Gwasanaeth Cerddoriaeth

Arholiadau Allanol a Gwersi Preifat

Arholiadau Allanol

Ac eithrio'r disgyblion hynny sy'n gorfod bodloni gofynion arholiad TGAU neu Safon Uwch, nid yw'r gwasanaeth yn disgwyl i ddisgyblion wneud arholiadau offerynnol allanol. Fodd bynnag, ein polisi yw annog disgyblion i sefyll arholiadau graddedig fel ffordd o fesur eu safon a'u cynnydd. Pan gyflwynir disgybl ar gyfer arholiad, gwneir hynny ar y ddealltwriaeth:

  1. Fod yr tiwtor yn cytuno y dylid gwneud hynny;
  2. Fod y rhiant yn gyfrifol am dalu ffi'r arholiad y dylid ei roi i'r tiwtor cyn cyflwyno'r enw;
  3. Mai'r rhieni sy'n gyfrifol am ofalu fod cyfeilydd yn ymarfer gyda'r plentyn a'i fod/bod ar gael ar gyfer yr arholiad;
  4. Fod rhaid trefnu fod gwaith clywed yn cael ei ymarfer a bod cynhaliaeth realistig ar gael.

Gan amlaf, danfonir canlyniadau'r arholiadau at y tiwtor, a fydd yn rhoi'r canlyniadau i'r disgyblion cyn gynted ag y bo modd. Nid yw swyddfa'r Gwasanaeth Cerdd yn cael gwybod am y canlyniadau am beth amser wedyn.

Gwersi Preifat

Nid ydym yn awgrymu y dylai person ifanc gael gwersi preifat gan diwtor gwahanol yn ychwanegol at wersi offerynnol Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro. Gallai dau diwtor a chanddynt ddulliau gwahanol ddrysu myfyriwr, gan atal yn hytrach nac annog eu cynnydd. Fodd bynnag, mae'r gwasanaeth yn barod i ddysgu disgyblion sy'n cael gwersi preifat, ond os oes rhaid dyrannu nifer cyfyngedig o leoedd, fe fydd wastad yn rhoi blaenoriaeth i fyfyriwr nad yw'n cael gwersi preifat.

ID: 452, adolygwyd 29/03/2023