Graddfeydd Hylendid Bwyd
Beth y mae Sgôr Hylendid Bwyd yn ei olygu?
Pan mae busnesau bwyd yn cael eu harolygu gan swyddogion Awdurdod Lleol maen nhw eisoes yn sgorio lefelau cydymffurfio busnesau bwyd yn erbyn tri maen prawf at ddibenion penderfynu ar amlder yr arolygiadau. Mae'r meini prawf hyn yn cael eu diffinio yn Atodiad 5 Cod Arfer Cyfraith Bwyd (Cymru) sef:
- Lefel gydymffurfio (cyfredol) gyda hylendid bwyd a gweithdrefnau diogelwch (gan gynnwys arferion a gweithdrefnau trin bwyd, a rheoli tymheredd),
- Lefel gydymffurfio (cyfredol) gyda gofynion strwythurol (gan gynnwys glendid, cynllun, cyflwr y strwythur, goleuadau, awyru, cyfleusterau ayyb), a
- Hyder mewn gweithdrefnau rheoli/rheolaeth.
Mae pob elfen yn derbyn sgôr rhifiadol yn erbyn y meini prawf perthnasol ar sail arweiniad a roddir yn y Cod. Yr isaf yw'r sgôr a dderbynnir, yr uchaf yw'r lefel gydymffurfio a nodir.
Mae'r sgoriau rhifiadol hyn wedyn yn cael eu 'mapio' i haen berthnasol y Cynllun sgorio hylendid bwyd. Dangosir hyn isod:
Sgoriau Atodiad 5
0-15
- Ffactor sgorio ychwanegol: Dim sgôr >5
- Sgôr Hylendid Bwyd: 5
20
- Ffactor sgorio ychwanegol: Dim sgôr >10
- Sgôr Hylendid Bwyd: 4
25-30
- Ffactor sgorio ychwanegol: Dim sgôr >10
- Sgôr Hylendid Bwyd: 3
35-40
- Ffactor sgorio ychwanegol: Dim sgôr >15
- Sgôr Hylendid Bwyd: 2
45-50
- Ffactor sgorio ychwanegol: Dim sgôr >20
- Sgôr Hylendid Bwyd: 1
>50
- Ffactor sgorio ychwanegol: -
- Sgôr Hylendid Bwyd: 0
Sgôr Hylendid Bwyd
ID: 1593, adolygwyd 12/10/2022