Grant Gwella Sir Penfro
Grant Cyfoethogi Sir Benfro Meini Prawf Cyllido 2023 - 2025
Mae Cyngor Sir Penfro wedi ymrwymo i ddod â gwelliannau gwirioneddol i Sir Benfro. Mae Grant Cyfoethogi Sir Benfro yn rhan o raglen adfywio'r Cyngor (h.y. Cyngor Sir Penfro).
Beth yw Grant Cyfoethogi Sir Benfro?
Diben Grant Cyfoethogi Sir Benfro yw gwneud yn iawn am effeithiau negyddol perchnogaeth ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yng nghymunedau Sir Benfro. Mae cyllid ar gael ar gyfer prosiectau sy’n rhoi sylw i faterion yn deillio o berchnogaeth ail gartrefi ac sy’n hybu un neu fwy o nodau corfforaethol 2023-2028 y Cyngor (h.y. Cyngor Sir Penfro), a drefnwyd o gwmpas yr Amcanion Llesiant 2023-2028 canlynol:
- Gwella'r ddarpariaeth addysg a dysgu, gan arfogi dysgwyr â sgiliau a gwybodaeth gydol oes ar gyfer y dyfodol.
- Darparu gofal a chymorth priodol, gan ganolbwyntio ar atal a sicrhau bod pobl sy'n agored i niwed yn ddiogel.
- Cyflawni uchelgais economaidd trwy gefnogi twf, swyddi a ffyniant a galluogi'r newid i economi fwy cynaliadwy a gwyrddach.
- Mentrau i ddatgarboneiddio, rheoli’r broses o ymaddasu i newid hinsawdd a mynd i'r afael â'r argyfwng natur.
- Prosiectau sy'n cefnogi cymunedau ac yn adeiladu lleoedd llesol, dyfeisgar, cysylltiedig, cynaliadwy a chreadigol i fyw ynddynt.
- Gweithgaredd sy'n cefnogi'r Gymraeg o fewn cymunedau.
Yn ogystal, dylai'r prosiectau ddangos y canlynol:
- Maent yn cael cefnogaeth y gymuned leol a sefydliadau partner trwy ymgynghori priodol
- Maent wedi cael ystyriaeth drylwyr, mae ganddynt gynlluniau ariannol eglur ac mae modd eu cyflawni
- Maent yn ystyried cynaliadwyedd yn y dyfodol
- Maent yn ychwanegu gwerth at weithgareddau presennol ac yn ategu prosiectau a mentrau eraill
- Trwy ymgynghori, maent yn diwallu anghenion a chyfleoedd heddiw a’r dyfodol yn eu cymunedau
- Maent wedi ystyried sut all y prosiect fod o fudd i’r rhai sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig[1]
[1]* Caiff nodweddion gwarchodedig eu dynodi dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac maent yn cynnwys pobl o wahanol alluoedd, oedrannau, cefndiroedd ethnig, rhywiau a chrefyddau.
Lefel y grant
Mae £700,000.00 ar gael drwy Grant Cyfoethogi Sir Benfro ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-2025. Mae hyn wedi'i rannu'n brosiectau cymunedol mawr a bach. Rydym yn croesawu ceisiadau gan grwpiau a sefydliadau sy'n gweithio yn Sir Benfro.
- Mae cyfanswm o £300,000.00 wedi'i ddyrannu i gefnogi ceisiadau grant bach hyd at £15,000.00, er y gallai cyfanswm costau'r prosiect fod yn fwy na hyn.
- Mae cyfanswm o £400,000.00 wedi’i ddyrannu i gefnogi ceisiadau grant mawr hyd at £100,000.00, er y gallai cyfanswm costau'r prosiect fod yn fwy na hyn.
- Byddwn yn ystyried cyllido hyd at 80% o gyfanswm costau cymwys y prosiect. Gall arian cyfatebol fod 'mewn nwyddau neu yn wasanaethau', arian parod neu gyfuniad o'r ddau, a rhaid iddo fod yn ei le cyn i'ch prosiect ddechrau, ond nid oes angen iddo fod yn ei le cyn i chi wneud cais i Grant Cyfoethogi Sir Benfro.
Pwy all wneud cais am gymorth ariannol?
- Cynghorau Tref a Chymuned
- Grwpiau gwirfoddol a chymunedol cyfansoddiadol
- Elusennau cofrestredig
- Mudiadau nid-er-elw / mentrau cymdeithasol
- Caiff canghennau lleol o sefydliadau trydydd sector cenedlaethol gynnig trwy ddefnyddio cyfansoddiad y rhiant-gorff ond rhaid iddynt fod â’u cyfrif banc eu hunain. Byddwn hefyd yn gofyn am gadarnhad bod y rhiant-gorff yn cefnogi’r cais.
- Caiff consortia gyda chyfansoddiad anffurfiol neu ffurfiol yn gweithio ar brosiect arbennig wneud cais hefyd. Rhaid i’r holl sefydliadau sy’n rhan o gonsortiwm anffurfiol fod â hawl ynddynt eu hunain a rhaid iddynt ddarparu copi o’u cyfansoddiad neu ddogfen lywodraethol. Dylid llenwi’r ffurflen gais gan y sefydliad arweiniol a fydd yn gyfrifol yn y gyfraith am y grant ac a fydd yn derbyn arian y grant os bydd y cais yn llwyddiannus.
Ni allwn dderbyn ceisiadau oddi wrth y canlynol:
- Cyrff yn y sector preifat. Mae gwybodaeth am ffynonellau cyllid eraill a chymorth i gyrff yn y sector preifat ar gael oddi wrth Busnes Cymru (yn agor mewn tab newydd), neu gallwch eu ffonio ar 03000 6 03000.
- Ceisiadau ar ran sefydliadau eraill yn enw codwr arian proffesiynol (mae modd gwneud eithriadau ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned sy’n gwneud cais ar ran grŵp cymunedol)
- Buddiolwyr unigol
Beth ellir ei ariannu?
Mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer costau cyfalaf a/neu refeniw.
Costau Cyfalaf
Fe all cymorth ariannol ar gyfer costau cyfalaf gynnwys y canlynol (ond nid yn unig):
- Gwaith archwilio, clirio a pharatoi safle
- Adeiladu o’r newydd a / neu gostau ailwampio gan gynnwys ffïoedd proffesiynol uniongyrchol lle bo angen
- Tirlunio a gwaith gwella amgylcheddol arall
- Gosodion a ffitiadau yn uniongyrchol berthnasol i’r prosiect
- Offer TG pan fo’n uniongyrchol berthnasol i nodau’r prosiect
- Dim ond dan rai amgylchiadau y mae modd talu am eitemau symudol a cherbydau, fel arfer os ydynt yn ffurfio rhan annatod o brosiect mwy a bydd hyn yn cael ei ystyried fesul prosiect
Costau Refeniw
Fe all cymorth ariannol ar gyfer costau refeniw gynnwy y canlynol (ond nid yn unig):
- Cyflogau'n ymwneud â chreu swyddi newydd ac ychwanegol ond nid costau diswyddo
- Costau gorbenion (cyfradd unffurf o 15% o gostau staff uniongyrchol cymwys)
- Hyfforddi a Datblygu
- Costau marchnata
- Mae eitemau a brynwyd gyda chardiau credyd yn gymwys. Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu copi o ddatganiad y cerdyn credyd fel rhan o'r broses hawlio.
