergwaun a Thyddewi. Mae’r prif ganolfannau twristiaeth yn tueddu i yn ne’r Sir, a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro mewn mannau eraill. Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot sy’n cynnig y crynhoad mwyaf o lety twristiaid. Mae Aberdaugleddau yn parhau i ganolbwyntio ar y diwydiant llongau, ac mae’n cynnwys glaniadau pysgod yn y porthladd. Mae porthladdoedd Abergwaun a Doc Penfro hefyd yn denu traffig ar y ffordd i Iwerddon ac mae ganddynt gyflogaeth yn seiliedig ar y porthladdoedd hyn.
2.2 Strwythur y Sefydliad
O fewn yr Awdurdod, yr Is-adran Diogelu’r Cyhoedd, sy’n rhan o’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymunedol, sy’n gyfrifol am orfodi cyfraith bwyd. Mae’r Is-adran yn cyflawni ystod eang o swyddogaethau iechyd yr amgylchedd a safonau masnach, ac mae wedi’i rhannu’n ddwy adran.
Yn dilyn newid sefydliadol yn 2017, mae’r Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd bellach yn rhan o’r Adran Iechyd a Diogelu Defnyddwyr, ac yn cael ei reoli gan y Rheolwr Diogelu’r Cyhoedd (Iechyd a Diogelu Defnyddwyr). Mae Adran Diogelu’r Cyhoedd hefyd yn cynnal adolygiad gwasanaeth ar hyn o bryd i ganfod yr adnoddau sydd eu hangen i ddarparu’r gwasanaeth yn y cyfnod ôl-Covid-19. Oherwydd dyrchafiad mewnol y Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd blaenorol, mae’r Adran ar hyn o bryd wedi’i gosod o dan Bennaeth Diogelu’r Cyhoedd a Gwasanaethau Tai cyfun, sy’n arwain yr adolygiad, gyda’r ddau Reolwr Diogelu’r Cyhoedd.
Mae’r swyddogaethau diogelwch a hylendid bwyd (a orfodir yn draddodiadol gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd) a swyddogaethau gorfodi safonau bwyd (a orfodir yn draddodiadol gan Swyddogion Safonau Masnach) wedi’u hintegreiddio o fewn yr Awdurdod, gan ddarparu gwasanaeth gorfodi cyfraith bwyd mwy cydlynol. Er y gellir ystyried/cynghori ar nifer gyfyngedig o faterion iechyd a diogelwch yn y gwaith yn ystod arolygiadau o safleoedd bwyd, mae’r gwaith rheoleiddio iechyd a diogelwch yn cael ei wneud yn gyffredinol gan y Tîm Rheoleiddio Iechyd a Diogelwch arbenigol. Adolygir i ba raddau y mae’r meysydd gwasanaeth hyn yn cael eu hintegreiddio er mwyn manteisio’n llawn ar y synergeddau sy’n bodoli ac i sicrhau bod y gwasanaethau’n cael eu darparu mor effeithlon ac effeithiol â phosibl. O ganlyniad, mae ymchwiliadau i glefydau heintus yn cael eu cynnal gan y Tîm Iechyd a Diogelwch o 1 Ebrill 2017, gyda’r Tîm Bwyd yn cymryd rhan yn gynnar yn y broses lle gallai safleoedd bwyd fod yn gysylltiedig â hynny.
Fodd bynnag, Rheolwr Diogelu’r Cyhoedd (Iechyd a Diogelu Defnyddwyr) sy’n bennaf gyfrifol am reoli clefydau trosglwyddadwy, sy’n cwmpasu gwaith tri o dimau’r Adran. Swyddog Arweiniol Iechyd yr Amgylchedd (Diogelwch Bwyd) o fewn y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd sy’n bennaf gyfrifol am faterion diogelwch bwyd a hylendid ac am reoli un o ddau dîm ardal. Pan fydd yr adran wedi’i staffio’n llawn, mae’r Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Arweiniol (Diogelwch Bwyd) yn cael ei gefnogi gan Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, sy’n cynorthwyo yn y rôl o fonitro ansawdd, cysondeb ac effeithiolrwydd gwasanaeth ar gyfer 6 aelod o staff gweithredol arall y Tîm (4 rhan-amser).
Swyddog Arweiniol Iechyd yr Amgylchedd (Safonau Bwyd) o fewn y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd sy’n bennaf gyfrifol am orfodi safonau bwyd a phan fydd wedi’i staffio’n llawn mae’n rheoli’r ail dîm ardal o 5 swyddog (3 rhan amser). Yn yr un modd, cefnogir y Prif Swyddog Safonau Masnach (Safonau Bwyd) gan Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd.
Yn ystod cyfnod Covid-19, bu nifer o ymddeoliadau o fewn y Tîm; roedd un swyddog ar absenoldeb mamolaeth, ac roedd secondiadau, gan gynnwys y Swyddog Safonau Masnach Arweiniol (Safonau Bwyd), a secondiadau i’r Tîm Tai Sector Preifat a’r Gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu a grëwyd yn Sir Benfro i olrhain cyswllt pobl â Covid-19 a’u cysylltiadau, a hefyd i ymchwilio i ddigwyddiadau a chlystyrau o’r haint mewn lleoliadau risg uchel fel cartrefi gofal, a lleoliadau risg uchel eraill megis ysgolion a gweithleoedd. Mae’r tîm wedi chwilio am staff newydd lle bo’n bosibl, ond mae gan y Tîm swyddi gwag ar hyn o bryd. Rhagwelir y bydd recriwtio pellach yn digwydd yn ystod y flwyddyn, i gryfhau gallu’r tîm Bwyd i weithredu Cynllun Adfer ALl yr ASB.
Mae’r Swyddog Arweiniol Iechyd yr Amgylchedd (Iechyd y Porthladdoedd), sy’n gyfrifol am reoli Tîm Iechyd y Porthladd o ddydd i ddydd, yn cynnal perthynas waith agos â’r Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Arweiniol (Diogelwch Bwyd) a Swyddog Arweiniol Iechyd yr Amgylchedd (Safonau Bwyd) o fewn y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd, mewn perthynas â gweithgareddau diogelwch a safonau bwyd, a thrwy hynny sicrhau cysondeb ar draws y Sir. Mae Tîm Iechyd y Porthladdoedd hefyd yn gyfrifol am yr holl weithgareddau samplu pysgod cregyn, y manylir arnynt yng Nghynllun Gwasanaeth Iechyd y Porthladdoedd.
