Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Ail Gartrefi
Diffiniad ail gartref yw annedd nad yw’n brif gartref neu’n unig gartref unigolyn ac sydd wedi’i ddodrefnu’n sylweddol. Polisi’r Cyngor yw peidio â dyfarnu unrhyw ddisgownt ac felly mae’r tâl llawn yn daladwy.
Premiwm Ail Gartrefi
Diffiniad ail gartref yw annedd nad yw’n brif gartref neu’n unig gartref unigolyn ac sydd wedi’i ddodrefnu’n sylweddol. O 1 Ebrill 2017 ymlaen, penderfynodd y Cyngor godi Premiwm Ail Gartref o 50%. Cynyddodd y premiwm i 100% o 1 Ebrill 2022. Cynyddodd y premiwm i 200% o 1 Ebrill 2024.
O 1 Ebrill 2025 bydd y premiwm yn 150%.
Mae’r gost hon ar ben cyfradd safonol y dreth gyngor.
Eithriadau i’r Premiwm Ail Gartref
Dosbarth 1: Anheddau’n cael eu marchnata ar werth – yn gyfyngedig i flwyddyn
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn, rhaid i annedd fod ar y farchnad i’w gwerthu am bris rhesymol. Wrth ystyried a ydyw pris yn rhesymol, bydd cymariaethau’n cael eu gwneud gydag eiddo eraill sydd ar werth / wedi’u gwerthu yn yr ardal. Bydd angen tystiolaeth bod yr eiddo ar werth.
Sylwch fod yr eithriad hwn yn gyfyngedig o ran amser i flwyddyn. Fodd bynnag, gellir ymestyn y cyfnod hwn os oes gwerthiant ar fin digwydd.
Dosbarth 2: Anheddau’n cael eu marchnata i’w gosod – yn gyfyngedig i flwyddyn
I fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn, rhaid i’r annedd fod ar y farchnad i’w gosod am rent rhesymol. Bydd angen tystiolaeth bod yr eiddo’n cael ei farchnata i’w osod.
Sylwch fod yr eithriad hwn wedi’i gyfyngu o ran amser i flwyddyn, ond gellir ymestyn y cyfnod hwn os yw’r eiddo ar fin cael ei osod.
Dosbarth 3: Rhandai sy’n ffurfio rhan o’r brif annedd, neu’n cael eu trin fel rhan o’r brif annedd
Mae’r eithriad hwn yn berthnasol pan fo perchennog wedi addasu ei annedd i ddarparu rhandy a bod y rhandy bellach yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r brif annedd.
Dosbarth 4: Anheddau a fyddai’n unig neu brif breswylfa rhywun pe na bai’n preswylio yn llety’r lluoedd arfog
Mae’r eithriad hwn yn berthnasol i anheddau a fyddai’n unig neu brif breswylfa unigolyn ond sydd heb eu meddiannu oherwydd bod yr unigolyn hwnnw’n byw mewn llety lluoedd arfog.
Mae hefyd yn cynnwys personél y lluoedd arfog y mae eu cartrefi heb eu meddiannu oherwydd eu bod yn byw mewn llety lluoedd arfog dramor.
Dosbarth 5: Lleiniau carafanau ac angorfeydd cychod wedi’u meddiannu
Dosbarth 6: Anheddau lle mae amod cynllunio yn atal deiliadaeth am gyfnod di-dor o 28 diwrnod o leiaf mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, megis cabanau gwyliau a thai gwyliau pwrpasol
Yn weithredol ers 1 Ebrill 2023, mae’r eithriad Dosbarth 6 wedi’i ddiwygio fel a ganlyn:
Anheddau lle mae amod cynllunio:
- yn cyfyngu ar feddiannaeth am gyfnod di-dor o 28 diwrnod o leiaf mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn
- yn nodi y gellir defnyddio’r annedd fel llety gwyliau a osodir yn unig, neu
- yn atal deiliadaeth fel unig neu brif breswylfa unigolyn
Dosbarth 7: Anheddau sy’n cael eu meddiannu o bryd i’w gilydd pan fo’n ofynnol i unigolyn breswylio yn rhywle arall mewn llety sy’n gysylltiedig â swydd
Os credwch na ddylech fod yn destun y premiwm neu os yw eich eiddo yn dod o fewn y diffiniad uchod ond nad yw eich bil yn adlewyrchu’r tâl ychwanegol, dylech hysbysu’r Cyngor o fewn 21 diwrnod. Gall methu â darparu gwybodaeth neu roi gwybodaeth ffug arwain at gosb o £50, y gellir ei gorfodi yn y Llys Ynadon.
