Grantiau

Grant Gwella Sir Benfro

Mae Grant Gwella Sir Benfro, sy’n defnyddio cyllid a godwyd drwy Drethi Ail Gartrefi, ar gael i ddarparu cyllid i brosiectau newydd sy’n helpu i fynd i’r afael ag effeithiau negyddol ail gartrefi, a thrwy wneud hynny’n ychwanegu gwerth i’n cymunedau.

Mae deilliannau wedi’u strwythuro o amgylch pum nod Llesiant:

  • Cynyddu safonau cyflawniad yn gyffredinol
  • Cymunedau iach: Cymunedau wedi’u cefnogi gan dai fforddiadwy ac addas; gwella gofal cymdeithasol
  • Cynyddu cynhyrchiant yr economi a mynd i’r afael â materion adfywio
  • Diogelu ein hamgylchedd
  • Cymunedau hunangynhaliol

Sut i wneud cais am grant

Mae cynllun Grant Gwella Sir Benfro yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.  Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Gellir e-bostio ymholiadau penodol am y cynllun at gwella.sir.benfro@sir-benfro.gov.uk.

Meini Prawf Cyllido 2022-23

Crynodeb o brosiectau a gefnogir

 

 

Rhybudd Preifatrwydd

ID: 3274, adolygwyd 12/07/2023