Graddfeydd Hylendid Bwyd

A yw pob busnes bwyd sy'n rhan o'r gyfraith angen arddangos sgoriau hylendid bwyd?

Serch hynny mae rhai categorïau busnesau bwyd sy'n darparu bwyd i'r cwsmer terfynol nad ydynt yn rhan o'r cynllun a chan hynny ni fyddant yn derbyn sgôr hylendid bwyd.

Y categorïau busnesau bwyd sydd wedi'u heithrio o'r cynllun yw;

  • Eiddo ble nad gwerthu bwyd yw prif weithgaredd y busnes a rhai sy'n trin bwydydd risg isel yn unig (e.e, y rheini sy'n sefydlog ar y silff ar dymereddau amgylchol, sydd wedi'u rhwymo neu eu pecynnu cyn mynd i mewn i'r busnes, ac sy'n parhau wedi'u rhwymo bob amser hyd nes y byddant yn cael eu cyflenwi i'r defnyddwyr) fel:
    • canolfannau i ymwelwyr a sefydliadau tebyg sy'n gwerthu tuniau o fisgedi neu nwyddau eraill wedi'u rhwymo ymhlith ystod o nwyddau eraill; 
    • canolfannau hamdden gyda pheiriannau gwerthu bwyd yn unig yn gwerthu diodydd neu fwydydd risg isel yn unig;
    • gwerthwyr papurau newydd sy'n gwerthu melysion wedi'u pacio o flaenllaw; a
    • siopau fferyllol sy'n gwerthu melysion a/neu fwydydd iach wedi'u pacio o flaenllaw.
  • Rhai eiddo domestig sy'n cael eu defnyddio fel anheddau preifat a hefyd ar gyfer gwasanaethau gofalu fel gwarchodwyr plant neu leoliadau ar gyfer gofal oedolion. Er nad yw'r cynllun sgorio yn berthnasol i'r busnesau hyn, mae dal angen iddynt gydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch bwyd. Serch hynny, mae arlwywyr cartref yn rhan o'r cynllun.
ID: 1594, adolygwyd 12/10/2022