Gronfa Twf Lleol y DU
Grant cychwyn busnes - Canllawiau a sut i wneud cais
Ar y dudalen hon:
11. Ar ôl cwblhau - Y telerau ac amodau
Canllawiau yn unig yw’r wybodaeth a ddangosir yma, ac mae telerau ac amodau cyfreithiol y grant wedi’u nodi yn llythyr cynnig y ceisiadau cymeradwy.
Mae’r canllawiau ar ffurf ddrafft o hyd ac yn agored i newid.
1. Cyflwyniad
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i gefnogi datblygiad economaidd a busnesau ledled y sir ac o ganlyniad wedi sicrhau cyllid i ddarparu Grant Twf Busnes Sir Gaerfyrddin a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Twf Lleol.
Nod y pecyn grant yw cryfhau gweithgaredd entrepreneuraidd lleol a chefnogi Mentrau Bach a Chanolig eu Maint (Small and Medium Sized Enterprises (SMEs)) ar bob cam o'u datblygiad a dilyniant i ddechrau, cynnal a thyfu.
Bydd y grant Cychwyn Busnes yn annog a chefnogi creu busnesau newydd yn y sir, gan arwain yn uniongyrchol at greu swyddi newydd, a thrwy hynny wella'r economi leol.
Bydd y grant ar agor ar gyfer gwneud cais rhwng y 02 Gorfennaf 2026 a’r 29 Ionawr 2027 neu hyd nes y bydd y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn.
Cynllun grant busnes fydd y Gronfa, a fydd yn cynnwys cefnogaeth at brosiectau gwariant cyfalaf a gwariant refeniw arbenigol (heb gynnwys costau rhedeg parhaus), lle mae swyddi newydd yn cael eu creu oherwydd y cymorth ariannol.
Mae'r canllawiau'n dal i fod yn destun newid oherwydd eu bod yn ddogfen ddrafft ar hyn o bryd
2. Y cynnig
- Mae grantiau ar gael rhwng £1,000 a £10,000.
- Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar 50% o gostau cymwys NEU uchafswm o
- £5,000 am bob swydd sy’n cael ei chreu, pa un bynnag sydd leiaf. (Rhaid creu o leiaf un swydd newydd i gael mynediad i’r gronfa). Gellir cynnwys perchennog y busnes fel swydd newydd.
- Yr isafswm grant a ddyfernir yw £1,000 (yn seiliedig ar o leiaf un swydd newydd ran-amser yn cael ei greu), a’r dyfarniad grant uchaf fesul busnes yw £15,000 (yn seiliedig ar o leiaf ddwy swydd yn cael eu creu).
- Rydym yn annog bod yr holl swyddi sy’n cael eu creu gyda chymorth y grant yn cael y cyflog byw gwirioneddol (yn agor mewn tab newydd).
- Bydd y gronfa yn cefnogi entrepreneuriaid newydd gyda’u dyheadau i gychwyn busnes trwy ddarparu cyfraniad ariannol tuag at brosiectau gwariant cyfalaf a/neu wariant refeniw arbenigol, a fydd naill ai’n galluogi prosiectau buddsoddi cyfalaf pellach neu gynnig cychwyn busnes penodol
- a all olygu costau refeniw uchel.
- Ystyrir dwy swydd ran-amser fel un swydd gyfwerth ag amser llawn. Os ydych ond yn creu swydd ran-amser (lleiafswm o 16 awr yr wythnos) dim ond ar sail pro rata y bydd y grant yn cael ei thalu, h.y. uchafswm o £3750 ar gyfer swydd ran-amser.
- Dim ond unwaith y gall pob busnes wneud cais am y Gronfa Cychwyn Busnes, ond gallant wneud cais am Gronfa Twf Busnes Sir Benfro ar gyfer prosiectau ar wahân os byddant yn tyfu’r busnes ac yn creu rhagor o swyddi yn y dyfodol. Mae’n rhaid i’r deilliannau o’r gronfa gychwynnol, h.y. dechrau masnachu a’r swyddi a grëwyd, gael eu cyflawni cyn y gellir ystyried y cais am y gronfa twf.
- Mae’n rhaid hawlio pob swydd a grëwyd fel rhan o’r grant o fewn tri mis i ddyddiad y taliad grant terfynol, neu erbyn 28 Chwefror 2027, pa un bynnag yw’r dyddiad cynharaf.