Caffael
Prynu nwyddau, gwasanaethau neu waith
Wrth gaffael gwaith, nwyddau a gwasanaethau, disgwylir i ymgeiswyr gynnal y broses mewn modd agored, sy’n sicrhau gwerth am arian a thegwch a rhaid iddynt ddilyn y gweithdrefnau caffael fel yr amlinellir yn yr adran hon.
Trothwyon caffael
Bydd yr union weithdrefnau i'w dilyn yn dibynnu ar faint yr archeb neu'r contract i'w osod. Mae Cyngor Sir Penfro (PCC) yn gweithredu set raddedig o weithdrefnau sy'n cydnabod yr angen i ysgafnhau gofynion gweinyddol ar gyfer contractau sy'n cynnwys symiau llai. Rhaid i bob ymgeisydd gydymffurfio â'r rheolau sydd wedi'u cynnwys yn Atodiad A.
Mae'n ofynnol i gyrff y sector cyhoeddus sy'n dod o dan Gyfarwyddebau Caffael yr UE ddilyn eu rheolau a'u gweithdrefnau caffael sefydliadol eu hunain.
Bydd methu â chydymffurfio â'r trothwyon caffael yn llawn yn golygu nad yw'r costau'n gymwys i gael cymorth o dan y gronfa hon.
Rheoli Cymorthdaliadau
Rhaid i bob cais hefyd ystyried sut y byddan nhw’n cyflawni yn unol â’r gyfundrefn rheoli cymorthdaliadau fel sydd yng nghanllawiau Llywodraeth y DU (yn agor mewn tab newydd)
Pan nad yw ymgeiswyr yn dangos yn ddigonol bod y prosiect arfaethedig yn cydymffurfio â Chyfundrefn Rheoli Cymorthdaliadau’r DU, efallai y caiff ei ystyried yn anghymwys, a gallai eich cais gael ei wrthod.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth yn Atodiad B.
Treth ar Werth (TAW)
Dylai cyfrifiadau costau prosiect gynnwys TAW heblaw yn achos Cynghorau Tref a Chymuned a sefydliadau eraill sy'n gymwys i hawlio TAW yn ôl. Pan fo modd adennill TAW, dylai cyfanswm costau'r prosiect adlewyrchu'r ffigur TAW net, pan nad oes modd adennill TAW dylai’r ffigurau gynnwys TAW.
Gall Cyllid a Thollau EF (yn agor mewn tab newydd) roi cyngor pellach neu gallwch eu ffonio ar 0300 200 3700.
Beth yw’r pethau nad oes modd eu cyllido?
Mae gweithgareddau eraill nad oes modd eu cyllido’n cynnwys:
- Y rhai sy’n gwrthweithio neu’n effeithio er gwaeth ar nodau, amcanion neu bolisi Cyngor Sir Penfro neu unrhyw gwmni / sefydliad cysylltiedig arall.
- Unrhyw brosiect sydd eisoes wedi dechrau neu waith lle nad yw deunyddiau neu’r dyluniad yn briodol o fewn canllawiau'r grant hwn.
- Ni ellir ystyried gwariant yr aethpwyd iddo cyn Llythyr Cynnig Grant Cyfoethogi Sir Benfro; mae hyn hefyd yn cynnwys lle mae contractau wedi'u llofnodi neu archebion wedi’u gosod.
- Gwariant parhaus, costau rhedeg, costau cynnal a chadw ac arian ar gyfer gweithgarwch presennol lle mae cyllid eisoes wedi'i sicrhau.
- Costau parhaus/ailadroddus ar gyfer gwasanaethau presennol sydd wedi derbyn cyllid o ffynonellau eraill.
- Yswiriant presennol, atgyweiriadau arferol a chostau cynnal a chadw/cyfarpar.
- O ddydd i ddydd, h.y. costau presennol sefydliadau gan gynnwys costau hyfforddi gorfodol.
- Gweithgareddau crefyddol (er bod croeso i gynigion am gyllid gan sefydliadau crefyddol).
- Ymgyrchoedd codi arian, teithiau ac ymweliadau e.e. gefeillio tref.
- Ni ellir cynnig na thalu grant os yw'r sefydliad neu'r ymgeisydd mewn ôl-ddyledion gydag unrhyw daliad i Gyngor Sir Penfro.
- Eitemau a brynir ar les, hurbwrcasu, cytundebau credyd estynedig/prydlesi cyllid.
- Mwy na thri chais gan unrhyw sefydliad unigol yn ystod y tair blynedd diwethaf ar gyfer yr un prosiect neu'r hyn yr ydym yn credu yw'r un prosiect.
- Cyflawnir mwy nag un prosiect 'byw' Cyfoethogi Sir Benfro fesul sefydliad ar unrhyw un adeg.
- Prosiectau sy'n gofyn am fwy na blwyddyn o gefnogaeth ariannol.
- Costau TAW adferadwy.
- Y rhai y mae dyletswydd ar gorff cyhoeddus i'w darparu.
- Y rhai sy'n effeithio ar gynaliadwyedd y ddarpariaeth bresennol neu'n effeithio'n andwyol arno.
- Unrhyw weithgaredd ar ran plaid wleidyddol.
Gwneud cais
Mynegi Diddordeb
Dylid e-bostio enhancing.pembrokeshire@pembrokeshire.gov.uk i gofrestru eich prosiect, gofyn am ffurflen Mynegi Diddordeb (EOI) a chymorth mynediad. Os yw'r wybodaeth a roddwch am eich EOI yn dangos bod y prosiect yn debygol o fod yn gymwys i gael cymorth, byddwn yn eich gwahodd i wneud cais llawn.
Gwahoddir ymgeiswyr yn awr i gyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb (EOIs) ar gyfer Grant Gwella Sir Penfro.
Rhaid cyflwyno EOI wedi'i gwblhau i enhancing.pembrokeshire@pembrokeshire.gov.uk
Asesir grantiau bach ar raglen dreigl drwy gydol y flwyddyn. Y dyddiad cau ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb ar gyfer y cynllun mawr yw 14 Mehefin 2024 a rhaid cyflwyno pob cais llawn mawr erbyn 12 Gorffennaf 2024.
Mae'n bwysig eich bod yn caniatáu digon o amser i'ch cais gael ei asesu. Ni fydd cymorth grant Cyfoethogi Sir Benfro’n talu unrhyw gostau a wariwyd neu a ymrwymwyd cyn i chi lofnodi a dychwelyd eich cytundeb cyllido.
