Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Pobl sy’n Gadael Gofal
O 1 Ebrill 2019 gellir diystyru pobl sy'n gadael gofal ac sy'n bodloni'r diffiniad canlynol at ddibenion y dreth gyngor:
Mae person sy'n gadael gofal yn golygu person sy'n 24 oed neu'n iau ac yn berson ifanc categori 3 fel y'i diffinnir gan adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (1).
Gall disgownt diystyru fod yn berthnasol, yn dibynnu ar nifer y deiliaid eraill yn yr eiddo sydd dros 18 oed a'u statws. Er enghraifft, os yw eiddo ond yn cael ei feddiannu gan berson sy'n gadael gofal a pherson nad yw'n gadael gofal, yna byddai gostyngiad o 25% yn y dreth gyngor yn berthnasol.
I wneud cais am y disgownt, anfonwch e-bost, os gwelwch yn dda, at revenue.services@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch y Gwasanaethau Refeniw ar 01437 764551.
Gostyngiadau
I wneud cais am ostyngiad Treth Gyngor bydd angen i chi logio i mewn i'ch Fy Nghyfrif. Os nad oes gennych chi un eisoes dim ond mynd i gofrestru
Gostyngiad unigolyn sengl
Caiff taliad arferol y Dreth Gyngor am eiddo ei godi ar y sail fod o leiaf ddau oedolyn (pobl 18 oed neu hŷn) yn byw yn yr eiddo. Lle nad oes ond un oedolyn, rhown ‘Ostyngiad unigolyn sengl' o 25%.
Gwneud cais am ostyngiad unigolyn
Ail Gartrefi
Premiwm ail gartrefi
Diffiniad ail gartref yw annedd nad yw’n brif gartref neu’n unig gartref unigolyn ac sydd wedi’i ddodrefnu’n sylweddol.
Y cyngor sy'n gwneud y penderfyniad i godi premiwm ail gartref ac mae wedi penderfynu ar y canlynol:-
- O 1 Ebrill 2017 ymlaen codi premiwm ail gartref o 50%
- O 1 Ebrill 2022 ymlaen codi premiwm ail gartref o 100%
- O 1 Ebrill 2024 ymlaen codi premiwm ail gartref o 200%
- O 1 Ebrill 2025 ymlaen codi premiwm ail gartref o 150%
- O 1 Ebrill 2026 ymlaen codi premiwm ail gartref o 125%
Mae’r premiwm ail gartref yn ychwanegol at y tâl safonol ar gyfer y dreth gyngor.
Eithriadau i’r Premiwm Ail Gartref
Dosbarth 1: Anheddau’n cael eu marchnata ar werth – yn gyfyngedig i flwyddyn
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn, rhaid i annedd fod ar y farchnad i’w gwerthu am bris rhesymol. Wrth ystyried a ydyw pris yn rhesymol, bydd cymariaethau’n cael eu gwneud gydag eiddo eraill sydd ar werth / wedi’u gwerthu yn yr ardal. Bydd angen tystiolaeth bod yr eiddo ar werth.
Sylwch fod yr eithriad hwn yn gyfyngedig o ran amser i flwyddyn. Fodd bynnag, gellir ymestyn y cyfnod hwn os oes gwerthiant ar fin digwydd.
Dosbarth 2: Anheddau’n cael eu marchnata i’w gosod – yn gyfyngedig i flwyddyn
I fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn, rhaid i’r annedd fod ar y farchnad i’w gosod am rent rhesymol. Bydd angen tystiolaeth bod yr eiddo’n cael ei farchnata i’w osod.
Sylwch fod yr eithriad hwn wedi’i gyfyngu o ran amser i flwyddyn, ond gellir ymestyn y cyfnod hwn os yw’r eiddo ar fin cael ei osod.
Dosbarth 3: Rhandai sy’n ffurfio rhan o’r brif annedd, neu’n cael eu trin fel rhan o’r brif annedd
Mae’r eithriad hwn yn berthnasol pan fo perchennog wedi addasu ei annedd i ddarparu rhandy a bod y rhandy bellach yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r brif annedd.
Dosbarth 4: Anheddau a fyddai’n unig neu brif breswylfa rhywun pe na bai’n preswylio yn llety’r lluoedd arfog
Mae’r eithriad hwn yn berthnasol i anheddau a fyddai’n unig neu brif breswylfa unigolyn ond sydd heb eu meddiannu oherwydd bod yr unigolyn hwnnw’n byw mewn llety lluoedd arfog.
Mae hefyd yn cynnwys personél y lluoedd arfog y mae eu cartrefi heb eu meddiannu oherwydd eu bod yn byw mewn llety lluoedd arfog dramor.
Dosbarth 5: Lleiniau carafanau ac angorfeydd cychod wedi’u meddiannu
Dosbarth 6: Anheddau lle mae amod cynllunio yn atal deiliadaeth am gyfnod di-dor o 28 diwrnod o leiaf mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, megis cabanau gwyliau a thai gwyliau pwrpasol
Yn weithredol ers 1 Ebrill 2023, mae’r eithriad Dosbarth 6 wedi’i ddiwygio fel a ganlyn:
Anheddau lle mae amod cynllunio:
- yn cyfyngu ar feddiannaeth am gyfnod di-dor o 28 diwrnod o leiaf mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn
- yn nodi y gellir defnyddio’r annedd fel llety gwyliau a osodir yn unig, neu
- yn atal deiliadaeth fel unig neu brif breswylfa unigolyn
Dosbarth 7: Anheddau sy’n cael eu meddiannu o bryd i’w gilydd pan fo’n ofynnol i unigolyn breswylio yn rhywle arall mewn llety sy’n gysylltiedig â swydd
Os credwch na ddylech fod yn destun y premiwm neu os yw eich eiddo yn dod o fewn y diffiniad uchod ond nad yw eich bil yn adlewyrchu’r tâl ychwanegol, dylech hysbysu’r Cyngor o fewn 21 diwrnod. Gall methu â darparu gwybodaeth neu roi gwybodaeth ffug arwain at gosb o £50, y gellir ei gorfodi yn y Llys Ynadon.
Ystyrir sawl ffactor wrth bennu prif breswylfa unigolyn at ddibenion y dreth gyngor. Mae’r rhain yn cynnwys lle mae unigolyn wedi’i gofrestru i bleidleisio, a ydyw’r eiddo yn eiddo iddo ef neu’n cael ei rentu, faint o amser a dreulir yn yr eiddo, cysylltiadau teuluol, lle cedwir y rhan fwyaf o eiddo personol unigolyn, lle mae unigolyn wedi’i gofrestru gyda meddyg teulu / deintydd, lle anfonir ei ohebiaeth, lle mae ei gymar yn preswylio, a lle mae eu plant yn mynd i’r ysgol (os yw’n berthnasol).
Os oes gennych fwy nag un breswylfa, cwblhewch y Ffurflen unig neu brif breswylfa i’n cynorthwyo i wneud penderfyniad ynghylch pa gyfeiriad y dylid ei ddosbarthu fel eich prif breswylfa.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r uchod, cysylltwch â’r Gwasanaethau Refeniw: (01437 764551)
Premiymau’r dreth gyngor – Incwm a gwariant
Bwriedir i’r disgresiwn a roddir i awdurdodau lleol i godi tâl premiwm fod yn fodd i helpu i gyflawni’r materion canlynol:
- bod tai gwag hirdymor yn cael eu defnyddio unwaith eto i ddarparu eiddo diogel, sicr a fforddiadwy
- cefnogi awdurdodau lleol i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol
Gall awdurdodau lleol osod premiymau ar eiddo gwag hirdymor neu ail gartrefi neu’r ddau a gallant osod lefelau gwahanol o bremiwm ar gyfer pob dosbarth.
Cynlluniwyd y pwerau’n fwriadol fel pwerau disgresiwn i ganiatáu i awdurdodau lleol deilwra eu defnydd er mwyn mynd i’r afael â blaenoriaethau lleol ac er mwyn adlewyrchu patrymau gwahanol y tai sydd ar gael ac sydd eu hangen ledled Cymru.