- Mae’n bwysig nodi bod grantiau’n cael eu talu’n ôl-weithredol. Mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr arian digonol i brynu’r eitem(au) yn llawn ymlaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Penfro yn dilyn y broses hawlio (gweler y telerau ac amodau yn y ddogfen hon).
- Mae’n rhaid cyflwyno’r ddau hawliad o fewn tri mis i ddyddiad y llythyr cynnig, neu erbyn 29 January 2027, pa un bynnag yw’r dyddiad cynharaf. I gefnogi llif arian, bydd y tîm grant yn ystyried cyflwyno dau hawliad, ond mae’n rhaid ceisio cytundeb ymlaen llaw gan y cyngor.
- Mae’n rhaid i bob taliad a wnaed ar gyfer gwariant cymwys gael ei ddangos trwy gopi o’r anfoneb a phrawf o’r treuliau. (Dim ond trwy ddarparu cyfriflen banc sy’n dangos taliad llawn yn mynd allan o’r cyfrif i’r cyflenwr y gellir dangos tystiolaeth o’r treuliau).
3. Cymhwysedd
Mae Grant Cychwyn Busnes Sir Benfro yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Twf Lleol a'i ddarparu gan Gyngor Sir Benfro ac felly dim ond ar gael ar gyfer cais i fusnesau bach a chanolig (SMEs) newydd neu bresennol o fewn y sectorau cymwys sydd yn Sir Benfro neu'n bwriadu ymsefydlu ynddi.
Bydd modd gwneud cais am y grant rhwng mis Gorffennaf 2026 a Ionawr 2027, neu hyd nes y bydd y gronfa wedi’i dyrannu’n llawn.
Mae cymorth wedi’i anelu’n bennaf at fusnesau newydd sy’n gweithredu yn y sectorau twf a sylfaen canlynol neu’n gwasanaethu’r sectorau hyn:
- Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
- Adeiladu
- Y diwydiannau creadigol
- Ynni a’r amgylchedd
- Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
- Technoleg gwybodaeth a thelathrebu
- Gwyddorau bywyd
- Bwyd a diod
- Twristiaeth
- Manwerthu
- Gofal
Fodd bynnag, bydd ceisiadau’n cael eu hystyried fesul achos yn amodol ar eu cyfraniad posibl a’u gwerth i’r economi leol, e.e. lle maent yn creu swyddi yng nghanol prif drefi a threfi llai y sir, ac mewn ardaloedd gwledig, a lle maent yn cysylltu â phrosiectau strategol allweddol.
**Sylwch os gwelwch yn dda bod ceisiadau gan ddarparwyr llety hunangynhaliol uned sengl sy'n dechrau’n busnes yn gorfod creu swyddi newydd heblaw'r perchennog busnes fel canlyniad i'r cymorth grant. Yn ychwanegol, ni fydd ceisiadau gan berchnogion llety hunangynhaliol lle nad yw incwm o'r eiddo yn brif ffynhonnell incwm y perchennog yn gymwys.
Os caiff ceisiadau eu gwneud gan berchnogion llety sy'n dechrau â sawl uned (3 neu fwy) neu'n cynnig gwasanaethau megis bws a brecwast a/o'n cynnig gweithgareddau fel rhan o'r pecyn twristiaeth, byddwn yn ystyried creu swyddi ychwanegol, gan gynnwys y perchennog(ion) busnes. Bydd y ceisiadau hyn yn cael eu hystyried ar sail achos wrth achos
Mae'r Cronfa ar gael i Fusnesau Bach a Chanolig o bob maint sy'n bwriadu gweithredu eu cynlluniau cychwyn a chynnydd ac mae'n rhaid iddi arwain at greu swyddi newydd. Felly, rhaid i geisiwr ddangos eu cynlluniau twf (ac ymddangos â thystiolaeth ble bo'n berthnasol) yn ystod y broses gais.
Nid yw’r sectorau / busnesau / prosiectau canlynol yn gymwys am gymorth:
- Cynhyrchu amaethyddiaeth sylfaenol
- Coedwigaeth
- Pysgota
- Gwasanaethau statudol, e.e. iechyd ac addysg sylfaenol.