Ystyrir sawl ffactor wrth bennu prif breswylfa unigolyn at ddibenion y dreth gyngor. Mae’r rhain yn cynnwys lle mae unigolyn wedi’i gofrestru i bleidleisio, a ydyw’r eiddo yn eiddo iddo ef neu’n cael ei rentu, faint o amser a dreulir yn yr eiddo, cysylltiadau teuluol, lle cedwir y rhan fwyaf o eiddo personol unigolyn, lle mae unigolyn wedi’i gofrestru gyda meddyg teulu / deintydd, lle anfonir ei ohebiaeth, lle mae ei gymar yn preswylio, a lle mae eu plant yn mynd i’r ysgol (os yw’n berthnasol).
Os oes gennych fwy nag un breswylfa, cwblhewch y Ffurflen Unig neu Brif Breswylfa i’n cynorthwyo i wneud penderfyniad ynghylch pa gyfeiriad y dylid ei ddosbarthu fel eich prif breswylfa.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r uchod, cysylltwch â’r Gwasanaethau Refeniw: (01437 764551)
Premiymau’r Dreth Gyngor – Incwm a Gwariant
Bwriedir i’r disgresiwn a roddir i awdurdodau lleol i godi tâl premiwm fod yn fodd i helpu i gyflawni’r materion canlynol:
- bod tai gwag hirdymor yn cael eu defnyddio unwaith eto i ddarparu eiddo diogel, sicr a fforddiadwy
- cefnogi awdurdodau lleol i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol
Gall awdurdodau lleol osod premiymau ar eiddo gwag hirdymor neu ail gartrefi neu’r ddau a gallant osod lefelau gwahanol o bremiwm ar gyfer pob dosbarth.
Cynlluniwyd y pwerau’n fwriadol fel pwerau disgresiwn i ganiatáu i awdurdodau lleol deilwra eu defnydd er mwyn mynd i’r afael â blaenoriaethau lleol ac er mwyn adlewyrchu patrymau gwahanol y tai sydd ar gael ac sydd eu hangen ledled Cymru.
Sut mae'r arian a gesglir o bremiymau’r Dreth Gyngor yn Sir Benfro yn cael ei wario?
Ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2023/24
- Cyfanswm yr Ail Gartrefi: 4043
- Cyfanswm Nifer yr Ail Gartrefi sydd â rhwymedigaeth i dalu’r premiwm ym mis Mawrth 2024: 3455
- Cyfanswm Nifer yr Eiddo Gwag Hirdymor: 522
- Cyfanswm yr Eiddo Gwag Hirdymor sydd â rhwymedigaeth i dalu’r premiwm ym mis Mawrth 2024: 498
- Cyfanswm yr Incwm Ychwanegol a Gynhyrchwyd o godi premiwm ar Ail Gartrefi: £4.80m
- Cyfanswm yr Incwm Ychwanegol a Gynhyrchwyd o godi premiwm ar Eiddo Gwag Hirdymor: £0.40m
Sut mae’r incwm ychwanegol o bremiymau Ail Gartrefi a godwyd wedi’i ddefnyddio yn 2023/24:
- Tai Fforddiadwy: 18.75%
- Gwella Sir Benfro: 6.25%
- Cronfa Gyffredinol Gwasanaethau Cymunedol: 75%
Sut y defnyddiwyd incwm ychwanegol o bremiymau Eiddo Gwag Hirdymor yn 2023/24:
- Sicrhau bod tai yn cael eu defnyddio unwaith eto: 100%
- Cronfa Gyfferdinol Gwasanaethau Tia: 0%
Canllawiau Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd)