Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Pobl y mae Budd-dal Plant yn daladwy ar eu cyfer ac ymadawyr ysgol dan 20 oed
Os ydych dan 18 oed ni fyddwch yn cael eich trin fel preswylydd at ddibenion treth y cyngor.
Os ydych wedi cyrraedd 18 oed ond bod hawl i fudd-dal plant yn parhau rydych yn dal i gael eich anwybyddu at ddibenion Treth y Cyngor. Byddwn angen tystiolaeth bod budd-dal plant yn dal yn daladwy, e.e. llythyr hysbysu neu gyfriflen banc.
Os ydych yn 18 oed neu hŷn a than 20 oed ac wedi gorffen cwrs llawn-amser o addysg rhwng 1af Ebrill a 1af Tachwedd ni fyddwch yn cael eich trin fel preswylydd at ddibenion Treth y Cyngor hyd at ac yn cynnwys 31ain Hydref. Bydd arnom angen cadarnhad o ddyddiad darfod y cwrs.
Gwneud cais am Ostyngiad Pobl y mae Budd-dal Plant yn Daladwy ar eu Cyfer
ID: 42, adolygwyd 22/02/2023