Mae gan y ddau Uwch Swyddog Iechyd yr Amgylchedd hefyd gyfrifoldebau arbenigol am sefydliadau cig a chynhyrchion cig ‘cymeradwy’ a sefydliadau llaeth a chynhyrchion llaeth, sydd yn arbennig o dechnegol eu natur ac wedi’u cwmpasu gan ofynion a chanllawiau penodol. Mae gan y Prif Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (Iechyd y Porthladd) gyfrifoldeb arbenigol am y diwydiant pysgod cregyn lleol, gan gynnwys y rhaglenni samplu, ac am arolygu, cymeradwyo a gorfodi mewn perthynas â sefydliadau pysgodfeydd a llongau cymeradwy.
Mae nifer sylweddol o swyddogion yn gweithio’n rhan-amser.
Darperir cymorth gweinyddol i’r Adran gan un Cynorthwyydd Cymorth Technegol amser-llawn ac un rhan-amser, gyda mewnbwn pellach gan Goladwr System yr Is-adran, sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r wybodaeth ystadegol sydd ei hangen ar gyfer ffurflenni statudol, ac adroddiadau perfformiad sydd eu hangen i hwyluso rheolaeth y Gwasanaeth. Lleolir yr aelodau staff hyn yn Uned Fusnes yr Is-adran.
Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am orfodi bwyd anifeiliaid i Dîm Iechyd Anifeiliaid yr Is-adran yn 2006. Cytunwyd ar y trosglwyddiad hwn yn dilyn cyflwyno Rheoliad EC 183/2005, yn gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid, ar 1 Ionawr 2006. Roedd y ddeddfwriaeth hon yn golygu bod darpariaethau bwyd anifeiliaid yn berthnasol i ystod ehangach o lawer o safleoedd nag yn flaenorol, gan olygu bod angen rhaglen fwy cynhwysfawr o arolygiadau. O ystyried argymhellion Adroddiad Hampton a bwriadau’r Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol (y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch bellach), ystyriwyd ei bod yn briodol integreiddio’r ymweliadau hyn â bwyd anifeiliaid â’r rhai a wnaed at ddibenion iechyd anifeiliaid, gan felly osgoi gormodedd o wahanol ymweliadau â ffermydd. Ymdrinnir â’r gwaith hwn gan gynllun gwasanaeth ar wahân, sydd hefyd yn ymdrin â gorfodi hylendid bwyd ar ffermydd sy’n ymwneud yn bennaf â chynhyrchu sylfaenol, a gyflawnir eto gan Dîm Iechyd Anifeiliaid yr Is-adran. O fis Mawrth 2017, mae’r Tîm Iechyd Anifeiliaid hefyd yn rhan o’r Adran Diogelu Iechyd a Defnyddwyr – gweler y siart sefydliad (Atodiad 1), a chaiff ei reoli gan y Rheolwr Diogelu’r Cyhoedd (Diogelu Iechyd a Defnyddwyr).
Ym mis Ebrill 2019 symudodd y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd o Cherry Grove yn Hwlffordd ac maent bellach wedi’u lleoli yn:
Ystâd Ddiwydiannol Thornton
Thornton
Aberdaugleddau
Sir Benfro
Rhif Ffôn (01437) 775631
E-bost foodsafe@pembrokeshire.gov.uk
Ers 2008-09, mae’r Gwasanaeth wedi gweithredu cynllun gweithio hyblyg rhwng 7.00 a.m. a 10.00 p.m., o ddydd Llun i ddydd Gwener, gan fod hyn yn fwy cydnaws ag oriau gweithredu rhai busnesau bwyd. Mae gwasanaeth gwarantedig ar gael rhwng 09:00 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener. O bryd i’w gilydd mae swyddogion yn gweithio y tu allan i’r oriau hyn lle bo angen, yn enwedig er mwyn caniatáu ar gyfer archwilio busnesau/digwyddiadau sy’n gweithredu/sy’n digwydd dros y penwythnos. Mae gan bob swyddog liniadur a gallant weithio mewn gwahanol leoliadau ar draws y Sir yn ogystal â’u swyddfa.
Ers 1 Ebrill 2013 mae’r swyddogaethau diogelwch bwyd a chlefydau trosglwyddadwy wedi’u cwmpasu gan wasanaeth ymateb ‘argyfwng’ gwarantedig y tu allan i oriau swyddfa arferol. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei staffio gan swyddogion sydd wedi cymhwyso mewn gorfodi cyfraith bwyd o fewn Tîm Iechyd y Porthladd sydd hefyd wedi’u lleoli yn Ystâd Ddiwydiannol Thornton, ar ôl adleoli o Neuadd y Dref Aberdaugleddau.
Rhif Ffôn (01437) 776390
E-bost porthealth@pembrokeshire.gov.uk
Mae Tîm Iechyd y Porthladdoedd yn gweithredu system sifftiau gyda threfniadau wrth gefn ar gyfer argyfyngau – 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos trwy gydol y flwyddyn. O ddechrau 2017-18, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am fynd ar drywydd hysbysiadau neu honiadau cychwynnol o glefydau heintus (gan gynnwys gwenwyn bwyd posibl), ac am arwain ar reoli clefydau heintus yn gyffredinol, i Dîm Iechyd a Diogelwch yr Adran, gyda digwyddiadau’n cael eu hymchwilio, mewn ymgynghoriad ag un o Swyddogion Priodol penodedig y Cyngor a leolir gyda Thîm Diogelu Iechyd Canolbarth a Gorllewin Cymru (rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru), Matrix House, Northern Boulevard, Parc Menter Abertawe, Abertawe SA6 8DP. Darperir gwasanaeth hefyd gan Swyddogion Priodol sy’n
gweithredu o leoliadau eraill. Ehangwyd rôl yr holl Swyddogion Priodol i gynnwys cyfrifoldebau swyddogion meddygol dros iechyd y porthladdoedd yn ystod 2009-10, yn dilyn adolygiad cenedlaethol o drefniadau swyddogion meddygol a gwelliannau iddynt gan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol (Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach). Mae digwyddiadau clefydau heintus sy’n gysylltiedig â bwyd, sy’n gysylltiedig â gweithrediadau busnes bwyd, yn cael eu hymchwilio gan y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd. Rhoddir cyngor ar ficrobioleg bwyd a samplu gan yr Archwiliwr Bwyd, a gyflogir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y Labordy Bwyd, Dŵr a’r Amgylchedd yn Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru, Caerfyrddin. Y labordy hwn sy’n archwilio mwyafrif y samplau bwyd a gesglir i ddibenion gwyliadwriaeth a gorfodi. Mae cytundeb lefel gwasanaeth yn bodoli sy’n egluro cost y gwasanaethau a ddarperir.
