Graddfeydd Hylendid Bwyd

Beth yw gofynion y Cynllun Statudol?

Mae dyletswydd gyfreithiol ar yr holl fusnesau bwyd sy'n derbyn sgôr hylendid bwyd i arddangos eu sgôr hylendid bwyd, unwaith y mae'r cyfnod apelio wedi dod i ben neu, os ydynt wedi apelio, ar ôl i benderfyniad gael ei wneud gan yr apêl.

Rhaid i leoliad y sticer/i fod mewn lleoliad y mae cwsmeriaid yn gallu eu darllen yn hawdd. Rhaid i fusnesau arddangos eu sgôr wrth bob mynedfa y gallai'r cyhoedd eu defnyddio i fynd i mewn i'r eiddo.

Rhaid i weithwyr sy'n gweithio mewn busnesau bwyd fod yn ymwybodol o sgôr y busnes a rhaid iddynt hysbysu unigolyn ar lafar o'r sgôr os gofynnir iddynt wneud hynny.

Bydd y sgôr hylendid bwyd hefyd yn ymddangos ar wefan sgoriau hylendid bwyd ASB

ID: 1592, adolygwyd 17/03/2023