Sut mae'r arian a gesglir o bremiymau’r dreth gyngor yn Sir Benfro yn cael ei wario?
Ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2023/24
- Cyfanswm yr ail gartrefi: 4043
- Cyfanswm nifer yr ail gartrefi sydd â rhwymedigaeth i dalu’r premiwm ym mis Mawrth 2024: 3455
- Cyfanswm nifer yr eiddo gwag hirdymor: 522
- Cyfanswm yr eiddo gwag hirdymor sydd â rhwymedigaeth i dalu’r premiwm ym mis Mawrth 2024: 498
- Cyfanswm yr incwm ychwanegol a gynhyrchwyd o godi premiwm ar ail gartrefi: £4.80m
- Cyfanswm yr incwm ychwanegol a gynhyrchwyd o godi premiwm ar eiddo gwag hirdymor: £0.40m
Sut mae’r incwm ychwanegol o bremiymau ail gartrefi a godwyd wedi’i ddefnyddio yn 2023/24:
- Tai fforddiadwy: 18.75%
- Gwella Sir Benfro: 6.25%
- Cronfa gyffredinol gwasanaethau cymunedol: 75%
Sut y defnyddiwyd incwm ychwanegol o bremiymau eiddo gwag hirdymor yn 2023/24:
- Sicrhau bod tai yn cael eu defnyddio unwaith eto: 100%
- Cronfa gyfferdinol gwasanaethau Tai: 0%
Sut mae’r arian a gesglir o bremiymau’r dreth gyngor yn Sir Benfro yn cael ei wario?
Ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25
- Cyfanswm yr ail gartrefi: 4259
- Cyfanswm nifer yr ail gartrefi sy’n atebol i dalu premiwm ym mis Mawrth 2025: 3399
- Cyfanswm nifer yr eiddo gwag hirdymor: 612
- Cyfanswm nifer yr eiddo gwag hirdymor sy’n atebol i dalu premiwm ym mis Mawrth 2025: 537
- Cyfanswm yr incwm ychwanegol a gynhyrchwyd o godi premiwm ar ail gartrefi: £10,568,971.94
- Cyfanswm yr incwm ychwanegol a gynhyrchwyd o godi premiwm ar eiddo gwag hirdymor: £1,477,262.30
Sut mae’r incwm ychwanegol o bremiymau ail gartrefi wedi cael ei ddefnyddio yn 2024/25:
- 85% i ariannu elfennau o gyllideb y cyngor yn ymwneud â thai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol
- 75% (o’r 15% sy’n weddill) ar gyfer y rhaglen Tai Fforddiadwy
- 25% (o’r 15% sy’n weddill) ar gyfer Cynllun Grant Gwella Sir Benfro
Sut mae’r incwm ychwanegol o bremiymau eiddo gwag hirdymor wedi cael ei ddefnyddio yn 2024/25:
- 100% i ariannu elfennau o gyllideb y cyngor yn ymwneud â thai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol.
- 0% ar gyfer adfer eiddo gwag i’w defnyddio eto.
Canllawiau Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Eiddo gwag
- Gwag: Eiddo nad yw’n brif gartref i unrhyw un ac sydd i raddau helaeth heb ei ddodrefnu
- Heb ei feddiannu: Eiddo wedi’i ddodrefnu nad yw’n brif gartref i neb
- Wedi’i feddiannu: Eiddo y mae rhywun yn byw ynddo fel ei brif gartref
Mae eiddo sydd heb ei feddiannu a heb ddodrefn yn denu tâl 100% ar ôl i unrhyw eithriad Dosbarth A neu Ddosbarth C ddod i ben.
Premiwm Eiddo Gwag Hirdymor
Ers 1 Ebrill 2019, mae premiwm ychwanegol yn daladwy ar eiddo gwag hirdymor fel a ganlyn:
- O 1 Ebrill 2019, premiwm y dreth gyngor fyddai 25%, h.y. codir 125% o’r dreth gyngor yn flynyddol ar eiddo sy’n wag ers tair blynedd neu ragor.