Cyflwynir mwyafrif y samplau clinigol rheolaidd, a gesglir fel rhan o ymchwilio i wenwyn bwyd/clefydau heintus cysylltiedig arall, i’r labordy yn Ysbyty Cyffredinol Llwyn Helyg, Hwlffordd. Yn ystod 2011-12, yn dilyn gwaith tendro dan arweiniad Is-adran Gaffael Cyngor Sir Penfro ar ran Consortiwm Prynu Cymru, penododd Cyngor Sir Penfro Public Analyst Scientific Services Limited (PASS), Wolverhampton fel ei Ddadansoddwr Cyhoeddus o ddewis, yn lle ei ddarparwr blaenorol. Ers hynny, dadansoddwyd samplau safonau bwyd gan y darparwr hwn. Ailddyfarnwyd y contract ym mis Gorffennaf 2016.
.
Cyflenwi Gwasanaethau
Arolygiadau yw’r brif ffordd o sicrhau safonau priodol mewn safleoedd bwyd, gan gynrychioli’r hyn y mae llawer o randdeiliaid yn disgwyl a fydd yn digwydd. Ar ben hynny, dangosodd ymchwil fod busnesau bach i ganolig yn arbennig yn ffafrio cyswllt uniongyrchol ar eu safle, a chyngor a gwybodaeth benodol nad oes rhaid iddynt ei dehongli.
Mae’r Awdurdod yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl safleoedd bwyd yn cael eu harolygu mor aml ag sy’n addas o ystyried y risg sy’n gysylltiedig â’r safleoedd hynny. Bydd arolygiadau o safleoedd bwyd yn 2022-23 yn cael eu hasesu a’u blaenoriaethu yn unol â’r amserlenni a nodir yng Nghynllun Adfer ALl yr ASB.
Pan fo’n briodol a bod modd gwneud hynny, cynhelir arolygiadau hylendid a safonau bwyd yr un pryd, gan yr un swyddog, gan ostwng nifer yr ymweliadau angenrheidiol â phob busnes.
3.2.1 Safleoedd bwyd yn ôl categori risg hylendid bwyd
Caiff safleoedd bwyd eu dosbarthu yn unol â’r cynllun sgorio yng Nghod Ymarfer y Ddeddf Diogelwch Bwyd. Defnyddir y cynllun i benderfynu amlder isaf yr arolygiadau a hyn yn ei dro yw sail rhaglen arolygu hylendid bwyd yr Awdurdod.
Mae canran y safleoedd ym mhob Categori Risg fel yr oedd pethau ar y 1af o Ebrill 2022 ac amlder isaf yr arolygiadau fel y dangosir isod:
Categori Risg |
Nifer y safleoedd (ar y 1af o Ebrill 2022) |
Canran y safleoedd (ar y 1af o Ebrill 2022) |
Amlder Arolygiadau |
A | 2 | 0.01 | Bob 6 mis |
B | 51 | 1.5% | Bob blwyddyn |
C | 643 | 22.2% | Bob 18 mis |
D | 570 | 17.8% | Bob 2 flynedd |
E | 1087 | 40.7% | Dim angen* |
Disgwyl arolygiad | 482 | 16% | - |
Yr holl safleoedd | 2835 | 100% | - |
Gweler Cynllun Adfer yr ASB yn 2.6(ii) uchod ar gyfer y gwahanol gerrig milltir yng Nghynllun Adfer yr ASB ar gyfer 2022-23, ac adran 3.2.4 isod lle ychwanegir gwerthoedd rhifiadol at y gwahanol gategorïau o waith.
Categori Risg Hylendid Bwyd ar 1 Ebrill bob Blwyddyn
Bu lleihad cyson a sylweddol iawn yn nifer y safleoedd yn y categorïau risg uwch (h.y. Categorïa Risg A-C) dros y 6 mlynedd diwethaf, gyda chynnydd cyfatebol yn nifer y safleoedd yn y categorïau risg is (h.y. Categorïau Risg D ac E). Mae nifer y safleoedd yng Nghategori A wedi amrywio rhwng 3 a 9 ers 2014 gyda 6 y nifer cyfartalog o safleoedd ers hynny. Ar 1 Ebrill 2022 mae 2 eiddo yng Nghategori Risg A.
Mae’n anodd dweud a fydd y duedd hon yn parhau ar ôl yr oedi mewn gweithgareddau gorfodi Bwyd yn sgil Covid-19. Mae tystiolaeth lafar gychwynnol gan swyddogion yn awgrymu, oherwydd yr amser ers i safleoedd gael eu harolygu ddiwethaf, y bu gostyngiad cyfatebol mewn cydymffurfiaeth, a fyddai’n arwain at asesu mwy o safleoedd i Gategori Risg uwch. Byddai hyn yn ei dro yn arwain at gynnydd yn nifer yr arolygiadau sydd eu hangen. Bydd y mater hwn yn cael ei asesu yn ystod y flwyddyn.
Mae nifer y safleoedd a’r meini prawf ar gyfer sgorio risg safle wedi aros yn gyson i raddau helaeth drwy gydol y cyfnod hwn, ac mae’r duedd yn dangos gwelliant mewn cydymffurfio o ran diogelwch bwyd ledled y Sir, er gwaethaf yr heriau a ddaeth yn sgil hinsawdd economaidd anodd.
Bydd nifer o ffactorau wedi cyfrannu i’r gwelliannau hyn, gan gynnwys:
- targedu’n effeithiol adnoddau gorfodi cyfraith bwyd yr Awdurdod a’i ymagwedd gyffredinol tuag at orfodi (cyfuniad gorfodi);
- y cymorth ychwanegol, yn arbennig ymweliadau hyfforddi’r System Rheoli Diogelwch Bwyd, a gynigiwyd i safleoedd nad oeddent yn ‘cydymffurfio’n fras’, a hyder isel yn y rheolaeth (gyda chymorth ariannol ychwanegol yr Asiantaeth Safonau Bwyd); a’r
- cymhelliad ychwanegol i gydymffurfio a grëwyd gan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd cenedlaethol, a lansiwyd ar ddiwedd 2010. Ym mis Chwefror 2018 cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ei hadolygiad 3 blynedd o weithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a roddodd dystiolaeth i lwyddiant mawr y Cynllun o ran sicrhau cydymffurfio gwell a chyson â diogelwch bwyd gan fusnesau bwyd, yn ogystal â rhoi mwy o dryloywder i ddefnyddwyr yng Nghymru.
Mae’r Awdurdod yn ymrwymedig i barhau i ddilyn y strategaethau hyn, gyda’r nod o sicrhau gwelliannau pellach dros y flwyddyn sydd i ddod.
