Gwasanaeth Cofrestru
Adnewyddu eich addunedau
Os ydych eisoes wedi cynnal priodas neu bartneriaeth sifil ffurfiol ac yn dymuno dathlu ac adnewyddu eich addunedau mewn ffordd unigryw a phersonol, gallai'r seremoni hon fod yn addas i chi.
Dyma gyfle i ddathlu pen-blwydd priodas arbennig, i ail-gysegru'r addunedau a wnaethpwyd mewn priodas neu bartneriaeth sifil a oedd efallai wedi digwydd mewn gwlad arall lle nad oedd teulu a ffrindiau yn gallu bod yn bresennol, neu i ail-ddatgan yn syml eich ymrwymiad i'ch gilydd.
Yn wahanol i briodas neu bartneriaeth sifil, nid oes unrhyw statws cyfreithiol i'r seremoni hon, ond fe'i bwriedir i fod yn arwyddocaol ac yn bersonol i bob cwpwl.
Beth sy'n digwydd yn y seremoni?
Rydych yn gallu rhoi addewidion i'ch gilydd, cyfnewid modrwyau a gwahodd eich gwesteion i gymryd rhan yn y seremoni. Cyflwynir tystysgrif goffaol i gydnabod yr achlysur.
Pwy sy'n gallu adnewyddu eu haddunedau?
Mae'n bosibl i unrhyw gwpwl priod neu bartneriaid sifil, o unrhyw oedran ac wedi bod yn briod neu'n bartneriaid sifil am ba bynnag hyd, drefnu seremoni i adnewyddu addunedau. Nid oes raid i chi fyw yn Sir Benfro i drefnu seremoni yn y sir.
Ble ellir cynnar seremonïau adnewyddu addunedau?
Rydym yn cynnig seremonïau Adnewyddu Addunedau yn y Swyddfa Gofrestru ac mewn Adeiladau Cymeradwy o fewn y sir.
Pa ddogfennau sy'n rhaid eu cynhyrchu?
Mae'n rhaid cyflwyno eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil ar adeg trefnu'r seremoni.
Mae ein staff cofrestru arbennig yma i gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth i greu eich diwrnod perffaith.