Mathau o Geisiadau
Fe allai cymorth grant Cyfoethogi Sir Benfro gael ei ddefnyddio i gyllido gwahanol gyfnodau o brosiect, gyda chais arall yn cael ei wneud unwaith y gorffennwyd cyfnod. Nid yw dyfarnu cymorth grant ar gyfer un cyfnod o brosiect yn gwarantu y byddwch yn cael grant am gyfnodau ychwanegol.
Ar gyfer unrhyw un prosiect, gellir defnyddio Grant Cyfoethogi Sir Benfro i gefnogi cyfalaf, refeniw a/neu gyfuniad o'r costau hynny.
Cyflwyno Cais
Bydd ceisiadau ynghyd â dogfennau ategol yn cael eu derbyn yn electronig yn unig. Rhaid i'r rhain gael eu hanfon drwy e-bost i enhancing.pembrokeshire@pembrokeshire.gov.uk
Byddwn yn cydnabod derbyn pob cais o fewn 5 diwrnod gwaith. Byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau bod yr holl wybodaeth a dogfennau angenrheidiol yn cael eu darparu cyn cyfarfod perthnasol y panel.
Mewn rhai achosion, gellir gofyn am gyngor gan swyddogion priodol eraill o fewn Cyngor Sir Penfro neu sefydliadau partner, neu gan arbenigwyr perthnasol eraill.
Pa wybodaeth, yn ogystal â ffurflen gais wedi'i chwblhau, fydd angen ei darparu?
Yn ogystal â ffurflen gais wedi’i llenwi, rhaid i’r canlynol ddod gyda phob cais:
- Copi o ddogfen lywodraethu’r sefydliad (e.e. cyfansoddiad).
- Cyfrifon a/neu ragolwg llif arian estynedig / cyfriflenni banc.
- Polisïau cysylltiedig â Deddf Cydraddoldeb 2010, yr Amgylchedd, Diogelu a’r Gymraeg.
- Tystysgrifau yswiriant, atodlen gwarant yswiriant gan gynnwys atebolrwydd cyhoeddus.
- Tystiolaeth ysgrifenedig glir o'r angen a ddarperir drwy ymgynghori.
- Tystiolaeth o gefnogaeth i’r prosiect a, phan fo’n berthnasol, defnyddiau yn y dyfodol.
- Tystiolaeth o dendro cystadleuol. Cyfeiriwch at yr adran ddyfynbrisiau ar y ffurflen gais.
Os yw’r prosiect yn cynnwys denu staff cyflogedig neu wirfoddolwyr, rhaid i chi hefyd ddarparu’r canlynol (trafodwch gyda’r Tîm Adfywio):
- Cynllun denu
- Disgrifiad o’r swydd
- Swyddogaethau, cyfrifoldebau a graddfa gyflog
- Patrymau gwaith a thaflenni amser
- Manylion cynefino a hyfforddi
- Sut fydd staff yn cael eu goruchwylio a’u rheoli
- Strwythur atebolrwydd a hysbysu
- Peirianwaith talu
Pan fo prosiect yn golygu prynu offer, dodrefn, nwyddau traul swyddfa neu brynu gwasanaethau gweithiwr proffesiynol (gan gynnwys gwaith adeiladu ac adnewyddu) bydd tystiolaeth o gaffael yn ofynnol. Diben hyn yw sicrhau y defnyddiwyd proses deg ac agored.
Efallai y bydd angen y canlynol hefyd (trafodwch gyda'r Tîm Adfywio):
- Manylion Cyfrif Banc
- Rheoliadau Adeiladu
- Cynllun Busnes
- Caniatâd Cadwraeth
- Caniatâd Amgylcheddol
- Caniatâd Priffyrdd
- Caniatâd Landlord
- Trwyddedau
- Caniatâd Adeilad Rhestredig
- Trefniadau cynnal
- Caniatâd cynllunio neu dystiolaeth y ceisiwyd caniatâd cynllunio
- Tystiolaeth o berchenogaeth
- Dyfynbrisiau ar gyfer gwaith
- Cytundebau prydlesu wedi’u llofnodi (dylai fod 15 mlynedd o leiaf ar ôl arnynt)
Sut mae fy nghais yn cael ei asesu?
Panel Grantiau
Bydd pob cais yn cael ei ystyried gan Banel Grantiau. Bydd argymhellion yn cael eu gwneud drwy brosesau penderfynu y cytunwyd arnynt gan Gyngor Sir Penfro ar gyfer y penderfyniad terfynol.
Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu a'u blaenoriaethu yn unol â'r meini prawf canlynol:
- Y gallu i fodloni un neu fwy o Amcanion Llesiant 2023-2028
- Yn gallu dangos angen clir a fynegir yn glir
- Yn mynegi'n glir y gwahaniaeth y bydd y prosiect yn ei wneud i gymunedau
- Yn gallu cyflawni o fewn yr amserlen, i'w gwblhau o fewn dwy flynedd o’r dyddiad dyfarnu
- Gwerth am arian
Lle bo'n berthnasol, bydd cyngor gan swyddogion priodol eraill y cyngor a sefydliadau partner yn cael ei gyflwyno i'r panel i'w ystyried.
Mae’r sgoriau asesu i’w gweld yn Atodiad C.
Cyflawni’r Prosiect
Gallwn helpu eich sefydliad i sefydlu prosesau i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflawni a'i gwblhau'n llwyddiannus.
Cais Llwyddiannus
Bydd tri chyfnod i holl gynigion cymorth grant:
- Cam 1 – Rhaid i ddau aelod o'r sefydliad lofnodi'r Cytundeb Ariannu a'i ddychwelyd yn electronig i Gyngor Sir Penfro o fewn 30 diwrnod.
- Cam 2 – Cyfnod Caffael (pan fo’n berthnasol). O dderbyn Telerau ac Amodau’r cynnig wedi’u llofnodi, bydd y Cyngor (h.y. Cyngor Sir Penfro) yn anfon Ffurflen Caffael Prosiect.
- Cam 3 – Cadarnhad i fwrw ymlaen, yn amodol ar fod yr holl ddogfennau, dyfynbrisiau a chyllid cyfatebol perthnasol yn eu lle.
Cais Aflwyddiannus
Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn derbyn adborth ac, os yw hynny’n briodol, yn cael gwahoddiad i ailgyflwyno. Nid oes unrhyw hawl i apelio.
Amodau Cyffredinol
- Ar gyfer prosiectau cyfalaf mawr, bydd y grant yn cael ei adennill pe bai'r sefydliad yn rhoi'r gorau i fasnachu, yn adleoli neu pe bai’r eiddo yn cael ei werthu ymlaen o fewn 6 blynedd i ddyfarnu’r grant.
- Lle caiff eiddo ei adeiladu neu ei wella fel rhan o ddyfarniad grant mawr, gall yr awdurdod geisio cofrestru buddiant yn yr eiddo â chymorth grant gyda'r Gofrestrfa Tir naill ai drwy Gyfyngiad neu Dâl Cyfreithiol. Bydd y broses hon yn rhoi gwybod i'r awdurdod (h.y. Cyngor Sir Penfro) am unrhyw newid ym mherchnogaeth yr eiddo ac am unrhyw ganlyniad posibl ar y telerau ac amodau y dyfarnwyd y grant arnynt. Bydd derbynnydd y grant yn gyfrifol am gael gwared ar unrhyw Gyfyngiad neu Dâl Cyfreithiol ac unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â'r broses, ar ddiwedd y cyfnod. Bydd hyn yn gymharol â maint y grant a ddyfarnwyd.
- Argymhellir yn gryf bod nwyddau a brynir mewn perthynas â'r grant yn cael eu prynu gan ddefnyddio cyfrif banc busnes neu sefydliad.
- Os yw'r gwariant ar waith cymwys yn is na'r hyn a ddisgwyliwyd yn y cynnig grant, bydd y grant yn cael ei leihau ar sail pro rata.
- Bydd taliadau dyfarniad grant yn ôl-weithredol oni chytunir fel arall a byddant yn cael eu talu ar ôl cyflwyno tystiolaeth o wariant a chanlyniadau prosiectau ar ffurf anfonebau taledig gwreiddiol a chyfriflenni banc perthnasol sy'n tystio i wariant prosiectau. Pan gytunir ar daliadau ymlaen llaw, bydd telerau unigol yn berthnasol.
- Rhaid i'r ymgeisydd dderbyn telerau ac amodau'r grant drwy gwblhau'r Cytundeb Cyllido o fewn 30 diwrnod o'i dderbyn. Rhaid cwblhau'r holl wariant sy'n gysylltiedig â'r grant yn unol â'r dyddiadau dechrau a gorffen ar y Llythyr Cynnig.
- Pe na bai'r prosiect yn symud ymlaen o fewn y cyfnod a nodir yn y llythyr cynnig, bydd y grant yn dod i ben yn awtomatig. Gellir gwneud estyniad o'r cyfnod cynnig grant, ar yr amod bod cais yn cael ei wneud yn ysgrifenedig. Rhaid nodi a chytuno ar unrhyw amrywiad i'r Telerau ac Amodau a nodir yn y Llythyr Cynnig.
- Ni fydd pryniannau gydag arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer y taliad grant.
- Gall swyddogion yr awdurdod (h.y. Cyngor Sir Penfro) gynnal ymweliadau safle cyn talu unrhyw arian grant.
Cymryd cyllid grant yn ôl
Bydd cyllid yn cael ei ddal yn ôl ac/neu, i'r graddau y gwnaed taliad, bydd derbynnydd y grant yn ad-dalu cyllid naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol, gan gynnwys yn yr achosion canlynol:
a) y cafwyd gordaliad o gyllid
b) yn ystod ei oes economaidd, mae’r prosiect yn cael newid sylweddol a ddiffinir fel cael ei ddefnyddio at ddibenion heblaw'r rhai a bennir yn y cais neu sydd wedi newid perchennog heb roi gwybod i Gyngor Sir Penfro.
Yr oes economaidd yw'r cyfnod hyd at 6 mlyneddo ddyddiad taliad terfynol y grant a bydd angen ad-dalu’r cyllid fel a ganlyn:
Dyddiad gwaredu'r ased(au) a Swm i'w ad-dalu
- O fewn 1 flwyddyn: Cyllid i'w ad-dalu'n llawn
- O fewn 4 blynedd: 40% o'r cyllid i'w ad-dalu
- O fewn 6 mlynedd: 10% o'r cyllid i'w ad-dalu
- Ar ôl 6 mlynedd: Dim cyllid i'w ad-dalu
Y gofynion ad-dalu isaf yw’r uchod. Rhaid ad-dalu'r grant yn llawn ar alw os:
- canfuwyd bod yr ymgeisydd wedi camliwio mewn unrhyw fodd mewn cysylltiad â'r cais
- mae'r ymgeisydd wedi torri darpariaeth amod uchod
- nad yw'r asedau a'r eiddo (os yw'n berthnasol) yn cael eu hailsefydlu'n llawn o fewn 12 mis i unrhyw ddigwyddiad sy'n arwain at golli neu ddifrodi'r eiddo
Sut bydd ceisiadau llwyddiannus yn cael eu monitro?
Canlyniadau Disgwyliedig
Bydd angen i sefydliadau sy’n derbyn cymorth Grant Cyfoethogi Sir Benfro nodi canlyniadau neu waddol disgwyliedig y prosiect.
Archwiliadau ar Hap / Ymweliadau Safle
Bydd sefydliadau sy’n derbyn cymorth Grant Cyfoethogi Sir Benfro yn disgwyl archwiliadau ar hap / ymweliadau safle yn y pum mlynedd ar ôl cymeradwyo’ch grant. Cyngor Sir Penfro fydd yn gwneud archwiliadau ar hap / ymweliadau safle.
Cloriannu ar Ddiwedd Prosiect
Ar y diwedd, hoffem wybod bod y prosiect wedi llwyddo i gyflawni’r buddiannau a amlinellwyd yn y cais. Bydd y Tîm Adfywio’n gofyn am gloriannu ar ddiwedd prosiect. Dylai hyn gynnwys ffotograffau o’ch prosiect ar amrywiol gyfnodau datblygu.
Llythyrau Monitro
Bydd sefydliadau sy’n derbyn cymorth Grant Cyfoethogi Sir Benfro’n cael llythyr oddi wrth Gyngor Sir Penfro ymhen blwyddyn, tair blynedd a phum mlynedd ar ôl cwblhau’r prosiect a gyllidwyd yn gofyn iddynt ailgadarnhau:
- Cadw asedau
- Defnydd ac unrhyw gyfyngiadau ar ddefnydd yr ased
- Newid yng Nghytundeb y Brydles (pan fo’n berthnasol)
- Statws busnes
- Canlyniadau
- Cadw dogfennau a’r gofyniad bod sefydliadau / grwpiau sy’n derbyn y grant yn cydweithredu gyda cheisiadau rhesymol am ddogfennau a gwybodaeth arall berthnasol i’r prosiect ac ymweliadau gan Gyngor Sir Penfro neu unrhyw un o’i gynrychiolwyr
- Unrhyw amodau grant arbennig sy’n berthnasol
Bydd gofyn i’r sefydliad sy’n derbyn y grant lofnodi a dychwelyd slip cydnabod, a fydd yn cael ei anfon i gadarnhau na fu unrhyw newidiadau i’r amodau y dyfarnwyd y cymorth ariannol arnynt.
Cyhoeddusrwydd
Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos cymorth Grant Cyfoethogi Sir Benfro Cyngor Sir Penfro; mae hyn yn cynnwys unrhyw gyhoeddusrwydd, gan gynnwys datganiadau i'r wasg mewn perthynas â'r prosiect a ariennir. Bydd placiau'n cael eu darparu ar gyfer prosiectau cyfalaf i alluogi ymgeiswyr i ddangos cydnabyddiaeth o'r cymorth a ddarparwyd.
