Gorfodi Cyfraith Bwyd Cynllun Gwasanaeth 2022-23
Ymchwilio a Rheoli Achosion, Afiechyd Heintus Cysylltiedig â Bwyd a Milheintiau
3.7.1 Ymchwilio a rheoli achosion ac afiechyd heintus cysylltiedig â bwyd
Ers y 1af o Ebrill 2017, derbyniwyd hysbysiadau am wenwyn bwyd ac afiechyd heintus cysylltiedig â bwyd gan y Tîm Iechyd a Diogelwch yn lle’r Tîm Diogelwch a Safonau Bwyd.
Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb fel hyn yn rhannol er mwyn ymateb i bwysau cynyddol ar y Tîm Bwyd, mewn cymhariaeth ag Iechyd a Diogelwch, ac yn rhannol er mwyn sefydlu aliniad gwell rhwng meysydd rheoli clefydau heintus.
Bydd Swyddogion Bwyd yn parhau i ymchwilio i safleoedd bwyd sy’n gysylltiedig â digwyddiadau yr amheuir eu bod wedi eu hachosi gan fwyd, fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, ond nid digwyddiadau sy’n amlwg yn cael eu lledaenu o berson i berson neu o darddiad amgylcheddol arall.
Yn ymarferol daw hysbysiadau oddi wrth Feddygon Teulu a labordai meddygol, drwy swyddog priodol penodedig sy’n seiliedig o fewn Tîm Diogelu Iechyd Canolbarth a Gorllewin Cymru (rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru). Gwneir yr hysbysiadau hyn yn unol â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010.
Mae’r Awdurdod wedi penodi Swyddog Arweiniol ar gyfer Rheoli Clefydau Heintus, ac mae’n cydweithio’n agos gyda swyddogion priodol penodedig (Ymgynghorwyr mewn Rheoli Clefydau Heintus neu Ymgynghorwyr mewn Diogelu Iechyd) a gyflogir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Yn ymarferol, derbynnir hysbysiadau yn electronig drwy system cronfa ddata gyffredin (Tarian), a ddefnyddir gan awdurdodau lleol, labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru a Thimau Diogelu Iechyd lleol.
Yn gyffredinol, y Tîm Iechyd a Diogelwch sy’n ymchwilio i achosion o ‘heintiau gastroberfeddol’ yr adroddir amdanynt, gyda golwg ar ganfod ffynhonnell yr haint lle bo modd; fel y gellir rhoi cyngor a/neu gymryd camau i atal lledaeniad pellach; a nodi unrhyw gamau y gellir neu y dylid eu cymryd i atal digwyddiadau pellach.
Mae’r protocolau ar gyfer ymchwilio i achosion achlysurol wedi eu cynnwys yn y gweithdrefnau mewnol, ac ymchwilir i ddigwyddiadau yn unol â Chynllun Achosion Cymru Gyfan, sy’n darparu’r fframwaith cytunedig ar gyfer ymchwiliadau amlasiantaethol cyson.
Mae targedau ymateb ar gyfer achosion achlysurol a rhai cyffredinol hefyd yn adlewyrchu’r rhai a sefydlwyd yn ‘Iechyd Cyhoeddus Cymru – Canllawiau Hysbysu o Labordai Microbioleg ar Organebau - Gorffennaf 2011’.
Fel rheol, bydd ymchwiliadau yn golygu cyfweliadau achos a rhoi cyngor, ond, yn dibynnu ar yr achos a ffynhonnell yr haint, a’r risgiau cysylltiedig, efallai y bydd angen amrywiaeth o gamau dilynol gan gynnwys y canlynol:
- Sicrhau gwahardd pobl heintus o leoliadau risg uchel (ysgolion, meithrinfeydd, safleoedd bwyd, a sefydliadau gofal iechyd fel arfer);
- Sgrinio samplau gan bobl eraill a fu mewn cysylltiad;
- Cymryd samplau dilynol o achosion a gadarnhawyd i roi cliriad microbiolegol;
- Ymweliadau â sefydliadau sydd mewn perygl fel ysgolion, meithrinfeydd a sefydliadau gofal plant eraill a chartrefi gofal preswyl a nyrsio, i roi cyngor ar reoli heintiau;
- Ymweliadau â safleoedd busnes bwyd, lle y gallai bwyd a brynwyd gan ddefnyddwyr, neu a ddarparwyd iddynt, fod yn gyfrannog;
- Cael samplau bwyd a/neu samplau amgylcheddol;
- Cadw cysylltiad ag awdurdodau lleol eraill ac awdurdodau cymwys canolog, e.e. y Ganolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy a’r Asiantaeth Safonau Bwyd, lle y gall heintiau fod wedi dod o’r tu allan i’r sir, o dramor neu o fwyd a gynhyrchwyd y tu allan i’r DU.
Mae’r ddau dîm yn cydweithio’n agos ar achosion o’r fath, gan eu bod yn gweithio o’r un swyddfa. Lle mae busnesau bwyd neu gyflenwadau bwyd masnachol dan sylw neu dan amheuaeth, bydd swyddogion bwyd awdurdodedig yn cymryd y camau angenrheidiol, a chofnodir y camau hyn ar Tascomi.
Yn ystod 2021-22, rhoddwyd hysbysiad am 220 o achosion a gadarnhawyd/amheuid ar gyfer ymchwilio iddynt.
Yn ymarferol, gwyddys mai cyfran gymharol fechan o’r gwir nifer o achosion o haint gastroberfeddol yn y gymuned yw’r rhai yr hysbysir amdanynt, ac amcangyfrifir nad ydynt ond 10% o’r holl achosion. Mae’r rhesymau dros lefel isel yr achosion yr adroddir amdanynt yn niferus ond yn cynnwys: dioddefwyr ddim yn ymweld â’u meddygon teulu (yn enwedig pan fo’r symptomau’n gymharol ysgafn a/neu fyrhoedlog); meddygon teulu ddim yn adrodd am bob achos sy’n cael ei amau; a meddygon teulu’n amrywio o ran cynnal profion ysgarthol. Mae mwyafrif yr achosion o haint gastroberfeddol, p’un bynnag, yn debygol o gael eu priodoli i gastro-enteritis firaol sy’n achosi symptomau cymharol fyrhoedlog. Anaml y cynhelir profion ar ei gyfer (ac eithrio i gadarnhau hyn fel achos, lle yr amheuir nifer o achosion) ac ymhellach nid yw yn hysbysadwy, onid amheuir mai bwyd a’i hachosodd. Mae gwir faich haint gastroberfeddol ar ein cymunedau felly’n llawer mwy.
Dengys y siart canlynol ddadansoddiad o’r achosion o haint gastroberfeddol ‘yr hysbysir amdano’ yn ôl math ar gyfer y Sir yn ystod 2021-22:
Achosion o Wenwyn Bwyd a Heintiau Cysylltiedig â Bwyd eraill ledled Sir Benfro, yn ôl Math 2021 22
- Suspected food poisioning: 0
- Shigella: 0
- Other: 0
- Listeria monocytogenes: 0
- Entamoeba histolytica/dispar: 0
- E-coli O157: 0
- Hepatitis E: 2
- Giardia: 2
- Salmonella sp: 11
- Crytosporidium: 17
- Campylobacter: 188
Yn unol â’r darlun cenedlaethol dros Gymru a Lloegr, haint Campylobacter sy’n peri mwyafrif yr achosion ‘hysbysedig’ o haint gastroberfeddol – h.y. 85% o’r holl achosion yr adroddwyd amdanynt yn Sir Benfro yn ystod 2021-22.
Er mai Campylobacter yw achos bacteriol mwyaf cyffredin clefyd perfeddol heintus yng Nghymru a Lloegr, mae ei epidemioleg yn dal heb ei ddeall yn dda.
Mae cig heb ei goginio ddigon (yn enwedig dofednod) yn aml yn gysylltiedig â salwch, fel y mae llaeth heb ei basteureiddio a dŵr heb ei drin. Er y tybir mai achlysurol yw’r rhan fwyaf o achosion o haint Campylobacter, ac er bod y llwybrau trosglwyddo’n parhau’n aneglur, mae nifer o achosion arwyddocaol
wedi eu nodi ar hyd a lled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda’r posibilrwydd bod achosion eraill wedi digwydd ond heb eu canfod.
Ni chafwyd unrhyw achosion o wenwyn bwyd yn 2021-22 a oedd yn golygu bod angen i’r Tîm Iechyd a Diogelwch/Clefydau Trosglwyddadwy weithredu.
Gall achosion yn ymwneud â safle bwyd lyncu llawer o amser ac efallai y bydd angen mewnbwn gan rai/pob un o aelodau’r Tîm dros nifer o wythnosau, wrth gynnal yr ymchwiliad a chasglu gwybodaeth. Efallai y bydd hefyd angen cyfraniad gan uwch-reolwyr yng nghyfarfodydd rheoli’r achos.
Dengys y siart canlynol y duedd yn nifer yr achosion yr adroddwyd amdanynt bob blwyddyn yn ystod y cyfnod o 10 mlynedd rhwng 2012-13 a 2021-22, ar gyfer y 5 achos uchaf o heintiau gastroberfeddol a gadarnhawyd mewn labordy yn y Sir.
Y Duedd yn Nifer yr Achosion yr Adroddwyd Amdanynt ar gyfer y 5 achos uchaf o Heintiau GI 2012 13 i 2021 22
Disgrifiad |
12-13 |
13-14 |
14-15 |
15-16 |
16-17 |
17-18 |
18-19 |
19-20 |
20-21 |
21-22 |
Campylobacter | 140 | 188 | 209 | 179 | 162 | 177 | 183 | 302 | 150 | 188 |
Crytosporidium | 18 | 14 | 8 | 15 | 17 | 20 | 30 | 75 | 35 | 17 |
Giardia | 12 | 8 | 12 | 13 | 15 | 10 | 13 | 7 | 6 | 2 |
Shigella | 1 | 0 | 1 | 1 | 3 | 4 | 0 | 1 | 1 | 0 |
Salmonella sp. | 11 | 10 | 8 | 3 | 7 | 2 | 20 | 54 | 6 | 11 |
Gyda golwg ar y cynnydd mewn Campylobacter ar draws Cymru a Lloegr, a phosibilrwydd achosion yn digwydd heb eu canfod, ymgymerodd y Panel Arbenigol Cenedlaethol ar Glefydau Trosglwyddadwy â phrosiect i ddatblygu safon arferion da ar gyfer ymchwilio i Campylobacter, er mwyn hyrwyddo agwedd gyffredin at ymchwiliadau a gwyliadwriaeth. Efallai y bydd y cylch gwaith hwn, ynghyd â chasglu a dadansoddi data’n well drwy welliannau i system Tarian, yn arwain at ganfod clystyrau/achosion pellach ac yn ei gwneud yn bosibl ymchwilio mwy i swyddogaeth cynnyrch anifeiliaid, bwydydd eraill, dŵr a dod i gysylltiad â phethau heblaw bwyd.
Daeth yr Ymchwiliad Cyhoeddus i’r achos o E.coli O157 yn 2005, a effeithiodd ar ysgolion ledled de-ddwyrain Cymru, i ben ym mis Mawrth 2008, gyda’r adroddiad terfynol (‘Adroddiad Pennington’) yn ymddangos ym mis Mawrth 2009. Mae’r Awdurdod wedi ystyried a mabwysiadu’r argymhellion a wnaed, lle roedd hynny’n briodol, gan gadw mewn cof unrhyw gyngor gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, FSAW, a Phaneli Technegol Cymru ar Ddiogelwch Bwyd a Chlefydau Trosglwyddadwy sy’n gweithredu yn ôl cyfarwyddyd Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru a Phenaethiaid Iechyd Amgylcheddol Cymru. Defnyddiwyd templed dogfen Cyfrifoldebau a Chamau Gweithredu CLlLC i adrodd am gamau gweithredu a chynnydd mewn adroddiadau i Dîm Rheoli Corfforaethol yr Awdurdod. Archwiliwyd ymateb yr Awdurdod i argymhellion Adroddiad Pennington gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn ystod 2013-14 (Gweler 6.4.3 isod).
3.7.2 Ymchwilio a rheoli milheintiau
Bydd yr Awdurdod yn ymchwilio i hysbysiadau am amrywiaeth o filheintiau, yn arbennig colli statws Swyddogol Rydd o TB (OTF) mewn gwartheg. Cymerir camau yn unol â gweithdrefnau’r Cyngor ar sail patrwm dogfen enghreifftiol Cymru Gyfan sy’n sicrhau ymatebion ac ymchwiliadau cyson.
Yn ystod 2017-18, derbyniwyd 52 o hysbysiadau am gyfyngiadau ar fuchesau godro o ganlyniad i golli statws Swyddogol Rydd o TB, mewn cymhariaeth â 0 yn y flwyddyn flaenorol a 263 yn y flwyddyn cyn hynny.
Mae’r niferoedd isel a adroddwyd yn ystod cyfnod pandemig Covid-19 yn dangos gostyngiad yn y profion ar y fferm a gynhaliwyd gan Defra yn ystod y cyfnod hwnnw.
Bydd yr Awdurdod yn cael ei hysbysu fel mater o arfer am golli statws Swyddogol Rydd o TB ac, yn ei dro, bydd yn cymryd camau i sicrhau nad yw llaeth o wartheg adweithiol yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd ddynol a bod llaeth o weddill y fuches yn cael ei basteureiddio.
Mae’r Awdurdod hefyd yn cael gwybod am golli statws Swyddogol Rydd o TB mewn gwartheg heblaw rhai godro, er nad oes angen i’r Tîm weithredu ar yr hysbysiadau hyn.
Yn ystod 2017-18, er mwyn lleddfu effaith cynyddiadau eraill yn y galw ar y Tîm Bwyd, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am y cyswllt cyntaf â ffermwyr mewn ymateb i golli statws Swyddogol Rydd o TB mewn buchesau godro i Uned Fusnes yr Is-adran.