Dengys y siart isod nifer yr arolygiadau oedd i fod i gael eu cynnal bob blwyddyn ers 2010-11:
Nifer yr Arolygiadau Cynlluniedig sy'n ofynnol bob blywyddyn
Fel y gwelir o’r tabl, oherwydd Covid-19 cafodd arolygiadau rhagweithiol eu gohirio i raddau helaeth yn 2020-21, am nad oedd safleoedd yn cael masnachu, a gwaith arferol, ac eithrio eiddo adweithiol risg uchel a cheisiadau am gymeradwyaeth, felly nid oes nifer wedi ei ddyrannu ar gyfer eleni. Mae’r ffigwr ar gyfer 2021-22 yn adlewyrchu dechrau’r cynllun adfer yn ystod y flwyddyn, gyda’r Cynllun yn canolbwyntio archwiliadau i geisiadau eiddo a gymeradwywyd, Categori A ar gyfer Hylendid a safleoedd risg uchel heb sgôr, yn ogystal â gwaith adweithiol risg uchel.
Fodd bynnag, mae’r ffigur ar gyfer 2022-23 yn cynnwys nifer yr arolygiadau i fodloni pob un o’r gwahanol gerrig milltir yn y Cynllun Adfer yn ystod 2022-23. Gellir gweld bod dwy golofn ar gyfer 2022-23, un ohonynt yn cynnwys archwiliad o bob un o’r 482 eiddo heb sgôr o 2021-22, a’r llall (mewn porffor) sy’n dangos nifer addasedig o archwiliadau sydd eu hangen os na fydd y safleoedd risg isel hwyr heb sgôr yn cael eu cynnwys. Gweler paragraff 3.2.4 isod am ddadansoddiad manylach o’r gwaith sydd i’w wneud, er mwyn bodloni Cynllun Adfer ALl yr ASB yn llawn.
Wrth gynnwys yr holl arolygiadau hwyr heb sgôr, mae nifer yr arolygiadau a ddisgwylir ar gyfer eleni yn llawer uwch nag unrhyw flwyddyn arall yn yr 11 mlynedd diwethaf, ac unrhyw flwyddyn cyn hynny. O ganlyniad i’r gofyniad hwn sydd wedi cynyddu’n sylweddol, y ffaith nad oes digon o staff yn sefydliad y Tîm Bwyd i gyrraedd targed mor uchel, a’r ffaith bod materion yn ymwneud â chapasiti staff, fel y manylir ymhellach ym Mharagraff 4.2 isod, nid oes digon o gapasiti i gwrdd â’r holl waith disgwyliedig yn y Cynllun, erbyn diwedd Mawrth 2023.
Mae’r ddwy golofn hyn wedi’u cynhyrchu oherwydd bod yr ASB wedi nodi (ond heb ei gadarnhau) y gallai awdurdodau lleol adael y safleoedd risg is heb sgôr allan o’r Cynllun Adfer ar gyfer 2022-23.
Mae nifer yr arolygiadau sy’n ofynnol bob blwyddyn yn y tabl uchod yn ymwneud â’r arolygiadau rhaglenedig gofynnol yn unig ac nid yw’n cynnwys arolygiadau ychwanegol y gallai fod eu hangen mewn ymateb i gwynion (adweithiol), arolygiadau heb eu cynllunio fel cofrestriadau newydd a fydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn, a Cheisiadau am Ail-sgorio o dan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a ddaw i law, er mwyn sicrhau cysondeb yn nifer gofynnol yr arolygiadau ar hyd y blynyddoedd.
3.2.2 Safleoedd bwyd yn ôl categori risg safonau bwyd
Fel ar gyfer hylendid bwyd, mae’r Awdurdod wedi mabwysiadu’r cynllun sgorio risg a osodwyd yng Nghod Ymarfer y Ddeddf Diogelwch Bwyd. Defnyddir y Cynllun i benderfynu isafswm amlder yr arolygiadau a hyn yn ei dro yw’r sail i raglen arolygu safonau bwyd yr Awdurdod. Fodd bynnag, eleni bydd Cynllun Adfer ALl yr ASB yn pennu’r flaenoriaeth a roddir i Arolygiadau Safonau Bwyd. Dim ond arolygiadau Safonau Bwyd Categori A y mae’n ofynnol iddynt gael arolygiad rhagweithiol yn 2022-23. Mae canran y safleoedd ym mhob Categori Risg fel ar y 1af o Ebrill 2022 ac isafswm amlder yr arolygiadau fel a ganlyn:
Categori Risg |
Canran (ar y 1af o Ebrill 2022) |
Amlder Arolygiadau |
A | 16 | Bob blwyddyn |
B | 392 | Bob 2 flynedd |
C | 1945 | Dim yn orfodol |
Disgwyl arolygiad | 482 | - |
Yr holl safleoedd | 2835 | - |
3.2.3 Cyflawniad yn erbyn rhaglen arolygu yn seiliedig ar ddisgwyliadau Cynllun Adfer yr ASB ar gyfer hylendid bwyd a safonau bwyd ar gyfer 2021-22
O dan ddisgwyliadau Cynllun Adfer yr ASB ar gyfer 2021-22 a oedd yn cynnwys yn bennaf yr angen i archwilio safleoedd â blaenoriaeth uchel heb sgôr a safleoedd Hylendid Bwyd Categori A. Cynhaliwyd arolygiadau o’r 5 safle Categori A a nodwyd, arolygwyd 18 o safleoedd yn dilyn ceisiadau am ailsgorio o dan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, a chynhaliwyd 8 arolygiad adweithiol.
Yn ogystal, cynhaliwyd 107 o arolygiadau cychwynnol o safleoedd heb sgôr, ynghyd â 5 arolygiad hylendid bwyd wedi’u rhaglennu pellach.
Gellir rhoi cyfrif am y diffygion yn nifer arfaethedig yr arolygiadau ar gyfer 2022-23 drwy nifer o ffyrdd, gan gynnwys y secondiadau parhaus i’r gwasanaeth TTP, salwch/absenoldeb staff sylweddol oherwydd Covid-19, a rhesymau eraill gan gynnwys profedigaethau teuluol, y swyddi gwag yn codi yn ystod y flwyddyn. Tra bod Swyddog Iechyd yr Amgylchedd newydd a Swyddog Diogelwch Bwyd Ardal wedi’u penodi, effeithiodd eu proses sefydlu a’u hasesiadau cymhwysedd ar nifer yr arolygiadau y gellid eu cyflawni.