Cwynion, Canmoliaeth a Sylwadau
Fel Cyngor, rydym yn benderfynol o wneud y gwasanaethau a ddarparwn i chi mor effeithiol ag y bo modd. Rydym yn gwerthfawrogi eich sylwadau ac rydym am weithio gyda'n gilydd i gyflawni'r nod hwn. Rydym yn cydnabod ei bod yn bwysig dysgu o'r hyn rydych chi'n ei ddweud, nid yn unig i ddelio â'ch mater penodol, ond i sicrhau ein bod yn gwella ein gwasanaethau.
Gallwch gyflwyno cwyn, canmoliaeth neu sylw mewn sawl ffordd:
- Ffonio ein Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551
- Ymweld â’r wefan yn Cyngor Sir Penfro
Ymwadiad
Bwriad y wybodaeth yn y ddogfen hon yw rhoi canllawiau mewn cysylltiad â grant Cyfoethogi Sir Benfro. Mae’n anaddas fel cyngor proffesiynol ac ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros golled o ganlyniad i unrhyw un sy’n gweithredu neu’n ymatal rhag gweithredu arno.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
enhancing.pembrokeshire@pembrokeshire.gov.uk
Mae croeso i chi gysylltu gyda'r cyngor trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.
You are welcome to contact the council (ie Pembrokeshire County Council) through the medium of Welsh or English
Atodiad A – Rheolau Caffael Grant Trydydd Parti
Hyd at £5,000.00
Rhaid cael a chadw o leiaf 1 dyfynbris ysgrifenedig.
Rhaid cael gwerth gorau am yr arian a chymryd gofal rhesymol i gael nwyddau, gwasanaethau neu waith o ansawdd priodol am bris cystadleuol. Rhaid cadw cofnod o’r penderfyniadau a wnaed at ddibenion archwilio a hawlio.
Gofyniad: Pob un
£5,000.00 – £24,999.00
Rhaid gofyn am o leiaf 3 dyfynbris ysgrifenedig o ffynonellau cystadleuol. Rhaid i'r dyfynbrisiau fod yn seiliedig ar yr un fanyleb a'u gwerthuso ar sail tebyg am debyg. Rhaid cofnodi'r dyfynbrisiau a geisir, y broses arfarnu a'r penderfyniad i ddyfarnu.
Gofyniad: Pob un
£25,000.00 – £74,999.00
Rhaid gofyn am o leiaf 3 dyfynbris ysgrifenedig o ffynonellau cystadleuol.* Mae'n rhaid i'r dyfynbrisiau fod yn seiliedig ar:
- yr un fanyleb
- yr un meini prawf arfarnu a’u harfnaru ar sail tebyg am debyg; mae'n arfer gorau sefydlu panel arfarnu.
- yr un dyddiad cau
Rhaid cofnodi'r dyfynbrisiau a geisir, y broses arfarnu a'r penderfyniad i ddyfarnu er dibenion archwilio.
* Os mai dim ond un dyfynbris a dderbynnir, rhaid i chi gysylltu â enhancing.pembrokeshire@pembrokeshire.gov.uk i ddarparu manylion a chyfiawnhad o'r broses gaffael yr ydych wedi'i chynnal. Mae'n rhaid i'r penderfyniad i fynd ymlaen i brynu gael ei gymeradwyo gan PCC fesul achos. Mewn amgylchiadau lle mae'n amlwg y gellid ceisio mwy nag un dyfynbris, efallai y bydd gofyn hysbysebu drwy GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd)
Gofyniad: Pob un
Mae trothwyon gwariant o £75K ac is heb gynnwys TAW
£75,000.00 – £213,477.00
Rhaid gofyn am o leiaf 4 o dendrau cystadleuol gan dderbyn o leiaf 2 ohonynt.
Rhaid rhoi’r un wybodaeth i bawb sy’n cynnig:
- yr un gofynion o ran manyleb
- amlinelliad o’r meini prawf arfarnu ar gyfer dyfarnu’r contract
- yr un dyddiad cau ar gyfer derbyn cynigion, a pheidio â derbyn unrhyw gynnig wedyn
Rhaid i’r broses arfarnu a ddilynwch gyd-fynd â’r meini prawf arfarnu gwreiddiol a amlinellwyd gydag adroddiad arfarnu’n dangos ar ba sail y dyfarnwyd y cynnig llwyddiannus. Mae'n arfer gorau sefydlu panel arfarnu i arfarnu tendrau.
Os mai dim ond un tendr a dderbynnir, rhaid i chi gysylltu â enhancing.pembrokeshire@pembrokeshire.gov.uk i ddarparu manylion a chyfiawnhad o’r broses gaffael yr ydych wedi’i chynnal. Mae'n rhaid i'r penderfyniad i fynd ymlaen i brynu gael ei gymeradwyo gan PCC fesul achos. Mewn amgylchiadau lle mae'n amlwg y gellid ceisio mwy nag un tendr, efallai y bydd gofyn hysbysebu drwy GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd)
Gofyniad: Nwyddau a Gwasanaethau
£75,000 – £5,336,937.00
Rhaid gofyn am o leiaf 4 o dendrau cystadleuol gan dderbyn o leiaf 3 ohonynt.
Rhaid rhoi’r un wybodaeth i bawb sy’n cynnig:
- yr un gofynion o ran manyleb
- amlinelliad o’r meini prawf arfarnu ar gyfer dyfarnu’r contract
- yr un dyddiad cau ar gyfer derbyn cynigion, a pheidio â derbyn unrhyw gynnig wedyn
Rhaid i’r broses arfarnu a ddilynwch gyd-fynd â’r meini prawf arfarnu gwreiddiol a amlinellwyd gydag adroddiad arfarnu’n dangos ar ba sail y dyfarnwyd y cynnig llwyddiannus. Mae'n arfer gorau sefydlu panel arfarnu i arfarnu tendrau.
Os mai dim ond un tendr a dderbynnir, rhaid i chi gysylltu â enhancing.pembrokeshire@pembrokeshire.gov.uk i ddarparu manylion a chyfiawnhad o’r broses gaffael yr ydych wedi’i chynnal. Mae'n rhaid i'r penderfyniad i fynd ymlaen i brynu gael ei gymeradwyo gan CSP fesul achos. Mewn amgylchiadau lle mae'n amlwg y gellid ceisio mwy nag un tendr, efallai y bydd gofyn hysbysebu drwy GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd)
Ar gyfer contractau sy'n werth dros £250,000:
- Wrth ddewis contractwyr ar gyfer y rhestr dendro, argymhellir bod y diwydrwydd dyladwy a'r gwiriadau ariannol priodol yn cael eu cynnal ar y partïon hyn.
- Fel y camau lleiaf, rhaid cynnal diwydrwydd dyladwy a gwiriadau ariannol ar y contractwr a ffefrir yn dilyn yr arfarniad a chyn dyfarnu contract.
