Gwasanaeth Bartneriaeth Rhieni
Canllaw Terminoleg
AAA
‘Anghenion Addysgol Arbennig’ – Cyfeirir atynt yn gyffredin bellach fel ADY – Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae gan blentyn anghenion addysgol arbennig os oes ganddo neu ganddi anawsterau dysgu y mae angen darpariaeth addysgol arbennig ar eu cyfer, (i gael rhagor o fanylion gweler y daflen ar wahân).
ABICh / ABCh
‘Addysg Bersonol, Iechyd a Chymdeithasol’ – fe’i gelwir hefyd yn ‘Addysg Bersonol a Chymdeithasol’.
ADC
Mae’n golygu ‘Anawsterau Dysgu Cymedrol’.
Adolygiad Blynyddol
Cyfarfod bob blwyddyn (gyda’r un cyntaf yn cael ei gynnal 12 mis ar ôl cyhoeddi Datganiad) y mae’n rhaid i awdurdod addysg ei gynnal lle caiff anghenion y plentyn eu hadolygu a lle caiff y Datganiad ei ddiwygio os oes angen.
ADP
‘Anawsterau Dysgu Penodol’ a all gynnwys Dyslecsia, Dyspracsia a/neu Dyscalcwlia.
Adroddiad Adolygu Blynyddol
Adroddiad ysgrifenedig ar gynnydd a gwblheir gan yr ysgol ar gyfer cyfarfod Adolygiad Pontio Blynyddol.
ADY
‘Anghenion Dysgu Ychwanegol’ – Mae gan rywun anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo/ganddi anhawster neu anabledd dysgu (pa un a yw’r anhawster neu’r anabledd dysgu’n deillio o gyflwr meddygol neu fel arall) sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.
ADD
‘Anawsterau Dysgu Dwys’ – mae gan ddisgyblion ag anawsterau dysgu dwys namau deallusol neu wybyddol sylweddol. Efallai y bydd ganddynt hefyd anawsterau o ran symudedd a chydsymud, cyfathrebu a chanfyddiad a dysgu sgiliau hunangymorth. Bydd ar ddisgyblion ag anawsterau dysgu difrifol angen cymorth ym mhob maes o fewn y cwricwlwm.
ADDaLl
‘Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog’ - Yn ychwanegol at anawsterau dysgu difrifol iawn, mae gan ddisgyblion anawsterau sylweddol eraill, megis anableddau corfforol, nam ar y synhwyrau neu gyflwr meddygol difrifol. Mae ar ddisgyblion angen lefel uchel o gymorth gan oedolion, ar gyfer eu hanghenion dysgu a hefyd ar gyfer eu gofal personol.
AHY
‘Addysg Heblaw yn yr Ysgol’.
AILlaCh
‘Anawsterau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu’ – gall disgyblion fod ag anawsterau gydag iaith fynegiannol neu iaith oddefol a / neu anawsterau prosesu.
ALl
Awdurdod Lleol
Amgylchedd Amlsynhwyraidd
Lle (fel arfer ystafell ddosbarth neu ystafell therapi) i blant gael y cyfle i ddysgu/derbyn gwybodaeth gan ddefnyddio’u holl synhwyrau.
Amlddisgyblaethol
Yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o ystod o ddisgyblaethau (fel arfer Addysg, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd).
Anawsterau Dysgu
Mae gan blentyn anawsterau dysgu os yw’n ei chael yn llawer anoddach dysgu na’r rhan fwyaf o blant o’r un oedran.
Awtistiaeth
Gwahaniaeth datblygiadol yw awtistiaeth sy’n effeithio ar sut mae pobl yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio â’r byd. Mae'n gyflwr sbectrwm ac yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd.
Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd
Nam datblygiadol yw Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) sy’n effeithio ar system hunanreoli’r ymennydd. Gall plant ac oedolion ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd brofi anawsterau gyda rhychwant sylw, gan gynnwys aflonyddwch a gorfywiogrwydd.
Apêl
Apêl yw pan ydych yn dweud wrth dribiwnlys (TAAAC) nad ydych yn cytuno â’r dewisiadau y mae eich Awdurdod Lleol wedi’u gwneud ynglŷn ag addysg eich plentyn. Gallai hyn ymwneud â’r help y mae plentyn yn ei gael yn yr ysgol neu’r ysgol yr ydych yn ei mynychu.
Asesiad
Archwiliad manwl o anghenion dysgu ychwanegol plentyn. Dylai hwn arwain at ysgrifennu adroddiad neu Arsylwad a’i rannu gyda rhieni.
Asesiad Craidd
Os oes ei angen caiff hwn ei wneud gan staff Gwaith Cymdeithasol o’r gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Blant yn dilyn Asesiad Cychwynnol. Asesiad manwl ydyw i edrych ar anghenion y plentyn/teulu – anghenion iechyd sylweddol, anabledd corfforol neu broblemau ymddygiadol sy’n golygu bod angen nifer o wasanaethau gwahanol. Rhaid ei gwblhau o fewn 35 diwrnod gwaith.
Asesiad Statudol
Y broses a ddefnyddir gan yr Awdurdod Lleol i gasglu gwybodaeth am anghenion dysgu ychwanegol plentyn. O hyn, gwneir penderfyniad naill ai i gyhoeddi neu i beidio â chyhoeddi Datganiad.
Athro neu Athrawes Ymgynghorol
Rhywun sydd â gwybodaeth arbenigol am fath penodol o angen dysgu ychwanegol a/neu gyflwr, er enghraifft nam ar y clyw, y golwg neu nam echddygol.
Awdurdod Lleol (ALl)
Y corff llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu addysg ac am wneud asesiadau statudol a chynnal datganiadau.
AYEaCh
‘Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol’. Gall plant y nodwyd fod ganddynt Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol ddod i sylw gydag amrywiaeth eang o wahaniaethau ymddygiad sy’n effeithio ar eu gallu hwy neu allu eraill i ddysgu. Mae enghreifftiau o Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol yn cynnwys ffobia ysgol, ymddygiadau pruddglwyfus, ymddygiadau sy’n tarfu ac ymddygiadau gwrthgymdeithasol.
CADY
‘Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol’ – Mae gan bob ysgol athro neu athrawes sy’n gyfrifol am gydlynu’r ddarpariaeth ychwanegol a ddyrennir i’r plant yn yr ysgol sydd ag ADY. Y CADY yw’r enw ar yr athro neu athrawes yma. Bydd y CADY yn gallu egluro wrth rieni sut y mae’r ysgol yn defnyddio’r adnoddau a ddyrannwyd iddi i ddiwallu anghenion plant ag ADY (i gael rhagor o fanylion gweler y daflen ar wahân).
Canolfan Adnoddau Dysgu
Ystafell ddosbarth mewn ysgol brif ffrwd sy’n darparu addysg ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth yw Canolfan Adnoddau Dysgu.
Canolfannau Plant
Mae Canolfannau Plant yn lleoedd lle gall plant dan 5 oed au teuluoedd gael gwasanaethau integredig holistaidd di-dor a lle gallant gael help gan dimau amlddisgyblaethol o weithwyr proffesiynol sy’n cynnig: gofal dydd llawn, addysg y blynyddoedd cynnar, gwasanaethau iechyd plant a theuluoedd, gan gynnwys gwasanaethau cynedigol, allgymorth rhieni, gwasanaethau cymorth i deuluoedd, cymorth gwarchod plant ar gyfer plant a rhieni ag anghenion arbennig, cysylltiadau effeithiol â Chanolfan Byd Gwaith.
CAU
‘Cynllun Addysg Unigol’ – Cynllun sy’n nodi targedau dysgu byrdymor ar gyfer plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol. Caiff hwn ei lunio fel arfer gan y CADY ac athrawon, ond dylai rhieni (a disgyblion, lle y bo’n briodol) wastad gael eu cynnwys. Dylid adolygu CAU o leiaf ddwywaith y flwyddyn, ond mae adolygiad mwy mynych yn aml yn briodol.
CDU
‘Cynllun Datblygu Unigol’ – un cynllun a fydd yn cael ei ddatblygu ar gyfer dysgwyr 0-25 oed, trwy ddefnyddio dull cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd y CDU yn disodli neu’n integreiddio’r holl gynlluniau unigol eraill megis Datganiadau neu CAUiau.
CIU
‘Cynllun Iechyd Unigol’
Cod ADY
Mae’r ‘Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol’ 2021 yn nodi sut y bydd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a’r Rheoliadau’n gweithio’n ymarferol.
Cod Ymarfer AAA
Canllaw i rieni, ysgolion ac Awdurdodau Lleol ynghylch yr help y gallant ei roi i blant ag Anghenion Addysgol Arbennig. Rhaid i ysgolion, Awdurdodau Lleol a Gwasanaethau Cymdeithasol Plant roi sylw i’r Cod (h.y. rhaid iddynt beidio â’i anwybyddu) wrth weithio gyda phlentyn sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig.
Cod Ymarfer ar gyfer AAA
Canllaw i rieni, ysgolion ac Awdurdodau Lleol ynghylch yr help y gallant ei roi i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Rhaid i ysgolion, Awdurdodau Lleol a Gwasanaethau Cymdeithasol Plant roi sylw i’r Cod (h.y. rhaid iddynt beidio â’i anwybyddu) wrth weithio gyda phlentyn sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Cod Ymarfer Hawliau Anabledd ar gyfer Ysgolion / Cod Ymarfer Hawliau Anabledd ar gyfer Darpariaeth Addysg Ôl-16
Mae’r Codau hyn ill dau’n egluro’r dyletswyddau i osgoi gwahaniaethu ar sail anabledd mewn addysg.
Cofrestr Anghenion Arbennig / Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae enwau’r holl blant mewn ysgol y rhoddir help ychwanegol iddynt ar gofrestr ADY/AAA. Cofnod ydyw sy’n nodi faint o blant y mae’r ysgol yn eu helpu.
Crynodeb Adolygu Blynyddol
Adroddiad ysgrifenedig a gwblheir gan yr ysgol sy’n cofnodi’r holl wybodaeth ac argymhellion o gyfarfod yr Adolygiad Blynyddol ac a anfonir at yr Awdurdod Lleol i gael ei ystyried gan y Panel Cynghori ar Achosion.
Cwricwlwm
Yr holl weithgareddau dysgu sy’n digwydd yn yr ysgol/y lleoliad.
Mae’n ofynnol i’r holl athrawon gynllunio a darparu gweithgareddau dysgu sydd wedi’u gwahaniaethu i gwrdd ag ystod o lefelau gallu.
Cwricwlwm Cenedlaethol
Yr hyn y mae’r Llywodraeth wedi penderfynu y bydd yr holl blant mewn ysgolion prif ffrwd yn ei ddysgu.
Cwricwlwm i Gymru
Cyhoeddwyd canllawiau Cwricwlwm i Gymru ym mis Ionawr 2020. Ei nod yw helpu pob ysgol i ddatblygu ei chwricwlwm ei hun, gan alluogi eu dysgwyr i ddatblygu tuag at bedwar diben y cwricwlwm – man cychwyn a dyhead pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.
Cydlynydd AAA
‘Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig’ – Gweler CADY.
Cydlynydd Cymorth Cynhwysiant
Athro neu athrawes â gwybodaeth a phrofiad arbenigol o faes o fewn ADY. Maent yn cynorthwyo ysgolion cynradd ac uwchradd i ddatblygu arferion cynhwysol a’u gallu i ddiwallu anghenion disgyblion ag ADY. Maent yn darparu cyngor penodol ar gyfer disgyblion ag anghenion cymhleth prin.
Cyfnod Sylfaen
Mae hwn yn dechrau pan gaiff plant eu geni ac yn para tan ddiwedd eu blwyddyn yn y dosbarth Derbyn.
Cyfnodau Allweddol
Cyfnod Sylfaen (diwedd y Flwyddyn Derbyn) Geni-5 oed
Cyfnod Allweddol 1 Blynyddoedd 1-2 5-7 oed
Cyfnod Allweddol 2 Blynyddoedd 3-6 7-11 oed
Cyfnod Allweddol 3 Blynyddoedd 7-9 11-14 oed
Cyfnod Allweddol 4 Blynyddoedd 10-11 14-16 oed
Cyllid Dirprwyedig
Mae’r holl ysgolion yn cael eu cyllid gan Lywodraeth Ganolog trwy’r Awdurdod Lleol yn ôl ystod o fformiwlâu, a gyfrifir yn ôl nifer ac ystod oedran disgyblion pob ysgol. Mae hyn yn cynnwys cyllid i ddiwallu anghenion plant ag ADY.
Cynhwysiant
Addysgu plant ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion (lleol) prif ffrwd lle bynnag y bo’n bosibl.
Cynllun AIaG
Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal
Cynllun Pontio
Cynllun a gaiff ei lunio ar ôl yr Adolygiad Blynyddol o Ddatganiad ym Mlwyddyn 9 i ddwyn ynghyd wybodaeth gan ystod o unigolion o fewn yr ysgol a’r tu hwnt i gynllunio ar gyfer proses bontio’r person ifanc i fywyd fel oedolyn.
Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
Trefniant â ffocws ar blant i gynllunio ar gyfer anghenion y plentyn/person ifanc.
Cynorthwyydd Cymorth Dysgu (LSA)
Cynorthwyydd sy’n rhoi cymorth yn yr ysgol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae Cynorthwyydd Cymorth Dysgu’n gweithio dan gyfarwyddyd athro neu athrawes dosbarth fel yr ystyrir yn briodol.
Darpariaeth ADY
Yr help/y gefnogaeth ychwanegol neu wahanol a roddir i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
Darpariaeth Addysgol Arbennig
Yr help arbennig a roddir i blant ag anghenion addysgol arbennig.
Datganiad
‘Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig’ – Dogfen gyfreithiol sy’n nodi anghenion plentyn a’r help penodol y mae’n rhaid iddo ef neu iddi hi ei gael (i gael rhagor o fanylion gweler y daflen ar wahân).
Datganiad ‘Arfaethedig’
Datganiad drafft yw hwn, sy’n cynnig 15 niwrnod gwaith i rieni wneud sylwadau arno neu ofyn am addasiadau iddo cyn y cyhoeddir y Datganiad Terfynol.
Datrys Anghytundeb
Trefniadau i helpu i atal neu ddatrys anghytundebau rhwng rhieni, y mae gan eu plant anghenion dysgu ychwanegol, ac awdurdod lleol neu ysgol.
Dechrau’n Deg
Rhaglen gan Lywodraeth Cymru i deuluoedd â phlant sy’n 0-3 oed.
Deddf ADY a’r TA
Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Y Ddeddf) yn gwneud darpariaeth ar gyfer fframwaith statudol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae hon yn disodli’r ddeddfwriaeth bresennol mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig (AAA) ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu a/neu anableddau dysgu (AAD) mewn addysg a hyfforddiant ôl-16.
“Y Ddeddf”
Mae hyn yn cyfeirio at Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Deddf Cydraddoldeb
2010
Daeth y Ddeddf Cydraddoldeb yn gyfraith ym mis Hydref 2010. Mae’n disodli deddfwriaeth flaenorol (megis Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 a Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995). Mae’n golygu bod gwahaniaethu neu driniaeth annheg ar sail nodweddion personol penodol, megis oedran, cyfeiriadedd rhywiol, hil, anabledd, crefydd bellach yn erbyn y gyfraith ym mron pob achos.
DDdY
Mae ‘Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol’ ar gyfer rhywun sy’n dair oed neu throsodd yn golygu darpariaeth addysgol neu hyfforddiant sy’n ychwanegol at yr hyn, neu’n wahanol i’r hyn, a wneir yn gyffredinol i eraill sydd o’r un oedran.
Ystyr darpariaeth ddysgu ychwanegol i blentyn sy'n iau na thair oed yw darpariaeth addysgol o unrhyw fath.
ELSA
‘Cynorthwyydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol’ – cynorthwyydd â gwybodaeth a sgiliau arbennig i gefnogi plant gyda’u datblygiad cymdeithasol ac emosiynol.
Estyn
Arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru.
Ffisiotherapydd
Arbenigwr sy’n gweithio gyda phlant sydd ag anawsterau symud. Gallant gynghori rhieni ynghylch ymarferion addas ar gyfer eu plant.
