Gwasanaeth Cerddoriaeth

Cod Ymarfer ar gyfer Disgyblion a Myfyrwyr sydd yn mynychu ymarferion Sirol

Mae’r Cod Ymarfer hwn wedi ei gynllunio er mwyn sicrhau eich diogelwch chi ac eraill.  Dylech ddarllen a dilyn y canllawiau isod:

Oherwydd rhesymau diogelu, dim ond disgyblion oedran Uwchardd sy'n gallu defnyddio'r cludiant a ddarperir.

Yn ystod eich siwrnai

  1. Ffeindiwch sedd yn sydyn gan aros yn dawel ac eistedd yn llonydd trwy gydol y siwrnai heb amharu ar unrhyw deithwyr eraill.
  2. Peidiwch â gadael unrhyw fagiau nac eiddo ar y llwybr, rhag ofn i deithwyr faglu wrth geisio gadael y bws, yn enwedig mewn argyfwng.
  3. Gwisgwch wregys diogelwch bob amser.
  4. Peidiwch siarad na gwneud unrhyw beth i dynnu sylw’r gyrrwr pan mae’n gyrru, ac eithrio mewn argyfwng.
  5. Dilynwch gyfarwyddiadau’r gyrrwr bob amser yn ystod y siwrnai, ac yn enwedig felly os oes damwain neu os yw’r bws yn torri lawr.
  6. Mae disgwyl i blant ymddwyn yn gyfrifol, yn unol â chanllawiau eu hysgol wrth aros am gludiant ar ôl ysgol/coleg heb oruchwyliaeth. Wrth din nhw aros, anogir disgyblion i osgoi cysylltu a chyfathrebu ag aelodau’r cyhoedd.

Ymddygiad cyffredinol

  1. Ni fydd unrhyw gamymddwyn yn cael ei dderbyn. Yn y diwedd, bydd unrhywun sydd yn camymddwyn yn barhaus neu ddifrifol yn colli’r hawl i gymryd rhan mewn ensembles y Gwasanaeth Cerdd.
  2. Disgwylir ymddygiad cwrtais tuag at staff ac aelodau eraill yr ensemble bob amser.
  3. Cadw Amser. Mae prydlondeb yn bwysig er mwyn er mwyn sicrhau bod yr ymarfer yn cychwyn ar amser.
  4. Dylid cadw ffonau symudol i ffwrdd yn ystod yr ymarfer.
  5. Cofiwch ddod â phensil a rwber i’w roi ar y stand cerddoriaeth (dim inc)
  6. Rhowch wybod i’r arweinydd mor fuan â phosib os nad ydych yn medru mynychu ymarfer/cyngerdd.

Gwybodaeth gyffredinol

  1. Dillad du ar gyfer pob cyngerdd os gwelwch yn dda.
  2. Gallwch brynu crysau polo du Gwasanaeth Cerdd Cyngor Sir Penfro ar gyfer digwyddiadau.  Maent ar werth o Tees R Us, Rhif ffôn cyswllt  01834 845216.
  3. Pan fo’r arweinydd yn dod i’r llwyfan, mae’n rhaid i aelodau’r ensemble godi ar eu traed.
  4. Nid oes gan ddisgyblion hawl i adael safle Ysgol Caer Elen heb lythyr caniatâd gan rieni.
  5. Bydd modd prynu diod a byrbrydau o’r Siop yn ystod yr ymarfer. 

Rhif ffôn cyswllt mewn argyfwng ar nosweithiau Gwener yw:

Philippa Roberts 07971 191440 / Sarah Benbow 07966 375210

ID: 10443, adolygwyd 04/11/2024