Gofyniad: Gwaith
Mae trothwyon gwariant ar gyfer Nwyddau / Gwasanaethau o dan £213,477.00 a gwaith o dan £5,336,937.00 heb gynnwys TAW
Dros £213,477.00*
Os yw contract ar gyfer Nwyddau neu Wasanaethau yn debygol o fod yn fwy na £213,477.00 rhaid i'r ymgeisydd hysbysu enhancing.pembrokeshire@pembrokeshire.gov.uk ibennu a fydd y contract yn ddarostyngedig i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015
Gofyniad: Nwyddau a Gwasanaethau
Dros £5,336,937.00*
Os yw contract ar gyfer Gwaith yn debygol o fod yn fwy na £5,336,937.00, rhaid i'r ymgeisydd hysbysu enhancing.pembrokeshire@pembrokeshire.gov.uki bennu a fydd y contract yn ddarostyngedig i Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015
Gofyniad: Gwaith
* Wrth gyfrifo gwerth amcangyfrifedig y contract er mwyn pennu os yw Rheoliadau Contractau Cyhoeddus llawn y DU yn berthnasol, rhaid i'r amcangyfrif o werth contract (ar gyfer y gwerthoedd hyn yn unig – nid o dan) gynnwys TAW o 1 Ionawr 2022. Mae hyn o ganlyniad i aelodaeth annibynnol y DU o'r GPA (Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau
Hysbysebu drwy GwerthwchiGymru
Mae'n bosibl i chi hysbysebu ar wefan Caffael Cenedlaethol GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd)
os ydych mewn sefyllfa lle rydych yn cael anhawster i nodi'r nifer lleiaf o gyflenwyr sydd eu hangen a/neu os hoffech amrywio neu ddenu cyflenwyr newydd i gynnig dyfynbris neu dendro.
Mae hysbysebu drwy GwerthwchiGymru yn arfer da, ond efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn gallu adnabod cyflenwyr posibl a allai ddarparu'r cynnig cyffredinol gorau posibl.
Mae'r cyfleuster hwn ar gael i chi yn rhad ac am ddim, ewch i wefan GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd), neu gallwch gysylltu â llinell gymorth eu gwefan ar 0800 222 9004 i gael rhagor o wybodaeth.
Ceisio Dyfynbrisiau/Tendrau
Ar gyfer gwariant dros £5,000, mae'n hanfodol gofyn i gyflenwyr priodol am ddyfynbrisiau/tendrau ar gyfer y nwyddau, y gwaith neu'r gwasanaethau sydd eu hangen. Mewn amgylchiadau lle mae'n amlwg bod dyfynbrisiau/tendrau anaddas wedi’u ceisio, efallai y bydd gofyn hysbysebu drwy GwerthwchiGymru.
Cyllidwyr eraill
Os yw prosiect yn cynnwys unrhyw ffrydiau cyllido eraill neu ychwanegol, rhaid dilyn y Rheolau Caffael Grant Trydydd Parti hyn o leiaf ar gyfer cyfanswm gwariant amcangyfrifedig y gofyniad.
Osgoi gwrthdaro buddiannau
Rydym yn derbyn y gall ceiswyr / datblygwyr neu bobl gysylltiedig â nhw (fel perthnasau, partneriaid busnes neu gyfeillion) fod eisiau tendro am gontract sy’n cael ei gynnig gan y ceisydd / datblygwr. Mae hyn yn dderbyniol, ond bydd angen i geiswyr sicrhau bod y broses dendro’n cael ei chynnal mewn ffordd agored, eglur a theg, fel yr amlinellwyd uchod, nad yw’n rhoi mantais i unigolyn neu gwmni sy’n cynnig dros neb arall, sy’n deillio o’r proses. Mae'n rhaid cymryd camau priodol i atal, adnabod ac unioni unrhyw wrthdaro buddiannau.
Os oes gan geisydd / datblygwr neu unrhyw berson sy'n gysylltiedig â nhw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, fuddiant ariannol, economaidd, gwleidyddol, neu fuddiant personol arall y gellid ystyried ei fod yn peryglu eu didueddrwydd a'u hannibyniaeth yng nghyd-destun y weithdrefn gaffael:
- Rhaid i'r ceisydd / datblygwr, neu unrhyw berson neu barti arall sydd â buddiant ddatgan y buddiant hwnnw’n ysgrifenedig i enhancing.pembrokeshire@pembrokeshire.gov.uk. Caiff hyn wedyn ei adolygu a rhoddir cyngor yn unol â hynny.
- Ni ddylai manylebau a meini prawf gwerthuso fod â thuedd nac wedi'u teilwra i ffafrio un ateb neu unrhyw un parti dros un arall.
- Ni ddylai'r person neu'r parti sydd â buddiant gymryd unrhyw ran o gwbl yn unrhyw un o'r gweithdrefnau arfarnu tendr i sicrhau bod y broses yn deg i bawb. Cydnabyddir y gallai fod angen i'r ymgeisydd grant ddarparu'r gymeradwyaeth derfynol.
- Rhaid cofnodi pob cam o'r weithdrefn yn ffurfiol.
- Os byddai'r contract fel arfer yn destun un weithdrefn dendro, argymhellir y dylai'r noddwr ofyn am ddyfynbrisiau ysgrifenedig gan o leiaf dau gyflenwr arall (h.y. dilyn y weithdrefn a nodir uchod ar gyfer contractau rhwng £5,000 a £25,000)
Pwrpas y canllawiau hyn yw sicrhau tegwch wrth wario arian cyhoeddus a sicrhau hefyd nad yw uniondeb y ceisydd yn cael ei gyfaddawdu.
Newidiadau i'r fanyleb neu'r contract
Os oes angen unrhyw newidiadau i'r fanyleb ar ôl ceisio dyfyniadau/tendrau sy'n effeithio ar gwmpas gwreiddiol y gofyniad, efallai y bydd angen cynnal ymarfer caffael newydd i sicrhau bod y gwerth gorau am arian wedi'i gyflawni. Gall hyn ddigwydd lle mae ychwanegiadau annisgwyl i'r gofyniad gwreiddiol, lle derbynnir tendrau sy'n fwy na'r gyllideb sydd ar gael, lle mae lefelau cyllido yn newid ac ati.
Rhaid i'r ymgeisydd hysbysu enhancing.pembrokeshire@pembrokeshire.gov.uk a fydd yn rhoi cyngor yn unol â hynny.
Bydd methu â chadw at y gweithdrefnau perthnasol a amlinellir uchod yn cael ei ystyried yn ddiffyg cydymffurfio a gall arwain at dynnu'r cynnig grant yn ôl a chymryd cyllid grant yn ôl o bosibl.
Mewn achosion lle nad ydych yn gallu bodloni gofynion y gweithdrefnau hyn, rhaid i chi roi gwybod i reolwr y prosiect bob amser.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch sut y dylid cymhwyso'r gweithdrefnau hyn, dylech gysylltu â rheolwr y prosiect i gael eglurhad a chanllawiau pellach.