Gwahardd
Gwahardd yw’r opsiwn mwyaf eithafol sydd ar gael i bennaeth ysgol wrth ymateb i ymddygiad annerbyniol gan ddisgybl. Mae’n golygu cadw disgybl i ffwrdd o’r ysgol naill ai am gyfnod penodedig neu’n barhaol.
Gwasanaeth Cymorth Cynhwysiant
Mae’n gweithio mewn ysgolion i feithrin capasiti ar gyfer cynnwys plant ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol. Mae cydlynwyr hefyd yn rhoi cyngor i ysgolion ynghylch cynnwys disgyblion unigol â Datganiadau o AAA.
Gwasanaeth Cymorth Ymddygiad
Mae’r gwasanaeth hwn yn gweithio gydag ysgolion i gefnogi disgyblion ag anawsterau ymddygiad difrifol.
Gwasanaeth Gyrfaoedd
Gwasanaeth i’r holl bobl ifanc 13-19 oed i’w helpu i baratoi ar gyfer trosglwyddo i fyd gwaith a bywyd fel oedolyn.
Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed
(CAMHS)
Gwasanaeth iechyd i roi help, cefnogaeth a gofal i blant a phobl ifanc sy’n dioddef problemau iechyd meddwl.
Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni (GPRh)
Mae’n rhoi cymorth a gwybodaeth i rieni/gofalwyr y mae gan eu plant anghenion addysgol arbennig.
Gwasanaethau Allgymorth
Gwasanaethau cymorth a ddarperir ar gyfer ysgolion neu ddisgyblion gan athro/athrawes neu gynorthwyydd addysgu ymweliadol: er enghraifft rhoi cymorth gydag anawsterau cyfathrebu neu ymddygiad.
Gweithiwr Portage
Gweithiwr y Blynyddoedd Cynnar profiadol, a gyflogir gan yr Awdurdod Lleol i weithio gyda phlant 0-3 oed ag anghenion ychwanegol sylweddol a’u rhieni. Maent yn gweithio yn y cartref ac yn darparu rhaglenni i wella datblygiad plant bach, gan gadw mewn cysylltiad â gweithwyr proffesiynol eraill.
Gweithiwr Proffesiynol Arweiniol
Un unigolyn sy’n gyfrifol am helpu’r plentyn a’r teulu trwy’r system addysg a gwneud yn siŵr eu bod yn cael y gwasanaethau cywir ar yr adeg gywir.
Gweithredu gan yr Ysgol
Pan fo athro/athrawes dosbarth neu athro/athrawes pwnc, gan weithio gyda’r CADY, yn nodi bod gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol sy’n golygu bod angen iddynt weithredu trwy roi help sy’n ychwanegol at yr help, neu’n wahanol i’r help, y mae’r rhan fwyaf o blant eraill yn ei gael.
Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy
Pan fo ysgol yn nodi bod gan blentyn anghenion addysgol arbennig sy’n golygu bod angen cyngor a/neu gymorth gan asiantaethau eraill (E.e. Therapi Iaith a Lleferydd).
Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar
Pan fo lleoliad y Blynyddoedd Cynnar yn nodi bod gan blentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol, gweithredir trwy roi help sy’n ychwanegol at yr help, neu’n wahanol i’r help, y mae’r rhan fwyaf o blant yn ei gael.
Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar a Mwy
Pan fo lleoliad y Blynyddoedd Cynnar yn nodi bod gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol sy’n golygu bod angen cyngor a/neu gymorth gan asiantaethau eraill. E.e. gwasanaethau iaith a lleferydd.
Lleoliadau
Y term a ddefnyddir fel arfer ar gyfer sefydliadau cyn-ysgol, ysgolion meithrin neu ysgolion.
Lleoliadau’r Blynyddoedd Cynnar
Yr holl ddarpariaeth addysg gyn-ysgol megis dosbarthiadau ac ysgolion meithrin, meithrinfeydd dydd a chylchoedd chwarae.
Map Darpariaeth
Map o gymorth sy’n dangos yr hyn y mae’r ysgol/Awdurdod Lleol yn ei ddarparu ar gyfer ei d(d)isgyblion ADY, fel bod rhieni’n gallu deall yn well pa gymorth a gynigir, pryd ac o ble.
Mentor neu Fentor Dysgu
Oedolyn neu ddisgybl hŷn a gaiff ei baru â phlentyn i roi cymorth ar draws nifer o feysydd megis dysgu neu ymddygiad.
Monitro
Gweithgarwch parhaus i asesu gwaith, cynnydd, gwariant neu gyflawniad.
Nam ar y Clyw
Mae disgyblion â nam ar y clyw’n amrywio o rai sydd wedi colli clyw i’r rhai sy’n ddwys-fyddar.
Nam ar y Synhwyrau (SI)
Pan fo gan blentyn nam ar un neu fwy nag un o’r synhwyrau
Oedran Ysgol Gorfodol
Yr oedran pan fo’n rhaid i blant fod mewn addysg lawn-amser – sef 5-16 oed.
Panel
‘Panel Lleoli’ neu Gyfarfod Panel
Mae gan yr Awdurdod Lleol grŵp o weithwyr proffesiynol sy’n cwrdd gyda’i gilydd i ystyried sut y mae anghenion plant yn cael eu diwallu ac i sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n deg. Maent yn gwneud penderfyniadau ynghylch lleoliadau mewn ysgolion arbennig neu Ganolfannau Adnoddau Dysgu.
Plentyn sy’n Derbyn Gofal (LAC)
Plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (E.e. Gofal Maeth).
SAB neu AB
‘Sefydliad Addysg Bellach’ neu ‘Addysg Bellach’ – Sefydliadau addysgol ôl-16 (E.e. Colegau)
SACDA
“Swyddog arweiniol clinigol dynodedig addysg” - swyddog a ddynodwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol i fod â chyfrifoldeb am gydlynu swyddogaethau’r Bwrdd mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ag ADY.
Seiciatrydd
Meddyg sy’n helpu pobl ag anawsterau gyda’r ffordd y maent yn teimlo ac yn ymddwyn. Mae Seiciatryddion Plant yn arbenigo mewn helpu plant.
Seicolegydd Addysg
(Ed Psych) neu (EP)
Maent yn meddu ar radd gyntaf mewn Seicoleg a chymhwyster ôl-raddedig mewn Seicoleg Addysg. Maent yn athrawon hyfforddedig â sawl blwyddyn o brofiad. Maent yn cynnig cyngor a chymorth arbenigol i ddisgyblion, ysgolion, rhieni ac asiantaethau eraill. Mae gan y gwasanaeth rôl bwysig yn y broses Asesu Statudol a gall gyfrannu at y broses Cynllunio pontio a rhai Adolygiadau Blynyddol.
Swyddog Achosion
Swyddog penodol yn yr Awdurdod Lleol sy’n cydlynu’r broses Asesu Statudol a’r gwaith o gynnal Datganiadau. Y Swyddog Achosion yw’r ddolen gyswllt gyntaf yn yr Awdurdod Lleol i ateb y cwestiynau a’r pryderon a all fod gan rieni am gynnydd gydag Asesiad Statudol neu Ddatganiad eu plentyn.
Swyddog Arweiniol Anghenion Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar
(SAAYBC)
Swyddog a ddynodwyd gan awdurdod lleol i fod â chyfrifoldeb am gydlynu swyddogaethau’r awdurdod lleol mewn perthynas â phlant dan oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgolion a gynhelir.
Swyddog Cymorth i Ddisgyblion (PSO)
Gweler ‘Swyddog Lles Addysg’ (EWO).
Swyddog Lles Addysg
(EWO)
Maent yn cynnig cymorth arbenigol i rieni ac ysgolion gyda lles a phresenoldeb disgyblion. Maent yn gweithio gydag asiantaethau eraill i hybu presenoldeb a lles. Mae ganddynt gyfrifoldeb am sicrhau presenoldeb plant o oedran ysgol statudol yn yr ysgol. (Arferid eu galw’n ‘Swyddogion Cymorth i Ddisgyblion - PSO’).
Swyddog Penodol yn yr ALl
Swyddog yn yr awdurdod lleol a fydd yn ymdrin ag achos eich plentyn ac a fydd yn siarad gyda chi os oes gennych ymholiad neu bryder.
TAAAC
‘Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru’ – Corff annibynnol sy’n gwrando apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan yr Awdurdod Lleol ynglŷn ag Asesiadau Statudol a Datganiadau.
TC
Targed Cyrhaeddiad (Cwricwlwm Cenedlaethol)
Teuluoedd yn Gyntaf (FF)
Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Teuluoedd yn Gyntaf sy’n darparu systemau a chymorth amlasiantaeth ar gyfer teuluoedd.
TG / TGCh
‘Technoleg Gwybodaeth’ (fe’i gelwir weithiau’n ‘Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu’) .
Tîm Amlasiantaeth
Gweithwyr proffesiynol o wahanol arbenigeddau (iechyd/addysg/gwaith cymdeithasol/mudiadau gwirfoddol) sy’n cydweithio er budd pennaf plentyn.
Tîm o Amgylch y Teulu (TAF)
Ffordd o weithio sy’n dod ag ystod eang o weithwyr proffesiynol ynghyd i weithio gyda theulu er mwyn eu helpu i fynd i’r afael â’r heriau eang y maent yn eu hwynebu.
Tribiwnlys
Tribiwnlys Addysg Cymru
Therapi IaLl
‘Therapi Iaith a Lleferydd’ – rhaglen ar gyfer anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu (a gyflawnir weithiau mewn ysgolion) a oruchwylir gan Therapydd Iaith a Lleferydd.
Therapydd Galwedigaethol (OT)
Gweithiwr proffesiynol a gyflogir gan yr Ymddiriedolaeth Iechyd i weithio gyda’r plentyn, rhieni ac athrawon. Mae Therapyddion Galwedigaethol yn defnyddio technegau therapiwtig (gan gynghori ynghylch offer ac addasiadau amgylcheddol lle y bo’n briodol) i wella gallu plentyn i gael mynediad at y cwricwlwm corfforol a dysgu.
Therapydd IaLl
‘Therapydd Iaith a Lleferydd’ – Arbenigwr sy’n gweithio gyda rhieni a staff ysgolion yn ogystal â chyda phlant unigol i’w helpu i oresgyn anawsterau gydag iaith, lleferydd a chyfathrebu.
Uned Atgyfeirio Disgyblion
Mae’n darparu addysg ar gyfer disgyblion sydd wedi’u gwahardd neu eraill a allai fod allan o’r ysgol am amrywiaeth o resymau.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff cyhoeddus anadrannol ym Mhrydain Fawr a sefydlwyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 ac a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2007. Mae gan y Comisiwn gyfrifoldeb am hybu a gorfodi deddfau cydraddoldeb ac atal gwahaniaethu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Fe gymerodd drosodd gyfrifoldebau tri chomisiwn blaenorol: y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Cyfle Cyfartal (a oedd yn ymdrin â chydraddoldeb rhwng y rhywiau) a’r Comisiwn Hawliau Anabledd. Mae ganddo gyfrifoldeb am agweddau eraill ar gydraddoldeb hefyd: oedran, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd neu gred. Fel sefydliad hawliau dynol cenedlaethol, mae’n ceisio hybu a diogelu hawliau dynol ym Mhrydain Fawr.
Ymwelydd Iechyd
Nyrs gymwysedig a gyflogir gan y Gwasanaeth Iechyd sy’n rhoi cyngor ynghylch iechyd plant yn gyffredinol, problemau iechyd penodol ac sydd â chyfrifoldeb penodol am fonitro cynnydd plentyn a chynghori rhieni pan fo angen.
Ysgol a Gynhelir
Ysgol wladol gan gynnwys ysgolion cymunedol, sefydledig a gwirfoddol yn ogystal ag ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion arbennig sefydledig.
Ysgol Arbennig
Ysgol a drefnir i wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer disgyblion ag ADY ac sydd ar gael i blant â Datganiadau o Anghenion Addysgol Arbennig.
Ysgol Brif Ffrwd
Ysgol gyffredin.
Ysgolion Estynedig
Mae’r ysgolion hyn yn darparu ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau mewn partneriaeth gydag amrywiaeth eang o sefydliadau. Bydd y gwasanaethau estynedig hyn yn cael eu llunio gan anghenion a gofynion disgyblion, rhieni a’r gymuned ehangach.