- O 1 Ebrill 2020, premiwm y dreth gyngor fyddai 50% ar gyfer eiddo sy’n wag am bedair blynedd neu ragor, h.y. codir 150% o’r dreth gyngor yn flynyddol.
- O 1 Ebrill 2021, premiwm y dreth gyngor fyddai 100% ar gyfer eiddo sy’n wag am bum mlynedd neu ragor, h.y. codir 200% o’r dreth gyngor yn flynyddol.
Yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2023, penderfynodd yr Aelodau ddiwygio’r premiwm a godir ar eiddo gwag hirdymor (heb ei feddiannu a heb ddodrefn), gan ddod i rym o 1 Ebrill 2024:
- Ar gyfer eiddo sy’n wag am ddwy flynedd 100%
- Ar gyfer eiddo sy’n wag am dair blynedd 200%
- Ar gyfer eiddo sy’n wag am bedair blynedd neu ragor 300%
Yng nghyfarfod y cyngor ar 12 Rhagfyr 2024, penderfynodd yr Aelodau ddiwygio’r premiwm a godir ar eiddo gwag hirdymor (heb ei feddiannu a heb ddodrefn) o 1 Ebrill 2025 i:
- 300% ar gyfer eiddo sy'n wag am ddwy flynedd neu ragor
Yng nghyfarfod y cyngor a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2025, penderfynodd yr aelodau y byddai'r premiwm ar gyfer eiddo gwag hirdymor yn aros yn 300% ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2026.
Mae’r premiwm yn ychwanegol at y tâl safonol, sy’n cynnwys y praesept a godir gan y cyngor, cyngor tref a chymuned a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.
Mae yna bedwar eithriad statudol i’r premiwm:
Dosbarth 1: Anheddau’n cael eu marchnata i’w gwerthu
- yn gyfyngedig i flwyddyn
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn, rhaid i annedd fod ar y farchnad i’w gwerthu am bris rhesymol. Wrth ystyried a ydyw pris yn rhesymol, bydd cymariaethau’n cael eu gwneud gydag eiddo eraill sydd ar werth / wedi’u gwerthu yn yr ardal. Bydd angen tystiolaeth bod yr eiddo ar werth.
Sylwch fod yr eithriad hwn yn gyfyngedig o ran amser i flwyddyn. Fodd bynnag, gellir ymestyn y cyfnod hwn os oes gwerthiant ar fin digwydd. Bydd angen i chi wneud cais am unrhyw estyniad ar y ffurflen atodedig.
Dosbarth 2: Anheddau’n cael eu marchnata i’w gosod
- yn gyfyngedig i flwyddyn
I fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn, rhaid i’r annedd fod ar y farchnad i’w gosod am rent rhesymol. Bydd angen tystiolaeth bod yr eiddo’n cael ei farchnata i’w osod.
Sylwch fod yr eithriad hwn wedi’i gyfyngu o ran amser i flwyddyn, ond gellir ymestyn y cyfnod hwn os yw’r eiddo ar fin cael ei osod. Bydd angen i chi wneud cais am unrhyw estyniad ar y ffurflen atodedig.
Dosbarth 3: Rhandai sy’n rhan o’r brif annedd ac sy’n cael eu defnyddio fel rhan o’r brif annedd
Mae’r eithriad hwn yn berthnasol pan fo perchennog wedi addasu ei annedd i ddarparu rhandy a bod y rhandy bellach yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r brif annedd.
Dosbarth 4: Anheddau a fyddai’n unig neu brif breswylfa rhywun pe na bai’n preswylio yn llety’r lluoedd arfog
Mae’r eithriad hwn yn berthnasol i anheddau a fyddai’n unig neu brif breswylfa unigolyn ond sydd heb eu meddiannu oherwydd bod yr unigolyn hwnnw’n byw mewn llety lluoedd arfog.