Beth i'w Wneud a Beth i Beidio â’i Wneud wrth Dendro
Dylech – Sicrhau bod unrhyw wrthdaro buddiannau posibl yn cael eu datgan cyn gynted â phosibl
Ni ddylech – ystumio’r fanyleb i ddileu neu wahaniaethu yn erbyn cyflenwyr h.y. cyfyngu’r fanyleb i frand penodol.
Dylech – cydymffurfio â'r rheolau priodol
Ni ddylech – newid cwmpas y fanyleb unwaith y mae wedi’i dosbarthu
Dylech – gwneud yn siŵr bod y fanyleb yn fanwl gywir ac nad yw'n fwy na'r gofynion.
Ni ddylech – newid y meini prawf arfarnu yn ystod y broses.
Dylech – sicrhau bod y Meini Prawf Arfarnu yn uniongyrchol berthnasol i destun y contract.
Ni ddylech – ofyn i gwmnïau roi dyfynbris ar fyr rybudd.
Dylech – cwblhau a chadw cofnodion llawn at ddibenion cyfeirio ac archwilio yn y dyfodol.
Ni ddylech – rhoi gormod o fanylion ar lafar gyda chyflenwyr ynghylch cwestiynau penodol. Rhaid darparu'r un wybodaeth i'r holl gyflenwyr er mwyn sicrhau bod y broses yn deg.
Dylech – sicrhau bod dyfynbrisiau/tendrau'n cael eu harfarnu ar sail 'tebyg am debyg'.
Ni ddylech – datgelu prisiau i ddarpar gyflenwyr.
Dylech – gwneud yn siŵr eich bod yn trin cyflenwyr mewn modd agored, tryloyw ac anwahaniaethol.
Ni ddylech – torri cyfrinachedd.
Dylech – caniatáu digon o amser i gwmnïau gynnig dyfynbris.
Ni ddylech – agor dyfynbrisiau/tendrau cyn y dyddiad cau.
Dylech – sicrhau bod gwerth y Nwyddau/Gwaith neu'r Gwasanaeth yn cael ei amcangyfrif yn gywir ar ddechrau'r broseser mwyncymhwyso'r broses gaffael gywir. Rhaid defnyddio'r gwerth cyfanredol lle bo hynny'n berthnasol.
Ni ddylech – ystyried ceisiadau a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad cau.
Diffiniadau Caffael
Crynhoi: Ychwanegu gwerth contractau ar wahân at ei gilydd ar gyfer yr un cyflenwad, gwasanaeth neu waith.
Contract: At ddibenion y Rheolau hyn, bydd Contract yn unrhyw gytundeb (boed yn ysgrifenedig) rhwng ceisydd y grant ac un neu fwy o bartïon eraill ar gyfer:
- gwerthu nwyddau neu ddeunyddiau
- cyflenwi nwyddau neu ddeunyddiau
- cynnal gwaith
- darparu gwasanaethau (gan gynnwys llety a chyfleusterau)
Ffynhonnell gystadleuol: darparwr annibynnol yn cynnig yn erbyn darparwr annibynnol arall
Nwyddau: yn eitemau materol h.y. offer, bwyd, cerbydau ac ati.
Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015: rheolau a rheoliadau y mae’n rhaid i sefydliadau’r Sector Cyhoeddus gadw atynt wrth gaffael Nwyddau, Gwaith a Gwasanaethau sy’n uwch na throthwy gwerth penodol lle dylid cynnal Ymarfer Tendro swyddogol yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.
Arfarnu: dull o benderfynu pa gynnig sy'n darparu'r gwerth gorau am arian yn unol â'r meini prawf arfarnu a bennwyd ymlaen llaw
Meini Prawf Arfarnu: rhestr o ofynion allweddol a gymerir o'r fanyleb a fydd yn galluogi cyflenwyr i esbonio sut y maent yn bwriadu cyflawni'r gofyniad a fydd yn cael ei arfarnu. Mae'r meini prawf a ddefnyddir i benderfynu ar y tendr mwyaf manteisiol yn economaidd yn seiliedig ar gyfuniad o bris/cost a meini prawf ansawdd.
Panel Arfarnu: Mae'n arfer gorau sefydlu panel arfarnu i gynnal yr ymarfer arfarnu. Efallai y byddai'n briodol cael tîm traws-swyddogaethol fel panel. Dylai'r panel gytuno ar feini prawf manyleb ac arfarnu. Dylai'r panel fod yn gyson drwy gydol pob cam o ymarfer caffael.
GwerthwchiGymru: gwefan Caffael Genedlaethol yw hon lle mae pob contract sector cyhoeddus yn cael ei hysbysebu. Gall Derbynwyr Grant Trydydd Parti hefyd hysbysebu drwy wefan GwerthwchiGymru (yn agor mewn tab newydd) am ddim, neu gallwch gysylltu â'u llinell gymorth ar 0800 222 9004 am ragor o wybodaeth.
Gwasanaethau: tasgau a wneir gan bobl h.y. gwasanaethau ymgynghori, gwasanaethau cyfieithu ac ati.
Manyleb: datganiad ysgrifenedig sy’n diffinio’r gofynion. Bydd y fanyleb yn amrywio yn ôl y gwaith, y cynnyrch neu'r gwasanaeth dan sylw. Ar gyfer cynnyrch syml, gall y fanyleb fod yn ddisgrifiad byr, ond mewn achos lle mae’r anghenion yn gymhleth, bydd yn ddogfen gynhwysfawr. Ni ddylai'r disgrifiad o'r nwyddau, y gwaith neu'r gwasanaethau sy'n ofynnol gyfeirio at wneuthuriad, brand neu ffynhonnell benodol.
Tendr/Dyfynbris: yw'r ddogfen a luniwyd gan gyflenwr posibl mewn ymateb i wahoddiad i roi dyfynbris/tendro. Mae'n nodi gwybodaeth gyffredinol sy'n dangos gallu a chymhwysedd y cyflenwr – gan gynnwys gwybodaeth fanwl am sut y maent yn bwriadu cyflawni manylebau'r gofyniad.
Gwaith: yn cynnwys tirlunio, adeiladu, gwaith adeiladu ac ati.
Atodiad B – Rheoli Cymorthdaliadau
Mae Cronfa Cyfoethogi Sir Benfro yn cael ei gweithredu o dan Reolau Cymorthdaliadau’r DU.
Bydd pob cais yn cael ei asesu i weld a yw'r cymorth yn gyfystyr â chymhorthdal o dan Reolau Cymorthdaliadau’r DU. Bydd gofyn i bob ymgeisydd ateb y 4 cwestiwn canlynol.
Os mai 'ydy/bydd' yw'ch ateb i'r pedwar cwestiwn canlynol, mae'r cymorth yn gymhorthdal. Os mai ‘nag ydy/na fydd’ yw un neu fwy o'ch atebion, nid yw'n gymhorthdal.
