Graddfeydd Hylendid Bwyd
Rwy'n Weithredwr Busnes Bwyd. A allaf i apelio yn erbyn fy sgôr?
O dan y ddeddfwriaeth gall gweithredwr busnes bwyd apelio o fewn 21 diwrnod i dderbyn eu sgôr, ar sail un neu ddau o'r isod:
- nid yw'r sgôr yn adlewyrchu'n gywir y safonau hylendid bwyd adeg yr arolygiad;
- na chafodd y meini prawf sgorio eu cymhwyso yn gywir wrth gynhyrchu'r sgôr hylendid bwyd.
Rhaid i'r apeliadau gael eu gwneud ar y ffurflen a nodir yn y ddeddfwriaeth. Gellir ei chael trwy gysylltu â'r adran diogelwch bwyd neu gellir ei lawrlwytho isod.
Ar ôl ei derbyn mae gan yr Awdurdod Lleol 21 diwrnod i wneud penderfyniad ar yr apêl. Byddwch yn cael eich hysbysu yn ysgrifenedig o ganlyniad yr apêl.
ID: 1596, adolygwyd 12/10/2022