Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Prentisiaid

Mae person yn brentis ar ddiwrnod penodol os ar y diwrnod hwnnw mae—

  • wedi ei gyflogi at ddiben dysgu crefft, busnes, proffesiwn, swydd, cyflogaeth neu alwedigaeth gan gael cyflog neu lwfans neu’r ddau, nad ydynt yn fwy na’r gyfradd fesul awr a nodir yn rheoliad 4A(1)(c) neu (d) o Reoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015(74), a
  • at y diben hwnnw, yn ymgymryd â rhaglen hyfforddi sy’n arwain at gymhwyster a ddyfernir gan gorff—
  • a gydnabyddir gan y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau o dan adran 132 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(75) mewn cysylltiad â’r cymhwyster, neu
  • a gydnabyddir gan Cymwysterau Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015(76).

Gwneud cais am ostyngiad prentis/Hyfforddai ifanc

 

ID: 41, adolygwyd 19/03/2026