Mae hefyd yn cynnwys personél y lluoedd arfog y mae eu cartrefi heb eu meddiannu oherwydd eu bod yn byw mewn llety lluoedd arfog dramor.
Apeliadau
Mae proses apelio hefyd wedi’i dyfeisio i ganiatáu gostyngiad dewisol am gyfnod dros dro pan fo angen amser ychwanegol ar y trethdalwr cyn y bydd y premiwm yn cael ei gymhwyso. Rhoddir ystyriaeth i drethdalwyr sy’n rhentu eiddo ar yr un pryd â cheisio adnewyddu eiddo i’w ddefnyddio fel eu prif gartref, lle ceir oedi oherwydd presenoldeb ystlumod, neu faterion cynllunio, neu os yw’r eiddo yn adeilad rhestredig a/neu lefel y gwaith y mae ei hangen ar yr eiddo. Bydd unrhyw gais hefyd yn destun prawf ariannol.
Pobl anabledd
Dan amgylchiadau arbennig, mae modd caniatáu gostyngiad yn Nhreth y Cyngor ar eiddo sy'n gartref i rywun ag anabledd. Nid oes unrhyw derfyn oed ac nid yw'n angenrheidiol mai'r unigolyn ag anabledd yw'r trethdalwr, ond rhaid bod ag anabledd ‘parhaol a sylweddol'.
I fod â hawl, rhaid i'r ddau faen prawf canlynol fod yn berthnasol:
Maen prawf cyntaf
Rhaid bod rhywun ag anabledd parhaol a sylweddol yn byw yn y cyfeiriad lle mae gostyngiad yn cael ei hawlio. Nid yw'n angenrheidiol mai'r unigolyn gyda'r anabledd yw talwr Treth y Cyngor.
Ail faen prawf
Rhaid i un o'r amodau canlynol fod yn berthnasol hefyd:
- Bod ystafell, heblaw ystafell ymolchi neu gegin, sy'n cael ei defnyddio'n bennaf i ddiwallu anghenion yr unigolyn ag anabledd.
- Neu, bod angen ail ystafell ymolchi neu gegin i ddiwallu anghenion yr unigolyn ag anabledd.
- Neu, bod yr unigolyn ag anabledd yn gorfod defnyddio cadair olwynion yn yr eiddo, a bod digon o arwynebedd llawr i ganiatáu hyn.
Os yw'r amgylchiadau hyn yn berthnasol i chi, neu rywun sy'n byw gyda chi, dylech wneud cais am ostyngiad rhywun ag anabledd. Sylwch mai talwr Treth y Cyngor sy'n gorfod hawlio'r gostyngiad.
Gwneud cais am Ostyngiad Rhywun ag Anabledd
Pan fo'r gostyngiad yn berthnasol, Treth y Cyngor sy'n cael ei chodi ar yr eiddo yw'r gyfradd am y band islaw gwir fand yr eiddo. Felly, er enghraifft, os mai Band D yw'r eiddo, bydd y bil yr un fath ag eiddo Band C. Os yw'r eiddo eisoes yn y band isaf, sef A, mae gostyngiad o 1/9fed o'r tâl Band D yn berthnasol.
Gallwch ddal i fod â hawl i ostyngiadau eraill fel gostyngiad unigolyn a gostyngiad Treth y Cyngor yn ogystal â gostyngiad rhywun ag anabledd.
Fel arfer, bydd angen i ni ymweld â chi i gadarnhau eich bod yn cyrraedd y meini prawf.
Pobl nad ydynt yn cael eu cyfrif (eu hanwybyddu) ar gyfer Treth y Cyngor
Mae modd ‘anwybyddu' rhai pobl at ddibenion Treth y Cyngor. Mae hyn yn golygu nad ydym yn eu cyfrif pan fyddwn yn ystyried faint o oedolion sy'n byw yn yr eiddo. Os mai nifer yr oedolion sy'n cael eu cyfrif yw un, caiff gostyngiad o 25% ei ganiatáu. Os nad oes dim oedolion yn cyfrif, caiff gostyngiad o 50% ei ganiatáu.
