Gwasanaeth Cerddoriaeth
Digwyddiadau cerdd
Cerddorfeydd/Bandiau chwyth ysgolion Syr Benfro yn Ysgol Caer Elen
Dyddiadau ymarferion
4.30yh - 6.30yh
- 5 Rhagfyr 2025
- 9 Ionawr 2026
- 16 Ionawr 2026
- 23 Ionawr 2026
- 30 Ionawr 2026
- 6 Chwefror 2026
- 27 Chwefror 2026
- 6 Mawrth 2026
- 13 Mawrth 2026
- 20 Mawrth 2026
Darperir cludiant o Ysgol Bro Gwaun, Ysgol Aberdaugleddau, Ysgol y Preseli, Ysgol Penrhyn Dewi, Ysgol Greenhill ac Ysgol Harri Tudur i Ysgol Caer Elen ar gyfer yr ymarferion ar ddydd Gwener.
Darperir trafnidiaeth i ensembles y sir i ddisgyblion ysgolion uwchradd yn unig.
Yn anffodus, ni allwn gynnig trafnidiaeth i ddisgyblion ysgolion cynradd oherwydd nid yw’r bysiau yn cael eu goruchwylio ac felly nid ydynt yn addas ar eu cyfer.
Cod ymarfer ar gyfer disgyblion a myfyrwyr sydd yn mynychu ymarferion sirol
Mae’r cod ymarfer hwn wedi ei gynllunio er mwyn sicrhau eich diogelwch chi ac eraill. Dylech ddarllen a dilyn y canllawiau isod:
Oherwydd rhesymau diogelu, dim ond disgyblion oedran uwchradd sy'n gallu defnyddio'r cludiant a ddarperir.
A. Yn ystod eich siwrnai
- Ffeindiwch sedd yn sydyn gan aros yn dawel ac eistedd yn llonydd trwy gydol y siwrnai heb amharu ar unrhyw deithwyr eraill.
- Peidiwch â gadael unrhyw fagiau nac eiddo ar y llwybr, rhag ofn i deithwyr faglu wrth geisio gadael y bws, yn enwedig mewn argyfwng.
- Gwisgwch wregys diogelwch bob amser.
- Peidiwch siarad na gwneud unrhyw beth i dynnu sylw’r gyrrwr pan mae’n gyrru, ac eithrio mewn argyfwng.
- Dilynwch gyfarwyddiadau’r gyrrwr bob amser yn ystod y siwrnai, ac yn enwedig felly os oes damwain neu os yw’r bws yn torri lawr.
- Mae disgwyl i blant ymddwyn yn gyfrifol, yn unol â chanllawiau eu hysgol wrth aros am gludiant ar ôl ysgol/coleg heb oruchwyliaeth. Wrth din nhw aros, anogir disgyblion i osgoi cysylltu a chyfathrebu ag aelodau’r cyhoedd.
B. Ymddygiad cyffredinol
- Ni fydd unrhyw gamymddwyn yn cael ei dderbyn. Yn y diwedd, bydd unrhywun sydd yn camymddwyn yn barhaus neu ddifrifol yn colli’r hawl i gymryd rhan mewn ensembles y Gwasanaeth Cerdd.
- Disgwylir ymddygiad cwrtais tuag at staff ac aelodau eraill yr ensemble bob amser.
- Cadw Amser. Mae prydlondeb yn bwysig er mwyn er mwyn sicrhau bod yr ymarfer yn cychwyn ar amser.
- Dylid cadw ffonau symudol i ffwrdd yn ystod yr ymarfer.
- Cofiwch ddod â phensil a rwber i’w roi ar y stand cerddoriaeth (dim inc)
- Rhowch wybod i’r arweinydd mor fuan â phosib os nad ydych yn medru mynychu ymarfer/cyngerdd.
C. Gwybodaeth gyffredinol
- Dillad du ar gyfer pob cyngerdd os gwelwch yn dda.
- Gallwch brynu crysau polo du Gwasanaeth Cerdd Cyngor Sir Penfro ar gyfer digwyddiadau. Maent ar werth o Tees R Us, Rhif ffôn cyswllt 01834 845216.
- Pan fo’r arweinydd yn dod i’r llwyfan, mae’n rhaid i aelodau’r ensemble godi ar eu traed.
- Nid oes gan ddisgyblion hawl i adael safle Ysgol Caer Elen heb lythyr caniatâd gan rieni.
- Bydd modd prynu diod a byrbrydau o’r Siop yn ystod yr ymarfer.
Rhif ffôn cyswllt mewn argyfwng ar nosweithiau Gwener yw:
Philippa Roberts 07776 104435/ Sarah Benbow 07966 375210
Gŵyl Gerdd Ysgolion Uwchradd Valero Sir Benfro yn Ysgol Caer Elen
Dydd Sadwrn 15 Tachwedd 2025 Ysgol Caer Elen
Cyngerdd Nadolig
Dydd Gwener 5 Rhagfyr 2025 am 6.00yh yn Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd