Gwasanaeth Cerddoriaeth
Cynllun Cymorth Prynu
Beth yw'r cynllun?
Mae'r Cynllun Cymorth Prynu yn galluogi disgyblion yn Ysgolion yr Awdurdod Addysg Lleol, sy'n derbyn gwersi fel rhan o'u cwricwlwm, i brynu offerynnau heb orfod talu TAW. Ar ben y gostyngiadau sydd ar gael gan nifer o gyflenwyr, gall hyn olygu arbedion o bron i 40% ar nifer o offerynnau i fyfyrwyr.
Cymeradwyir y drefn hon gan Dollau Cartref a Thramor Ei Mawrhydi.
Beth yw'r dewis?
Gellir prynu offeryn oddi wrth unrhyw gyflenydd sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW. Gellir cael cyngor proffesiynol oddi wrth Diwtor Offerynnol teithiol y disgybl.
Sut Mae'r Cynllun yn Gweithio
Wedi derbyn ffurflen archebu wedi'i llenwi, bydd y Gwasanaeth Cerdd yn cyflwyno archeb swyddogol gan y Cyngor Sir i’r cyflenydd. Cerdyn Debyd – byddwn yn cysylltu â chi i wneud taliad ar ôl derbyn y ffurflen hon*** Os ydych yn talu â cherdyn debyd, bydd angen eich rhif ffôn arnom
Yna bydd yr offeryn yn cael ei gyflenwi i ysgol y plentyn ac yn cael ei roi i’r disgybl. Yna daw’r offeryn yn eiddo'r disgybl.
Faint o amser mae'n cymryd?
Gan amlaf, bydd yr offeryn yn cael ei gyflenwi i'r ysgol o fewn wythnos wedi i'r Gwasanaeth Cerdd dderbyn eich archeb. O bryd i'w gilydd gall gymryd mwy o amser na hynny, ond yn aml mae'r offeryn yn cyrraedd yr ysgol y diwrnod wedyn.
Beth yw'r rheolau?
Er mwyn cydymffurfio â'r rheoliadau a orfodir gan Dollau Cartref a Thramor Ei Mawrhydi, rhaid gweithredu'r rheolau canlynol:
- Rhaid bod y myfyriwr yn derbyn addysg llawn amser mewn Ysgol Awdurdod Addysg Lleol yn Sir Benfro.
- Rhaid bod y myfyriwr naill ai: a) yn cael gwersi yn yr ysgol fel rhan o'u cwricwlwm neu b) yn cael gwersi preifat er mwyn atgyfnerthu gweithgarwch cwricwlaidd megis cerddoriaeth TGAU neu Safon Uwch.
- Rhaid bod yr offeryn yn addas i anghenion y disgybl.
- Rhaid i'r offeryn fod yn symudadwy.
- Rhaid i'r offeryn gael ei roi i'r disgybl mewn ystafell addysgu benodedig.
- Rhaid i'r tâl a godir ar y rhieni fod naill ai ar neu'n is na'r gost i'r AALl.
Beth mae angen ichi ei wneud
- Llenwi'r ffurflen
- Cerdyn Debyd – byddwn yn cysylltu â chi i wneud taliad ar ôl derbyn y ffurflen hon*** Os ydych yn talu â cherdyn debyd, bydd angen eich rhif ffôn arnom
- Yna caiff yr offeryn ei archebu a'i gyflenwi i'r ysgol
Ffurflen Archebu Offeryn (yn agor mewn tab newydd)
Diogelu Data
Bydd yr holl wybodaeth sydd gennym amdanoch chi fel unigolyn yn cael ei gadw a’i brosesu gan y Gwasanaeth Cerdd yn unol â darpariaeth Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2016, fel y’u nodir yn ein Hysbysiad Preifatrwydd / Prosesu Teg. Gellir gweld fersiwn llawn o’r hysbysiad hwn ar Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro neu fel arall gellir darparu copi papur ar gais, drwy gysylltu â ni.
Rydym yn sicr y byddwch yn gwerthfawrogi'r manteision a gaiff disgyblion trwy'r cynllun hwn - os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, dylech gysylltu â:
Gwasanaeth Cerdd Cyngor Sir Penfro
Adran Addysg
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP
Ffôn: 01437 775202
E-bost: music.service@pembrokeshire.gov.uk