- Gweithdrefnau iechyd mewnwthiol heb eu rheoleiddio
- Unrhyw fusnes sy’n cyflogi mwy na 250 o weithwyr
- Unrhyw fusnes sydd â throsiant o fwy na £50 miliwn
- Unrhyw fusnes neu brosiect grant arfaethedig heb ganiatâd cynllunio angenrheidiol
Rhaid prynu a hawlio unrhyw wariant sy'n gysylltiedig â'r grant o fewn 4 mis ar ôl dyddiad cytundeb y grant neu ddim yn hwyrach na 29 Ionawr 2027, pa un bynnag sy'n digwydd yn gyntaf. Rhaid creu'r busnes dan sylw a'r swyddi cysylltiedig o fewn 6 mis ar ôl talu'r grant yn ffurfiol neu'r 28 Chwefror 2027, pa un bynnag sy'n digwydd gyntaf.
Bydd monitro'r busnes a'r swyddi a grëwyd a gofyn tystiolaeth. Gall methu â chyrraedd yr allbynnau a addewidwyd arwain at ddychwelyd cronfeydd y grant.
4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio’r grant ar ei gyfer
Bydd y grant yn berthnasol ar gyfer gwariant cyfalaf o fewn prosiect cymeradwy a gall gynnwys:
Costau Cymwys
Gwariant cyfalaf:
- Prynu offer newydd neu ail-law, e.e. peiriannau, offer arbenigol, ayyb. Noder y gallai offer gynnwys eitemau fel tryciau fforch godi, trinwyr telesgopig, cloddwyr, ayyb. Nid yw cerbydau cyffredinol fel faniau a cheir yn gymwys. **gweler y nodyn isod ynghylch prynu eitemau ail-law.
- Gellir ystyried cerbydau masnachol arbenigol e.e. faniau oergell, faniau / tryciau at ddibenion arbenigol, gydag arwydd masnachol ac wedi'u gosod ar gyfer defnydd masnachol penodol fesul achos. Sylwer – ni ellir ystyried ysgrifennu arwyddion.
- Prynu a gosod offer i greu neu wella gofod masnachu awyr agored, e.e., llochesi, gazebos, ayyb. Sylwch y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r caniatâd perthnasol os yw'n briodol, h.y., caniatâd cynllunio, trwyddedau, ayyb.
- Caledwedd TG a Thelathrebu os yw'n gysylltiedig yn uniongyrchol â chyflawni'r prosiect
- Gosodiadau a ffitiadau, dodrefn, ac offer swyddfa gyffredinol ayyb fel rhan o swyddfa newydd.
- Eitemau marchnata diriaethol fel stondinau arddangos ar gyfer arddangosfeydd, ‘pop-yp’ a baneri, arwyddion, dillad gwaith gwisgoedd wedi’u brandio, ac ati. Rhaid i'r rhain fod yn ddwyieithog i fod yn gymwys i gael cymorth grant
- Gwariant refeniw arbenigol: (rhaid i'r costau hyn fod yn gysylltiedig â'r gwariant cyfalaf sy'n gysylltiedig â'r cais am grant) Ni fydd gwariant refeniw annibynnol fel y nodir isod yn gymwys.
- Hyfforddiant arbenigol / technegol (nid yw o reidrwydd wedi'i achredu a dim ond os yw'n gysylltiedig â gwariant cyfalaf sydd wedi’i gynnwys yn y cais am grant) e.e. hyfforddiant ar ddefnyddio peiriannau, ayyb.