Mae'r rhestr ganlynol yn dangos y bobl y mae modd eu hanwybyddu:
- Myfyrwyr llawn-amser a nyrsys dan hyfforddiant
- Prentisiaid
- Pobl y mae Budd-dal Plant yn daladwy ar eu cyfer ac ymadawyr ysgol dan 20 oed
- Pobl gydag amhariad gwybyddol sylweddol
- Gweithwyr gofal arbennig a phobl sy'n darparu gofal yn y cartref
- Pobl sy'n darparu neu'n derbyn gofal yn rhywle arall
- Cleifion sy'n byw mewn ysbyty neu mewn cartref nyrsio
- Carcharorion a phobl eraill a gadwyd yn y ddalfa
- Aelodau cymunedau crefyddol cydnabyddedig
- Diplomyddion estron
Myfyrwyr llawn-amser a nyrsys dan hyfforddiant
Os ydych yn fyfyriwr mae modd eich anwybyddu at ddibenion Treth y Cyngor ond bod y canlynol yn wir:
- Eich bod yn dilyn cwrs llawn-amser o addysg bellach neu uwch mewn Prifysgol, coleg neu sefydliad addysgol arall
- Bod y cwrs yn para o leiaf un flwyddyn ac yn cynnwys o leiaf 21 awr o astudiaeth yr wythnos am o leiaf 24 wythnos yn y flwyddyn
- Os ydych dan 20 oed ac yn dilyn cwrs sy'n para mwy na 3 mis calendr ac yn cynnwys o leiaf 12 awr o bresenoldeb yr wythnos rhwng 8.00am a 5.30pm. Rhaid i'r cwrs beidio â bod drwy ohebiaeth nac o ganlyniad i swydd rhywun a rhaid iddo beidio â bod yn gwrs addysg uwch.
Nyrsys dan Hyfforddiant
Mae person yn fyfyriwr nyrsio ar ddiwrnod penodol os, ar y diwrnod hwnnw, y mae’n ymgymryd â chwrs a fyddai (o’i gwblhau’n llwyddiannus) yn arwain at gofrestriad cyntaf yn y Rhan i Nyrsys neu’r Rhan i Fydwragedd o’r gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(79).
Ystyrir bod person yn ymgymryd â chwrs ar ddiwrnod penodol os yw’r diwrnod o fewn y cyfnod perthnasol ar gyfer y cwrs hwnnw.
Gwneud cais am ostyngiad myfyriwr
Prentisiaid
Mae person yn brentis ar ddiwrnod penodol os ar y diwrnod hwnnw mae—
- wedi ei gyflogi at ddiben dysgu crefft, busnes, proffesiwn, swydd, cyflogaeth neu alwedigaeth gan gael cyflog neu lwfans neu’r ddau, nad ydynt yn fwy na’r gyfradd fesul awr a nodir yn rheoliad 4A(1)(c) neu (d) o Reoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015(74), a
- at y diben hwnnw, yn ymgymryd â rhaglen hyfforddi sy’n arwain at gymhwyster a ddyfernir gan gorff—
- a gydnabyddir gan y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau o dan adran 132 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(75) mewn cysylltiad â’r cymhwyster, neu
- a gydnabyddir gan Cymwysterau Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015(76).
Gwneud cais am ostyngiad prentis/Hyfforddai ifanc
Pobl y mae Budd-dal Plant yn daladwy ar eu cyfer ac ymadawyr ysgol dan 20 oed
Os ydych dan 18 oed ni fyddwch yn cael eich trin fel preswylydd at ddibenion Treth y Cyngor.
Os ydych wedi cyrraedd 18 oed ond bod hawl i fudd-dal plant yn parhau rydych yn dal i gael eich anwybyddu at ddibenion Treth y Cyngor. Byddwn angen tystiolaeth bod budd-dal plant yn dal yn daladwy, e.e. llythyr hysbysu neu gyfriflen banc.
