Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Eiddo Gwag
- Gwag: Eiddo nad yw'n brif gartref rhywun ac sy'n sylweddol heb ddodrefn
- Anghyfannedd: Eiddo wedi'i ddodrefnu nad yw'n brif gartref rhywun
- Cyfannedd: Eiddo lle mae rhywun yn byw fel prif gartref
Mae eiddo sydd heb ei feddiannu a heb ddodrefn yn denu tâl 100% ar ôl i unrhyw eithriad Dosbarth A neu Ddosbarth C ddod i ben.
Penderfynwyd gan Aelodau ar 19 Hydref 2017 gyflwyno premiwm gwag tymor hir o 1 Ebrill 2019 i eiddo sydd wedi bod yn wag (heb ei feddiannu a heb ddodrefn) ers mwy na thair blynedd.
Felly, bydd unrhyw eiddo sy'n bodloni'r meini prawf uchod yn destun tâl 100% a chaiff y premiwm ei gymhwyso fel a ganlyn:
- O 1 Ebrill 2019 y premiwm treth cyngor fydd 25% h.y. 125% o’r Dreth Cyngor blynyddol a godir ar gyfer eiddo sy’n wag am dair blynedd neu fwy.
- O 1 Ebrill 2019 y premiwm treth cyngor fydd 50% ar gyfer eiddo sy’n wag am bedair blynedd neu fwy h.y. 150% o’r Dreth Cyngor blynyddol a godir.
- O 1 Ebrill 2021 y premiwm treth cyngor fydd 100% ar gyfer eiddo sy’n wag am 5 mlynedd neu fwy h.y. 200% o’r Dreth Cyngor blynyddol a godir.
Mae yna 4 eithriad statudol i’r premiwm, y manylir arnynt isod:
Dosbarth 1: Anheddau sydd ar y farchnad i’w gwerthu – cyfyngiad amser o flwyddyn
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn, mae’n rhaid i annedd fod ar y farchnad i’w werthu am bris rhesymol. Wrth ystyried os yw pris yn rhesymol, bydd cymariaethau’n cael eu gwneud ag eiddo eraill sydd ar werth/wedi eu gwerthu yn yr ardal. Bydd angen tystiolaeth fod yr eiddo ar werth.
Nodwch fod yr eithriad hwn am flwyddyn yn unig. Fodd bynnag, gellir ymestyn y cyfnod hwn os disgwylir gwerthiant yn y dyfodol agos. Bydd angen i chi wneud cais ar y ffurflen amgaeedig am unrhyw estyniad.
Dosbarth 2: Anheddau sydd ar y farchnad i’w rhentu - cyfyngiad amser o flwyddyn
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn, mae’n rhaid i annedd fod ar y farchnad i’w rhentu am rent rhesymol. Bydd angen tystiolaeth fod yr eiddo ar y farchnad i’w rhentu.
Nodwch fod yr eithriad hwn am flwyddyn yn unig. Fodd bynnag, gellir ymestyn y cyfnod hwn os disgwylir i’r eiddo gael ei rhentu yn y dyfodol agos. Bydd angen i chi wneud cais ar y ffurflen amgaeedig am unrhyw estyniad.
Dosbarth 3: Anecs sy’n ffurfio rhan o’r brif annedd
Mae’r eithriad hwn yn golygu lle y mae perchennog wedi addasu annedd er mwyn darparu anecs a bod yr anecs yn awr yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r prif annedd.
Dosbarth 4: Anheddau a fyddai’n unig neu’n brif fan preswyl ar gyfer unigolion os na fyddent yn preswylio yn llety’r lluoedd arfog
Mae’r eithriad hwn yn berthnasol i anheddau a fyddai’n unig neu’n brif fan preswyl ar gyfer unigolion os na fyddent yn preswylio yn llety’r lluoedd arfog.
Mae hefyd yn berthnasol i bersonél y lluoedd arfog nad sydd yn byw yn eu cartrefi gan eu bod yn byw dramor, yn llety’r lluoedd arfog.
Mae proses apêl hefyd wedi cael ei dyfeisio er mwyn caniatáu disgownt disgresiynol fel y gall y talwr treth gael rhagor o amser cyn y bydd y premiwm yn cael ei godi. Bydd ystyriaethau’n cael eu rhoi i dalwyr treth sydd ar hyn o bryd yn rhentu eiddo tra eu bod yn ceisio adfer eiddo i’w defnyddio fel eu prif gartref, lle y mae oedi yn sgil presenoldeb ystlumod neu faterion cynllunio neu fod yr adeilad yn adeilad rhestredig a/neu lefel y gwaith sydd ei angen ar yr eiddo. Bydd unrhyw gais hefyd yn destun prawf ariannol.