Yn ogystal ag arolygiadau, mae swyddogion wedi adrodd bod arolygiadau’n cymryd mwy o amser am nifer o resymau, gan gynnwys y ffaith na fu’n bosibl cynnal arolygiadau fel mater o drefn yn ystod cyfnod Covid-19, sydd wedi arwain at lai o gydymffurfiaeth. Mae hyn wedi arwain at angen mwy o amser ar gyfer arolygiadau, ysgrifennu adroddiadau ac ailymweliadau gorfodi, sydd oll yn lleihau’r capasiti arolygu.
Yn ogystal, rhyddhawyd Cynllun Adfer yr ASB cyn i amrywiadau Delta ac Omicron Covid-19 godi, ac ni chafodd ei ddiwygio wedyn, felly ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i’r effaith y byddai’r achosion dilynol hynny wedi’i chael ar allu swyddogion i barhau â gwaith arferol, a’r angen i adleoli swyddogion i ffwrdd o’r tîm Bwyd yn barhaus.
Ni chyflawnwyd y gwaith arferol o gyhoeddi Holiaduron Strategaeth Orfodi Wahanol i’r safleoedd risg isaf oll (o safbwynt Hylendid A Safonau) yn 2020-21 na 2021-22.
3.2.4 Rhaglen arolygu ar gyfer hylendid bwyd a safonau bwyd ar gyfer 2022-23, i weithredu Cynllun Adfer ALl yr ASB, gan gynnwys y cerrig milltir ar gyfer gwahanol gategorïau o safleoedd ynghyd ag asesiad o’r gallu i fodloni’r galw
Mae’r tabl a’r data isod yn meintioli nifer yr arolygiadau sydd eu hangen yn y flwyddyn 2022-23 ac yn cael eu dadansoddi yn ôl y rheswm Arolygu ac yn ôl y gwahanol gerrig milltir fel sy’n ofynnol gan Gynllun Adfer yr ASB.
Erbyn 30 Mehefin 2022
- Arolygiadau Hylendid Bwyd Categori B: 51
- Arolygiadau Hylendid Bwyd Categori B: 16
Erbyn 30 Medi 2022
- Arolygiadau hylendid bwyd Categori C Ddim yn Cydymffurio yn fras: 25
Erbyn 31 Rhagfyr 2022
- Arolygiadau hylendid bwyd Categori D Ddim yn Cydymffurio yn fras: 2
Erbyn 31 Mawrth 2023
Arolygiadau hylendid bwyd Categori C Cydymffurio yn fras: 574
Cyfanswm Arolygiadau i Safleoedd â Gradd sydd i fod i ddigwydd: 668
Yn ogystal, mae 96 o safleoedd risg uchel hwyr heb eu graddio, sy’n golygu y bydd 764 o archwiliadau wedi’u cynllunio i’w cynnal yn ystod y flwyddyn.
Bydd y ffigur hwn yn cael ei ychwanegu at yr Arolygiadau Heb eu Cynllunio a gyfrifwyd a nodir isod i gyfrifo’r Gofyniad arolygu llawn ar gyfer 2022-23.
Mae hefyd yn bwysig cofnodi’r ffaith bod 386 o safleoedd heb sgôr sydd wedi’u hasesu fel rhai risg isel. Yn unol â chyngor yr ASB, nid oes angen cynnwys y safleoedd hyn yn y gofyniad Arolygu ar gyfer 2022-23, ond mae’n rhaid rhoi cyfrif amdanynt. EFALLAI y bydd Model Cyflenwi newydd yr ASB yn galluogi busnesau o’r fath i gael eu trin mewn ffordd wahanol na fydd yn gofyn am arolygiad.
Crynodeb o Ofynion Arolygu ar gyfer 2022-23 yn erbyn Capasiti’r Tîm
Galw o ran arolygu ar gyfer 2022-23:
Arolygiadau sy’n ofynnol (heb gynnwys 386 risg isel heb eu cynllunio)
- Arolygiadau wedi’u cynllunio, 668 o’r Cynllun Adfer ynghyd â rhai Risg Uchel Heb Sgôr (96) o’r cyfnod cyn 2022-23, PLWS: 764
- Arolygiadau Heb eu Cynllunio, Ceisiadau am ailsgorio, arolygiadau adweithiol, cofrestriadau newydd a dderbyniwyd: 327
- Arolygiadau sy’n ofynnol yn 2022-23: 1091
Capasiti’r Tîm Bwyd
Capasiti ar gyfer 2022-23:
- O gyfrifiadau capasiti yn seiliedig ar nifer y swyddogion sydd ar gael, PLWS: 535
- O’r ddau gwmni contractio M&T (120), ac A2Z (90): 210
- Capasiti (gan gynnwys contractwyr): 745
Diffyg am y flwyddyn
Diffyg o ran arolygiadau 2022-23:
- Y galw am arolygiadau am y flwyddyn NAMYN: 1091
- Capasiti Presennol sydd ar gael (staff a chontractwyr): 745
- Diffyg: 346
Colli Capasiti o ganlyniad i Swyddi Gwag/Secondiadau/Mamolaeth
O ganlyniad i swyddi gwag am y flwyddyn, h.y.
- 1 x mamolaeth*: 97.2
- 1 x secondiad o 0.9 fte i wasanaeth TTP rhanbarthol hyd at 31/03/2023*: 87.45
- 1 x secondiad o 0.8 fte i TTP hyd at 18/07/2022*: 51.84
- 1 x Swydd Wag FTE oherwydd dyrchafiad dros dro*: 97.2
- 1 x Swyddog FTE wedi’i secondio i Dai Sector Preifat*: 97.2
- Cyfanswm y golled mewn capasiti oherwydd Swyddi Gwag: 431
* D.S. lleihawyd capasiti swyddogion FTE 35%, ar gyfer 2022-23 oherwydd yr amser ychwanegol a ragwelir i’w gymryd oherwydd llai o gydymffurfiaeth, gan arwain at fwy o ailymweliadau gorfodi a chamau mwy ffurfiol. Hefyd oherwydd swyddi gwag, bydd angen i bob swyddog dreulio mwy o amser ar ddyletswydd, sy’n effeithio ar gapasiti arolygu. Yn ogystal, bydd cyfraith safonau bwyd newydd o fwydydd wedi’u rhagbecynnu i’w gwerthu’n uniongyrchol yn cynyddu hyd arolygiadau. Rhagwelir y bydd cyfran sylweddol o’r gostyngiad hwn dros dro o ganlyniad i adferiad o COVID.
