Graddfeydd Hylendid Bwyd

Beth sy'n digwydd os yw'r busnes bwyd yn methu cydymffurfio gydag un o'r gofynion o dan y cynllun?

Os oes gan fusnes sgôr o dan y cynllun statudol a'u bod yn:

  • methu arddangos sticer sgôr hylendid bwyd dilys;
  • arddangos sticer sgôr hylendid bwyd annilys;
  • methu cadw sticer sgôr hylendid bwyd dilys;
  • cael gwared ar feddiant o'r sgôr hylendid bwyd i unigolyn ac eithrio swyddog diogelwch bwyd awdurdodedig;
  • gwrthod cais gan unigolyn i roi gwybod beth yw sgôr hylendid bwyd yr eiddo ar lafar;
  • cynnig gwybodaeth gamarweiniol am sgôr hylendid bwyd eiddo pan ofynnir i ddarparu'r sgôr ar lafar;
  • anharddu, newid neu ymyrryd â'r sticer sgôr hylendid bwyd,

 byddant yn cyflawni trosedd o dan y ddeddfwriaeth.

Gallai unigolion sy'n cyflawni troseddau o dan y ddeddfwriaeth fod yn amodol ar Hysbysiad Cosb Benodedig a gyhoeddir gan swyddogion awdurdodedig o'r awdurdod lleol.

Mae hysbysiadau cosb benodedig yn rhoi cyfle i'r unigolyn dalu'r gosb o £200 o fewn 28 diwrnod (wedi'i ostwng i £150 os yw'n cael ei dalu o fewn 14 diwrnod o'i gyhoeddi).

Gallai unigolyn sydd wedi cyflawni troseddau o dan y ddeddfwriaeth, neu rwystro swyddog awdurdodedig gael ei erlyn.  

ID: 1600, adolygwyd 12/10/2022