- Comisiynu / Gosod Peiriannau (dim ond os yw'n gysylltiedig â gwariant cyfalaf sydd wedi’i gynnwys yn y cais am grant)
- Meddalwedd arbenigol (dim ond os yw'n gysylltiedig â gwariant cyfalaf sydd wedi’i gynnwys yn y cais am grant)
- Taliadau sy'n gysylltiedig â chyflenwi unrhyw offer cyfalaf. Gwnewch yn siŵr bod y costau hyn wedi'u hamlygu yn y dyfynbrisiau (dim ond os yw'n gysylltiedig â gwariant cyfalaf sydd wedi’i gynnwys yn y cais am grant)
5. Yr hyn na allwch ddefnyddio’r grant ar ei gyfer
Mae gwariant anghymwys yn cynnwys:
- Gwariant refeniw cyffredinol megis costau staff neu unrhyw drethi eraill, hurbwrcas/prydles
- Gemau / Gwisgoedd gwaith brandiedig
- Cerbydau Cyffredinol megis ceir a faniau. Nid yw tacsis a bysiau mini chwaith yn gymwys
- Gwariant marchnata a hyrwyddo, gan gynnwys gwefannau, a deunyddiau hyrwyddo untro fel cardiau busnes, deunydd ysgrifennu â phennawd, ac ati
- Dim gwaith adeiladu sylweddol. Caniateir mân waith sy'n ategol i'r prif bryniant cyfalaf
- Costau atgyweirio, cynnal a chadw ac addurno, gan gynnwys lloriau a charpedi cyffredinol
- Amnewid gosodiadau a ffitiadau presennol
- Ffioedd a chostau wrth gefn a ymrwymwyd neu a wariwyd cyn cynnig a derbyn y grant
- Costau cyfalaf gweithio megis stoc, rhent, trethi, gweinyddiaeth
- Aelodaeth ac ymlyniad i gyrff llywodraethu, ayyb
- Costau gwaith sy'n cael ei wneud fel gofyniad statudol cyfreithiol, gan gynnwys caniatâd cynllunio
- Astudiaethau dichonoldeb
- Eitemau a brynwyd gan werthwyr anfasnachol neu breifat
- Ffioedd proffesiynol sy'n gysylltiedig ag ymgynghorwyr busnes cyffredinol gan gynnwys cynlluniau busnes/ysgrifennu CaC ac unrhyw ffioedd sy'n gysylltiedig â chwblhau cais at ddibenion grantiau
Amodau Cyffredinol:
- Os yw'r busnes wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, yna ni fydd TAW yn gymwys. Bydd TAW yn daladwy mewn achosion o gwmnïau sydd heb gofrestru ar gyfer TAW. Os nad yw’r ymgeisydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ar y pwynt gwneud cais ond yn anelu at gael ei gofrestru o fewn y 12 mis dilynol, bydd y grant yn daladwy ar sail y costau NET (gan y bydd y busnes yn gallu hawlio TAW yn ôl-weithredol)
- Ni ddylid gwneud unrhyw wariant cyn cymeradwyo grant gan na ellir dyfarnu grantiau yn ôl-weithredol. Ni allwn ystyried eitemau sydd wedi'u hymrwymo i'w prynu e.e. blaendal diogelwch heb ganiatâd ymlaen llaw gan y tîm grantiau. Rhoddir ystyriaeth i hyn fesul achos.
- Ni fydd pryniannau arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant.
- Ni fydd eitemau a brynir drwy brydles, hurbwrcas, cytundebau credyd estynedig/prydlesi cyllid yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid grant.
- Ni fydd pryniannau gan werthwyr preifat / unigolion yn cael eu hystyried, e.e. Facebook Marketplace, ayyb. Dim ond pryniannau gan werthwyr / cyflenwyr masnachol yr ydym yn eu hystyried
- Mae eitemau a brynir gyda chardiau credyd yn gymwys. ** Rhaid i Gwmnïau Cyfyngedig ddefnyddio cerdyn credyd cwmni ar gyfer pryniannau. Rydym yn annog masnachwyr unigol a phartneriaethau i ddefnyddio cardiau bancio/credyd busnes.
Ni fydd grantiau’n daladwy pan fo ardrethi busnes a/neu dreth y cyngor yr ymgeisydd mewn ôl-ddyledion.
Ni Ddylid Defnyddio'r Grant ar Gyfer:
- Dibenion plaid wleidyddol
- Hyrwyddo safbwyntiau seciwlar, crefyddol neu wleidyddol penodol
- Gamblo
- Pornograffi
- Cynnig gwasanaethau rhywiol
- Unrhyw fath o weithgaredd anghyfreithlon; neu
- Unrhyw fath o weithgaredd a allai, ym marn y Cyngor, ddwyn anfri ar y Cyngor sy'n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weithdrefnau heb eu rheoleiddio ac ymledol, cynhyrchion a thriniaethau, modelu noethlymun neu lled-noethlymun canolfannau hapchwarae, gwasanaethau gwely haul, therapïau amgen, cynhyrchion a meddyginiaethau, aciwbigo, siopau fêp, siopau tybaco, dylanwadu cyfryngau cymdeithasol, cwnsela, hyfforddi bywyd, tatŵ, adeiladu hapfasnachol, triniaethau meddygol cyflenwol, cynhyrchion cosmetig, gweithdrefnau esthetig, cynhyrchion olew CBD ac arian cyfred digidol.
6. Offer ail-law
Mae costau prynu offer ail-law yn gymwys am grant o dan yr amodau canlynol:
- Mae’n rhaid i werthwr yr offer ddarparu datganiad yn nodi eu tarddiad, a chadarnhau na chawsant eu prynu ar unrhyw adeg yn ystod y saith mlynedd diwethaf gyda chymorth grantiau cenedlaethol neu grantiau Ewropeaidd.
