Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Prentisiaid a Hyfforddeion Hyfforddiant Ieuenctid
Byddwch yn cael eich trin fel prentis, heb ystyried eich oed, ond eich bod yn gyflogedig at ddiben dysgu crefft neu alwedigaeth ac yn dilyn rhaglen hyfforddi sy'n arwain at gymhwyster achrededig gan yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Gyngor Addysg Alwedigaethol yr Alban.
Mae'r anwybyddu'n berthnasol yn unig os ydych yn gweithio am gyflog neu os ydych yn derbyn lwfans, neu'r ddau, sy'n dod i gyfanswm o ddim mwy na £195 yr wythnos.
Gwneud cais am Ostyngiad Prentis/Hyfforddai ifanc
ID: 41, adolygwyd 09/09/2022