Gwasanaeth Bartneriaeth Rhieni
Pontio ol 16
Cyfnod pontio ôl-16 ar gyfer pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Mae pontio o addysg orfodol i addysg a hyfforddiant ôl-16 yn gam pwysig iawn ym mywyd pob person ifanc.
Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yng Nghymru sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn mynychu coleg addysg bellach lleol, chweched dosbarth ysgol, neu raglen hyfforddi. Mae ystod eang o gyrsiau a gwasanaethau cymorth ar gael i ddiwallu anghenion dysgwyr.
Person ifanc
Mae person ifanc yn rhywun sy’n hŷn nag oedran ysgol gorfodol (16 oed) a hyd at 25 oed.
Cynllunio’r cyfnod pontio ar gyfer pobl ifanc ag ADY
O flwyddyn 9 ymlaen bydd yr ysgol, Gyrfa Cymru a’r awdurdod lleol yn gwrando ar farn dysgwyr ag ADY a’u teuluoedd, ac yn cymryd y rhain i ystyriaeth wrth roi cyngor ar yr ystod eang o gyrsiau addysg bellach a chyrsiau seiliedig ar waith sydd ar gael ledled Sir Benfro.
Byddwch chi a’ch plentyn yn trafod ei ddeilliannau dymunol ôl-16 a’i uchelgeisiau yn y cyfarfodydd cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn (CCU) ar gyfer ei gynllun datblygu unigol (CDU). Bydd ffocws arbennig ar y camau nesaf ar ôl diwedd addysg orfodol, gyda phwyslais ar helpu i baratoi ar gyfer bod yn oedolyn. Bydd cyfleoedd i ddarganfod mwy am ddewisiadau yn ystod cyfarfodydd adolygu CDU blynyddol. Bydd Gyrfa Cymru yn gallu rhoi cymorth i ddysgwyr wrth iddyn nhw ddewis, a gellir gwahodd y darparwyr ôl-16 fel colegau neu hyfforddwyr i fod yn bresennol.Rhoddir cymorth i rieni leisio’u barn a’u teimladau ac i ofyn cwestiynau. Bydd yr ysgol a’r awdurdod lleol (ALl) yn gwrando ac yn ystyried y rhain wrth roi cyngor ar y llwybrau sydd ar gael i’r dysgwr.
Bydd Cydgysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr ysgol yn rhoi gwybodaeth am y ffordd y gwneir penderfyniadau am anghenion dysgu ychwanegol. Bydd y CADY yn esbonio popeth am y CDU a phwy fydd yn ei gynnal, ac am hawliau’r person ifanc, gan gynnwys ei hawl i gydsynio i benderfyniadau ADY a’i CDU neu eu gwrthwynebu.
Bydd y CADY a gweithwyr proffesiynol cynorthwyol yn rhoi gwybodaeth a chymorth i sicrhau bod y person ifanc yn gallu deall canlyniadau posibl penderfyniadau fel y gall wneud penderfyniad deallus am ei ADY a’i CDU. Gofynnir i’r person ifanc:
- Beth yw dy farn am dy CDU?
- Wyt ti’n cytuno â’r cynllun?
- A wyt ti’n cydsynio i’r cynllun fynd yn ei flaen?
- Gyda phwy wyt ti’n hapus i rannu dy wybodaeth?
Rhaid i bawb sy’n gysylltiedig wneud popeth o fewn eu gallu i helpu’r person ifanc i wneud ei benderfyniad ei hun. Dylai cynllunio ddibynnu ar ddyheadau a galluoedd y person ifanc a’r hyn y mae ei angen i’w gefnogi i gyflawni ei uchelgais. Gall hyn gynnwys pa ddarpariaeth y mae ei hangen i’w gynorthwyo i baratoi ar gyfer y sector addysg bellach, hyfforddiant seiliedig ar waith, cyflogaeth, addysg uwch a byw’n annibynnol.
