Graddfeydd Hylendid Bwyd

A allaf i geisio ymweliad pellach i ail-sgorio'r eiddo?

O dan y ddeddfwriaeth, gall y gweithredwr busnes bwyd ddefnyddio'r ffurflen a nodir yn y ddeddfwriaeth i geisio arolygiad pellach i ail-sgorio'r busnes os:

  • oes unrhyw apêl yn erbyn y sgôr wedi'i benderfynu;
  • yw'r gweithredwr wedi hysbysu'r awdurdod lleol o'r gwelliannau a wnaed i'r safonau hylendid yn yr eiddo bwyd;
  • yw'r awdurdod lleol yn ei ystyried yn rhesymol arolygu o ystyried y gwelliannau y dywedir sydd wedi'u gwneud;
  • yw'r sticer sgorio hylendid cyfredol yn cael ei arddangos;
  • yw'r gweithredwr busnes bwyd wedi cytuno i roi mynediad i'r swyddog arolygu; ac,
  • yw'r gweithredwr busnes bwyd wedi talu'r gost o ail-sgorio. Mae'r gost hon wedi'i gosod yn genedlaethol ar £180. Ni fydd ymweliad i ail-sgorio'r busnes yn cael ei wneud hyd nes bydd y ffi wedi'i thalu.

Darperir y ffurflen a nodir i geisio ail-sgorio busnes isod. Fel arall gellir cael gafael ar y ffurflen trwy gysylltu â'r swyddfa hon.

Os oes cais yn cael ei wneud am ymweliad pellach i ail-sgorio'r eiddo, a bod y meini prawf uchod yn cael eu bodloni, bydd yr ymweliad yn cael ei gynnal o fewn tri mis i dderbyn y cais.

Ffurflen Cais i Ail-sgorio DEDDF CSHB 2013

ID: 1597, adolygwyd 12/10/2022