Mae modd ‘anwybyddu' rhai pobl at ddibenion Treth y Cyngor. Mae hyn yn golygu nad ydym yn eu cyfrif pan fyddwn yn ystyried faint o oedolion sy'n byw yn yr eiddo. Os mai nifer yr oedolion sy'n cael eu cyfrif yw un, caiff gostyngiad o 25% ei ganiatáu. Os nad oes dim oedolion yn cyfrif, caiff gostyngiad o 50% ei ganiatáu.
Mae'r rhestr ganlynol yn dangos y bobl y mae modd eu hanwybyddu.
· Myfyrwyr llawn-amser a nyrsys dan hyfforddiant
· Prentisiaid a Hyfforddeion Ifanc
· Pobl y mae Budd-dal Plant yn daladwy ar eu cyfer ac ymadawyr ysgol dan 20 oed
· Pobl gydag amhariad meddyliol difrifol
· Gweithwyr gofal arbennig a phobl sy'n darparu gofal yn y cartref
· Pobl sy'n darparu neu'n derbyn gofal yn rhywle arall
· Cleifion sy'n byw mewn ysbyty neu mewn cartref nyrsio
· Carcharorion a phobl eraill a gadwyd yn y ddalfa
· Aelodau cymunedau crefyddol cydnabyddedig
· Diplomyddion estron