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr roi rhesymeg i'w hasesiad yn eu ffurflen gais.
Cwestiwn:
A yw'r cymorth ariannol yn cael ei roi, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, o adnoddau cyhoeddus gan awdurdod cyhoeddus? Ydy / Nav ydy
Diffiniad:
- Mae 'awdurdod cyhoeddus' yn cynnwys unrhyw endid sy'n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus ar unrhyw lefel o lywodraeth ganolog, datganoledig, rhanbarthol neu leol a chyrff anllywodraethol sy'n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus.
- Mae 'adnoddau cyhoeddus' yn cynnwys arian cyhoeddus sy'n cael ei weinyddu gan Lywodraeth y DU, y llywodraethau datganoledig, neu awdurdodau lleol, p'un a ydynt yn cael eu rhoi yn uniongyrchol, trwy gyrff cyhoeddus (fel asiantaethau), neu drwy gyrff preifat.
Cwestiwn:
A yw’r cymorth ariannol yn rhoi mantais economaidd i un neu ragor o fentrau?
Ydy / Nav ydy
Diffiniad:
Rhaid i'r derbynnydd fod yn 'fenter': unrhyw endid sy'n ymwneud â gweithgaredd economaidd, sy'n golygu cynnig nwyddau a gwasanaethau mewn marchnad. Rhaid i'r cymorth ariannol roi mantais economaidd, sy'n golygu ei fod yn cael ei ddarparu ar delerau ffafriol. Ni fydd cymorth ariannol yn rhoi mantais economaidd pe gellid ystyried yn rhesymol ei fod wedi'i gael ar yr un telerau ar y farchnad.
Cwestiwn:
A yw’r cymorth ariannol yn benodol? Hynny yw, a yw'r fantais economaidd wedi'i darparu i un fenter (neu fwy nag un), ond nid i eraill? Ydy / Nav ydy
Diffiniad:
Mae hyn yn cynnwys cymorth ariannol a ddarperir i fuddiolwyr penodol a benderfynir yn ôl disgresiwn gan y llywodraeth (h.y. y Prif Weinidog), yn ogystal â chymorth sy'n elwa (yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol), mentrau mewn sector, diwydiant neu ardal benodol, neu â nodweddion penodol yn unig.
Cwestiwn:
A fydd y cymorth ariannol yn cael, neu a fydd yn gallu cael, effaith ar gystadleuaeth neu fuddsoddiad o fewn y DU, neu ar fasnach neu fuddsoddiad rhwng y DU a gwlad neu diriogaeth arall? Bydd / Na Fydd
Diffiniad:
O ystyried natur y cynllun grant hwn, mae'n annhebygol y bydd angen i'ch prosiect ystyried hyn.
Lle mae cymorthdal, byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau bod unrhyw gymortyn cydymffurfio â rheolau cymorthdaliadau cyhoeddus.
Atodiad C Meini Prawf Asesu Ceisiadau
Sgôr: 5
Gradd: Da iawn
Meini Prawf:
- Dangos aliniad cryf iawn i flaenoriaethau lleol a chenedlaethol, tystiolaeth o angen ac ymgysylltiad lleol
- Mae'r prosiect yn cynnig gwerth da iawn am arian, mae costau uned fesul allbwn/canlyniad yn dda iawn, gyda strategaeth ymadael sy'n dangos cynaliadwyedd ar ôl cyfnod y cyllid grant
- Hyder llwyr mewn cyflenwi a chyflawni allbynnau a chanlyniadau arfaethedig
- Rhagolygon da iawn ar gyfer llwyddiant y prosiect
Sgôr: 4
Gradd: Da
Meini Prawf:
- Dangos aliniad da i flaenoriaethau lleol a chenedlaethol, tystiolaeth o angen ac ymgysylltiad lleol
- Mae'r prosiect yn cynnig gwerth da am arian, mae costau uned fesul allbwn/canlyniad yn dda, gyda strategaeth ymadael sy'n dangos potensial i gynnal y prosiect ar ôl cyfnod y cyllid grant
- Lefel uchel o hyder mewn cyflenwi a chyflawni allbynnau a chanlyniadau arfaethedig
- Rhagolygon da ar gyfer llwyddiant y prosiect
Sgôr: 3
Gradd: Derbyniol
Meini Prawf:
- Dangos aliniad derbyniol i flaenoriaethau lleol a chenedlaethol, tystiolaeth o angen ac ymgysylltiad lleol
- Mae'r prosiect yn cynnig gwerth rhesymol am arian, mae costau uned fesul allbwn/canlyniad yn dderbyniol, gyda strategaeth ymadael sy'n amlinellu rhai opsiynau posibl ar gyfer cynnal y prosiect ar ôl cyfnod y cyllid grant
- Rhai gwendidau neu ddiffygion derbyniol o ran cyflawni
- Lefel rhesymol o hyder mewn cyflenwi a chyflawni allbynnau a chanlyniadau arfaethedig
- Tebygolrwydd rhesymol o lwyddiant y prosiect
Sgôr: 2
Gradd: Ymylol
Meini Prawf:
- Dangos aliniad sylfaenol ond cyfyngedig i flaenoriaethau lleol a chenedlaethol, tystiolaeth o angen ac ymgysylltiad lleol
- O bosibl yn gallu cyflenwi a chyflawni allbynnau a chanlyniadau arfaethedig
- Mae'r prosiect yn annhebygol o gynnig gwerth am arian, mae costau uned fesul allbwn/canlyniad yn uchel, gyda strategaeth ymadael sy'n methu â rhoi hyder o ran dal ati ar ôl cyfnod y cyllid grant
- Rhai gwendidau neu ddiffygion
- Lefel cyfyngedig o hyder mewn cyflenwi a chyflawni allbynnau a chanlyniadau arfaethedig
- Posibilrwydd o lwyddiant y prosiect
Sgôr: 1
Gradd: Gwael
Meini Prawf:
- Dangos dealltwriaeth gyfyngedig iawn o angen lleol, ymgysylltiad, neu allu cyfyngedig iawn i alinio â blaenoriaethau lleol a chenedlaethol
- Gwendidau neu ddiffygion sylweddol
- Mae'r prosiect yn methu â chynnig gwerth am arian, mae costau uned fesul allbwn/canlyniad yn uchel iawn. Strategaeth ymadael yn wael
- Lefel cyfyngedig iawn o hyder mewn cyflenwi a chyflawni allbynnau a chanlyniadau arfaethedig
- Tebygolrwydd isel o lwyddiant y prosiect
Sgôr: 0
Gradd: Annerbyniol
Meini Prawf:
- Methu â chwrdd â'r maen prawf ym mhob ffordd
- Yn nodi camddealltwriaeth llwyr o’r gofynion a nodwyd, neu o beidio â chydymffurfio â hwy
- Dim hyder mewn cyflenwi a chyflawni allbynnau a chanlyniadau arfaethedig
- Dim gobaith o lwyddiant y prosiect