Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Myfyrwyr llawn-amser a nyrsys dan hyfforddiant

Os ydych yn fyfyriwr mae modd eich anwybyddu at ddibenion Treth y Cyngor ond bod y canlynol yn wir:

  • Eich bod yn dilyn cwrs llawn-amser o addysg bellach neu uwch mewn Prifysgol, coleg neu sefydliad addysgol arall
  • Bod y cwrs yn para o leiaf un flwyddyn ac yn cynnwys o leiaf 21 awr o astudiaeth yr wythnos am o leiaf 24 wythnos yn y flwyddyn
  • Os ydych dan 20 oed ac yn dilyn cwrs sy'n para mwy na 3 mis calendr ac yn cynnwys o leiaf 12 awr o bresenoldeb yr wythnos rhwng 8.00am a 5.30pm. Rhaid i'r cwrs beidio â bod drwy ohebiaeth nac o ganlyniad i swydd rhywun a rhaid iddo beidio â bod yn gwrs addysg uwch.

Gwneud cais am Ostyngiad Myfyriwr

 

ID: 40, adolygwyd 09/09/2022