- Ni ddylai pris yr offer fod yn fwy na’i werth ar y farchnad a rhaid iddo fod yn llai na chost offer newydd tebyg.
- Mae’n rhaid i’r offer feddu ar y nodweddion technegol sy’n angenrheidiol ar gyfer y gweithrediad, a chydymffurfio â normau a safonau cymwys, e.e. iechyd a diogelwch.
7. Ceisiadau ac asesu
Ymgeisio ac Asesu
Bydd pob cais sydd wedi'u cwblhau yn cael eu hystyried ar sail y cyntaf i'r felin nes bydd y gronfa wedi'i ddyrannu'n llawn.
Bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn allbynnau a chanlyniadau'r prosiect grant, h.y. i adlewyrchu allbynnau newydd ar ôl eu cadarnhau
• Gwerth am arian / cymhareb grant fesul swydd a grëwyd a buddsoddiad sector preifat a drosolwyd gan y grant yn ogystal â hyfywedd y cynllun busnes i gefnogi'r cynlluniau cychwynnol a thwf cynaliadwy.
• Busnes a grëwyd
• Swyddi a grëwyd
I ddechrau mae'n ofynnol i ymgeisydd gyflwyno mynegiant o ddiddordeb. Bydd y mynegiant o ddiddordeb wedyn yn cael ei asesu at ddibenion cymhwysedd ac os caiff ei gymeradwyo gwahoddir chi i gyflwyno cais llawn.
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau a dychwelyd y canlynol:
- Ffurflen Gais wedi'i gwblhau'n llawn
- Cynllun busnes cynhwysfawr a manwl (dylai'r cynllun busnes gynnwys adran ar sut mae'r busnes yn gweithredu arferion busnes cynaliadwy)
- Rhagolygon 2 blynedd (rhagamcan llif arian)
- Dyfyniadau ysgrifenedig ffurfiol ar gyfer yr eitemau sydd wedi’u cynnwys yn y cais (gweler isod am ganllawiau)
- Safonau'r Iaith Gymraeg - gweler canllawiau pellach isod
Polisi Amgylcheddol / Cynaladwyedd - Bydd angen i ymgeiswyr amlinellu'r ffyrdd y mae'r busnes wedi ymrwymo i leihau ei effaith ar yr amgylchedd
Bydd gwerth y grant yn cael ei gyfrifo yn ystod yr asesiad, yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir a bydd yn cael ei gadarnhau'n ysgrifenedig wrth i'r asesiad ddod i ben. Cyfeiriwch at Y Cynnig, (gweler uchod). Bydd cyfle gan yr ymgeisydd i dderbyn y dyfarniad arfaethedig cyn cyhoeddi cytundeb ffurfiol.
Dylid nodi mai Cronfa Twf Lleol Grant Cychwyn Busnes Sir Benfro yn grant dewisol ac yn amodol ar gymeradwyaeth Cyngor Sir Benfro. Bydd pob cais yn cael ei asesu gan banel sy'n cyfarfod yn fisol i ystyried ceisiadau sy'n bodloni'r safon erbyn y dyddiad cau penodol.
Noder - Bydd angen i’r ceisiadau bod yn hollol barod cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r panel, felly rhaid cadarnhau gofynion hanfodol megis ariannu cyfatebol, caniatâd cynllunio (lle bo hynny'n berthnasol), ayyb cyn y bydd y tîm grant yn paratoi'r cais i'w ystyried yn y panel.
Bydd eithriadau i'r amodau hyn yn cael eu hystyried fesul achos.
8. Rheolau caffael – cael dyfynbrisiau
Canllawiau Caffael Cronfa Twf Lleol 2026-2027 ar gyfer gwerth yn is na £90,000 (yn cynnwys TAW) i’w ddefnyddio gyda chynlluniau grant angori y Gronfa Twf Lleol
Cyn caffael nwyddau a gwasanaethau a gynhwysir yn eich ceisiadau grant, disgwylir i ymgeiswyr gynnal y broses o roi dyfynbris mewn modd sy’n sicrhau didwylledd, gwerth am arian a thegwch, a rhaid iddynt ddilyn y gweithdrefnau caffael fel y’u hamlinellir yn yr adran hon.
Cost yr eitem neu gontract â gwerth cyfanredol o hyd at £999 (yn cynnwys TAW)
Mae’n rhaid cael un dyfynbris a’i gadw.
