Gwasanaeth Cerddoriaeth
Pam Dysgu Chwarae Offeryn Cerddorol?
Yn ogystal â'r pleser a mwynhad y mae creu cerddoriaeth yn ei gynnig i blant ac oedolion, mae disgyblaeth chwarae offeryn cerddorol hefyd yn cynnig llu o fanteision:
- Mae'n datblygu hunanhyder a hunan-barch
- Mae'n gwella medrau cyfathrebu
- Mae'n datblygu medrau cydlynu
- Mae'n meithrin hunanddisgyblaeth ac yn datblygu medrau dysgu
- Mae'n datblygu ymwybyddiaeth gymdeithasol a medrau adeiladu tîm
- Mae'n annog datblygiad medrau arwain
- Mae'n cynnig cyfleoedd i ymweld â lleoedd newydd ac i gyfarfod pobl newydd
- Mae'n cynnig cyfle i ymlacio mewn byd llawn straen a chythrwfl
- Mae'n cynnig canolbwynt cadarnhaol ar gyfer defnyddio amser hamdden.
Dangosodd arolygon rhyngwladol diweddar fod astudio cerddoriaeth nid yn unig yn gwella dysgu plentyn, ond ei fod hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig i'r safonau y mae plant yn eu cyflawni.
Mae cyflogwyr hefyd yn cydnabod fwyfwy yr effaith gadarnhaol a gaiff astudio cerddoriaeth ar allu eu gweithwyr i addasu eu hunain i ofynion amgylchedd sy'n newid yn gyson.
Dylai fod gan bob plentyn yr hawl i chwarae offeryn cerddorol, ac yng Ngwasanaeth Cerdd Sir Benfro rydym yn arbenigo mewn darparu ar gyfer anghenion cerddorol plant o'r adeg y dewisant eu hofferyn cyntaf i'r adeg pan symudant i goleg neu brifysgol neu ymlaen i yrfaoedd proffesiynol.
Trwy wersi unigol mewn ysgolion a'n dewis helaeth o gyfleoedd ensemble, ceisiwn feithrin y dalent y mae ein plant yn ei arddangos fel bod pob plentyn yn cyflawni ei botensial neu ei photensial llawn.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ar ddysgu sut i chwarae offeryn cerddorol mae croeso ichi gysylltu â ni.