Camau Gweithredu Arfaethedig, i Fynd i’r Afael â’r Diffyg mewn Capasiti ar gyfer 2022-23
Er mwyn cynyddu capasiti yn y Tîm, rhagwelir hysbysebu ym mis Awst 2022, am 1 swyddog llawn amser parhaol pellach (i wrthbwyso ymddeoliad a ddigwyddodd yn ystod Chwarter 1 o 2022-23) a 2 swyddog llawn amser dros dro, ar contract dros dro am 12 mis.
Yn y tymor hwy, bydd yr Adolygiad Diogelu’r Cyhoedd sydd ar y gweill yn canfod faint o gapasiti parhaus sydd ei angen yn y dyfodol ar gyfer y tîm Bwyd, i fodloni gofynion gwasanaeth yn y dyfodol.
Bydd capasiti unigol swyddogion yn y Tîm Bwyd yn cael ei adolygu’n barhaus i gyfrif am effeithiau penodol ar eu gallu i gyflawni arolygiadau.
3.2.5 Arolygiadau heb eu cynllunio a rhai adweithiol
Yn ogystal â chynnal arolygiadau arferol wedi eu rhaglennu, cynhelir arolygiadau heb eu cynllunio lle:
- mae safle newydd yn dod i sylw’r Awdurdod;
- mae safle presennol yn newid dwylo; a
- mae rhai digwyddiadau awyr agored dros dro ac yn y blaen yn cael eu cynnal gydag arlwyo ar y safle.
Ymdrinnir â chofrestru ac arolygu safleoedd newydd yn fanylach o dan 3.1 uchod.
Cynhaliwyd yr arolygiadau heb eu cynllunio canlynol dros y 10 mlynedd diwethaf:
Nifer arolygiadau busnesau newydd a gynhaliwyd
- 2012-13: 157
- 2013-14: 203
- 2014-15: 200
- 2015-16: 184
- 2016-17: 204
- 2017-18: 217
- 2018-19: 258
- 2019-20: 211
- 2020-21: 59
- 2021-22: 107
Rhagdybir y bydd yna 230 o arolygiadau busnesau newydd yn 2022-23. Bydd hyn yn ychwanegol at 482 o safleoedd heb sgôr sydd wedi’u dwyn ymlaen o 2020-21 a 2021-22. Mae’r ôl-groniad o safleoedd heb sgôr wedi’u hasesu o ran risg ac mae 96 o’r rhain wedi’u nodi fel rhai â blaenoriaeth uchel. Y prif sylw i fusnesau newydd fydd archwilio’r safleoedd â’r flaenoriaeth uchaf yn gyntaf.
Cynhelir arolygiadau adweithiol hefyd mewn ymateb i geisiadau am wasanaeth (e.e. cwyn neu ddigwyddiad o wenwyn bwyd), lle bernir bod angen arolygiad llawn yn dilyn ymchwiliad.
Cynhaliwyd yr arolygiadau adweithiol canlynol dros y 10 mlynedd diwethaf:
Nifer yr arolygiadau adweithiol a gynhaliwyd
- 2012-13: 27
- 2013-14: 31
- 2014-15: 32
- 2015-16: 25
- 2016-17: 34
- 2017-18: 24
- 2018-19: 27
- 2019-20: 25
- 2020-21: 0
- 2021-22: 8
Rhagfynegwyd y cynhelir 32 o arolygiadau adweithiol yn 2019-20, ar sail rhagamcaniadau o’r data uchod, a chynnydd posibl oherwydd materion yn codi yn ystod cyfnod Covid-19.
3.2.6 Amseru adroddiadau arolygu
Yn gyffredinol, mae’r Awdurdod yn anelu at gyhoeddi adroddiadau arolygiadau o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl yr arolygiad a chyrraedd y safon hon mewn 85% o’r holl achosion. Ers mis Hydref 2010 mae’r Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd wedi gweithio tuag at y targed o 10 diwrnod gwaith yn unol â’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Dengys y tabl canlynol lefel y perfformiad y gwnaeth y Tîm ei chyrraedd yn erbyn y ‘safon gwasanaeth 15 diwrnod’ yn ystod 2021-22 mewn cymhariaeth â’r 4 blynedd flaenorol, ac yn erbyn y targed 10 diwrnod.
gyhoeddi adroddiadau |
2017-18 |
2018-19 |
2019-20 |
2021-21 |
2021-22 |
Nifer yr adroddiadau arolygu a gyhoeddwyd | 1023 | 1056 | 1056 | 79 | 322 |
Y ganran a gyhoeddwyd o fewn 15 diwrnod gwaith y safon gwasanaeth corfforaethol | 94.2% | 95% | 89% | 5% | 62% |
Y ganran a gyhoeddwyd o fewn y targed o 10 diwrnod gwaith a sefydlwyd gan y CSHB | 83.2% | 81% | 85% | 3% | 49% |
Mae’r Adroddiad hwn yn dangos y gostyngiad dramatig yn y gwaith arolygu a wnaed yn ystod 2 flynedd y pandemig Covid-19, am y rhesymau a eglurir mewn man arall, a’r gostyngiad dramatig mewn cyflawniad yn erbyn y dangosyddion. Bydd y newid hwn yn uniongyrchol o ganlyniad i’r pandemig, a disgwylir i gyflawniad wella yn ystod y cyfnod Adfer.
3.2.7 Ail ymweliadau gorfodi
(Ystyrir yr ail ymweliadau hyn ar wahân i geisiadau am ‘ail ymweliadau ar gyfer ailsgorio’ dan y CSHB yr ymdrinnir â hwy dan 2.6.2 uchod).
Fel rheol gyffredinol ni chynhelir ‘ail ymweliad gorfodi’ ond i safle nad yw ‘yn cydymffurfio’n fras’ â gofynion hylendid bwyd (gweler 2.6.1 uchod), neu lle mae cydymffurfio a/neu hyder yn isel ar gyfer safonau bwyd (yn cael y sgôr isaf sydd ar gael ar gyfer Cydymffurfio Cyfredol (40) a/neu Hyder yn y Rheolaeth (30) ar gyfer safonau bwyd). Bydd hyn yn gymorth i sicrhau bod adnoddau ac ymdrechion y Cyngor i sicrhau gwelliannau mewn safleoedd bwyd yn cael eu hanelu at y ‘troseddwyr mwyaf’.
Lle y canfyddir gweithredu sy’n groes i ddeddfwriaeth, pennir cyfnod o amser ar gyfer cydymffurfio. Pan fydd diffyg cydymffurfio parhaus yn amlwg, cymerir camau gorfodi ychwanegol. Pan nad ystyrir bod ail ymweliad yn angenrheidiol, efallai y gofynnir i fusnesau gadarnhau eu bod yn cydymffurfio yn ysgrifenedig, neu caiff cydymffurfio ei wirio yn ystod yr ymweliad arferol nesaf.
Yn ystod 2021-22, cynhaliwyd 21 o ail ymweliadau gorfodi.
Mae’r siart canlynol yn cymharu nifer yr ail ymweliadau gorfodi a gynhaliwyd dros bob un o’r 13 mlynedd diwethaf:
Nifer yr Ail Ymweliadau Gorfodi
Bu gostyngiad sylweddol yn nifer yr ail ymweliadau gorfodi oedd eu hangen dros y 6 mlynedd diwethaf. Mae hyn yn gyson â gostyngiad yn nifer yr arolygiadau a gynhaliwyd; ac, mewn blynyddoedd cynharach, a’r lefel well o gydymffurfio â hylendid bwyd fel y dangosir gan y proffil risg hylendid bwyd sy’n newid, cynnydd yn y safleoedd sy’n ‘cydymffurfio’n fras’ a gwell sgorau hylendid bwyd. Wrth i nifer yr arolygiadau gynyddu yn y cyfnod adfer, a chyda gostyngiadau a ragwelir mewn cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd, gellir disgwyl y bydd nifer yr ail ymweliadau gorfodi sy’n ofynnol yn 2022-23 yn cynyddu.
Gorfodi Cyfraith Bwyd Cynllun Gwasanaeth 2022-23
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn cymeradwyo’r Cynllun hwn ar ran Cyngor Sir Penfro
Dr Steven Jones
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol
Dyddiad: 31 Awst 2022
Y Cynghorydd Michelle Bateman
Ael od Cabinet dros Weithrediadau Tai a Gwasanaethau Rheoleiddiol
Dyddiad: 31 Awst 2022
Nodau, amcanion, cysylltiadau gwasanaeth, a chyd-destun a chyfeiriad cenedlaethol
1.1 Nodau ac Amcanion
Adran Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Penfro sy’n gyfrifol am orfodi diogelwch a safonau bwyd. Dyma’r Cynllun Gwasanaeth Gorfodi Cyfraith Bwyd cyntaf i gael ei baratoi ers i bandemig Covid ddechrau yn gynnar yn 2020. Cafodd llawer o wasanaethau arferol a gwaith rhagweithiol fel arolygiadau cyfraith bwyd eu hatal ledled y wlad yn unol â chanllawiau’r Asiantaeth Safonau Bwyd, wrth i’r Wlad wynebu’r cyfyngiadau symud amrywiol a ddigwyddodd yn ystod y pandemig. Effaith atal gwaith arferol oedd galluogi staff Iechyd yr Amgylchedd sy’n ymwneud â gorfodi Cyfraith Bwyd i fod yn rhan o’u rôl Iechyd y Cyhoedd ehangach. Aethpwyd ati i gynorthwyo’r Cyngor i liniaru risgiau o drosglwyddo Covid-19 ar draws ein Cymunedau trwy ddarparu cyngor a gorfodi’r rheolaethau i atal trosglwyddo, i ymdrin â chlystyrau ac achosion sylweddol o haint covid, ac i’w defnyddio mewn gweithgareddau Atal a Rheoli Heintiau, yn unol â Chynllun Parhad Busnes Cyngor Sir Penfro. Rhoddir rhagor o wybodaeth am y cyflawniadau a wnaed yn erbyn yr amcanion hyn yn ddiweddarach yn y Cynllun hwn.
1.2 Nodau Penodol y Gwasanaeth Diogelwch a Safonau Bwyd
Nodau penodol y Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd yw:
- Sicrhau bod bwyd sy’n cael ei gynhyrchu, ei werthu neu ei gyflenwi yn Sir Benfro yn ddiogel ac yn iachus; wedi’i gynhyrchu o dan amodau hylan; o ansawdd a chyfansoddiad derbyniol; ac wedi’i labelu a’i hysbysebu’n addas, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd a hawliau/disgwyliadau defnyddwyr.
- Ymchwilio i ddigwyddiadau ac achosion o wenwyn bwyd a chlefydau heintus eraill mewn perthynas â bwyd sy’n gysylltiedig â gweithrediadau busnes bwyd, i nodi ffynhonnell yr haint, lle bo modd; i atal lledaeniad pellach; a chodi ymwybyddiaeth yn gyffredinol o lwybrau trosglwyddo a dulliau atal, gyda’r nod o leihau nifer yr achosion o salwch cysylltiedig yn y gymuned leol. O ddechrau 2017-18, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am fynd ar drywydd hysbysiadau neu honiadau cychwynnol o glefydau heintus (gan gynnwys gwenwyn bwyd posibl), ac am arwain ar reoli clefydau heintus yn gyffredinol, i Dîm Iechyd a Diogelwch yr Adran.
Mae’r nodau hyn yn cael eu gweithredu yn unol â chyfraith bwyd berthnasol, “Cytundeb Fframwaith ar Reolaethau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Swyddogol gan Awdurdodau Lleol” yr Asiantaeth Safonau Bwyd, a Chod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) trwy:
- Ddatblygu Cynllun Gwasanaeth Cyfraith Bwyd blynyddol.
- Cyflawni swyddogaethau statudol y Cyngor mewn perthynas â chofrestru safleoedd bwyd, a chymeradwyo rhai safleoedd bwyd dan ddeddfwriaeth cynnyrch penodol (yn bennaf sefydliadau cynhyrchion llaeth, cynhyrchion cig a chynhyrchion pysgodfeydd).
- Cynnal amrywiaeth o weithgareddau wedi’u rhaglennu gan gynnwys archwilio safleoedd a samplu cynhyrchion bwyd, cymryd camau dilynol yn ôl yr angen, yn unol â pholisïau gorfodi cyhoeddedig, i sicrhau bod achosion o dorri deddfwriaeth a nodwyd yn cael eu hunioni.
- Gweinyddu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd cenedlaethol ar gyfer busnesau bwyd.
- Ymchwilio i gwynion ynghylch diogelwch bwyd a safonau bwyd.
- Dilyn digwyddiadau ac achosion o wenwyn bwyd achlysurol lle mae cysylltiadau posibl â busnesau bwyd.
- Cymryd camau priodol mewn ymateb i hysbysiadau milheintiau.
- Cymryd camau gorfodi sy’n gymesur, yn dryloyw, yn gyson ac wedi’u targedu, yn unol â Chod Ymarfer a Chanllawiau Ymarfer y Ddeddf Diogelwch Bwyd, cyngor a chanllawiau’r Asiantaeth Safonau Bwyd, a pholisïau gorfodi mewnol perthnasol.
