Gwasanaeth Cerddoriaeth
Cyngor ynghylch Ddewis Tiwtor Preifat
Cyn penderfynu ar wersi offerynnol neu leisiol ar gyfer eich ysgol neu'ch plentyn, peth doeth i'w wneud yw holi unrhyw ddarparydd posibl er mwyn gweld a gewch atebion boddhaol. Rydym yn argymell y dylech ofyn y cwestiynau allweddol hyn. Dylech feddwl yn bwyllog am eu hatebion cyn gwneud eich dewis.
-
Ansawdd yr addysgu
Pryd a sut mae'r uwch arbenigwyr yn arsylwi'r tiwtor wrth iddo/iddi addysgu? Sut mae ansawdd yr addysgu'n cael ei bwyso a'i fesur a'i rannu gyda'r tiwtor er mwyn gwella'r safonau o ganlyniad? Mae angen i'r tiwtor peripatetig deimlo ei fod ef/hi yn rhan o dîm, wedi'i gefnogi a'i gynghori'n dda. Bydd ymweliadau monitro rheolaidd yn cynorthwyo i sicrhau hyn ac yn cyfrannu at wella'r safonau addysgu hefyd. Nid yw'r tiwtor "unigol" yn cael y fantais hon. -
Dewis athrawon a chymwysterau
A yw'r darparydd yn rhoi clyweliad i'w athrawon - neu, os taw tiwtor preifat yw'r darparydd, a yw un o'r uwch arbenigwyr cydnabyddedig wedi clywed y tiwtor yn chwarae?
Er mwyn addysgu sut i ganu/chwarae offeryn rydych chi'n gorfod gallu ei ganu/chwarae yn alluog. Efallai taw dim ond gradd neu ddwy yn uwch na'r disgybl sydd gyda'r tiwtor ei hunan; os felly gallai hyn olygu na fydd y disgybl yn dysgu sut i chwarae'r offeryn yn gywir a bydd yn rhoi'r gorau iddi yn llawn siom. Mae'n bwysig i sefydliad roi clyweliadau a chyfweliadau i'w athrawon. Dylai athrawon preifat sy'n gweithio mewn ysgolion gael clyweliad gan arbenigwr cymwysedig sy'n gallu barnu pa mor hyfedr ydyw, yn offerynnol a lleisiol. -
Datblygiad proffesiynol athrawon
Faint o gyswllt mae athrawon offerynnol/lleisiol yn ei gael ag athrawon eraill er mwyn rhannu sgiliau, ac a ydynt yn ymwybodol o'r dulliau addysgu diweddaraf?
Mae'r athrawon sy'n cael eu cyflogi gan aelodau CAGAC a Music Mark yn rhan o rwydwaith o fwy na 10,000 o athrawon. Mae pob gwasanaeth yn trefnu i athrawon gwrdd yn rheolaidd er mwyn rhannu syniadau a dysgu gan ei gilydd. Byddant yn cael hyfforddiant mewn swydd trwy fynd i weld arbenigwyr sy'n uchel eu parch, yn genedlaethol, yn eu maes. Bu aelodau FMS yn cynorthwyo i lunio'r ddogfen cwricwlwm o'r enw A Common Approach - cwricwlwm offerynnol/lleisiol y gellir seilio cynllun gwaith arno. Fe'i cynhyrchwyd gan Ffederasiwn y Gwasanaethau Cerddoriaeth, Cymdeithas Genedlaethol yr Addysgwyr Cerddoriaeth, Cyngor Addysg Cerddoriaeth a'r Coleg Cerdd Brenhinol, a bellach cafodd ei gymeradwyo gan Bwyllgor Ymgynghorol y Llywodraeth ar Ddiwylliant a Chreadigedd mewn Addysg. Erbyn hyn mae'n prysur ddod yn ddogfen cwricwlwm safonol ar gyfer y gwasanaethau cerdd. -
Cyfleoedd cerddorol ehangach er mwyn hybu cynnydd
A yw'r darparydd yn cynnig gweithgareddau cerddorol yn ychwanegol at y wers wythnosol er mwyn eu galluogi i ddefnyddio eu sgiliau cynyddol i'r eithaf
Yn ddelfrydol, mae ar y plant angen mwy na gwers wythnosol er mwyn sicrhau bod y gwersi offerynnol/lleisiol yn wirioneddol effeithiol ac er mwyn eu cadw'n frwd a datblygu eu sgiliau. Mae angen iddynt berfformio ag eraill mewn cerddorfeydd, bandiau, corau ac ensembles eraill. -
Buddiannau masnachol
A oes unrhyw fuddiannau masnachol yn gysylltiedig â hyn, e.e. a yw'r darparydd yn gwerthu offerynnau yn ogystal â rhoi gwersi? -
Grwpiau offerynnol cymysg
A yw'r darparydd yn addysgu grwpiau offerynnol cymysg?
Os ydych chi'n cael cynnig grŵp-addysgu lle bydd plant yn chwarae cymysgedd o wahanol deuluoedd o offerynnau sy'n cael eu haddysgu gan un tiwtor, cofiwch na fydd y tiwtor yn ôl pob tebyg yn arbenigwr ar bob un ohonynt. Os felly y mae, bydd rhai plant yn y grŵp yn cael eu haddysgu gan arbenigwr ac eraill ddim. Bydd y rhain yn ceisio dysgu gan diwtor nad yw, o bosibl, yn gwybod fawr ddim am yr offeryn y mae'r myfyriwr yn dymuno ei ddysgu. -
Amddiffyn Plant
A oes gyda'r darparydd ganllawiau Amddiffyn Plant ar gyfer ei athrawon? A yw'r tiwtor preifat unigol yn gwybod am amddiffyn plant? A ydynt yn cael archwiliad yr heddlu?
Mae hwn yn faes hanfodol bwysig i'w ystyried lle bydd athrawon a disgyblion yn agos iawn at ei gilydd, ambell waith mewn sefyllfaoedd un-ag-un. -
Aelodaeth MUSIC MARK
Os taw sefydliad yw'r darparydd, a yw e'n aelod o MUSIC MARK neu CAGAC? -
Cost a hyblygrwydd y gwasanaeth
Beth fydd cost y cwrs yn ogystal ag unrhyw dâl am yr offeryn?
Faint o fyfyrwyr fydd yn y grŵp addysgu?
Faint o wersi a gynhelir y tymor neu'r flwyddyn?
Ble fydd y gwersi'n cael eu cynnal?
Pa gyfleoedd eraill fydd ar gael yn y dyfodol? -
Gwersi Preifat
Nid ydym yn awgrymu y dylai person ifanc gael gwersi preifat gan diwtor gwahanol yn ychwanegol at wersi offerynnol Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro. Gallai dau diwtor a chanddynt ddulliau gwahanol ddrysu myfyriwr, gan atal yn hytrach nac annog eu cynnydd. Fodd bynnag, mae'r gwasanaeth yn barod i ddysgu disgyblion sy'n cael gwersi preifat, ond os oes rhaid dyrannu nifer cyfyngedig o leoedd, fe fydd wastad yn rhoi blaenoriaeth i fyfyriwr nad yw'n cael gwersi preifat.
Dyma gwestiynau amlwg i'w gofyn i'ch darparydd posibl a bydd yr atebion yn amrywio, yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw a phwy fydd yn darparu'r gwasanaeth.
Mae Gwasanaeth Cerdd Cyngor Sir Penfro yn aelod gweithredol o CAGAC - Grŵp Cerdd AALl Cymru a Music Mark.
ID: 453, adolygwyd 29/09/2022