Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Pobl ag Anableddau

Dan amgylchiadau arbennig, mae modd caniatáu gostyngiad yn Nhreth y Cyngor ar eiddo sy'n gartref i rywun ag anabledd. Nid oes unrhyw derfyn oed ac nid yw'n angenrheidiol mai'r unigolyn ag anabledd yw'r trethdalwr, ond rhaid bod ag anabledd ‘parhaol a sylweddol'.

I fod â hawl, rhaid i'r ddau faen prawf canlynol fod yn berthnasol:

Maen prawf cyntaf

Rhaid bod rhywun ag anabledd parhaol a sylweddol yn byw yn y cyfeiriad lle mae gostyngiad yn cael ei hawlio. Nid yw'n angenrheidiol mai'r unigolyn gyda'r anabledd yw talwr Treth y Cyngor.

Ail faen prawf

Rhaid i un o'r amodau canlynol fod yn berthnasol hefyd:

  • Bod ystafell, heblaw ystafell ymolchi neu gegin, sy'n cael ei defnyddio'n bennaf i ddiwallu anghenion yr unigolyn ag anabledd.
  • Neu, bod angen ail ystafell ymolchi neu gegin i ddiwallu anghenion yr unigolyn ag anabledd.
  • Neu, bod yr unigolyn ag anabledd yn gorfod defnyddio cadair olwynion yn yr eiddo, a bod digon o arwynebedd llawr i ganiatáu hyn.

Os yw'r amgylchiadau hyn yn berthnasol i chi, neu rywun sy'n byw gyda chi, dylech wneud cais am ostyngiad rhywun ag anabledd. Sylwch mai talwr Treth y Cyngor sy'n gorfod hawlio'r gostyngiad.

Gwneud cais am Ostyngiad Rhywun ag Anabledd

Pan fo'r gostyngiad yn berthnasol, Treth y Cyngor sy'n cael ei chodi ar yr eiddo yw'r gyfradd am y band islaw gwir fand yr eiddo. Felly, er enghraifft, os mai Band D yw'r eiddo, bydd y bil yr un fath ag eiddo Band C. Os yw'r eiddo eisoes yn y band isaf, sef A, mae gostyngiad o 1/9fed o'r tâl Band D yn berthnasol.

Gallwch ddal i fod â hawl i ostyngiadau eraill fel gostyngiad unigolyn a gostyngiad Treth y Cyngor yn ogystal â gostyngiad rhywun ag anabledd.

Fel arfer, bydd angen i ni ymweld â chi i gadarnhau eich bod yn cyrraedd y meini prawf.

 

ID: 38, adolygwyd 22/02/2023