Os ydych yn 18 oed neu hŷn a than 20 oed ac wedi gorffen cwrs llawn-amser o addysg rhwng 1af Ebrill a 1af Tachwedd ni fyddwch yn cael eich trin fel preswylydd at ddibenion Treth y Cyngor hyd at ac yn cynnwys 31ain Hydref. Bydd arnom angen cadarnhad o ddyddiad darfod y cwrs.
Gwneud cais am ostyngiad pobl y mae Budd-dal Plant yn daladwy ar eu cyfer
Pobl gydag amhariad gwybyddol sylweddol
Os cawsoch eich ardystio gan weithiwr meddygol proffesiynol fel rhywun ag amhariad gwybyddol sylweddol (SCI), nid yw'n cael ei ystyried eich bod yn byw yn eich eiddo at ddibenion Treth y Cyngor.
Pobl sydd â hawl i ryddhad
Os ydych yn byw ar eich pen eich hun a bod gennych amhariad gwybyddol sylweddol, byddwch yn rhydd o dalu unrhyw Dreth y Cyngor o gwbl. Gan ddibynnu ar bwy arall sy'n byw yn eich eiddo, fe all gostyngiad fod yn berthnasol.
Pobl sydd â hawl i ostyngiad
- Os ydych yn byw gydag eraill sydd heb fod ag amhariad gwybyddol sylweddol gallwch ddal i fod â hawl i ostyngiad yn dibynnu ar eu statws. Os caiff pawb mewn eiddo eu hanwybyddu, caiff gostyngiad o 50% ei ddyfarnu
- Os yw pawb ond un mewn eiddo'n cael eu hanwybyddu, caiff gostyngiad o 25% ei ddyfarnu
- Os yw mwy na dau o bobl heb gael eu hanwybyddu, nid oes modd rhoi unrhyw ostyngiad.
Sut i ddweud a ydych yn cymhwyso fel Amhariad Gwybyddol Sylweddol (SCI)?
Mae'n cael ei ystyried fod gennych amhariad gwybyddol sylweddol os yw'r canlynol yn berthnasol:
- Cawsoch eich ardystio gan feddyg fel rhywun ag amhariad o ran deallusrwydd a gweithredu cymdeithasol y mae disgwyl iddo fod yn barhaol.
Rydych yn derbyn un o'r canlynol:
- Lwfans gweini dan Adran 64 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.
- Lwfans anabledd difrifol
- Cyfradd uchaf neu ganol o elfen ofal lwfans byw i bobl ag anabledd
- Cyfradd safonol neu uwch o gydran bywyd bob dydd y taliad annibyniaeth bersonol
- Cynnydd yng nghyfradd eich pensiwn anabledd (lle bo angen gweini cyson)
- Lwfans cyflogaeth a chymorth
- Lwfans neu dâl atodol anghyflogadwyedd
- Lwfans gweini cyson neu gymhorthdal incwm gan gynnwys premiwm anabledd.
- Cymhorthdal incwm pan fo'r swm perthnasol yn cynnwys premiwm anabledd
- Credyd cynhwysol sy'n cynnwys swm oherwydd bod gallu'r unigolyn i weithio neu wneud gweithgaredd cysylltiedig â gwaith yn gyfyngedig neu a fyddai'n ei gynnwys heblaw am reoliadau 27(4) neu 29(4).
- Taliad annibyniaeth y lluoedd arfog dan Orchymyn (Cynllun Digolledu) y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd Arfog Wrth Gefn 2011
Bydd angen i chi roi tystiolaeth o unrhyw fudd-dal cymwys.
Foniwch y Gwasanaethau Refeniw ar 01437 764551 i ofyn am gopi o’r ffurflen gais.
Gostyngiad gofalwr
Er mwyn gwneud cais am ostyngiad gofalwr rhaid i'r gofalwr:
- Fod yn byw yn yr un eiddo â'r sawl sy'n cael gofal
- Ddarparu gofal am o leiaf 35 awr yr wythnos ar gyfartaledd
- Beidio â bod yn bartner y sawl sy'n cael gofal (neu riant - os yw'r un sydd angen gofal yn blentyn dan 18).