Mae’n rhaid sicrhau’r gwerth gorau am arian a chymryd gofal rhesymol i gael nwyddau neu wasanaethau o ansawdd priodol am bris cystadleuol.
Cost yr eitem neu gontract â gwerth cyfanredol rhwng £1,000 ac £11,999 (yn cynnwys TAW)
- Mae’n rhaid ceisio o leiaf ddau ddyfynbris o ffynonellau cystadleuol. Mae’n rhaid i’r dyfynbrisau fod yn seiliedig ar yr un manylion a’u gwerthuso ar sail tebyg am debyg.
- Mae’n rhaid sicrhau’r gwerth gorau am arian a chymryd gofal rhesymol i gael nwyddau neu wasanaethau o ansawdd priodol am bris cystadleuol.
Cost yr eitem neu gontract â gwerth cyfanredol rhwng £12,000 a £29,999 (yn cynnwys TAW)
- Rhaid ceisio o leiaf dri dyfynbris o ffynonellau cystadleuol. Mae’n rhaid i’r dyfynbrisau fod yn seiliedig ar yr un manylion a’u gwerthuso ar sail tebyg am debyg.
- Mae’n rhaid sicrhau’r gwerth gorau am arian a chymryd gofal rhesymol i gael nwyddau neu wasanaethau o ansawdd priodol am bris cystadleuol.
Gwerth y contract £30,000 – £89,999 (yn cynnwys TAW)
- Ceisiwch dri dyfynbris cystadleuol gan ddefnyddio dyfynbrisiau cyflym GwerthwchiGymru os yw’n gorff cyhoeddus.
- Os nad yw’n gorff cyhoeddus, dangoswch fod tri dyfynbris wedi’u cael o’r farchnad agored. I wneud hyn, rhaid i chi hysbysebu eich gofyniad yn y wasg ranbarthol neu arbenigol gan nodi dyddiad cau ar gyfer cyflwyno dyfynbrisiau, a thrwy hynny roi dyfynbris cyfle i’r farchnad agored. Dylai’r dyddiad cau cynharaf fod 14 diwrnod o’r dyddiad cyhoeddi, ond gallai hyn fod yn hirach os yw’r eitemau’n arbenigol neu’n gymhleth, neu os ydych yn ystyried bod cyfnod rhybudd hirach yn briodol.
- Mae’n rhaid cofnodi’n ddogfennol y dyfynbrisiau a geisir, y broses werthuso a’r penderfyniad i ddyfarnu.
Osgoi gwrthdaro buddiannau gyda dyfynbrisiau
Rhaid esbonio unrhyw wrthdaro buddiannau canfyddedig neu wirioneddol rhyngoch chi a’r cyflenwyr y gofynnir iddynt ddarparu dyfynbrisiau, er enghraifft, cael dyfynbrisiau gan gwmnïau cysylltiedig, yn y dogfennau ategol. Lle bo gwrthdaro posibl, rhaid cymryd camau lliniaru a’u dogfennu.
9. Safonau’r Gymraeg
Mae Hysbysiad Cydymffurfio Safonau'r Gymraeg gosod gofyniad statudol ar y Cyngor i sicrhau bod y grantiau a ddyfernir ganddo yn cael effeithiau positif ar gyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr nodi eu hymrwymiadau i’r Gymraeg wrth iddynt ateb y cwestiynau am y Gymraeg ar y ffurflen gais ac, wedi iddynt gael eu cytuno gyda'r swyddog grant, fe fyddant yn cael eu gosod fel amodau a thelerau i’r ymgeisydd llwyddiannus.
10. Rheoli cymorthdaliadau
Mae’r cynllun hwn yn dod o dan Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 gan Lywodraeth y DU, sydd mewn grym ar hyn o bryd. Ni ddylai cyfanswm yr isafswm cymorth ariannol a geir dros gyfnod treigl o dair blynedd ariannol fod yn fwy na £315,000 fesul busnes*. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw monitro lefel yr isafswm cymorth ariannol sy’n dod i law. Gofynnir i chi GADARNHAU nad aethpwyd y tu hwnt i hyn os bydd
cynnig yn cael ei wneud. [*Sylwch fod trothwy’r isafswm cymorth ariannol yn berthnasol i lefel grwpiau’r cwmni.]
Rhaid i bob cynnig hefyd ystyried sut y byddant yn cyflawni yn unol â’r trefniadau rheoli cymorthdaliadau a nodir yng nghanllawiau Llywodraeth y DU (yn agor mewn tab newydd).