Lle mae gan ddysgwr anghenion iechyd neu ofal cymdeithasol, bydd swyddogion addysg awdurdod lleol Sir Benfro yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac adrannau gofal cymdeithasol i sicrhau gofal a chymorth priodol i’w galluogi i fanteisio ar eu haddysg neu hyfforddiant.
Lle nad yw’r person ifanc yn medru gwneud penderfyniadau am ei gynllun datblygu unigol (lle nad oes ganddo’r gallu i’w gwneud), gall rhieni weithredu fel ei gynrychiolydd. Mae hyn yn golygu y gall rhieni arfer hawliau’r person ifanc o dan y cod ADY. Mewn achosion o’r fath, mae’n bwysig cynnwys y person ifanc gymaint â phosibl yn y penderfyniadau a wneir, gan ystyried ei feddyliau, ei ddymuniadau a’i deimladau cyn gwneud penderfyniad ar ei ran. Os oes angen cymorth ar y person ifanc neu ei gynrychiolydd i fynegi ei farn a’i ddymuniadau ac arfer ei hawliau, gall ofyn i eiriolwr helpu.
Beth yw’r opsiynau ar ôl gadael yr ysgol i berson ifanc ag ADY?
Bydd proses lwyddiannus wrth gynllunio pontio yn helpu i esbonio pa gyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc sy’n gadael yr ysgol yn 16 oed.
Gall pobl ifanc adael yr ysgol yn gyfreithlon ar ddiwedd mis Mehefin y flwyddyn ysgol pan fyddant yn cyrraedd 16 oed. O’r fan yma, fel arfer gallant wneud eu penderfyniadau eu hunain am yr hyn y maen nhw am ei wneud. Bydd rhai, fodd bynnag, angen cymorth i gynllunio.
Y prif opsiynau ôl-16 yw:
Aros yn yr ysgol
Gall ysgolion gynnig llawer o gyfleoedd a bod yn ddewis cadarnhaol. Mae rhai pobl ifanc yn gallu aros yn yr ysgol hyd nes eu bod yn 19 oed.
Mynychu coleg addysg bellach lleol tra’n byw gartref
Dyma’r cam nesaf yn aml. Mae colegau AB yng Nghymru yn darparu ystod eang o gyrsiau i ddiwallu anghenion dysgwyr. Fel arfer bydd anghenion pobl ifanc ag anawsterau dysgu a/neu anableddau sy’n dechrau mewn coleg yn cael eu diwallu trwy ddarpariaeth sydd ar gael i bob dysgwr. Gelwir hyn yn ddarpariaeth gyffredinol. O fis Medi 2023, bydd dysgwyr ag ADY y bydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) arnynt yn trosglwyddo o ysgol i goleg gyda’u CDU a bydd y coleg yn gweithio gyda phob person ifanc i wneud yn siŵr bod y cymorth yn briodol ar eu cyfer yn eu dewis gwrs. Mae colegau’n darparu ystod eang o gyrsiau a chymorth i ddiwallu anghenion y rhan fwyaf o ddysgwyr, gan gynnwys y rhai ag ADY.
Colegau annibynnol arbenigol
Gall bron pob person ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a/neu anableddau fynd i’w goleg lleol. Mewn nifer fach iawn o achosion, efallai na fydd dysgwr yn gallu cyflawni ei ddeilliannau addysg a hyfforddiant dymunol yn lleol. Gallai hyn fod oherwydd bod eu hanghenion mor gymhleth fel na ellir dod o hyd i leoliad lleol priodol. Byddai hyn fel arfer trwy eu hadolygiadau CDU sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Pan fydd hyn yn wir, bydd yr ysgol yn cyfeirio at gydlynydd addysg ôl-16 yr awdurdod lleol ac at banel CDU yr ALl, o flwyddyn 9 ac i fyny.
Gwaith â chymorth a hyfforddiant
Gall person ifanc ymuno â byd gwaith trwy gyflogaeth â chymorth neu raglen hyfforddiant. Mae yna nifer o sefydliadau a all ei helpu i ddod o hyd i gyfleoedd mewn sefyllfaoedd gwaith go iawn. Gall llawer o’r rhaglenni hyn arwain at gymwysterau galwedigaethol a gydnabyddir yn genedlaethol.
Cyflogaeth
Dim ond cyfran fach o bobl ifanc sy’n mynd yn syth i weithio o’r ysgol. Os dyma’r dewis mwyaf addas, gall cynghorydd Gyrfa Cymru helpu gyda sgiliau chwilio am waith.
Cyfleoedd gwasanaeth dydd
Efallai mai cyfleoedd gwasanaeth dydd yw'r opsiwn mwyaf priodol i rai pobl ifanc. . Fel arfer trefnir y rhain mewn mannau lle y gall pobl ifanc ag anabledd dysgu wneud pob math o weithgareddau diddorol yn ystod y dydd (yn aml o’r ganolfan ddydd ac yn y gymuned leol). Yma, gallant wneud ffrindiau newydd, ennill eu hannibyniaeth eu hunain a dod yn aelod gwerthfawr o’r gymuned. Mae gwasanaethau dydd yn cael eu darparu fel arfer gan wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol neu sefydliadau gwirfoddol.
Addysg uwch
Bydd addysg uwch yn opsiwn i rai pobl ifanc y mae eu gallu academaidd yn eu galluogi i fanteisio ar gyrsiau sy’n cael eu cynnig. Gallai hyn fod mewn prifysgol, mewn coleg neu drwy ddysgu o bell.
Y camau nesaf – gwybodaeth bellach
Mae Cynllun Braenaru Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru (yn agor mewn tab newydd) wedi’i gynllunio i helpu pobl ifanc a’u teuluoedd i wneud dewisiadau gwybodus a chynllunio eu camau nesaf.
Mae gan Goleg Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) dîm cymorth dysgu mawr, ymroddedig a helaeth sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y lefelau priodol o gymorth ac arweiniad ar waith i weddu i anghenion dysgwyr unigol. Bydd y tîm yn cyfeirio, lle bo angen, at wasanaethau cymorth eraill y coleg: diogelu, cwnsela, meddygol, cyllid, trafnidiaeth ac ati.
Mae gan Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion (yn agor mewn tab newydd) dîm cymorth penodedig i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, anableddau ac anghenion meddygol.
Mae Mynediad Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) yn darparu gwybodaeth am wasanaethau a gweithgareddau i bobl ag anabledd neu anawsterau dysgu.
Mae cyfleoedd dydd Cyngor Sir Penfro yn darparu ystod o wasanaethau mewn amrywiaeth o leoliadau lle gall pobl gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon, meithrin perthnasoedd newydd a, lle bo angen, derbyn gofal a chymorth.
Gyrfa Cymru (yn agor mewn tab newydd)
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Penfro yn cynnig cyngor ac arweiniad, ac yn rhoi cymorth i bobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.
Mae Gwasanaeth Bartneriaeth Rhieni Cyngor Sir Penfro yn darparu cyngor a gwybodaeth ddiduedd am anghenion dysgu ychwanegol a’r system anghenion dysgu ychwanegol.
Rwy’n meddwl y bydd angen coleg arbenigol ar fy mhlentyn. Beth ddylwn i ei wneud?
Os cytunir yn gyffredinol trwy gyfarfodydd Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn ei bod yn bosibl na fydd y colegau lleol yn gallu diwallu deilliannau hyfforddiant addysg dymunol unigolyn ifanc, bydd yr ysgol yn cydlynu â chydlynydd y ddarpariaeth ôl-16 i ystyried yr opsiynau ar gyfer colegau arbenigol. Gall pobl ifanc a’u teuluoedd gysylltu â Gwasanaeth Bartneriaeth Rhieni Cyngor Sir Penfro i gael rhagor o wybodaeth.