Graddfeydd Hylendid Bwyd

Pan fydd fy musnes yn cael ei sgorio, beth y byddaf yn ei dderbyn?

Pan fydd sgôr yn cael ei wobrwyo rhaid i'r busnes bwyd dderbyn:

  • hysbysiad ysgrifenedig o'u sgôr;
  • datganiad ysgrifenedig o'r rhesymau dros y sgôr, gan gynnwys pan na fydd busnes wedi cyflawni 5, manylion y camau sy'n angenrheidiol i'r busnes eu cymryd cyn y gall 5 gael ei wobrwyo;
  • nifer digonol o sticeri sgorio er mwyn i'r busnes allu arddangos eu sgôr ym mhob mynedfa y gallai'r cyhoedd eu defnyddio i fynd mewn i'r eiddo; a,
  • manylion ar hawl apelio, ceisio ail-sgôr, yr hawl i ateb (gan gynnwys y gost), a phryd a sut y bydd y sgôr yn cael ei chyhoeddi. Mae llawer o'r wybodaeth hon wedi'i chynnwys yn y daflen ASB "Mae'n dod yn haws adnabod hylendid bwyd da" a fydd yn cael ei dosbarthu gydag adroddiadau sgorio.
ID: 1595, adolygwyd 12/10/2022