Rhaid i'r gofalwr fod yn gofalu am rywun â hawl i un o'r canlynol:
- Lwfans gweini
- Cyfradd uchaf neu ganol o elfen ofal lwfans byw i bobl ag anabledd
- Cynnydd yng nghyfradd pensiwn anabledd oherwydd yr angen am weini cyson
- Cynnydd yn y lwfans gweini cyson.
- Cyfradd safonol neu uwch o gydran bywyd bob dydd y taliad annibyniaeth bersonol dan Adran 78(3) o Ddeddf Diwygio Lles 2012
- Taliad annibyniaeth y lluoedd arfog dan Orchymyn (Cynllun Digolledu) y Lluoedd Arfog a'r Lluoedd Arfog Wrth Gefn 2011
Pobl sy’n darparu neu’n derbyn gofal yn rhywle arall
Mae biliau Treth y Cyngor yn tybio fod dau neu fwy o oedolion yn byw mewn eiddo. Oherwydd newid amgylchiadau mae hawl anwybyddu neu beidio â chyfrif rhai pobl sy'n byw yno at ddibenion Treth y Cyngor ac fe all gostyngiad neu ryddhad fod yn berthnasol.
Cartrefi Gofal, Nyrsio a Phreswyl
Bydd pobl sy'n byw mewn cartref gofal, nyrsio neu breswyl yn barhaol yn cael cyfrif y cartref fel eu hunig neu brif breswylfa.
Os yw eu cartref, yn union cyn mynd i'r cartref gofal, nyrsio neu breswyl yn cael ei adael yn wag ac yn dal ym meddiant neu'n cael ei rentu gan yr unigolyn, bydd yn Rhydd o Dreth y Cyngor o'r dyddiad y caiff y mynediad parhaol ei gadarnhau.
Os anfonwyd y cyfrif yn wreiddiol yn enw bwy bynnag sydd wedi mynd dan ofal, neu ar y cyd â phartner neu ddeiliad arall, bydd gweddill y deiliaid yn cael cyfrif diwygiedig. Os mai dim ond un deiliad sydd ar ôl yn yr eiddo bydd gostyngiad o 25% yn cael ei ganiatáu.
Bydd unrhyw ddeiliaid oedd yn bobl annibynnol sydd ar ôl yn cael cyfrif newydd o ddyddiad mynediad y deiliad blaenorol. Os mai dim ond un deiliad sydd ar ôl yn yr eiddo bydd gostyngiad o 25% yn cael ei ganiatáu. Bydd cyfrif terfynol yn cael ei anfon at yr unigolyn dan ofal, drwy'r Perthynas Agosaf yn yr eiddo.
Cleifion mewn ysbyty
Caiff pobl sydd â'u hunig neu brif breswylfa yn un o ysbytai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol eu hanwybyddu at ddibenion Treth y Cyngor. Bydd yr Ysbyty'n cael ei ddosbarthu fel eu hunig neu brif breswylfa tra byddant yn aros yn gleifion preswyl. Os ydynt yn yr ysbyty am ddim ond cyfnod byr cyn dychwelyd adref, ni fydd ganddynt hawl i ostyngiad.
Carcharorion a phobl eraill a gadwyd yn y ddalfa
Pobl sy'n cael eu dal trwy orchymyn llys, pa un ai ydynt yn y carchar, mewn ysbyty neu unrhyw fan arall. Nid yw'n cynnwys pobl yn y ddalfa.
Aelodau cymunedau crefyddol cydnabyddedig
Os ydych yn aelod o gymuned grefyddol gyda gweddi, myfyrdod, addysg, y rhyddhau o ddioddefaint neu unrhyw gyfuniad o'r rhain fel y brif alwedigaeth a heb unrhyw incwm neu gyfalaf eu hunain. Rhaid i chi fod yn ddibynnol ar y gymuned am eich holl anghenion materol.
Diplomyddion estron
Mae hyn yn cwmpasu eiddo lle mae'r unig breswylydd yn rhywun sydd â breintiau a rhyddid drwy Ddeddf Breintiau Diplomyddol 1964.