- Darparu gwybodaeth a chyngor ar faterion sy’n berthnasol i ddiogelwch a safonau bwyd. Yn benodol, bydd y Tîm yn ymdrechu i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth gweithredwyr busnes a hyrwyddo arfer da.
- Ymrwymo adnoddau i ymgyrchoedd hyrwyddo ac ymgyrchoedd addysgol, gan ystyried nodau strategol ac anghenion lleol yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
- Cydgysylltu â chyrff perthnasol ynghylch materion gorfodi a chysondeb.
- Sicrhau bod ein staff yn meddu ar gymwysterau priodol, yn meddu ar sgiliau technegol a phroffesiynol addas, ac yn gymwys i gyflawni’r dyletswyddau a ddisgwylir.
- Monitro gweithrediad ein gweithdrefnau i sicrhau bod safonau gwasanaeth yn cael eu cynnal a lle bo’n briodol yn cael eu gwella.
1.3 Cysylltiadau â Chynllun Llesiant Sir Benfro a Chynllun Corfforaethol Cyngor Sir Penfro (2020-21)
Mae’r Gwasanaeth yn cysylltu â nifer o flaenoriaethau a nodir yng Nghynllun Llesiant Sir Benfro sy’n fframio gweithgarwch y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn Sir Benfro dros y cyfnod 2018-2030. Mae’r Cynllun yn cael ei oruchwylio gan bartneriaeth aml-asiantaeth (Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus) sy’n ceisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Benfro, ac mae’n cyd-fynd â’r saith nod llesiant cenedlaethol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.
Mae Cynllun Corfforaethol Cyngor Sir Penfro yn gynllun blynyddol sy’n edrych i’r dyfodol ac sy’n nodi ein Hamcanion Llesiant, yn rhestru’r camau gweithredu y bydd y Cyngor yn eu cymryd yn ystod y flwyddyn y mae’n berthnasol iddi ac yn nodi’r mesurau perfformiad a’r safonau a ddefnyddir i fesur ein cynnydd. Y Cynllun Corfforaethol yw ein prif gynllun. Fe’i cyhoeddir ar ddechrau pob blwyddyn ariannol ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyngor a’r weledigaeth sy’n sail iddo yw “Gweithio gyda’n gilydd, gwella bywydau”.
Yn benodol, y rhain yw:
- Cymru lewyrchus (nod y cynllun llesiant)
- Cefnogi'r amgylchedd cywir i fusnesau dyfu a chynorthwyo cyflogaeth ddiogel, a chynaliadwy (amcan llesiant corfforaethol)
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ‘busnesau llwyddiannus yn tyfu, yn ffynnu ac yn cyflogi’, gyda phwyslais arbennig ar ddau brif gam gweithredu:
- Hyrwyddo a chefnogi busnesau newydd, a busnesau bach a chanolig.
- Darparu cefnogaeth i’r sectorau bwyd, twristiaeth ac amaethyddol.
Byddwn yn ceisio cyflawni hyn drwy amrywiaeth o fesurau gan gynnwys:
- sicrhau bod bwyd diogel yn cael ei ddarparu o safleoedd glân a hylan, a thrwy hynny greu hyder mewn busnesau bwyd lleol a hybu twristiaeth,
- mynd ati’n rhagweithiol i roi cyngor ar gydymffurfiaeth gyfreithiol ac arfer da i helpu i gynnal a datblygu busnesau bwyd, a
- thargedu gorfodaeth ar y busnesau bwyd sy’n perfformio waethaf yr ystyrir eu bod yn ‘torri corneli’, er mwyn sicrhau nad yw busnesau sy’n cael eu rhedeg yn dda yn cael eu rhoi dan anfantais gystadleuol.
- Cymru iachach (nod y cynllun llesiant)
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ‘Pobl yn Sir Benfro yn Iachach’, gyda phwyslais arbennig ar y flaenoriaeth i ‘Helpu a chefnogi pobl i gymryd cyfrifoldeb i wella eu hiechyd a’u llesiant drwy gydol eu hoes’ ac ar y ‘brif weithred’ o ‘Leihau lefelau gordewdra drwy hybu byw’n iach ac egnïol ar draws pob oedran’. Mae’r Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd yn cyfrannu at yr amcanion uchod drwy sicrhau bod busnesau bwyd yn darparu’r wybodaeth ofynnol am gynhyrchion bwyd. Mae hyn yn sicrhau bod defnyddwyr yn deall sut i baratoi a storio bwyd yn ddiogel, yn eu galluogi i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch pa gynhyrchion bwyd i’w prynu er mwyn cynnal diet iach a chytbwys, ac i osgoi cynhwysion y mae ganddynt anoddefiad neu sensitifrwydd arbennig iddynt.
1.4 Y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (2021-2022 – 2024-25)
Mae’r Gwasanaeth hefyd wedi ymrwymo i’r cynllun trawsbynciol hwn sy’n ddogfen fyw ac yn greiddiol i holl amcanion y Cynllun Corfforaethol. Mae newidiadau’n cael eu rhoi ar waith er mwyn gwella effeithlonrwydd a gwella’r gwasanaethau a ddarperir wrth gwrdd â heriau ariannol yn y dyfodol. Yn benodol, byddwn yn:
- ceisio uchafu incwm lle mae blaenoriaethau gwasanaeth eraill fel adferiad o Covid-19 yn caniatáu, tra hefyd yn cynyddu lefelau cydymffurfio trwy:
- barhad y rhaglen Awdurdod Sylfaenol lle mae capasiti yn caniatáu,
- manteisio ar yr holl arian grant sydd ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd,
- parhau i hyrwyddo gwasanaeth cynghori taledig y Tîm lle mae capasiti yn caniatáu,
- parhau i hyrwyddo ailymweliadau taledig ar gyfer ailsgorio.
- gweithredu gostyngiadau ariannol a nodwyd a pharhau i wneud arbedion effeithlonrwydd drwy:
- wneud y defnydd gorau o wefan Cyngor Sir Penfro a chyfathrebu electronig,
- parhau i leihau milltiroedd cymaint â phosibl trwy ddefnyddio gweithio ystwyth/hybrid, clystyru arolygiadau fesul ardal, a brysbennu cwynion risg isel yr ymdrinnir â hwy dros y ffôn neu yn yr arolygiad nesaf,
- defnyddio ffurflenni arolygu electronig a gwiriadau “dilysu” i gymryd lle arolygiadau lle nad oes angen arolygiad llawn, lle bo modd o dan Gynllun Adfer yr ASB.