Pan nad yw ymgeiswyr yn dangos, yn ddigonol, bod y prosiect arfaethedig yn cydymffurfio â chyfundrefn rheoli cymorthdaliadau’r DU, efallai y caiff ei ystyried yn anghymwys, a gallai eich cais gael ei wrthod.
11. Ar ôl cwblhau – telerau ac amodau
Dylid nodi bod Cronfa Cychwyn Busnes Sir Benfro yn grant yn ôl disgresiwn ac yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gyngor Sir Penfro.
Gellir cymryd y grant yn ôl pe bai’r busnes yn rhoi’r gorau i fasnachu, yn adleoli neu’n gwerthu’r eitemau a brynwyd fel rhan o’r grant o fewn pum mlynedd i’w ddyfarnu.
Rhaid i gwmnïau cyfyngedig ddefnyddio’r cyfrif banc busnes i brynu’r holl eitemau sy’n gysylltiedig â’r grant. Anogir unig fasnachwyr a phartneriaethau i ddefnyddio eu cyfrif banc busnes ar gyfer pob pryniant sy’n gysylltiedig â’r grant.
Mae’n bwysig nodi bod grantiau’n cael eu talu’n ôl-weithredol. Felly, mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr arian digonol i brynu’r eitem(au) yn llawn ymlaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Penfro.
Os bydd y cais yn llwyddiannus, telir yr arian grant yn syth i gyfrif banc busnes yr ymgeisydd. Mae hyn yn seiliedig ar dderbynneb neu dystiolaeth o bryniant a thaliad, h.y. datganiadau banc printiedig gwreiddiol neu ar-lein
ac anfonebau gwreiddiol i gadarnhau gwariant.
Rhaid i unrhyw newidiadau i gyflenwyr neu wariant sy’n wahanol i’r hyn a nodwyd yn y cais gael eu cymeradwyo gan y tîm grant cyn gwneud unrhyw bryniannau. Gall methu â cheisio cymeradwyaeth olygu na fydd y grant yn cael ei dalu am yr eitemau hynny.
Bydd angen tystiolaeth ffotograffig o’r holl eitemau sy’n gysylltiedig â’r grant i gefnogi’r hawliad. Mewn rhai achosion, bydd angen cynnal ymweliad safle.
Rhaid i’r ymgeisydd dderbyn telerau ac amodau’r grant trwy gwblhau’r hysbysiad o gymeradwyaeth a’r telerau ac amodau o fewn 30 diwrnod o’u cael. Rhaid cwblhau’r holl wariant sy’n gysylltiedig â’r grant o fewn tri mis i ddyddiad y llythyr cymeradwyo, neu erbyn 29 Ionawr 2027, pa un bynnag yw’r dyddiad cynharaf. Ni
roddir estyniad ar gyfer cyflwyno’r hawliad.
Rhaid cyflawni / cynnal y swydd, neu swyddi, sydd wedi’u creu ac sy’n gysylltiedig â’r prosiectau o fewn chwe mis i daliad olaf y grant, neu erbyn 28 Chwefror 2027, pa un bynnag yw’r dyddiad cynharaf. Bydd y busnes a’r swyddi a grëwyd a/neu a ddiogelwyd yn cael eu monitro, a bydd angen tystiolaeth. Gallai methu â chyflawni’r allbynnau yr ymrwymwyd iddynt arwain at ad-dalu’r arian grant.
I bob diben yn ymwneud â’r grant, bydd yr hawliad a thystiolaeth yn cael eu monitro gyda rhybudd ymlaen llaw ymhen un flwyddyn, tair blwyddyn a phum mlynedd o ddyddiad dyfarnu’r grant.
Os na fydd y prosiect yn mynd rhagddo o fewn y cyfnod a nodir yn y cynnig grant,
bydd y cynnig grant yn dod i ben yn awtomatig. Rhaid gofyn am unrhyw amrywiad i’r telerau ac amodau a nodir yn y llythyr cymeradwyo a chytuno arno.
Ni fydd pryniannau arian parod (neu ddefnyddio cardiau rhodd / arian parod) yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant.
Mae eitemau a brynwyd gyda chardiau credyd yn gymwys, ond bydd angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o’r trafodiad ar eu bil cerdyn credyd. **Mae’n rhaid i gwmnïau cyfyngedig ddefnyddio’r cardiau credyd busnes i brynu eitemau sy’n gysylltiedig â’r grant yn hytrach na chardiau personol y cyfarwyddwr neu’r cyfarwyddwyr.
Ni fydd grantiau’n cael eu cynnig na’u talu os yw’r busnes neu’r ymgeisydd mewn ôl-ddyledion gydag unrhyw daliad i unrhyw un o’r awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan mewn gweithredu’r cynllun.
12. Ad-dalu cronfeydd grant
Bydd cyllid yn cael ei atal a/neu, i’r graddau y mae taliad wedi’i wneud, bydd derbynnydd y grant yn ad-dalu cyllid naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol, gan gynnwys os:
1. a) bu gordaliad cyllid;
2. b) yn ystod ei oes economaidd, mae’r prosiect yn mynd trwy newid sylweddol fel bod yr arian yn cael ei ddefnyddio at ddibenion heblaw’r rhai a nodir yn y cais, neu’n destun newid perchennog heb hysbysu Cyngor Sir Penfro.
Yr oes economaidd yw’r cyfnod hyd at bum mlynedd o ddyddiad taliad olaf y grant, a bydd angen ad-dalu’r cyllid fel a ganlyn:
- O fewn un lwyddyn – ad-dalu’r cyllid yn llawn
- O fewn dwy flynedd – ad-dalu 80% o’r cyllid
- O fewn tair blynedd – ad-dalu 60% o’r cyllid
- O fewn pedair blynedd – ad-dalu 40% o’r cyllid
- O fewn pum mlynedd – ad-dalu 20% o’r cyllid
- Ar ôl pum mlynedd – dim cyllid i’w ad-dalu
Yr ad-daliadau gofynnol lleiaf yw’r hyn a nodir uchod.
Os na chaiff y swyddi eu creu a/neu eu diogelu, mae gan y cyngor sir yr hawl i adennill y grant yn rhannol neu’n llawn.
Mae’n rhaid ad-dalu’r grant yn llawn ar gais:
- Os canfyddir bod yr ymgeisydd wedi camliwio mewn cysylltiad â’r cais
- Os na chaiff y swyddi eu creu a/neu eu diogelu, yna mae gan y cyngor sir yr hawl i adennill y grant yn rhannol neu’n llawn
Mae’n rhaid ad-dalu’r grant yn llawn ar gais:
- Os canfyddir bod yr ymgeisydd wedi camliwio mewn cysylltiad â’r cais
- Os nad yw’r busnes yn masnachu rhagor
- Os bu newid sylweddol i’r manylion a ddarparwyd gennych yn eich cais
- Os gwerthir unrhyw eitem a brynwyd gyda’r arian grant
- Os bydd y busnes yn newid perchnogaeth
- Os bydd y cwmni yn gadael Sir Benfro neu’n cael ei werthu
13. Diogelu data a phreifatrwydd
Cyngor Sir Penfro yw’r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych yn ei darparu ar y ffurflen hon. Defnyddir eich gwybodaeth wrth arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddiben arall. Noder y gallwn wirio’r data y byddwch yn eu rhoi yma yn erbyn setiau data eraill y cyngor a Llywodraeth y DU er mwyn dilysu’ch cais ac atal twyll. I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Sir Benfro yn trin eich data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd corfforaethol.
Bydd yr wybodaeth bersonol rydym wedi’i chasglu gennych yn cael ei rhannu ag asiantaethau atal twyll, a fydd yn ei defnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac i wirio pwy ydych. Os canfyddir twyll, efallai y gwrthodir rhai gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi. Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn ni a’r asiantaethau atal twyll hyn yn defnyddio’ch gwybodaeth, a gwybodaeth am eich hawliau diogelu data, ar gael yma: CIFAS (yn agor mewn tab newydd).
14. Sut i wneud cais
Cyn i ni ofyn i chi wneud cais llawn, bydd angen i chi gyflwyno datganiad o ddiddordeb sy’n amlinellu eich cynnig busnes a’ch costau. Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch:
- Eich manylion
- Manylion y busnes a disgrifiad o’i brif weithgaredd
- Costau dangosol y prosiect
- Manylion unrhyw gyllid / arian ychwanegol
Noder na ddylech ddechrau ar eich prosiect cyn i’r cyllid gael ei ddyfarnu. Bydd unrhyw waith a ddechreuir / costau yr eir iddynt cyn dyfarnu’r cyllid yn cael eu hystyried yn anghymwys.