Gwasanaeth Bartneriaeth Rhieni

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Beth Yw Ystyr ‘Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)’?

Gall fod ar blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol angen mwy o gymorth i ddysgu na’r mwyafrif o blant a phobl ifanc o’r un oedran. Gall fod gan rai anabledd sy’n eu hatal neu’n eu rhwystro rhag defnyddio’r cyfleusterau addysgol a ddarperir ar gyfer dysgwyr. Gall fod gan oddeutu un ymhob pedwar plentyn a pherson ifanc Anghenion Dysgu Ychwanegol ar ryw adeg.

Mae’r holl blant a phobl ifanc yn dysgu ar wahanol gyflymder a bydd ganddynt wahanol bethau’n digwydd yn eu bywydau sydd hefyd yn gallu effeithio ar eu cyflymder dysgu .

Rhaid i bob ysgol, coleg ac Awdurdod Lleol gefnogi’r holl blant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai ag ADY neu a all fod ag ADY. I rai plant a phobl ifanc, mae’r anawsterau hyn yn fyrdymor; gall eraill fod ag Anghenion Dysgu Ychwanegol trwy gydol eu bywyd yn yr ysgol neu’r coleg. Bydd gan rai Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn meysydd penodol o fewn eu haddysg, tra gall fod ar eraill angen help gyda phob agwedd neu’r rhan fwyaf o agweddau ar eu haddysg.

Un o egwyddorion y Cod ADY (gweler isod) yw addysg gynhwysol lle caiff plant a phobl ifanc eu cefnogi i gyfranogi’n llawn mewn addysg brif ffrwd, lle bynnag y bo’n ddichonadwy, a lle defnyddir dull lleoliad cyfan i ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY.

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg 2018 – Deddf ADY a’r TA – yn dweud bod gan blentyn neu berson ifanc 3 i 16 oed Anghenion Dysgu Ychwanegol os oes gan y plentyn:

  • anhawster sylweddol fwy i ddysgu na'r mwyafrif o'r rhai eraill sydd o'r un oedran, neu
  • anabledd sy’n atal neu’n llesteirio'r plentyn rhag defnyddio cyfleusterau addysg neu hyfforddiant a ddarperir yn gyffredinol ar gyfer eraill sydd o’r un oedran

Mae gan blentyn o dan oedran Ysgol gorfodol (0 i 3 oed) os yw'r plentyn, pan fydd o oedran ysgol gorfodol, neu p'un a fyddai pe na châi DDdY, yn debygol o fod ag un o’r uchod

Trawsnewid ADY

Mae’r ffordd y caiff plant a phobl ifanc ag ADY eu cefnogi yng Nghymru’n newid. Mae hyn yn golygu, o fis Medi 2021, y bydd deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru a bydd hon yn cael ei rhoi ar waith trwy broses drawsnewid dros 3 blynedd

Gweld:

Pa rôl sydd gan blant, eu rhieni a phobl ifanc yn y broses o adnabod a chefnogi ADY yn y system newydd?

Mae’r system newydd yn gwneud y dysgwr yn ganolog i bopeth sy’n digwydd, a rhaid i ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i gynllunio ar gyfer plant a phobl ifanc a’u cefnogi.

Golyga hyn fod rhaid i farn, dymuniadau a theimladau plant a’u rhieni, a phobl ifanc gael eu hystyried yn ystod pob cam – mae hyn yn golygu bod rhaid rhoi llais i rieni yn y ffordd y caiff anghenion plant eu hadnabod, eu hasesu a’u cefnogi trwy gydol eu hamser mewn ysgolion a lleoliadau.

Mathau o ADY

Ceir sbectrwm eang o Anghenion Dysgu Ychwanegol y gall fod gan eich plentyn neu berson ifanc, a gall y rhain newid a datblygu dros amser. Yn aml mae’r meysydd lle ceir anghenion yn gorgyffwrdd, neu mewn rhai achosion mae anghenion eich plentyn yn ymwneud yn uniongyrchol ag un maes dysgu penodol. Ar y cyfan, bydd gan blant a phobl ifanc anghenion a all berthyn i o leiaf un o bedwar maes, a bydd gan lawer o blant anghenion cydberthynol. Mae’r adran hon yn disgrifio’r mathau o Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Cyfathrebu a rhyngweithio

Mae plant a phobl ifanc ag Anghenion Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu (AILlaCh) yn cael anhawster cyfathrebu gydag eraill. Gall hyn fod am eu bod yn cael anhawster dweud yr hyn y mae arnynt eisiau ei ddweud, deall yr hyn sy’n cael ei ddweud wrthynt neu am nad ydynt yn deall neu’n defnyddio rheolau cyfathrebu cymdeithasol. Mae proffil pob plentyn ag AILlaCh yn wahanol a gall eu hanghenion newid dros amser. Gallant brofi anhawster gydag un, rhai neu bob un o’r gwahanol agweddau ar iaith, lleferydd neu gyfathrebu cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu bywydau.

Mae plant a phobl ifanc ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig, gan gynnwys Syndrom Asperger ac Awtistiaeth, yn debygol o fod ag anawsterau penodol gyda rhyngweithio cymdeithasol. Gallant hefyd brofi anawsterau gydag iaith, cyfathrebu a dychymyg, a all effeithio ar sut y maent yn uniaethu ag eraill.

Gwybyddiaeth a dysgu

Gall fod angen cymorth ar gyfer anawsterau dysgu pan fo plant a phobl ifanc yn dysgu ar gyflymder arafach na’u cyfoedion, hyd yn oed gyda gwahaniaethu priodol*. Mae anawsterau dysgu’n cwmpasu ystod eang o anghenion, gan gynnwys Anawsterau Dysgu Cymedrol (ADC), Anawsterau Dysgu Difrifol (ADD), lle mae’n debygol y bydd ar blant angen cymorth ym mhob maes o fewn y cwricwlwm ac anawsterau cysylltiedig gyda symudedd a chyfathrebu, ac Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog (ADDaLl), lle mae plant yn debygol o fod ag anawsterau dysgu difrifol a chymhleth yn ogystal ag anabledd neu nam ar y synhwyrau.

Mae Anawsterau Dysgu Penodol (ADP) yn effeithio ar un neu fwy nag un agwedd benodol ar ddysgu. Mae hyn yn cwmpasu ystod o gyflyrau megis dyslecsia, dyscalcwlia a dyspracsia.

*Nid yw pob plentyn yn datblygu ar yr un cyflymder. Mae rhai’n cael dysgu’n rhwydd ac yn datblygu’n gyflymach; tra bo eraill yn cael trafferth gyda thasgau neu sgiliau penodol ac yn datblygu’n arafach. Felly, gosodir gwaith ar gyfer pob plentyn sydd wedi’i anelu at lefel neu allu’r plentyn ei hun. Dysgu ‘Gwahaniaethol’ yw’r enw ar hyn.

Anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl

Gall plant a phobl ifanc brofi ystod eang o anawsterau cymdeithasol ac emosiynol sy’n amlygu eu hunain mewn llawer o ffyrdd. Gall y rhain gynnwys mynd i’w cragen neu ynysu eu hunain, yn ogystal â dangos ymddygiad sy’n heriol, sy’n tarfu ar eraill neu sy’n aflonyddol. Gall yr ymddygiadau hyn adlewyrchu anawsterau iechyd meddwl sylfaenol megis gorbryder neu iselder, hunan-niweidio, camddefnyddio sylweddau, anhwylderau bwyta neu symptomau corfforol nad oes esboniad meddygol drostynt. Gall fod gan blant a phobl ifanc eraill anhwylderau megis anhwylder diffyg canolbwyntio, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd neu anhwylder ymlyniad.

Anghenion synhwyraidd a / neu gorfforol

Mae ar rai plant a phobl ifanc angen darpariaeth addysgol ychwanegol am bod ganddynt anabledd sy’n eu hatal neu’n eu rhwystro rhag defnyddio’r cyfleusterau addysgol a ddarperir yn gyffredinol. Gall yr anawsterau hyn fod yn gysylltiedig ag oedran a gallant amrywio dros amser. Bydd ar lawer o blant a phobl ifanc â Nam ar eu Golwg, Nam ar eu Clyw neu Nam Amlsynhwyraidd angen cymorth a/neu offer arbenigol i gael mynediad at eu dysgu, neu gymorth cymhwyso*. Mae gan blant a phobl ifanc â Nam Amlsynhwyraidd gyfuniad o anawsterau gweld a chlywed.

* Mae ar rai plant a phobl ifanc ag Anabledd Corfforol angen offer a chymorth parhaus ychwanegol i gael mynediad at yr holl gyfleoedd sydd ar gael i’w cyfoedion.

Gweld:

ID: 7860, adolygwyd 04/01/2023