Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Pobl gydag amhariad gwybyddol sylweddol

Os cawsoch eich ardystio gan weithiwr meddygol proffesiynol fel rhywun ag amhariad gwybyddol sylweddol (SCI), nid yw'n cael ei ystyried eich bod yn byw yn eich eiddo at ddibenion Treth y Cyngor.

Pobl sydd â hawl i ryddhad

Os ydych yn byw ar eich pen eich hun a bod gennych amhariad gwybyddol sylweddol, byddwch yn rhydd o dalu unrhyw Dreth y Cyngor o gwbl. Gan ddibynnu ar bwy arall sy'n byw yn eich eiddo, fe all gostyngiad fod yn berthnasol.

Pobl sydd â hawl i ostyngiad

  • Os ydych yn byw gydag eraill sydd heb fod ag amhariad gwybyddol sylweddol gallwch ddal i fod â hawl i ostyngiad yn dibynnu ar eu statws. Os caiff pawb mewn eiddo eu hanwybyddu, caiff gostyngiad o 50% ei ddyfarnu
  • Os yw pawb ond un mewn eiddo'n cael eu hanwybyddu, caiff gostyngiad o 25% ei ddyfarnu
  • Os yw mwy na dau o bobl heb gael eu hanwybyddu, nid oes modd rhoi unrhyw ostyngiad.

 

Sut i ddweud a ydych yn cymhwyso fel Amhariad Gwybyddol Sylweddol (SCI)?

Mae'n cael ei ystyried fod gennych amhariad gwybyddol sylweddol os yw'r canlynol yn berthnasol:

  • Cawsoch eich ardystio gan feddyg fel rhywun ag amhariad o ran deallusrwydd a gweithredu cymdeithasol y mae disgwyl iddo fod yn barhaol.

Rydych yn derbyn un o'r canlynol:

  • Lwfans gweini dan Adran 64 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.
  • Lwfans anabledd difrifol
  • Cyfradd uchaf neu ganol o elfen ofal lwfans byw i bobl ag anabledd
  • Cyfradd safonol neu uwch o gydran bywyd bob dydd y taliad annibyniaeth bersonol
  • Cynnydd yng nghyfradd eich pensiwn anabledd (lle bo angen gweini cyson)
  • Lwfans cyflogaeth a chymorth
  • Lwfans neu dâl atodol anghyflogadwyedd
  • Lwfans gweini cyson neu gymhorthdal incwm gan gynnwys premiwm anabledd.
  • Cymhorthdal incwm pan fo'r swm perthnasol yn cynnwys premiwm anabledd
  • Credyd cynhwysol sy'n cynnwys swm oherwydd bod gallu'r unigolyn i weithio neu wneud gweithgaredd cysylltiedig â gwaith yn gyfyngedig neu a fyddai'n ei gynnwys heblaw am reoliadau 27(4) neu 29(4).
  • Taliad annibyniaeth y lluoedd arfog dan Orchymyn (Cynllun Digolledu) y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd Arfog Wrth Gefn 2011

 

Bydd angen i chi roi tystiolaeth o unrhyw fudd-dal cymwys.

 

Foniwch y Gwasanaethau Refeniw ar 01437 764551 i ofyn am gopi o’r ffurflen gais.

 

 

ID: 43, adolygwyd 19/03/2026