Gwasanaeth Bartneriaeth Rhieni
Gwasanaeth Bartneriaeth Rhieni
Mae Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni Sir Benfro’n rhoi cyngor a gwybodaeth sy’n ddiduedd ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’r system ADY
Mae’r wybodaeth a’r cyngor yma ar gael i bawb, gan gynnwys plant, eu rhieni a phobl ifanc hyd at 25 oed mewn addysg nad yw’n addysg uwch (mae hyn yn golygu addysg bellach ond nid addysg uwch).
Mae bod yn ddiduedd yn golygu nad ydym yn cymryd ochrau; mae’r cyngor a’r wybodaeth yn amhleidiol ac yn wrthrychol.
Fel gwasanaeth lleol sy’n ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol gallwn gynnig cymorth ac arweiniad cywir, diduedd y mae eu hangen i deuluoedd wneud dewisiadau gwybodus.
Yr hyn yr ydym yn ei wneud
Mae gwasanaethau a gynigir gan y Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni’n cynnwys
- Clust i wrando ac i drafod pethau
- Help i ddeall gwasanaethau a chymorth i blant a phobl ifanc ag ADY
- Help ymarferol i ddeall adroddiadau proffesiynol, adroddiadau plant, a dogfennau ysgrifenedig eraill.
- Cymorth mewn cyfarfodydd a
- Chymorth i gyfathrebu gydag ysgolion, lleoliadau a cholegau
- Gwybodaeth mewn perthynas â gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r ysgol a lleoliadau addysgol eraill.
- Cymorth i feithrin a chynnal perthnasoedd gweithio da â gweithwyr proffesiynol.
- Cymorth i rieni fod â rôl weithredol ac a werthfawrogir yn addysg a datblygiad eu plentyn: rhoi llais i deuluoedd
Gallwn hefyd ddarparu gwybodaeth am y canlynol
- Cyfleoedd i rieni gael cymorth a gwasanaethau sydd ar gael
- Gwybodaeth am weithgareddau, clybiau, grwpiau cymorth a gwasanaethau eraill i blant a phobl ifanc ag ADY
- Gwybodaeth am y ffordd y mae ysgolion, lleoliadau a cholegau’n cefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Gwybodaeth am rôl yr Awdurdod Lleol i blant a phobl ifanc ag ADY
- Gwybodaeth am rôl Byrddau Iechyd Lleol i blant a phobl ifanc ag ADY
- A llawer mwy…
Mae ein llinell gymorth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9:00am a 4:00pm.
Ffôn: 01437 776354
E-bost pps@pembrokeshire.gov.uk