Grantiau
Taliad o £500 i Ofalwyr Di-dâl
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi taliad untro o £500 sydd ar gael i bob gofalwr di-dâl cymwys yng Nghymru a oedd yn derbyn Lwfans Gofalwr ar 31 Mawrth 2022.
Gwneir y taliad er mwyn cydnabod y pwysau ariannol cynyddol ar lawer o ofalwyr di-dâl yn ystod y pandemig, ac i helpu gyda rhai o’r costau ychwanegol maent wedi eu hwynebu. Mae’r taliad wedi’i anelu at yr unigolion hynny sy’n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac sydd ar incwm isel.
Nid yw unigolion yn gymwys ar gyfer y taliad os:
- Oes ganddynt hawl sylfaenol i Lwfans Gofalwr, ond nad ydynt yn ei dderbyn am eu bod yn cael budd-dal arall ar yr un gyfradd neu gyfradd uwch; neu
- Rydych yn derbyn y premiwm gofalwr yn unig
Awdurdodau Lleol sy’n gweinyddu’r cynllun hwn ar ran Llywodraeth Cymru. Er mwyn derbyn y taliad mae'n ofynnol eich bod yn llenwi ffurflen gofrestru ar-lein. Byddwn yn ysgrifennu at y cwsmeriaid rydym wedi’u hadnabod yn ein cofnodion er mwyn rhoi cyngor iddynt ar sut i gofrestru.
Byddwn yn derbyn ceisiadau ar gyfer y cynllun hwn ar 16 Mai 2022. Os ydych yn credu y gallech fod yn gymwys ar gyfer y taliad hwn, gallwch gyflwyno cais drwy’r wefan hon. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion yn agosach at y dyddiad pan fydd ceisiadau yn cael eu derbyn.
Bydd y cynllun yn cau am 5pm ar 15 Gorffennaf 2022.
Bydd taliadau'r ceisiadau llwyddiannus yn cael eu gwneud o fis Mehefin.
Sylwer, dylech gofrestru gyda'ch Cyngor lleol, nid Cyngor lleol yr unigolyn yr ydych yn gofalu amdano (os yw'n wahanol).
Cadwch lygad ar y wefan hon i gael rhagor o wybodaeth.
Sut i wneud cais
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr (sef yr unigolyn sy’n derbyn lwfans gofalwr) lenwi’r ffurflen ar-lein (neu gais dros y ffôn os nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd) a rhoi:
- Eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
- Dyddiad Geni
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Cod post
- Cyfriflen banc sy’n dangos eich enw, cyfeiriad, rhif cyfrif a chod didoli
Y dyddiad cau ar gyfer pob cais yw 15 Gorffennaf 2022.
Bydd taliadau ar gyfer ceisiadau llwyddiannus yn dechrau o fis Mehefin 2022 ymlaen.
Os ydych yn cael trafferth llenwi’r cais ar-lein, cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost at UnpaidCarers@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ein ffonio ar 01437 764551 ac fe allwn eich cynorthwyo.
Taliad Gofalwr Di-Dâl Hysbysiad Preifatrwydd
Llywodraeth Cymru Hysbysiad Preifatrwydd